*Cau Dydd Gwener*
Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 8fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Llun 7 Medi – Dydd Mercher 9 Medi 2020.
Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.
Mae thema’r gynhadledd eleni, Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu, yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.
Dyma 5 prif gangen y gynhadledd eleni:
- Troi at Ddysgu Ar-lein
- Creu Cymuned Ddysgu
- Datblygu Lles yn y Cwricwlwm
- Ymgorffori Dysgu Gweithredol
- Gweithio gyda Myfyrwyr fel Partneriaid
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu.
Mae’r cyfnod i archebu lle yn y gynhadledd bellach ar agor.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am eddysgu@aber.ac.uk.[:]