
Rydym ni’n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos i rannu arferion defnyddio AI Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu.
Yn y gyfres hon o flogiau, bydd cydweithwyr sy’n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eu haddysgu’n rhannu sut yr aethon nhw ati i gynllunio’r gweithgareddau.
Rydym ni’n hapus iawn i groesawu Dr Megan Talbot (met32@aber.ac.uk) o Adran y Gyfraith a Throseddeg gyda’r blog hwn.
Astudiaeth Achos #2: Traethawd y Gyfraith a Throseddeg
Beth yw’r gweithgaredd?
Aethon ni ati i gynllunio asesiad i wella sgiliau llythrennedd AI yn y modiwl cyfraith teulu.
Rhoddwyd cwestiwn traethawd normal i’r myfyrwyr: “I ba raddau y dylai cyfraith Prydain gydnabod cytundebau cynbriodasol?”.
Cyflwynwyd ymateb ChatGPTo1 i’r un cwestiwn iddyn nhw hefyd.
Hysbyswyd y myfyrwyr mai’r amcan oedd ysgrifennu traethawd yn ymateb i’r cwestiwn. Roedd croeso iddyn nhw ddefnyddio’r ymateb AI mewn unrhyw ffordd roedden nhw’n ei dewis, gallen nhw adeiladu arno, ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer ymchwil neu ei anwybyddu’n llwyr, beth bynnag oedd orau ganddyn nhw. Dywedwyd wrthyn nhw na fyddem ni’n dweud sut y byddai’r traethawd AI yn sgorio pe baen nhw’n ei gyflwyno heb unrhyw addasiad, ond roedd croeso iddyn nhw wneud hynny os mai dyna eu dymuniad (ni wnaeth neb).
Yn wyneb y defnydd cynyddol o declynnau AI esboniwyd nid yn unig y byddai angen iddyn nhw allu defnyddio allbynnau AI yn fedrus ac yn gyfrifol, ond hefyd y byddai angen dangos eu bod yn gallu ychwanegu gwerth na allai AI ei wneud. Felly dylen nhw ystyried y dasg fel un sy’n dangos eu bod yn gallu perfformio’n well nag AI.
Sut cafodd y gweithgaredd ei gyflwyno i’r myfyrwyr?
Cyflwynwyd taflen briffio aseiniad arferol, yn ogystal â sesiwn ddarlith ar sut i ymdrin â’r asesiad. Roedd y ddogfen briffio’n cynnwys mwy o arweiniad nag arfer i’w helpu i oresgyn unrhyw ansicrwydd ynglŷn â’r aseiniad. Roedd hyn yn cynnwys arweiniad penodol ar bethau y gallen nhw eu gwneud i ragori ar yr ateb AI, megis mwy o ddefnydd o gyfraith achosion, tystiolaeth eu bod yn deall cyfraith yr achos, edrych ar fwy o ddadleuon beirniadol a gyflwynwyd gan academyddion ac ar lenyddiaeth a adolygwyd gan gymheiriaid ac ysgrifennu gan weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith. Cafodd y myfyrwyr eu rhybuddio’n benodol hefyd am rithwelediadau (tueddiad AI i ddarparu gwybodaeth ffug mewn ffordd sy’n ymddangos yn “hyderus”) a’r gallu i wirio ffeithiau’r AI os oedden nhw’n bwriadu dibynnu arno.
Pa heriau a gafodd eu goresgyn?
Cafwyd nifer o gwestiynau gan y myfyrwyr oedd yn perfformio’n uwch yn holi “oes rhaid i mi ddefnyddio’r ymateb AI”, ac atebon ni “nac oes”. Yn gyffredinol roedd y myfyrwyr yn ymddangos yn ansicr ynghylch yr hyn roedden nhw’n cael ei wneud er gwaethaf yr arweiniad helaeth a roddwyd yn y ddogfen briffio gychwynnol a’r ddarlith ategol.
Yn anffodus, maglwyd nifer sylweddol o fyfyrwyr am iddyn nhw beidio â gwirio ffeithiau un o’r disgrifiadau achos a ddefnyddiwyd gan ChatGPT, oedd yn anghywir. Gadawyd adborth ar y traethodau hynny i’w hatgoffa bod angen gwirio ffeithiau adnoddau AI.
Sut helpodd hyn gyda’u dysgu?
Ni holwyd y myfyrwyr am yr aseiniad hwn yn benodol, ond yn yr SES nododd nifer o’u plith eu bod wedi’i gael yn ddefnyddiol iawn er mwyn deall cyfyngiadau AI. Mewn sgwrs, nododd nifer o fyfyrwyr ei fod wedi’u helpu i oresgyn gohirio’r gwaith, gan fod man cychwyn wedi’i roi iddyn nhw i adeiladu ohono. Nododd myfyrwyr oedd yn sgorio’n uwch eu bod wedi darllen yr allbwn AI, ond gwneud eu hymchwil eu hunain ac ysgrifennu fel arfer, gan gyfeirio at yr AI dim ond i sicrhau nad oedden nhw’n hepgor unrhyw bwyntiau craidd ar ddamwain.
Sut fyddwch chi’n datblygu’r gweithgaredd hwn yn y dyfodol?
Rydym ni’n ystyried cwtogi hyd y traethawd a chynnwys myfyrdod cryno ar y defnydd o AI fel rhan o’r aseiniad. Yn ogystal, byddwn yn ehangu’r rhybudd i wirio ffeithiau allbynnau AI gan nodi’n benodol y gallai fod achosion real yn cael eu dyfynnu ond y gellid cael disgrifiadau camarweiniol neu ffug i gefnogi pwyntiau na ystyriwyd yn yr achos.
Cadwch olwg am y blog nesaf ar AI Cynhyrchiol mewn astudiaethau achos Dysgu ac Addysgu.