Wicis Blackboard i Hyfforddwyr
https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Interact/Wikis
Mae wicis yn galluogi aelodau’r cwrs i gyfrannu at ac addasu un neu ragor o dudalennau o ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â’r cwrs ac yn ffordd o rannu a chydweithredu. Gall aelodau’r cwrs greu a golygu tudalennau yn gyflym, ac olrhain newidiadau ac ychwanegiadau, sy’n caniatáu cydweithredu effeithiol rhwng llawer o awduron. Gallwch greu un neu fwy o wicis er mwyn i holl aelodau’r cwrs gyfrannu ato a wicis y gall grwpiau penodol eu defnyddio er mwyn cydweithredu.
Gall holl aelodau’r cwrs hefyd ddefnyddio’r offer wicis i gofnodi gwybodaeth a gweithredu fel ystorfa ar gyfer gwybodaeth y cwrs. Mae wici cwrs yn ffynhonnell wybodaeth helaeth a grëwyd gan aelodau’r cwrs. Gall wicis helpu i feithrin cymuned o gydweithredu a dysgu. Mae rhyngweithio cymdeithasol yn cynyddu wrth gyfnewid gwybodaeth.
Manteision defnyddio wicis
Gall wicis helpu aelodau’r cwrs i greu ystorfa wybodaeth ar y cyd. Wrth i’r wybodaeth ehangu, gallwch ddisgwyl rhyw elfen o ddifrifoldeb a sefydlogrwydd i’r wici.
Trwy eu defnyddio’n benodol, gallwch ddefnyddio wicis ar gyfer y dibenion addysgiadol hyn:
- Darparu amgylchedd hawdd ei ddefnyddio ar gyfer cyfathrebu
- Hyrwyddo cydweithredu yn hytrach na chystadlu
- Meithrin agwedd gymdeithasol a rhyngweithiol at ddysgu
- Datblygu partneriaethau er mwyn elwa o gryfderau eraill
- Amlhau sgiliau datblygu rhwydweithiau, ymddiriedaeth, a negodi
- Darparu cefnogaeth ac adborth prydlon
- Darparu un man ar gyfer chwilio, diweddaru, a chael mynediad at wybodaeth yn rhwydd ac yn gyflym
- Cynyddu a datblygu’r posibilrwydd o greadigrwydd, naturioldeb, ac arloesedd drwy ddefnyddio meddwl myfyriol
Wicis Blackboard i Fyfyrwyr
https://help.blackboard.com/Learn/Student/Interact/Wikis
Offer cydweithredol yw wici sy’n eich galluogi i gyfrannu at ac addasu un neu ragor o dudalennau o ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â cwrs. Mae’r wici yn darparu ardal er mwyn cydweithredu ynghylch y cynnwys. Gall aelodau’r cwrs greu a golygu tudalennau wici sy’n ymwneud â’r cwrs neu â grŵp cwrs.
Gall hyfforddwyr a myfyrwyr roi sylwadau, a gall eich hyfforddwr raddio gwaith unigolion.
Gweler Cwestiynau a Holir yn Aml Aberystwyth ar Wicis:
faqs.aber.ac.uk a chwilio “Wicis”