Pan fyddwch yn mewngofnodi i Blackboard fe sylwch efallai fod iaith y rhyngwyneb wedi newid. Mae’r iaith gychwynnol a welwch yn Blackboard yn cael ei phenderfynu gan y Dewis Iaith yr ydych wedi’i osod yn ABW fel staff neu yn y Cofnod Myfyriwr fel myfyriwr.
Os ydych eisoes wedi gosod eich dewis iaith i’r Gymraeg, fe welwch ryngwyneb Gymraeg Blackboard, ac os ydych wedi gosod eich dewis iaith i’r Saesneg, fe welwch ryngwyneb Saesneg Blackboard.
Os nad ydych chi’n gweld rhyngwyneb Blackboard yn eich dewis iaith, gallwch ei newid yn hawdd.
Defnyddiwch yr opsiwn Iaith ar eich tudalen Proffil
Mae’r adnodd Blackboard Ally newydd hefyd yn rhoi mynediad i fersiynau sain Cymraeg o gynnwys Cymraeg mewn cyrsiau Blackboard. Gall unrhyw ddogfennau Cymraeg, boed yn ffeiliau PowerPoint, dogfennau PDF ac ati, gael eu darllen yn uchel gan ddefnyddio’r fersiwn sain MP3. Am fwy o wybodaeth am ddefnyddio Blackboard Ally, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i staff neu fyfyrwyr.
Y mis hwn rhyddhawyd nifer o welliannau pellach yn Blackboard Learn Ultra.
Gwelliannau o ran Swp-Olygu (Batch Edit)
Mae Swp-Olygu yn symleiddio gwneud newidiadau i eitemau lluosog ar unwaith yn Blackboard p’un a yw hynny’n golygu gwelededd, amodau rhyddhau neu ddileu. Mae Blackboard wedi diweddaru Swp-Olygu fel bod camau gweithredu bellach yn berthnasol i bob eitem y tu mewn i Ffolderi a Modiwlau Dysgu.
Mae’r holl eitemau i’w gweld ar un dudalen erbyn hyn. Mae Blackboard wedi ychwanegu’r gallu i ehangu a chwympo Ffolderi a Modiwlau Dysgu.
Fel y trafodwyd mewn neges flog flaenorol, gall Hyfforddwyr nawr chwilio llyfrgell delweddau stoc helaeth Unsplash am ddelweddau stoc o ansawdd uchel, heb freindal i’w defnyddio o fewn Blackboard.
Y mis hwn hefyd fe wnaethom alluogi offer hygyrchedd Blackboard Ally sy’n caniatáu i fyfyrwyr lawrlwytho fformatau cynnwys amgen yn ogystal â gwiriwr hygyrchedd ar gyfer Hyfforddwyr.
Mae rhywfaint o’r adborth yr ydym wedi’i gael am Gyrsiau Blackboard Ultra yn nodi nad ydynt mor addasadwy yn weledol â chyrsiau’r Blackboard gwreiddiol. Caiff Ultra ei greu gan gadw hygyrchedd mewn cof, sy’n golygu nad yw rhai o’r nodweddion a oedd gennym o’r blaen, megis cefndiroedd lliw neu weadog a thestun a allai fod mewn cyferbyniad lliw isel ar gael mwyach.
Yn y neges flog hon byddwn yn rhoi rhai awgrymiadau i chi a allai helpu i wneud eich Cyrsiau Blackboard Ultra yn fwy deniadol i’r golwg, gan gynnwys rhai nodweddion newydd sbon a gyrhaeddodd ym mis Medi.
Modiwlau Dysgu
Mae Modiwlau Dysgu yn gweithio’n debyg i ffolderi a gellir eu gosod ar lefel uchaf y Dudalen Gynnwys. Gallwch ddefnyddio’r rhain i drefnu eich Deunyddiau Dysgu. Un o’r datblygiadau a gyrhaeddodd yn ddiweddar yw’r gallu i uwchlwytho delweddau i Fodiwlau Dysgu.
I greu Modiwl Dysgu, cliciwch ar y + a Creu > Modiwl Dysgu:
Mae rhywfaint o’r adborth yr ydym wedi’i gael am Gyrsiau Blackboard Ultra yn nodi nad ydynt mor addasadwy yn weledol â chyrsiau’r Blackboard gwreiddiol. Caiff Ultra ei greu gan gadw hygyrchedd mewn cof, sy’n golygu nad yw rhai o’r nodweddion a oedd gennym o’r blaen, megis cefndiroedd lliw neu weadog a thestun a allai fod mewn cyferbyniad lliw isel ar gael mwyach.
