Yn ein neges flog flaenorol amlinellwyd rhai o’r newidiadau i Panopto wrth i ni symud i Blackboard Learn Ultra.
Yn y neges flog hon byddwn yn amlinellu’r newidiadau i ddefnyddio Panopto ar gyfer Aseiniadau. Defnyddir Aseiniadau Panopto i fyfyrwyr gyflwyno recordiad neu gyflwyniad.
Yn rhan o’r newid hwn, rydym yn argymell:
- Eich bod yn Creu Aseiniad Blackboard
- Bod myfyrwyr yn cyflwyno drwy Blackboard Assignment ac yn uwchlwytho drwy’r adnodd cyflwyno Panopto
Y manteision i’r llif gwaith newydd hwn yw:
- Mae’r llif gwaith ar gyfer cyflwyno a marcio yn haws
- Mae marciau ac adborth yn mynd yn awtomatig i’r Llyfr Graddau
- Mae myfyrwyr yn cael derbynneb e-bost ar gyfer eu cyflwyniad
Er mwyn cefnogi staff gyda’r broses hon, mae gennym ganllaw Aseiniad Panopto sy’n mynd â chi drwy osod yr aseiniad, cyflwyniad y myfyrwyr, a marcio ar ein tudalennau gwe Cipio Darlithoedd.
Mae gennym hefyd gwestiwn cyffredin ar gyfer staff a myfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).