Beth sy’n Newydd yn Blackboard Tachwedd 2024 

Mae diweddariad Blackboard mis Tachwedd yn cynnwys gwelliannau i argraffu Profion, Dogfennau a Golygu Sypiau.

Argraffu Profion gyda chwestiynau o Gronfeydd Cwestiynau

Pwnc Cymorth Blackboard cysylltiedig: Cronfeydd Cwestiynau

Gall hyfforddwyr nawr argraffu profion sy’n cynnwys cwestiynau o Gronfeydd Cwestiynau. Bydd allwedd ateb hefyd yn cael ei hargraffu gyda’r prawf cyfatebol. Mae hyn yn sicrhau bod hyfforddwyr bob amser yn cael allwedd ateb sy’n cyd-fynd â’r prawf. Mae Blackboard yn cynhyrchu’r allwedd ateb ac yn ei hargraffu cyn y prawf. Mae’r allwedd ateb hefyd wedi’i labelu’n glir i sicrhau ymwybyddiaeth. 

Mae’r system yn cynhyrchu fersiwn wahanol o’r allwedd ateb a’r prawf bob tro y bydd prawf yn cael ei argraffu. Bydd prawf:

  • Yn dewis cwestiynau neu opsiynau atebion ar hap 
  • Yn cynnwys Cronfa Gwestiynau
  • Gall hyfforddwyr ddefnyddio’r opsiwn argraffu i gadw’r allwedd ateb a’r prawf fel PDF. 

Llun 1: Argraffu prawf

Argraffu prawf

Gwella’r adnodd Newid Maint Blociau yn Dogfennau

Pwnc Cymorth Blackboard Cysylltiedig: Creu Dogfennau 

Er mwyn helpu i newid maint blociau tal fertigol, mae Blackboard wedi addasu’r ddolen newid maint. Nawr, gall hyfforddwyr newid maint bloc trwy ddewis ymyl fertigol bloc. Nid oes angen gosod y llygoden yn uniongyrchol dros y ddolen.

Llun 1: Dolen newid maint mewn dogfen

Dolen newid maint mewn dogfen

Am fwy o wybodaeth am Ddogfennau Blackboard gweler ein blogbost blaenorol ar Welliannau i Ddogfennau Blackboard.

Golygu Swp: Gwella Defnyddioldeb

Pwnc Cymorth Blackboard Cysylltiedig: Swp-olygu

“Newid dyddiadau i ddyddiad a / neu amser penodol” yw’r opsiwn mwyaf poblogaidd a ddefnyddir wrth olygu swp i newid dyddiadau mewn swp, felly nawr dyma’r opsiwn diofyn. Mae’r newid hwn yn symleiddio’r broses i ddefnyddwyr ac yn helpu hyfforddwyr i baratoi cyrsiau ar gyfer addysgu a dysgu yn gyflymach byth.

Llun 1: Dewis Golygu Dyddiadau yn Swp-olygu

Dewis Golygu Dyddiadau yn Swp-olygu

Gwobr Cwrs Nodedig 2024-25

ECA logo: Exemplary Course Award with the four criteria showing in a circle:
Course design
Interaction and Collaboration
Assessment
Learner Support

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Nodedig 2024-25 ar agor.

Mae’r GCN yn cael ei farnu ar draws 4 categori:

  • Cynllun y Cwrs
  • Rhyngweithio a Chydweithio
  • Asesu
  • Cymorth i Fyfyrwyr

Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno 3 arfer sy’n sefyll ar wahân ar gyfer eu Cwrs i helpu i fframio eu cais cyn hunanasesu eu cwrs – gall hyn fod yn naratif 1,000 o eiriau neu’n recordiad Panopto 8 munud o hyd.

Yn dilyn yr hunanasesiad, caiff y cyrsiau eu hasesu hefyd gan banel o arbenigwyr.

Mae’r newidiadau i’r ffurflen eleni yn cynnwys:

  1. Ychwanegu maen prawf 1.13: sgôr Blackboard Ally o 85% neu fwy.
  2. Y gallu i ofyn am adroddiadau ar eich cwrs (Ymroddiad Myfyrwyr a Chrynodeb o’r Cwrs). Gellir gofyn am yr adroddiadau hyn gan y Grŵp Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).

Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer ceisiadau, cynhelir dau weithdy gan yr Grŵp Addysg Ddigidol ar:

  • 14 Ionawr 2025, 14:10-15:30
  • 20 Ionawr 2025, 10:10-11:30

Gellir archebu lle drwy’r dudalen archebu ar-lein.

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o weddalennau’r Grŵp Addysg Ddigidol.

Rhaid ebostio ceisiadau wedi’u cwblhau at eddysgu@aber.ac.uk cyn 12 canol dydd ddydd Gwener 31 Ionawr 2025.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â’r Grŵp Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 30/10/2024

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Hydref

Tachwedd

Rhagfyr

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

  • Call for proposals (open dates) Unfiltered by EmpowerED: A Podcast Series where educators share unedited stories of inspiration and challenge
  • Call for proposals (open dates) Future Teacher Webinars
  • Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinars free open webinars on various topics related to academic integrity
  • Subscribe to SEDA’s mailing list for email discussions about educational development and emerging teaching practices. This is one of the sources I use when identifying useful material for the Roundup.
  • Join the #LTHEchat on Twitter Wednesday nights for one hour of lively discussion about learning and teaching in HE. I often find out about good resources for the Roundup from the chat.

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 23/10/2024

Gweminarau a chyfres o bodlediadau

Beth sy’n Newydd yn Blackboard Hydref 2024 

Mae Diweddariad Blackboard mis Hydref yn cynnwys creu banciau cwestiynau o ddeunyddiau cwrs a mwy o opsiynau addasu ar gyfer hysbysiadau e-bost.

Creu banciau cwestiynau o ddeunyddiau cwrs

Pwnc Canllaw Blackboard cysylltiedig: Banciau Cwestiynau 

Mae creu cwestiynau yn cymryd llawer o amser. Bellach mae gan hyfforddwyr yr opsiwn i greu cwestiynau mewn banc cwestiynau. Mae creu banciau cwestiynau o ddeunyddiau cwrs yn rhoi ysbrydoliaeth ac yn arbed amser. 

I greu banc cwestiwn, dewiswch yr opsiwn  Auto-generate o’r + ar y dudalen Banciau Cwestiynau. 

Llun 1: Awto-gynhyrchu banc cwestiynau

Prif sgrin y banc cwestiynau gyda'r gwymplen wedi’i dewis ac awto-gynhyrchu yn ymddangos

O’r ddewislen, gall hyfforddwyr ddewis eitemau cynnwys. Mae’r eitemau hyn yn darparu cyd-destun ar gyfer y cwestiynau. Gall hyfforddwyr fireinio’r cwestiynau y maent yn eu gofyn ymhellach trwy nodi disgrifiad o’r amcanion neu’r pwnc dysgu. 

Llun 2: Y dewisydd cyd-destun ar gyfer creu cwestiynau newydd

 Dewis eitemau gyda'r dewisydd cyd-destun

Gall hyfforddwyr ddewis y math o gwestiwn i’w greu, megis dewis lluosog neu lenwi’r bylchau. Gellir addasu cymhlethdod y cwestiynau hefyd. Bydd hyfforddwyr yn dewis pa gwestiynau i’w cynnwys yn y banc cwestiynau. 

Llun 3: Y dudalen Awto-gynhyrchu banc cwestiynau

Tudalen gynhyrchu banc cwestiynau yn dangos opsiynau ar y chwith a chwestiynau ar y dde

Hysbysiadau e-bost ar gyfer trafodaethau dilynol

Pwnc Canllaw Blackboard cysylltiedig: Trafodaethau

Er mwyn annog cyfranogiad mewn trafodaethau, mae Blackboard wedi ehangu hysbysiadau i gynnwys e-bost. Anfonir negeseuon e-bost pan fydd defnyddwyr yn dewis hysbysiadau  E-bostiwch fi ar unwaith . 

Gwelliannau Allweddol:

Gosodiadau Hysbysu Defnyddwyr: Mae opsiynau hysbysu newydd yn caniatáu i ddefnyddwyr reoli eu negeseuon e-bost ar gyfer y trafodaethau y maent yn eu dilyn. Er mwyn helpu gyda chysondeb, mae’r gosodiadau hyn yn cyd-fynd â gosodiadau’r defnyddiwr ar gyfer eu ffrwd weithgaredd. 

  • Gweithgaredd ar fy ymatebion 
  • Gweithgaredd ar ymatebion yr wyf wedi ymateb iddynt 
  • Ymatebion gan hyfforddwyr 
  • Ymatebion ar gyfer trafodaethau dilynol 
  • Ymatebion ar gyfer trafodaethau rwy’n eu dilyn 

Sut i gael mynediad i’ch gosodiadau hysbysiad e-bost:

  • Yn Blackboard ewch i’ch Proffil
Dewislen llywio Blackboard gyda'r proffil defnyddiwr wedi’i amlygu
  • O dan Gosodiadau Hysbysu Byd-eang cliciwch ar Hysbysiadau E-bost
Hysbysiadau E-bost wedi’i amlygu o dan gosodiadau Hysbysu Byd-eang
  • Addaswch eich gosodiadau fel yr hoffech
Gosodiadau hysbysu ar gyfer e-byst

Llun 2: Enghraifft o e-bost ar gyfer gweithgaredd trafod

Enghraifft o hysbysiad e-bost ar gyfer gweithgaredd trafod

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 9/10/2024

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Hydref

Tachwedd

Rhagfyr

Adnoddau a chyhoeddiadau – Deallusrwydd Artiffisial (DA)

Adnoddau a chyhoeddiadau – Arall

Arall

  • Call for proposals (open dates) Unfiltered by EmpowerED: A Podcast Series where educators share unedited stories of inspiration and challenge
  • Call for proposals (open dates) Future Teacher Webinars
  • Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinars free open webinars on various topics related to academic integrity
  • Subscribe to SEDA’s mailing list for email discussions about educational development and emerging teaching practices. This is one of the sources I use when identifying useful material for the Roundup.
  • Join the #LTHEchat on Twitter Wednesday nights for one hour of lively discussion about learning and teaching in HE. I often find out about good resources for the Roundup from the chat.

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Panopto 

Wrth i’r addysgu ddechrau, efallai y bydd yr wybodaeth hon am Panopto yn ddefnyddiol. Dyma’r atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am Panopto dros yr wythnosau diwethaf.

Cysylltu â holl Recordiadau Panopto

Gallwch greu dolen i’r ffolder Panopto yn eich cwrs Blackboard. Golyga hyn y gall myfyrwyr weld y recordiadau ar gyfer y cwrs mewn un lle.

Dod o hyd i’ch ffolder Panopto

Mae ffolderi Panopto ar gyfer yr holl fodiwlau eleni yn y ffolder 2024-25.

I ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:

  • Cliciwch ar y botwm cwymplen ar ochr dde’r blwch Ffolder.
  • Cliciwch ar y saeth cwymplen i’r chwith o’r ffolder blwyddyn academaidd i’w hehangu.
  • Dewiswch y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.

Gallwch hefyd chwilio am y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:

  • Yn y blwch Ffolder dechreuwch deipio cod y modiwl neu enw’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi
  • Dewiswch y ffolder yr hoffech recordio ynddi.

Beth i’w wneud os na allwch weld eich ffolder Panopto

Mewn nifer fach o gyrsiau, ni chrëwyd y ffolder Panopto dros yr haf. Os na allwch ddod o hyd i’ch ffolder Panopto gan ddefnyddio’r camau uchod, gallwch greu ffolder o Blackboard:

  1. Mewngofnodwch i Blackboard a dod o hyd i’ch cwrs
  2. Cliciwch ar Llyfrau ac Offer > Gweld cwrs ac offer sefydliad
  3. Cliciwch ar Holl Fideos Panopto

Nawr dylech allu dod o hyd i’r ffolder Panopto i recordio ynddi.

Cyflwyno Rheolau Archifo Newydd Panopto. 

Yn unol â’r Polisi Cipio Darlithoedd caiff pob recordiad Panopto ei gadw am 5 mlynedd cyn iddynt gael eu dileu. Ni fydd hwn yn newid. Fodd bynnag, er mwyn lleihau’n sylweddol ar gostau storio, mae angen i’r Brifysgol ddefnyddio’r nodwedd Archifo yn Panopto. 

O 1af Tachwedd 2024 ymlaen, bydd holl recordiadau Panopto nad ydynt wedi cael eu gwylio mewn 13 mis yn cael eu symud i Archif Panopto, lle gellir eu hadfer pe bai eu hangen. 

Adfer recordiad wedi’i archifo: 

Fel aelod o staff neu fel myfyriwr, gallwch adfer recordiad wedi’i archifo os oes angen i chi gael mynediad ato am unrhyw reswm, cyhyd â bod gennych ganiatâd i gael mynediad i’r recordiad cyn iddo gael ei archifo. Byddwch yn ymwybodol y gall gymryd hyd at 48 awr i adfer recordiad. Pan fydd y recordiad wedi’i adfer, bydd crëwr gwreiddiol y recordiad yn cael gwybod ei fod ar gael yn ogystal â’r sawl sy’n gwneud cais i’w adfer (os yw’n wahanol). 

Sut y bydd Rheolau Cadw yn newid yn ein hamgylchedd storio Panopto: 

Ar hyn o bryd: 

Bob mis; Mae recordiadau nad oes unrhyw un wedi’u gwylio mewn 5 mlynedd yn cael eu dileu. 

Beth fydd yn newid: 

Ar ddechrau bob mis; Bydd recordiadau nad ydynt wedi cael eu gwylio ers dros 13 mis yn cael eu symud i’r Archif. 

Hefyd ar ddechrau bob mis; Bydd recordiadau nad oes unrhyw un wedi’u gwylio mewn 5 mlynedd yn cael eu dileu. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk