Awgrymiadau ar gyfer addysgu gydag Ystafelloedd Trafod
Rhag ofn na welsoch ein blog blaenorol, mae ystafelloedd trafod nawr ar gael yn Microsoft Teams. I baratoi ar gyfer addysgu yn semester 2, a chynnydd yn yr addysgu ar-lein, rydym am roi rhai awgrymiadau i chi ar sut i wneud y defnydd gorau o’r Ystafelloedd Trafod. Gellir eu defnyddio’n effeithiol iawn i gynorthwyo a hybu dysgu’r myfyrwyr, yn ogystal â rhoi’r dewis i chi rannu grwpiau mawr o fyfyrwyr i grwpiau trafod haws eu trin.
Yn yr un modd â’n holl gyngor ynghylch dysgu ar-lein, meddyliwch beth yr hoffech i’ch myfyrwyr ei wneud cyn, yn ystod, ac ar ôl y gweithgaredd.
Cyn dechrau’r Ystafelloedd Trafod:
- Ymgyfarwyddwch â sut mae’r ystafelloedd trafod yn gweithio. Gellir ond cychwyn ystafelloedd trafod ar ôl i’r cyfarfod ddechrau. I greu ystafelloedd trafod, mae’n rhaid i chi fod wedi trefnu’r cyfarfod.
- Cynlluniwch y dasg ar gyfer y myfyrwyr a rhowch wybod iddynt beth ydyw o flaen llaw. Holwch eich hun beth yr hoffech i’r myfyrwyr allu ei wneud ar ôl cymryd rhan yn y gweithgaredd? A hoffech iddynt gynhyrchu unrhyw beth yn ystod yr ystafell drafod? A ydych eisiau iddynt gyflwyno unrhyw beth pan ddônt yn ôl i’r brif ystafell?
- Sicrhewch fod eich myfyrwyr yn deall beth sydd angen iddynt ei wneud cyn iddynt fynd i’r ystafelloedd trafod. Hefyd, rhowch strategaeth iddynt ar gyfer cysylltu â chi os oes ganddynt unrhyw gwestiynau. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio’r nodwedd sgwrsio yn y brif ystafell. Neu gall myfyriwr ailymuno â’r prif gyfarfod eto.
- Rhowch wybod i’r myfyrwyr faint o amser sydd ganddynt yn yr ystafell drafod cyn y bydd yn rhaid iddynt ddod yn ôl i’r brif ystafell.
Yn ystod y Gweithgaredd:
- Os oes unrhyw un o’r myfyrwyr yn cael trafferth ymuno ag ystafell drafod – er enghraifft, maent wedi ymuno fel gwestai neu nad yw eu cyfrifiaduron yn cydweddu ag ystafelloedd trafod, gofynnwch iddynt aros yn y prif gyfarfod.
- Gofynnwch i’r myfyrwyr ddefnyddio dogfen gyfrannol yn eu hystafell drafod i gadw cofnod o’u trafodaeth. Gallant ddod â’r ddogfen yn ôl i’r brif ystafell. Gall myfyrwyr hefyd weithio ar fwrdd gwyn cyfrannol yn eu hystafelloedd trafod.
- Mae croeso i chi bicio i mewn i’r ystafelloedd ar unrhyw adeg os oes angen, i roi cyfle i’r myfyrwyr ofyn cwestiynau.
- Defnyddiwch y nodwedd sgwrsio ym mhob ystafell i fwydo gwybodaeth ychwanegol i mewn ar unrhyw adeg neu i ofyn i’ch myfyrwyr ystyried rhywbeth arall.
Ar ôl y Gweithgaredd
- Casglwch ynghyd yr holl adnoddau y mae’ch myfyrwyr wedi’u cynhyrchu yn ystod eu gweithgaredd – gofynnwch iddynt eu hatodi i sgwrs y cyfarfod a rhannwch hyn gyda gweddill y grŵp neu drwy Blackboard.
- Gofynnwch i’r myfyrwyr wneud tasg anghydamserol y tu allan i’r sesiwn Teams i atgyfnerthu eu trafodaeth neu gweithgaredd. Gall hyn gynnwys ysgrifennu dyddlyfr myfyriol neu flog neu gyfrannu at fwrdd trafod ar Blackboard. Bydd hyn o gymorth i’r rhai nad oedd yn bresennol allu ymgysylltu â’r gweithgareddau.
Rydym yn awyddus iawn i glywed sut yr ydych wedi bod yn defnyddio’r ystafelloedd trafod wrth addysgu. Cysylltwch â ni ar lteu@aber.ac.uk i roi gwybod i ni beth rydych wedi bod yn ei wneud.
Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi ar gyfer defnyddio Ystafelloedd Trafod. Gallwch archebu lle ar ein cyrsiau ar-lein.