Mae cynnal arolwg barn neu bleidlais yn y dosbarth yn ffordd wych i sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cydadweithio’n fwy yn yr ystafell ddosbarth (gweler er enghraifft: Shaw et al, 2015; Boyle a Nicol 2003; Habel a Stubbs, 2014; Stratling, 2015). Fe’i defnyddir yn helaeth mewn addysg bellach ac uwch, ac mae nifer o staff Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio arolygon barn yn y dosbarth yn gyson. Yn ogystal â’r setiau llaw Qwizdom sydd ar gael yn offer i’w benthyca mae mwy a mwy yn defnyddio gwasanaethau ar-lein fel Poll Everywhere, Socrative a Mentimeter (ymysg eraill). Mae’r gwasanaethau hyn yn fodd i’r myfyrwyr ddefnyddio’u dyfeisiau eu hunain (megis ffonau symudol, tabledi a gliniaduron) i gymryd rhan mewn arolygon barn, rhoi adborth a gofyn cwestiynau.
Gall y Grŵp E-ddysgu roi ystod eang o wybodaeth a chymorth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio arolygon barn wrth addysgu. Mae hyn yn amrywio o gyngor ar sut i gynnwys arolygon barn yn llwyddiannus yn eich arferion addysgu, i gymorth ymarferol ar greu a defnyddio arolygon yn y dosbarth.
Ar hyn o bryd, nid yw Prifysgol Aberystwyth yn cynnig dull pleidleisio ar-lein a gefnogir yn ganolog ar gyfer dyfeisiau symudol. Er hynny, mae ystod eang o wasanaethau ar gael, llawer ohonynt â fersiynau di-dâl neu fersiynau prawf. Bwriad y blog hwn yw eich helpu i asesu pa ddull sy’n fwyaf addas i chi a’ch myfyrwyr.
- Beth hoffech chi ei wneud? Fel ym mhob technoleg ddysg sy’n cael ei rhoi ar waith, y cwestiwn cyntaf y mae angen ichi ei ofyn yw ‘Beth hoffwn i weld y myfyrwyr yn ei wneud?’ Bydd y gwasanaeth a ddewiswch yn dibynnu ar yr ateb. Er enghraifft, os ydych chi am i’ch myfyrwyr gyflwyno cwestiynau, neu roi adborth ysgrifenedig, chwiliwch am wasanaeth sy’n cynnig mwy na chwestiynau amlddewis
- Faint o fyfyrwyr fydd yn y dosbarth? Mae llawer o’r fersiynau di-dâl neu’r fersiynau cyfyngedig o feddalwedd sy’n codi tâl yn gosod cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr sy’n cael eu defnyddio. Edrychwch yn ofalus ar fanylion yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y fersiwn di-dâl.
- Rydym yn argymell yn gryf hefyd y dylech edrych ar Bolisi Preifatrwydd y gwasanaeth, er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod pa ddata personol amdanoch chi a’ch myfyrwyr fydd yn cael ei gasglu (edrychwch ar ein blogiadau ar y mater hwn).
Mae’r Grŵp E-ddysgu wedi llunio rhywfaint o wybodaeth ar rai gwasanaethau a allai fod o fudd ichi.
Pan fyddwch chi wedi penderfynu pa wasanaeth i’w ddefnyddio, dyma gynghorion ar ddefnyddio pleidleisio’n llwyddiannus yn y dosbarth.
- Meddwl am eich cwestiwn/cwestiynau. Mae llawer o adnoddau ar gael ynghylch llunio cwestiynau da, yn enwedig cwestiynau aml-ddewis. Peidiwch â theimlo bod rhaid ichi ofyn cwestiwn sydd ag ateb cywir neu anghywir. Weithiau gall cwestiwn sy’n ennyn trafodaeth neu sy’n dangos ehangder y safbwyntiau ar bwnc yn fuddiol.
- Defnyddio arolwg barn i ddechrau trafodaeth. Mae amryw o ffyrdd ichi ddefnyddio arolygon barn a thrafodaethau grŵp gyda’i gilydd – dwy ffordd boblogaidd yw Cyfarwyddyd Cymheiriaid (yn enwedig gwaith Eric Mazur) neu Gyfarwyddyd Dosbarth Cyfan (Dufresne, 1996)
- Ymarfer. Gofalwch ymarfer cyn y sesiwn fel eich bod yn gyffyrddus ac yn gyfarwydd â defnyddio’r cwestiynau a dangos y canlyniadau. Gallwch wneud hyn o’ch swyddfa drwy ddefnyddio dyfais symudol megis tabled neu ffôn symudol.
- Neilltuo amser yn y ddarlith. Os ydych yn defnyddio gweithgareddau arolygon barn yn y dosbarth, gofalwch adael digon o amser i’r myfyrwyr gael gafael ar eu dyfeisiau, meddwl am yr atebion ac ymateb. Efallai y bydd angen amser hefyd i gywiro unrhyw gamddealltwriaeth neu esbonio’r atebion.
- Rhoi gwybod i’ch myfyrwyr ymlaen llaw. Gofalwch fod eich myfyrwyr yn gwybod bod angen dod â’u dyfeisiau a bod y rhain ganddyn nhw yn y dosbarth. Gallwch wneud hyn drwy wneud cyhoeddiad yn Blackboard. Gallwch chi hefyd ddarparu cysylltiadau â Chwestiynau Cyffredin perthnasol megis sut i gysylltu â wifi Prifysgol Aberystwyth (Android: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=692, Windows: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=870, iOS: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=700 )
Mae yna ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio arolygon barn – o gasglu gwybodaeth am faint mae’r myfyrwyr yn ei wybod ar ddechrau modiwl i ddarganfod pa bynciau y mae angen ichi ymdrin â nhw mewn sesiwn adolygu. Gallwch hefyd gasglu barn, cael adborth ar sut mae’r ddarlith yn mynd, neu gasglu cwestiynau dienw. Os ydych chi’n defnyddio arolygon barn wrth addysgu, cysylltwch â ni i sôn mwy – gallen ni hyd yn oed gynnwys eich gwaith ar y blog!