Tarfiad posTarfiad posib ar labeli a theitlau o fewn Blackboard

Efallai y byddwch yn sylwi ar rai newidiadau i labeli o fewn Blackboard wrth i ni ddiweddaru ein pecyn iaith bore yfory (dydd Mawrth 10.11.2020).

Bydd hyn yn effeithio ar eitemau yn y ddewislen a Fy Modiwlau. Bydd Blackboard a mynediad iddo yn parhau i weithio’n iawn yn ystod y cyfnod hwn, a byddwch chi’n gallu parhau i greu cynnwys, i gael mynediad at ddeunydd ac i gyflwyno aseiniadau. Mae’r gwaith hwn wedi’i drefnu i ddigwydd fel rhan o waith cynnal a chadw Gwasanaethau Gwybodaeth bore Mawrth: https://faqs.aber.ac.uk/94.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 9/11/2020

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau gyda Mary Jacob Darlithydd - Dysgu ac Addysgu
Crynodeb Wythnosol o Adnoddau gyda Mary Jacob Darlithydd – Dysgu ac Addysgu

Fel darlithydd ym maes dysgu ac addysgu sy’n gyfrifol am y TUAAU, rwy’n cadw llygad am adnoddau newydd i gynorthwyo ein staff i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweminarau allanol, pecynnau cymorth, cyhoeddiadau ac adnoddau eraill. Oherwydd bod dysgu gweithredol yn cael blaenoriaeth ar agenda’r Brifysgol, rwy’n hynod o awyddus i rannu canllawiau ar gyfer symud dysgu gweithredol ar-lein.   Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.      

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Helpu Myfyrwyr i Fanteisio i’r Eithaf ar Ddarlithoedd a Recordiwyd – Defnyddio’r ffwythiannau ‘Discussion’ a ‘Notes’ yn Panopto

Mae myfyrwyr wedi bod yn defnyddio cryn dipyn ar y rhaglen Panopto, hyd yn oed cyn i’r Brifysgol symud i ddarparu addysg yn rhannol ar-lein. Mae myfyrwyr eleni’n dibynnu mwy fyth ar gynnwys sydd wedi’i recordio ymlaen llaw. Gall hwyluso dysgu gweithredol drwy ddefnyddio deunyddiau cydamserol, megis darlithoedd sydd wedi’u recordio, fod yn heriol. Rydym eisoes wedi rhannu’r canllaw i fyfyrwyr ar ddefnyddio darlithoedd sydd wedi’u recordio, ac rydym wedi amlinellu chwe strategaeth allweddol i’w helpu nhw i wneud y mwyaf o’r recordiadau. Yn un o’n negeseuon blaenorol, rhoddwyd sylw hefyd i ddefnyddio adnoddau sgrindeitlo a chwisiau Panopto, sy’n gwneud eich recordiadau yn fwy hygyrch a rhyngweithiol. Hoffem sôn wrthych heddiw am ddau ffwythiant arall yn Panopto, sef ‘Discussion’ a ‘Notes’. 

The image shows where the Discussion function in Panopto is located. It is between the Contents and Notes tabs on the left hand side of the Panopto editor.

Read More

Defnyddio Podlediadau i Ddysgu

Roedd ail sesiwn y Fforwm Academi eleni yn canolbwyntio ar greu podlediadau yn Panopto. Roedd y drafodaeth yn pwysleisio potensial unigryw podlediadau i greu ymdeimlad o gysylltiad. Mae podlediadau, sy’n seiliedig fel arfer ar fonologau anffurfiol, cyfweliadau a thrafodaethau, yn rhoi cyfle i’w defnyddwyr wrando ar fyfyrdodau a sgyrsiau heb eu strwythuro. Fel yr eglurir gan Street (2014) mae adrodd storïau’n creu partneriaeth rhwng y dychymyg a’r cof, gan sbarduno ymateb unigryw a phersonol iddo (dyfynnir yn McHugh, 2014, t.143). Gall podlediadau fod yn gwmni inni; yn wahanol i fideos neu destun ysgrifenedig, gallwn wrando arnynt wrth barhau gyda gweithgareddau dyddiol eraill. 

Mae’r nodweddion unigryw hyn yn golygu bod potensial mawr ar gyfer defnyddio podlediadau mewn addysg. Creodd Prifysgol Caergrawnt gasgliad o bodlediadau byr ar amrywiol feysydd pwnc. Defnyddir podlediadau hefyd gan addysgwyr unigol. Mae gan Ian Wilson, Uwch Ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol York St John, gyfres o bodlediadau i gefnogi dysgwyr ar leoliadau. Roedd ei bodlediad yn canolbwyntio ar roi cyfarwyddiadau i fyfyrwyr ar yr hyn y dylent fod yn ei wneud yr wythnos ganlynol, yn ateb unrhyw gwestiynau oedd ganddynt a rhoi cyngor i’w hysgogi. Er nad podlediadau o reidrwydd yw’r ffordd orau o gyflwyno deunydd dysgu allweddol, fel y trafodwyd yn ystod sesiwn y Fforwm Academi, gall ategu eich arferion dysgu presennol drwy feithrin myfyrdod, gwella ymroddiad y dysgwr a meithrin ymdeimlad o gymuned. 

Read More

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 2/11/2020