Ar 10 Ebrill, croesawodd y Grŵp E-ddysgu 26 aelod o staff o bob rhan o’r Brifysgol i’r Gynhadledd Fach eleni. Thema’r Gynhadledd eleni oedd Addysg Gynhwysol a chafwyd chwe chyflwyniad yn amrywio o ganllawiau ymarferol ar sut i greu dogfennau hygyrch, i weithio gyda myfyrwyr niwroamrywiol. Oherwydd yr amrywiaeth eang o bynciau a drafodwyd, rhannwyd y crynodeb hwn yn ddwy ran, gyda rhan 1 yn trafod y tri chyflwyniad cyntaf. Darperir crynodeb o’r tri chyflwyniad olaf yn y postiad blog nesaf.
Agorodd y gynhadledd gyda chyflwyniad wedi’i recordio gan Dr Rob Grieve. Mae Dr Grieve yn uwch ddarlithydd mewn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Yn ogystal â’i ymchwil academaidd, mae Dr Grieve hefyd yn cynnal gweithdai o’r enw Stand Up and Be Heard. Mae’r gweithdai hyn yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr y mae arnynt ofn siarad yn gyhoeddus, a bod hynny’n effeithio ar asesiadau sy’n cynnwys elfen gyflwyno. Ategodd Dr Grieve ei gyflwyniad gydag ymchwil a gynhaliwyd gan Marinho et al (2017) a nododd fod gan 64% o fyfyrwyr israddedig (allan o sampl o 1,135) ofn siarad yn gyhoeddus, ac y byddai 89% ohonynt wedi hoffi cael arweiniad a chymorth ychwanegol gan eu sefydliadau ar siarad yn gyhoeddus. Wrth gloi ei gyflwyniad, eglurodd Dr Grieve strategaethau i staff a fyddai’n helpu i gynorthwyo myfyrwyr â siarad yn gyhoeddus a chyflwyniadau asesedig. Awgrymodd y dylid:
- Cydnabod bod ar lawer o fyfyrwyr ofn siarad yn gyhoeddus ar gyfer asesiadau modiwl, ac yn gyffredinol
- Heblaw am ein rôl yn dysgu pwnc, gallwn gynorthwyo myfyrwyr (neu eu cyfeirio ymlaen) […] i leihau eu hofn o siarad yn gyhoeddus
- Mae rhoi cyflwyniadau a siarad yn gyhoeddus yn sgiliau bywyd trosglwyddadwy sy’n gwneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy; nid dim ond ar gyfer asesiadau y’u defnyddir
Yn ogystal â hyn, nododd Dr Grieve nad oes rhaid i gyflwyniadau fod yn berffaith. Y neges allweddol i’w chyfleu i fyfyrwyr yw i fod yn nhw eu hunain wrth wneud cyflwyniadau, ac i fod yn awthentig. Bu’r gweithdai a gynhaliodd Rob yn hynod lwyddiannus i fyfyrwyr, yn enwedig y rhai a oedd yn mynd ymlaen i roi cyflwyniadau asesedig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gweithdai yma.
Yn dilyn ymlaen o gyflwyniad Dr Grieve, cafwyd cyflwyniad gan Dr Debra Croft ar y gwaith y mae’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol wedi’i wneud i ymgorffori Sgiliau Craidd yn eu cwricwlwm yn y Brifysgol Haf. Cyflwynir y modiwl Sgiliau Craidd yn Wythnos 1 y cwrs yn bennaf, ac mae’n fodiwl yn ei rhinwedd ei hun. Nod y modiwl yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau astudio a’r sgiliau bywyd y bydd eu hangen arnynt yn ystod gweddill eu hamser yn y Brifysgol Haf a thu hwnt. O ystyried cyfyngiadau amser rhaglen y Brifysgol Haf, nid oes modd ymgorffori’r sgiliau craidd yn y cwricwlwm pwnc-benodol, felly mae angen i’r holl fyfyrwyr gymryd y modiwl Sgiliau Craidd.
Aeth y tîm ati i ddiwygio’r modiwl yn llwyr yn 2016-17, ar sail yr adborth a ddarparwyd gan fyfyrwyr a staff, a’i sgôr isel o ran boddhad myfyrwyr. O ganlyniad, cynyddodd cyfradd boddhad y modiwl Sgiliau Craidd i 80% yn 2016, 80au% uchel yn 2017, a 94% yn 2018. Priodolwyd llwyddiant y modiwl i’r newidiadau a wnaed gan y tîm dysgu. Y gwahaniaeth mwyaf yn 2018 oedd y newid i’r modd y cyflwynwyd y modiwl. Defnyddiwyd grwpiau caeedig ar Facebook i gyfathrebu â myfyrwyr amrywiol, gan wneud defnydd llawn o Blackboard a Turnitin ar gyfer aseiniadau. Rhoddai’r modiwl Sgiliau Craidd bwyslais ar yr elfen gynhwysol a gwahaniaethau dysgu, gan alluogi tiwtoriaid i ymgorffori gofynion yn eu dysgu. Mae’r asesiadau wedi’u safoni ac wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysol o’r cychwyn sy’n golygu bod pawb yn gwneud yr un asesiad. Maent hefyd yn defnyddio cwisiau Blackboard sy’n cael eu marcio’n awtomatig ar gyfer sgiliau hyfforddi a TG. Ceir rhagor o wybodaeth am waith y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol yma.
Cyflwynwyd y drydedd a’r olaf o sesiynau hanner hwn y gynhadledd gan Janet Roland a Caroline White o’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd. Nod eu cyflwyniad, Teaching for Everyone: Neurodiversity and Inclusive Practices, oedd darparu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i greu gweithgareddau dysgu ac addysgu ar gyfer myfyrwyr niwroamrywiol. Agorodd y gweithdy gydag ymarfer i dorri’r iâ. Mewn parau, gofynnwyd i’r cyfranogwyr labelu eu hunain ‘A’ a ‘B’. Yn gyntaf, gofynnwyd i bob ‘A’ siarad am eu gwyliau diwethaf am 1 munud gyda ‘B’. Wedyn, gofynnwyd i bob ‘B’ siarad am eu gwyliau diwethaf gydag ‘A’, ond heb ddefnyddio unrhyw air sy’n cynnwys y llythyren ‘E’. Yna, rhoddwyd amlen i’r cyfranogwyr yn cynnwys termau am ymddygiad niwroamrywiol a’u nodweddion, a gofynnwyd iddynt baru’r labeli â’r nodweddion perthnasol. Bu’r cyflwyniad hwn gyfle i’r cyfranogwyr ystyried y gwahanol broffiliau niwroamrywiol a strategaethau y gellir eu defnyddio i greu profiad dysgu mwy cynhwysol.
Cyfeiriadau
Marinho, ACF., de Madeiros, AM., Gama, AC and Teixeira, LC. 2017. Fear of Public Speaking: Perception of College Students and Correlates. Journal of Voice. 31: 1. DOI: 10.1016/j.jvoice.2015.12.012.