Yn y neges flog hon byddwn yn rhoi rhai awgrymiadau i chi a allai helpu i wneud eich Cyrsiau Blackboard Ultra yn fwy deniadol i’r golwg, gan gynnwys rhai nodweddion newydd sbon a gyrhaeddodd ym mis Medi.
Modiwlau Dysgu
Mae Modiwlau Dysgu yn gweithio’n debyg i ffolderi a gellir eu gosod ar lefel uchaf y Dudalen Gynnwys. Gallwch ddefnyddio’r rhain i drefnu eich Deunyddiau Dysgu. Un o’r datblygiadau a gyrhaeddodd yn ddiweddar yw’r gallu i uwchlwytho delweddau i Fodiwlau Dysgu.
I greu Modiwl Dysgu, cliciwch ar y + a Creu > Modiwl Dysgu:
O’r fan honno, gallwch bwyso Ychwanegu delwedd i uwchlwytho delwedd o’r chwilotwr ffeiliau. Dewiswch y ddelwedd o’r Chwilotwr Ffeiliau sy’n agor ac uwchlwytho. Fel arall, gallwch lusgo a gollwng eich delwedd i olygydd y Modiwl Dysgu. Ar ôl i chi ychwanegu delwedd at Fodiwl Dysgu, bydd yn ymddangos fel a ganlyn:
Yn ein neges flog flaenorol amlinellwyd rhai o’r newidiadau i Panopto wrth i ni symud i Blackboard Learn Ultra.
Yn y neges flog hon byddwn yn amlinellu’r newidiadau i ddefnyddio Panopto ar gyfer Aseiniadau. Defnyddir Aseiniadau Panopto i fyfyrwyr gyflwyno recordiad neu gyflwyniad.
Yn rhan o’r newid hwn, rydym yn argymell:
Eich bod yn Creu Aseiniad Blackboard
Bod myfyrwyr yn cyflwyno drwy Blackboard Assignment ac yn uwchlwytho drwy’r adnodd cyflwyno Panopto
Y manteision i’r llif gwaith newydd hwn yw:
Mae’r llif gwaith ar gyfer cyflwyno a marcio yn haws
Mae marciau ac adborth yn mynd yn awtomatig i’r Llyfr Graddau
Mae myfyrwyr yn cael derbynneb e-bost ar gyfer eu cyflwyniad
Os ydych chi’n brysur, brysur yn paratoi eich cyrsiau ar ras wyllt cyn i’r myfyrwyr gyrraedd a chawsoch chi ddim amser i fynychu sesiynau hyfforddi dros yr haf, beth am ymweld â’n clipiau fideo hyfforddi newydd ar sut i weithio yn Blackboard Ultra.
Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â sut i wneud rhywbeth penodol yn Ultra neu rydych angen eich atgoffa o rhywbeth yn sydyn, edrychwch ar ein fideos hyfforddi dwyieithog. Dyma fanylion y clipiau unigol:
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Fel rhan o brosiect Blackboard Ultra ehangach, mae integreiddiad Panopto wedi’i uwchraddio i weithio gyda Blackboard Ultra. Mae hyn wedi rhoi cyfle i ni wneud rhai newidiadau a gwelliannau.
Mae ffolderi Panopto bellach wedi’u trefnu yn ôl y flwyddyn academaidd.
Mae staff wedi gofyn sawl gwaith bod eu ffolderi Panopto ar gyfer eu cyrsiau Blackboard yn cael eu trefnu yn ôl blwyddyn academaidd yn hytrach nag fel rhestr hir. Rhoddodd y gwaith uwchraddio gyfle i ni ailstrwythuro ein ffolderi yn ôl y gofyn.
Bydd ffolderi blwyddyn lefel uchaf yn ymddangos yn llwyd, ond bydd gennych fynediad i’ch ffolderi Panopto o fewn y ffolderi hyn o hyd.
Pan fyddwch chi’n agor recordydd Panopto mewn ystafell addysgu
Gallwch naill ai ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi drwy’r ffolderi neu chwilio am y ffolder Panopto yr ydych am recordio ynddi.
I ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr ydych am recordio ynddi drwy’r ffolderi:
Cliciwch ar y botwm cwymplen yn y maes Folder.
Cliciwch ddwywaith ar ffolder blwyddyn academaidd i’w ehangu. or
Cliciwch ar y saeth cwymplen i’r chwith o’r ffolder blwyddyn academaidd i’w ehangu.
Dewiswch y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.
I chwilio am y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.
Yn y maes Folder dechreuwch deipio cod modiwl neu enw’r ffolder Panopto yr ydych am recordio ynddi
Dewiswch y ffolder yr hoffech recordio ynddi.
Rhannu recordiadau Panopto o flynyddoedd blaenorol.
I rannu recordiadau Panopto o ffolderi Panopto blynyddoedd blaenorol, copïwch y recordiadau i ffolder blwyddyn gyfredol y cwrs. Mae hyn yn rhoi mynediad i bob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar flwyddyn gyfredol y cwrs yn Blackboard i weld y recordiadau. Gweler y Cwestiynau Cyffredin hwn.
My Folder
Erbyn hyn mae gan bawb ffolder yn Panopto o’r enw My Folder y gallant recordio ynddi. Yn y Recordydd Panopto gellir dod o hyd iddi o dan Quick Access.
Mae My Folder yn ddefnyddiol ar gyfer recordiadau nad yw staff neu fyfyrwyr eisiau eu rhannu ag eraill ar unwaith neu pan na allant ddod o hyd i ffolder addas i recordio ynddi.
Gellir symud recordiadau o My Folder i ffolder Panopto arall yn ddiweddarach. I gopïo neu symud recordiad Panopto Gweler y Cwestiwn Cyffredin hwn.
Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych yn benodol nodwedd Llyfr Graddau Blackboard Learn Ultra. Y Llyfr Graddau (Gradebook) yw’r enw newydd ar gyfer y Ganolfan Raddau.
Fe’i defnyddir i gadw holl farciau’r myfyrwyr ar Gwrs Blackboard.
Mae’r Llyfr Graddau wedi’ leoli ar ddewislen uchaf bob cwrs.
Mae’r myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwl yn ymddangos yn awtomatig yn y Llyfr Graddau.
Ar ôl mynd i mewn i’r llyfr graddau, gallwch doglo eich gwedd.
Y wedd ragosodedig yw rhestr o eitemau y gellir eu marcio ar un tab a’r myfyrwyr ar un arall:
Gallwch doglo’r wedd fel bod yr eitemau y gellir eu marcio a’r myfyrwyr i’w gweld ar yr un pryd.
Mae nawr yn amser da i wirio a yw’r cynnwys yng nghyrsiau Blackboard eleni yn weladwy i fyfyrwyr. Gyda’r symud i Blackboard Learn Ultra, mae unrhyw ddeunyddiau a gopïwyd o gyrsiau blynyddoedd blaenorol wedi’u cuddio rhag y myfyrwyr yn ddiofyn.
Gallwch newid gwelededd eitemau unigol (gweler safle cymorth Blackboard ar gyfer sicrhau bod eitemau yn weladwy). Gallwch eu gwneud yn weladwy ar unwaith neu ddefnyddio’r Amodau Rhyddhau (dyddiad/amser, myfyrwyr/grwpiau penodol, perfformiad myfyrwyr – gweler safle cymorth Blackboard ar gyfer Rhyddhau Cynnwys i gael rhagor o wybodaeth).
Os oes gennych lawer o ddeunydd cudd, cofiwch y gallwch ddefnyddio’r adnodd Golygu Llwyth i sicrhau bod eitemau lluosog o gynnwys yn weladwy ar unwaith (gweler safle cymorth Blackboard ar gyfer defnyddio Golygu Llwyth). Cofiwch beidio â gwneud y ffolder Arholwyr Allanol yn weladwy.
Pan fyddwch chi’n defnyddio Golygu Llwyth i wneud ffolder yn weladwy, bydd hefyd yn gwneud yr holl eitemau cynnwys yn y ffolder yn weladwy.
Cofiwch y gallwch ddefnyddio’r adnodd Rhagolwg Myfyrwyr (gweler safle cymorth Blackboard ar gyfer defnyddio Rhagolwg Myfyrwyr) i weld sut mae eich cwrs a’ch cynnwys yn ymddangos i fyfyrwyr.