Hyfforddiant Addysg Ddigidol

Mae ein rhaglen hyfforddiant Addysg Ddigidol bellach yn barod i staff archebu eu lle gan ddefnyddio’r dudalen archebu i staff

Mae ein hyfforddiant wedi’i rannu ar draws 3 lefel:

Hanfodion E-Ddysgu:

Mae ein sesiynau Hanfodion E-ddysgu yn rhoi cyflwyniad ymarferol i dechnolegau dysgu digidol craidd y Brifysgol a’r polisïau sy’n cefnogi eu defnydd.  Mae’r sesiynau hyn yn ddelfrydol ar gyfer cydweithwyr sydd heb ddefnyddio offeryn o’r blaen, yn ymgymryd â rôl addysgu newydd, neu’n edrych i adnewyddu eu gwybodaeth.

Byddwch yn meithrin hyder wrth ddefnyddio technolegau fel Blackboard, Turnitin, Panopto, Microsoft Copilot, a Vevox, yn ogystal â dysgu am brosesau allweddol sy’n cefnogi dysgu, addysgu ac asesu.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael:

  • Become a Document Pro
  • Introduction to Blackboard Ally
  • Cyflwyniad i Blackboard Ultra
  • Introduction to Component Marks Transfer
  • Introduction to Microsoft Copilot for Learning and Teaching Activities
  • Cyflwyniad i’r Offer Recordio Darlithoedd trwy Panopto ac Offer yr Ystafelloedd Dysgu (dwyieithog)
  • Cyflwyniad i Turnitin (dwyieithog)
  • Introduction to Vevox Polling Software

E-ddysgu Uwch:   

Mae ein sesiynau E-ddysgu uwch yn canolbwyntio ar ddylunio a chreu gweithgareddau dysgu sy’n ennyn diddordeb gan ddefnyddio offer digidol yng nghyd-destun eich addysgu chi eich hun.

Bydd y gweithdai ymarferol hyn yn eich helpu i edrych ar ddulliau arloesol o ddylunio’r dysgu, asesu, ystyried hygyrchedd a meithrin cyswllt â myfyrwyr, â’ch galluogi i ddefnyddio amgylchedd dysgu digidol y Brifysgol yn fwy effeithiol.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael: 

  • Becoming an Alternative Text Pro
  • Design Interactive Online Learning Activities Using Blackboard Discussions and Journals
  • Designing Blackboard Tests
  • Designing Learning and Teaching Activities Using Vevox
  • Introduction to the Blackboard AI Design Assistant
  • Measuring and Increasing student engagement using Blackboard Tools 
  • Peer Assessment with Turnitin
  • Preparing for Your Blackboard Exam
  • Using the Advanced Features of Panopto

Rhagoriaeth E-Ddysgu: 

Mae ein rhaglen Rhagoriaeth E-ddysgu wedi’i chynllunio ar gyfer cydweithwyr sydd am greu profiadau dysgu digidol rhagorol a sicrhau bod eu cyrsiau yn cyd-fynd â’r arferion gorau cydnabyddedig.

Yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Eithriadol Blackboard, mae’r sesiynau hyn yn edrych ar elfennau allweddol dylunio cwrs o ansawdd uchel ac addysgeg ddigidol effeithiol.  Er bod y sesiynau wedi’u cynllunio yn gyfres pedair rhan sy’n cyflenwi ei gilydd, mae croeso i chi ddod i sesiynau unigol yn ôl eich diddordebau a’ch anghenion.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael: 

  • Exemplary Assessment Design
  • Exemplary Course Design
  • Exemplary Interaction and Collaboration
  • Exemplary Learner Support
  • Submitting an Exemplary Course Award
  •  

Rydym wedi ymrwymo i wneud ein hyfforddiant mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.  Os nad ydych yn gallu dod i sesiwn ond byddech yn hoffi gallu defnyddio’r deunyddiau hyfforddi, neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar fformat y sesiwn neu ofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Grŵp Addysg Ddigidol yn eddysgu@aber.ac.uk.

Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir.

Beth sy’n Newydd yn Blackboard mis Awst 2026   

Yn y diweddariad ym mis Awst, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:    

  • Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng   
  • Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd  
  • Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy  
  • Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau  
  • Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr)  
  • Allforio banciau cwestiynau (Hyfforddwyr)    
  • Dangos adborth lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig (Hyfforddwyr a Myfyrwyr)  
  • Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell  
  • Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr 

Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng  

Mae rheoli grwpiau bellach yn gyflymach diolch i nodweddion llusgo a gollwng newydd.  

Hyfforddwyr 

O’r ardal rheoli Grwpiau, gall hyfforddwyr nawr wneud y canlynol:   

  • Llusgo myfyrwyr yn uniongyrchol i grŵp o’r rhestr ‘heb eu clustnodi’.  
  • Tynnu myfyrwyr unigol o grŵp heb orfod clirio pob aelod.  
  • Parhau i ddefnyddio’r dulliau sy’n bodoli eisoes ar gyfer aseiniadau ochr yn ochr â llusgo a gollwng. 

Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws creu ac addasu grwpiau, yn enwedig wrth wneud newidiadau bach i aelodaeth neu gydbwyso myfyrwyr ar draws sawl grŵp.  

Delwedd 1:  Gall hyfforddwyr lusgo a gollwng myfyrwyr i’w clustnodi i grŵp. 

Delwedd 2:  Gall hyfforddwyr dynnu myfyrwyr unigol o grŵp yn hytrach na’u tynnu i gyd ar unwaith. 

Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd 

Mae sefydlu grwpiau hefyd wedi dod yn llawer mwy effeithlon.  

Hyfforddwyr 

Yn hytrach na chreu grwpiau fesul un, gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp mewn un weithred.  Gellir cynhyrchu unrhyw nifer rhwng dau a 5,000 o grwpiau ar y tro, gan wneud y broses sefydlu yn llawer cyflymach ar gyfer modiwlau mawr.  

Ar ôl creu grwpiau, gellir ychwanegu aelodau â llaw, eu mewnforio, neu eu clustnodi’n awtomatig.  

Dyma rai pethau i’w nodi:  

  • Wrth ddefnyddio Clustnodi yn awtomatig, mae Blackboard yn creu’r nifer angenrheidiol o grwpiau yn seiliedig ar faint y grŵp a ddewiswyd gennych chi.  
  • Wrth ddefnyddio Hunan-gofrestru, mae tri grŵp yn cael eu creu’n awtomatig.  Mae unrhyw grwpiau ychwanegol a grëwyd trwy’r opsiwn creu swmp yn cael eu hychwanegu at y grwpiau hynny sy’n bodoli eisoes.  

Mae’r diweddariad hwn yn lleihau’n sylweddol ar faint o ailadrodd sydd ei angen yn y broses sefydlu wrth baratoi gweithgareddau cydweithredol.  

Delwedd 1:  Gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp ar yr un pryd yn hytrach na’u hychwanegu fesul un.   

Delwedd 2:  Gall hyfforddwyr nodi faint o grwpiau i’w creu ar y tro, gan greu o leiaf 2 a hyd at uchafswm o 5,000. 

Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy 

Mae Blackboard wedi gwella dibynadwyedd ei system hysbysu trwy drwsio sawl peth a oedd o’r blaen yn achosi hysbysiadau coll, rhai wedi’u dyblygu neu wedi’u camamseru.  

Hyfforddwyr a myfyrwyr  

Mae’r gwelliannau yn cynnwys y canlynol:   

  • Dim ond ar gyfer y grwpiau y maent yn aelodau ohonynt mewn gwirionedd y mae myfyrwyr yn cael hysbysiadau yn rhybuddio am ddyddiadau cau sydd i ddod neu’n hwyr. 
  • Mae hysbysiadau dyblyg wedi’u dileu ar gyfer Trafodaethau Grŵp sydd wedi’u copïo.  
  • Mae hysbysiadau ar gyfer trafodaethau, blogiau, dyddlyfrau, a wikis bellach yn gweithio’n gywir ar ôl copïo cynnwys y cwrs.  
  • Mae’r e-byst sy’n crynhoi negeseuon bellach yn cynnwys gwybodaeth am ddiweddariadau graddau a graddau wedi’u clirio.  
  • Nid yw’r e-byst crynhoi sydd heb gyrraedd pen eu taith bellach yn dangos, yn anghywir, eu bod wedi cyrraedd.    
  • Dim ond ar ôl y dyddiad dechrau a bennir y mae e-byst Cyhoeddiadau yn cael eu hanfon gan sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael y negeseuon cyn i’r cynnwys fod ar gael.  

