Awgrymiadau Dysgu at Gysondeb Ddysgu ac Addysgu

Distance Learner Banner

Pwyntiau Cyffredinol

  • Rhowch gyfarwyddiadau clir a diamwys. Bydd hyn yn lleihau’r nifer o negeseuon ebost ac ymholiadau y byddwch yn eu cael.
  • Defnyddiwch y dechnoleg yr ydych chi a’ch myfyrwyr yn gyfarwydd â hi ac yn gallu ei defnyddio. Cofiwch y gallwch gynnwys dolenni i’n cwestiynau cyffredin yn eich cwrs Blackboard er mwyn cynorthwyo eich myfyrwyr.
  • Os ydych chi’n defnyddio eich cyfrifiadur eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu gwneud popeth y bydd angen ichi allu ei wneud. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau gallwch gysylltu ag eddysgu@aber.ac.uk  Bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn eich helpu:
  • Adnoddau pellach: Mynnwch gip ar y set ragorol o adnoddau sydd ar gael ym mhecyn cymorth dysgu ar-lein ACUE:

Rheoli eich cynnwys dysgu yn effeithiol

  • Dysgu gweithredol o bell: Ystyriwch y tasgau dysgu y mae arnoch eisiau i’r myfyrwyr eu cyflawni, nid dim ond y cynnwys sy’n cael ei gwmpasu. Gwnewch yn siŵr bod y tasgau’n cael eu hegluro’n iawn i’r myfyrwyr. Os yw’r dasg ddysgu’n glir, bydd yn hybu dysgu gweithredol, hyd yn oed o bell.
  • HygyrcheddDefnyddiwch egwyddorion arfer hygyrchedd da yn eich dogfennau Powerpoint a Word ac mewn deunyddiau eraill.
    • Rhowch dagiau ‘alt’ ar gyfer y delweddau mewn unrhyw ddeunyddiau.
    • Sicrhewch fod nodiadau’r siaradwr wedi’u cynnwys yn eich ffeiliau Powerpoint, a llwythwch y ffeil PPT i Blackboard. Peidiwch â llwytho PDF yn unig. Mae hyn yn rhoi cyfrwng arall i fyfyrwyr allu cael yr holl wybodaeth y mae arnoch eisiau iddynt ei chael.
    • Defnyddiwch iaith syml i’r graddau y mae hynny’n bosibl. Os nad yw eich myfyrwyr yn deall rhywbeth yn dda, ni fyddant yn gallu gofyn cwestiynau ichi yn ystod y ddarlith.
    • Gwnewch yn siŵr ei bod yn rhwydd iddynt lywio eu ffordd o amgylch eich cwrs Blackboard. Dylent allu canfod y deunydd perthnasol ar gyfer pob wythnos yn rhwydd ac yn gyflym.
  • Deunyddiau darllen: Sicrhewch fod yr holl ddeunydd darllen ar gael trwy Blackboard. Defnyddiwch restrau darllen Aspire. Os mai dim ond mewn print y mae rhai deunyddiau ar gael (e.e. llyfrau yn y llyfrgell), dewch o hyd i e-lyfrau neu ffynonellau ar-lein amgen y gallant eu defnyddio yn eu lle.
  • Rhyddhau Addasol: Gallwch ddefnyddio Rhyddhau Addasol fel bod eich deunyddiau’n ymddangos ar adegau penodol. Ceisiwch osgoi gormod o reolau rhyddhau addasol cymhleth gan y gallant fod yn anodd i’w datrys os ydych yn ceisio darganfod pam nad yw myfyriwr yn gallu gweld dogfennau.
  • Mae Box of Broadcasts yn adnodd rhagorol ar gyfer deunydd teledu a radio. Gallwch drefnu recordiadau o ddeunyddiau sydd i ddod neu ddefnyddio rhaglenni sydd wedi’u darlledu o’r blaen.

Enghraifft o dasg ddysgu sydd braidd yn amwys fyddai darllen tair erthygl.
Tasg ddysgu fwy gweithredol fyddai darllen y tair erthygl a gwerthuso eu dadleuon o’u cymharu â’i gilydd, neu ddadansoddi data o sawl ffynhonnell i geisio canfod patrymau ac ati. 

Defnyddio Profion ac Arolygon Blackboard ar gyfer asesu ffurfiannol

Mae profion yn ffordd wych i fyfyrwyr wirio eu dealltwriaeth o bwnc ac maent yn gymorth i chi wybod mwy am eu cynnydd.

  • Cofiwch gynnwys adborth ar atebion cywir ac anghywir, fel y gall eich myfyrwyr ddysgu o’r cwis ffurfiannol.
  • Nid oes rhaid ichi roi’r ateb cywir ond gallwch roi dolenni i waith darllen, neu adnoddau pellach i’w helpu i ddysgu’r deunydd.
  • Ysgrifennwch gwestiynau sy’n helpu eich myfyrwyr i ymwneud â’r deunydd, yn hytrach na dim ond cofio ffeithiau. Gallwch ysgrifennu cwestiynau a fydd yn golygu bod rhaid iddynt ddadansoddi deunyddiau, gweithio gyda sefyllfaoedd a gwneud cyfrifiadau.

