Cynhadledd Fer: Realiti Rhithwir, cyhoeddiad cyweirnod

Ddydd Mawrth 28 Mawrth, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal cynhadledd fer sy’n edrych yn benodol ar Realiti Rhithwir. Byddwn yn dangos gwaith cydweithwyr yn y maes hwn, o amrywiaeth o ddisgyblaethau gwahanol. Fe fydd yn ddigwyddiad a gynhelir wyneb yn wyneb ac mae’r cyfnod i archebu lle eisoes ar agor trwy’r ffurflen ar-lein hon.

Yn ogystal â hyn, rydym yn falch iawn y bydd Chris Rees o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ymuno â ni.

Chris yw Pennaeth Gweithredol yr uned Creadigrwydd Digidol a Dysgu (CDD) a ffurfiwyd yn ddiweddar, ac mae ganddo gefndir mewn dysgu ac addysgu ar draws sawl ystod oed. Bu ganddo ddiddordeb brwd o’r cychwyn mewn addysgeg a’r defnydd o dechnoleg ddigidol i gynorthwyo dulliau dysgu a, thrwy hynny, gyfoethogi dysgu. Ar ôl 12 mlynedd o brofiad o swyddi addysgu ac arweiniol mewn ysgolion ar draws De Cymru, symudodd Chris i swydd Arweinydd Strategol mewn Dysgu Digidol i awdurdod lleol. Bu yn y swydd am 4 blynedd, a pharhaodd i ymchwilio i ddulliau addysgeg ddigidol yn ogystal â’u defnyddio, gan gynnwys dysgu cyfunol, dulliau cyflwyno byw a recordiadau, realiti rhithwir, a dysgu gwrthdro gyda’r nod o gynyddu sgiliau athrawon a gwella profiad myfyrwyr.

Yn ei swydd yn y Drindod Dewi Sant, mae Chris yn defnyddio ei sgiliau strategol, llywodraethu a rheoli ar draws yr uned CDD, sy’n cynnwys y tîm dysgu Digidol, Graffeg, Argraffu ac Aml-gyfryngau, a thîm y We. Mae’r swydd yn hwyluso agweddau newydd tuag at greadigrwydd ddigidol a dysgu yn y sefydliad, gan wneud defnydd o’r tîm newydd i ddatblygu cynnwys digidol creadigol ac arloesol ar gyfer dysgu. Yn fwy diweddar, mae Chris wedi bod yn arwain y tîm i ddatblygu’r defnydd o gynnwys realiti cymysg a dylunio ar gyfer achosion penodol i’w defnyddio ar draws y sefydliadau. Mae hyn yn cynnwys lansio ystafelloedd dysgu ymdrwythol y brifysgol, sy’n debyg i ogof realiti rhithwir, ond yn defnyddio’r dechnoleg glyweled ac ymdrwytho ddiweddaraf i greu profiad realiti rhithwir cydweithredol. 

Cadwch lygad ar ein blog lle byddwn yn cyhoeddi enwau cyfranwyr eraill.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*