
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol bellach ar gael yng Nghadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard.
Mae hyn yn rhan o’r gwaith y mae’r Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu yn ei wneud mewn cydweithrediad ag UndebAber a’r Gofrestrfa Academaidd.
Nod y gwaith hwn yw ei gwneud yn glir i fyfyrwyr beth yw’r disgwyliadau o ran eu hymgysylltiad a’u defnydd o DA Cynhyrchiol mewn dysgu ac addysgu.
Mae tri datganiad ar gael yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu:
- Dim defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
- Rhywfaint o ddefnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
- Disgwylir defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
Mae pob un o’r datganiadau yn rhoi cyngor ac yn cyfeirio myfyrwyr at gymorth ychwanegol.
Gall cydweithwyr gopïo’r datganiadau hyn i faes perthnasol y cwrs. Gan fod lefelau derbyniol o ddefnydd DA Cynhyrchiol yn amrywio rhwng asesiadau unigol, argymhellir bod y datganiadau yn cael eu copïo i’r ffolder asesu perthnasol.
I gael rhagor o wybodaeth gweler: Sut mae ychwanegu eitem o Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard at fy nghwrs?
Yn ogystal â’r Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol, mae Datganiad Defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gael hefyd. Mae’r datganiad hwn wedi’i ddatblygu gan gydweithwyr yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr amlinellu sut maent wedi defnyddio DA Cynhyrchiol yn eu haseiniadau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.