Galluogi i’r myfyrwyr ymwneud â chi ac â’ch gilydd trwy gyfrwng bwrdd trafod

Mae byrddau trafod yn ffordd wych o gynnal seminar o bell. Maent yn galluogi myfyrwyr i ymwneud â’r dysgu pan fo modd iddynt, ac mae’r myfyrwyr hefyd yn gyfarwydd â’u defnyddio.

  • Gweithgareddau: Darparwch weithgareddau i’r myfyrwyr ymwneud â hwy ar y byrddau trafod – gosodwch gwestiynau cychwynnol y mae angen iddynt ymwneud yn weithredol â hwy, megis dadansoddi data, cymharu erthyglau, crynhoi eu gwaith darllen a chreu cwestiynau ar sail y deunyddiau y maent wedi eu darllen.
  • Canllawiau ar ymwneud: Rhowch ganllawiau i’r myfyrwyr ynghylch sut y mae arnoch eisiau iddynt ymwneud â’r byrddau trafod.
    • Er enghraifft, gallech ofyn iddynt ysgrifennu eu postiadau eu hunain a rhoi sylwadau ar bostiadau pobl eraill.
    • Dywedwch wrth y myfyrwyr pa mor aml y mae arnoch eisiau iddynt ymwneud â’r bwrdd trafod, a pha mor aml y byddwch chithau’n ymwneud ag ef.
    • Os ydych chi’n cynnal edefyn ar gyfer pob seminar, efallai y bydd arnoch eisiau parhau â’r drafodaeth am wythnos ac yna dechrau un newydd ar adeg benodol.
  • Canllawiau ar ysgrifennu:
    • A oes arnoch eisiau iddynt ysgrifennu’n ffurfiol ynteu’n anffurfiol?
    • A ddylent gyfeirio at eu gwaith darllen?
    • Mae postiadau byrion yn well na thraethodau – nod y byrddau trafod yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ryngweithio yn hytrach na dim ond rhoi eu traethodau cyfan ar-lein.

Defnyddio Blogiau, Wicis a Dyddlyfrau er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio a chydweithio

Mae Blogiau a Dyddlyfrau yn ffordd dda i fyfyrwyr gofnodi proses neu arfer sy’n parhau – dyddlyfr darllen, er enghraifft. Gall myfyrwyr ddefnyddio testun, delweddau, fideos ac ati. Gall holl aelodau’r dosbarth weld blogiau, tra bod dyddlyfrau’n breifat rhwng y myfyriwr a’r hyfforddwr.

Mae wicis yn dda ar gyfer gwaith grŵp. Gall y dosbarth cyfan eu defnyddio, neu gallwch rannu’n grwpiau a gall pob grŵp gael wici. Gall myfyrwyr ddefnyddio testun, delweddau a fideos, a gallwch weld cyfraniad pob myfyriwr.

  • Rhowch gyfarwyddiadau clir i’r myfyrwyr ynghylch sut i ddefnyddio blogiau, wicis neu ddyddlyfrau. Dywedwch wrthynt beth yr ydych yn ei ddisgwyl: pa mor aml y mae arnoch eisiau iddynt gyfrannu a pha mor aml y byddwch yn ymwneud â hwy.
  • Gall enghreifftiau o gyfraniadau fod yn ddefnyddiol i helpu myfyrwyr ddeall yr hyn yr ydych yn ei ddisgwyl.
  • Gallwch wneud sylwadau ar bostiadau er mwyn rhoi adborth.
  • Gellir graddio pob un o’r tri math o weithgaredd os oes arnoch eisiau eu defnyddio fel dull asesu.

Gwneud recordiad Panopto

Mae recordiadau Panopto yn ffordd dda o gyflwyno gwybodaeth i’ch myfyrwyr, ynghyd â sleidiau PowerPoint. Gallwch ailddefnyddio recordiadau yr ydych wedi’u gwneud eisoes, ond os ydych yn gwneud recordiadau newydd yn benodol at ddibenion dilyniant, cadwch y pethau canlynol mewn cof:

  • Gwnewch eich fideos yn fyrrach na darlith arferol. Bydd myfyrwyr yn ei chael hi’n haws canolbwyntio ar fideos byrrach.
  • Cysylltwch y recordiad â gweithgaredd dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Anogwch ddysgu gweithredol trwy gyfrwng cwestiynau neu weithgareddau eraill.
  • Sicrhewch fod y PowerPoint a nodiadau’r siaradwr (os ydych yn eu defnyddio) ar gael ar Blackboard.

Ychwanegu cwisiau at eich recordiad Panopto

Mae cwisiau’n ffordd dda o gyflwyno amrywiaeth i’ch recordiad, yn debyg i’r modd y byddech yn defnyddio cwestiynau mewn darlith

  • Ysgrifennwch gwestiynau clir a fydd o gymorth i’ch myfyrwyr ymwneud yn weithredol â’r recordiad

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*