Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r rhaglen ar gyfer ei Chynhadledd Fer ar Realiti Rhithwir a gynhelir ddydd Mawrth, 28 Mawrth.
Mae modd archebu’ch lle ar y digwyddiad nawr. Cynhelir y gynhadledd fer hon wyneb-yn-wyneb yn B23, Adeilad Llandinam rhwng 11:00 a 16:00.
Bydd y Gynhadledd Fer yn dechrau am 11:00 gyda sesiwn gan Chris Rees o Brifysgol y Drindod Dewi Sant. Ceir mwy o wybodaeth yn y postiad ar ein blog sy’n cyhoeddi mai Chris yw ein siaradwr gwadd.
O 11:45 ymlaen, bydd Amanda Jones a Bleddyn Lewis o’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn Adran y Gwyddorau Bywyd yn dangos yr hyn maent yn ei wneud gyda’u myfyrwyr yn eu sesiwn Embracing Virtual Reality within Healthcare Education for student nurses.
Am 12:30, bydd Steve Atherton o’r adran Addysg yn cyflwyno’r sesiwn VR in Education.
Bydd egwyl ginio rhwng 13:00 a 14:00. Ni fyddwn yn darparu bwyd yn y digwyddiad hwn ond mae croeso i chi ddod â’ch cinio gyda chi.
Rhwng 14:00 a 16:00 bydd Sarah Wydall, Helen Miles, Rebecca Zerk, ac Andra Jones yn darparu gweithdy 2 awr yn sôn am y cam nesaf wrth gloriannu sut y gellir defnyddio rhithrealiti fel offer hyfforddi. Mae’r sesiwn hon wedi’i chyfyngu i 15 o bobl – y cyntaf i’r felin gaiff falu a byddwch chi’n gallu cofrestru amdani ar fore’r gynhadledd.
Mae’r rhan fwyaf o’r sesiynau’n ymarferol ac yn rhyngweithiol – bydd cyfle i chi roi cynnig ar realiti rhithwir a gweld sut mae staff yn ei ddefnyddio wrth ddysgu.
Bydd crynodebau a’r rhaglen lawn ar gael ar ein tudalennau gwe maes o law.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).