Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hail siaradwr allanol ar gyfer Cynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni: Andy McGregor, Andy yw Cyfarwyddwr Technoleg Addysg ar gyfer JISC.
Bydd gweithdy Andy’n canolbwyntio ar ddyfodol asesu ac mae’n seiliedig ar bapur JISC: The future of assessment: five principles, five targets for 2025, sy’n gosod pum targed ar gyfer y pum mlynedd nesaf i ddatblygu asesu i fod yn fwy dilys, hygyrch, wedi’i awtomeiddio’n briodol ac yn ddiogel.
Mae Andy yn gyfrifol am reoli portffolio JISC o brosiectau datblygu ac ymchwil sy’n datblygu gwasanaethau newydd i helpu prifysgolion a cholegau i wella addysg ac ymchwil.
Yn ogystal ag Andy, y siaradwr gwadd eleni yw Dr Chrissi Nerantzi o Brifysgol Fetropolitan Manceinion.
Cynhelir y nawfed gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol ar-lein rhwng dydd Mercher 30 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Gallwch archebu lle drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.
Dilynwch y blog hwn i gael rhagor o gyhoeddiadau.
Pingback: Rhaglen lawn: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2021 | Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu