Ar gyfer y Fforwm Academi ddiwethaf yn Semester Un gwnaethom ddewis un o’r pynciau mwyaf cyffredin a godir gan staff dysgu; sef sut mae ysgogi myfyrwyr, yn arbennig yng nghyd-destun dysgu ar-lein?
Yn rhan gyntaf y semester cafwyd trafodaeth gyffredinol a ddechreuodd wrth fyfyrio ar bryd yr ydym ni’n teimlo wedi’n hysgogi fwyaf, ac amlygwyd ffactorau megis:
- Os oes pwysau allanol (dyddiad cau)
- Os yw’n bleserus
- Os yw’n ymwneud â phobl eraill
- Os nad yw’r tasgau’n anodd, pwysig neu amlochrog
- Os ydych chi’n cael adborth cadarnhaol
Gwnaeth y rhai a fynychodd hefyd rannu eu strategaethau ar gyfer cynnal eu hysgogiad :
- Newid rhwng tasgau
- Torri prosiectau mawr yn dasgau llai
- Gofyn i’ch hun pam mae angen i chi wneud y gwaith?
- Cwblhau tasg fach, rwydd a defnyddio’r ysgogiad a’r ymdeimlad o lwyddiant a ddaw yn sgil hynny i weithio ar rywbeth arall
- Cwyno llai am orfod gwneud y dasg a mynd ati i’w gwneud
- Defnyddio rhestrau a gallu croesi pethau allan
- Gosod targedau realistig
- Gofalu amdanoch chi eich hun (ceisio ystyried y gwaith o fewn persbectif ehangach)
Yn ogystal â’r hyn sy’n cyfrannu at ysgogiad myfyrwyr yn seiliedig ar eu profiad dysgu:
- Cael graddau da ac adborth cadarnhaol
- Meddylfryd Twf – peidio â bod ofn methu (peidio â chymryd y dysgu mor bersonol)
- Cofio pam y maent yn gwneud y gwaith
- Gwneud pethau’n ddiddorol – osgoi diflastod
- Bod yn angerddol/cyffrous am y pwnc (a sut mae cael un myfyriwr fel hyn yn helpu ysgogiad y grŵp i gyd)
- Rhoi awgrymiadau iddynt, ond hefyd y rhyddid i astudio mewn ffordd sy’n addas iddynt hwy
- Teimlo’n rhan o’r gymuned ddysgu (perthyn)
- Gweld pwysigrwydd gweithgaredd
- Dilysiad ac anogaeth
Gwnaethom hefyd drafod rhai o’r rhwystrau sy’n llesteirio ysgogiad myfyrwyr :
- Ofn – ofn nad ydynt yn ddigon da, methiant a chymharu eu gallu ag eraill
- Ddim yn cael cyfarwyddiadau digon clir, ddim yn deall beth maent i fod i’w wneud
- Problemau personol – anawsterau yn eu bywydau personol ac ati
- Siom yn eu cyflawniadau o’i gymharu â’u disgwyliadau
- Dylanwad cyfoedion
- Cwyno
- Blinder
Yn olaf gwnaeth staff rannu eu strategaethau ar gyfer ysgogi myfyrwyr a oedd yn cynnwys:
- Defnyddio byrddau trafod i gyfathrebu â chyfoedion a’r tiwtor
- Trefnu seminarau digidol
- Pwysleisio diben/pwysigrwydd y gweithgareddau
- Cysylltu’r holl weithgareddau â’r canlyniadau dysgu/asesiad
- Defnyddio offer megis blogiau neu fyrddau trafod i hwyluso cyfathrebu ac ymdeimlad o gymuned
- Rhoi dewis i fyfyrwyr, ond o fewn strwythur sy’n rhoi sicrwydd iddynt
- ‘Buddsoddi’ amser yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ffurfio perthynas â’i gilydd ac â chi fel tiwtor ar ddechrau’r modiwl/blwyddyn
Roedd ail ran y sesiwn yn canolbwyntio’n benodol ar ddamcaniaeth hunanddewis ysgogiad. Mewn tri grŵp, a oedd yn cyd-fynd â thair elfen y ddamcaniaeth, gwnaeth y rhai a fynychodd drafod sut y maent eisoes yn meithrin naill ai ymreolaeth, cymhwysedd, neu berthynas yn eu haddysgu a sut y gallant ei ddatblygu ymhellach. Rydym eisoes wedi rhannu neges flog ar hwyluso ysgogiad mewnol mewn myfyrwyr o safbwynt y ddamcaniaeth hunanddewis.
Hoffem ddiolch i’r holl staff am yr ymroddiad arbennig i sesiynau’r Fforwm Academi eleni! Cofiwch roi’r dyddiadau canlynol yn eich calendrau ar gyfer Semester Dau:
- 27/01/2021 15:00-16:30 Fforwm Academi: Sut mae cynllunio gweithgareddau wyneb i wyneb ac ar-lein?
- 19/02/2021 10:00-11:30 Fforwm Academi: Sut mae dysgu’n fwy cynhwysol?
Gobeithio y cewch chi wyliau braf!