Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi y cynhelir y Gynhadledd Fer nesaf ar ddydd Iau 16 Rhagfyr, ar-lein drwy Teams.
Byddwn yn edrych ar feddalwedd pleidleisio – offer y gellir ei ddefnyddio i sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu â’u dysgu ac yn gwella eu dealltwriaeth o bynciau cymhleth. Eleni, mae’r Brifysgol wedi prynu Vevox, offer pleidleisio ar-lein, sydd wedi’i integreiddio’n llawn yn Teams ac sy’n gallu gwneud eich gweithgareddau wyneb yn wyneb yn rhyngweithiol.
Galwad am Gynigion:
Rydym yn chwilio am gydweithwyr sy’n defnyddio meddalwedd pleidleisio wrth ddysgu ac addysgu i roi cyflwyniad yn y Gynhadledd Fer. Gallai’r pynciau posibl gynnwys:
- Defnyddio polau ar gyfer gweithgareddau cynefino a thorri’r garw
- Polau ar gyfer gemeiddio
- Polau ar gyfer datblygu’r dysgu
- Gwneud sesiynau addysgu wyneb yn wyneb yn rhyngweithiol
- Polau ar gyfer gweithgareddau anghydamseredig
Cyflwynwch eich cynnig ar-lein cyn dydd Gwener 19 Tachwedd.
Mae’n bosibl archebu lle ar gyfer y digwyddiad undydd nawr – archebwch ar-lein.
Bydd cyflwynwyr allanol yn ymuno â ni yn y digwyddiad felly cofiwch gadw llygaid ar ein blog wrth i ni gyhoeddi ein rhaglen.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni: lteu@aber.ac.uk.
Pingback: Wedi colli ein hyfforddiant Hanfodion Vevox? | Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu