Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych ar sut y gellir defnyddio technoleg i roi cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar feddyliau a syniadau neu weithio’n rhithiol mewn grwpiau cydamserol. O ystyried bod myfyrwyr yn cael eu hannog i wynebu i’r un cyfeiriad mewn ystafelloedd addysgu, bydd gwaith grŵp yn her benodol mewn ystafelloedd addysgu.
Rydym yn argymell eich bod yn annog myfyrwyr i ddod â’u dyfeisiau eu hunain. Bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i chi adeiladu’r drafodaeth grŵp honno. Os nad oes gan eich myfyrwyr fynediad at ddyfais, yna cyfeiriwch nhw at gg@aber.ac.uk. Os ydych chi am i fyfyrwyr ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain, rhowch wybod iddyn nhw ymlaen llaw.
Defnyddiwch Vevox i fyfyrwyr gyflwyno crynodeb o’u trafodaethau
Offer pleidleisio yw Vevox. Dyma rai gweithgareddau dysgu y gallech eu hystyried, neu gallwch ddyfeisio rhai eich hun:
- Meddwl a rhannu unigol – Rhowch dasg taflu syniadau neu ddatrys problemau fer i fyfyrwyr, gofynnwch iddyn nhw feddwl am funud neu ddwy ac yna defnyddio Vevox i rannu eu syniadau. Mae hyn yn gweithio’n dda yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein, neu mewn amgylchedd HyFlex.
- Pwynt aneglur neu bwyntiau cofio allweddol – Ar ddiwedd y ddarlith, gofynnwch i’r myfyrwyr bostio naill ai eu pwynt mwyaf aneglur neu eu pwyntiau cofio allweddol o’r ddarlith. Os ydych chi’n defnyddio pwyntiau cofio allweddol, mae hyn nid yn unig yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am ba mor dda roedden nhw’n deall y cynnwys, ond hefyd yn atgyfnerthu dysgu’r myfyrwyr trwy ymarfer adalw. Da i athrawon a myfyrwyr!
- Trafodaeth grŵp ac adborth – Os ydych chi’n defnyddio grwpiau o chwech lle mae myfyrwyr yn llwyddo i drafod cwestiwn wrth wynebu ymlaen (ie, rydyn ni’n gwybod bod hyn yn her!), gallwch ofyn i bob grŵp gyflwyno eu prif negeseuon trwy Vevox i’r dosbarth cyfan eu gweld. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfuno’r dysgu gan bob grŵp yn ystod yr amser yn y dosbarth.
- Gwirio dealltwriaeth cyn ac ar ôl addysgu – Mae myfyrwyr yn dysgu orau os gallant gysylltu gwybodaeth newydd â gwybodaeth flaenorol. Gofynnwch gwestiynau i’r myfyrwyr ar ddechrau’r ddarlith i ysgogi’r wybodaeth honno, ac yna gofynnwch gwestiynau ar y diwedd i’w hatgyfnerthu. Gall hyn helpu myfyrwyr i gydnabod cymaint y maent wedi’i ddysgu o’r ddarlith ac atgyfnerthu eu dysgu ar yr un pryd.