Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol mewn Dysgu ac Addysgu: Cyfres Astudiaethau Achos

Rydym ni’n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos i rannu arferion defnyddio AI Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu.

Yn y gyfres hon o flogiau, bydd cydweithwyr sy’n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eu haddysgu’n rhannu sut yr aethon nhw ati i gynllunio’r gweithgareddau.

Rydym ni’n hapus iawn i groesawu Dr Panna Karlinger (pzk@aber.ac.uk) o’r Ysgol Addysg gyda’r blog hwn.

Astudiaeth Achos # 1 – y Gwningen Ymchwil

Beth yw’r gweithgaredd?

Diben y gweithgaredd yw dod o hyd i ffynonellau academaidd dibynadwy i fyfyrwyr eu defnyddio yn eu gwaith cwrs. Gwahoddir y myfyrwyr i ddefnyddio ‘papur hadau’ ar gyfer aseiniad arfaethedig i’w fwydo i’r Gwningen Ymchwil, sy’n defnyddio dysgu peiriant i fapio llenyddiaeth gysylltiedig yn seiliedig ar awduron, cyfeiriadau, pynciau neu gysyniadau cysylltiedig. Yna ysgogir y myfyrwyr i ddewis ffynonellau ar gyfer eu haseiniadau, a gwerthuso’r rhain yn feirniadol yn defnyddio’r prawf CRAAP sy’n gwirio a yw’r ffynhonnell yn gyfredol, yn berthnasol, yn gywir, ynghyd â’r awduron a’r pwrpas er mwyn dod i farn ar ddibynadwyedd cyffredinol cyn mynd ati i’w defnyddio.

Beth oedd canlyniadau’r gweithgaredd?

Nododd y myfyrwyr gynnydd o ran hyder a gallu i ddod o hyd i ffynonellau academaidd a dangos beirniadaeth yn eu gwaith. Er gwaethaf yr adnoddau helaeth a’r arweiniad manwl a ddarparwyd gan y staff addysgu a llyfrgell, yn aml mae myfyrwyr yn ei chael yn anodd dod o hyd i ffynonellau perthnasol i gefnogi eu gwaith, a datryswyd hyn yn llwyddiannus wrth i’r myfyrwyr ymgysylltu â’r gweithgaredd.

Sut cafodd y gweithgaredd ei gyflwyno i’r myfyrwyr?

Roedd y gweithgaredd yn rhan o fodiwl sgiliau allweddol, ac roedd gan y myfyrwyr wybodaeth flaenorol am y prawf CRAAP, dod o hyd i ffynonellau a chafwyd trafodaeth a chyflwyniad i AI Cynhyrchiol, y cyfleoedd a’r risgiau dan sylw yn ogystal â defnydd effeithlon a moesegol. Gan gyfuno eu gwybodaeth flaenorol, cyflwynwyd y teclyn fel arddangosiad, ac yna defnyddiodd y myfyrwyr eu dyfeisiau eu hunain i ddod o hyd i ffynonellau ar gyfer aseiniad arfaethedig a ddewiswyd mewn modiwl gwahanol.

Pa heriau a gafodd eu goresgyn?

Mae rhai myfyrwyr yn dal i fod yn wyliadwrus neu’n amheus ynghylch defnyddio AI, neu’n ofni cael eu cyhuddo o arfer annheg, felly roedd yn bwysig dangos achosion ble gallent ddefnyddio AI yn hyderus i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau hyn. Nid oedd gan rai myfyrwyr ddyfeisiau â sgrin fawr ac roedd cyflawni’r gweithgaredd ar ffôn yn heriol. Bydd rhaid ystyried hyn yn y dyfodol, ac mae angen arweiniad a chymorth mwy ymarferol ar rai myfyrwyr gyda’r gweithgaredd. Mae hyn yn bennaf yn gysylltiedig â sgiliau a gallu digidol.

Sut helpodd hyn gyda’u dysgu?

Atgyfnerthodd rai negeseuon am lythrennedd AI beirniadol, gwerthuso allbwn a ffynonellau’n gyffredinol, gan eu hatgoffa am bwysigrwydd beirniadaeth yn eu gwaith, ac roedd dod o hyd i wybodaeth ac adnoddau ychwanegol a mwy diweddar yn aml yn helpu i lywio’r cynnwys a’r gwerthuso yn eu haseiniadau pan oedd y myfyrwyr yn ymgysylltu’n ôl y disgwyl.

Sut fyddwch chi’n datblygu’r gweithgaredd yn y dyfodol?

Gan nad ydym bellach yn dysgu’r modiwl sgiliau allweddol, mae cyfle i wreiddio hwn mewn modiwlau eraill, er enghraifft mewn sesiynau cymorth aseiniadau neu sesiynau galw heibio dewisol. Mae hyn yn hwyluso grwpiau llai o fyfyrwyr a mwy o amser un i un fel bo’r angen, a allai wneud y gweithgaredd yn fwy llwyddiannus; a chymryd bod y myfyrwyr wedi derbyn yr arweiniad angenrheidiol gan yr adran ar ddefnyddio AI. Gallai hefyd fod yn rhan o’r modiwlau neu’r arweiniad ar ddulliau ymchwil rydyn ni’n eu rhoi i ymchwilwyr uwchraddedig, gan fod yr adnodd nid yn unig am ddim, ond fod ganddo hefyd fedrau uwch o’u cymharu â theclynnau mapio llenyddiaeth tebyg, oedd yn werthfawr i unrhyw un wrth weithio ar draethawd hir neu draethawd ymchwil.

Cadwch olwg am y blog nesaf ar AI Cynhyrchiol mewn astudiaethau achos Dysgu ac Addysgu. Os ydych chi’n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eich ymarfer addysgu ac yn awyddus i gyflwyno blog, cysylltwch â eddysgu@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*