Dylai’r newidiadau hyn leihau’r llif o hysbysiadau diangen gan roi sicrwydd bod y rhybuddion a geir yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd mewn cwrs.  

Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau  

Mae’r meysydd trafod bellach yn cynnwys rheolyddion didoli i helpu defnyddwyr i ymdrin â sgyrsiau hir yn haws.  

Hyfforddwyr a myfyrwyr  

Gall defnyddwyr nawr wneud y canlynol:   

  • Trefnu postiadau yn ôl Y mwyaf newydd yn gyntaf neu Yr hynaf yn gyntaf
  • Dychwelyd at drafodaethau a’u gweld yn yr un drefn a ddewiswyd o’r blaen.  

Mae didoli yn ôl trefn yn berthnasol ym mhob rhan o’r trafodaethau, gan gynnwys trywydd yr atebion, ac mae’n gweithio’n gyson ar ddyfeisiau symudol.   

Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws dilyn trafodaethau gweithredol, adolygu cyfraniadau, a dod o hyd i weithgarwch diweddar.  

Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr) 

Mae Gwedd Grid y Llyfr Graddau wedi’i ailwampio i fod yn symlach i hyfforddwyr o ran graddio.  

Ceir erthygl ar wahân gan Blackboard yn rhoi diweddariad mwy manwl ar y newidiadau hyn , ond y nod cyffredinol yw gwneud tasgau graddio yn haws i’w rheoli trwy gynllun a llif gwaith cliriach.  

Allforio banciau cwestiynau  

Gellir allforio banciau cwestiynau yn uniongyrchol o Blackboard.  

Hyfforddwyr 

O’r dudalen rheoli banciau cwestiynau, gall hyfforddwyr allforio banc cwestiynau fel ffeil a’i gadw’n lleol.  

Mae hyn yn galluogi staff i wneud y canlynol:  

  • Creu copïau wrth gefn o gynnwys asesiadau.  
  • Rhannu banciau cwestiynau gyda chydweithwyr. 
  • Ailddefnyddio cynnwys ar draws sawl cwrs. 

Mae’r broses allforio yn rhoi mwy o hyblygrwydd i hyfforddwyr wrth reoli a chadw deunyddiau asesu. 

Dangos adborth ar lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig   

Mae Blackboard wedi newid sut mae adborth yn cael ei arddangos ar gyfer cwestiynau amlddewis. 

Hyfforddwyr 

Nid oes unrhyw newidiadau i’r ffordd y mae adborth yn cael ei greu.  Gall staff barhau i ychwanegu adborth ar gyfer opsiynau ateb unigol gan ddefnyddio’r llif gwaith sy’n bodoli eisoes.  

⁠Myfyrwyr 

Ar ôl cyflwyno ymgais ar asesiad, dim ond yr adborth ar gyfer yr opsiynau ateb a ddewiswyd ganddynt mae myfyrwyr bellach yn eu gweld.   

Yn flaenorol, gallai myfyrwyr weld adborth ar gyfer pob opsiwn.  Mae’r dull newydd yn rhoi cyfarwyddyd mwy penodol ac yn atal myfyrwyr rhag gweld adborth sy’n gysylltiedig ag atebion nad oeddent wedi’u dewis.  

Mae hyn yn sicrhau bod adborth yn parhau i gael ei dargedu a’i fod yn berthnasol i ymatebion unigol. 

Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell 

Mae Blackboard wedi parhau â’i waith i wella’r llywio a phrofiad cyffredinol y defnyddiwr.  

Bwriad y newidiadau hyn yw:  

  • Ei gwneud hi’n haws i ddeall lle rydych chi o fewn cwrs. 
  • Lleihau camgymeriadau llywio damweiniol. 
  • Gwella cysondeb a pherfformiad. 
  • Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio yn ystod asesiadau. 

Mae’n bwysig nodi bod strwythurau a chynnwys y cwrs yn aros yr un peth, felly nid oes angen i hyfforddwyr ail-ddylunio unrhyw beth. 

Llywio cynnwys tudalen lawn 

Mae modiwlau dysgu, ffolderi, dogfennau, asesiadau, cyfryngau, ac eitemau cynnwys eraill bellach yn agor fel tudalennau llawn yn hytrach nag mewn paneli troshaen.  

Mae agor cynnwys mewn tudalen bwrpasol yn creu profiad mwy cyson ac yn ei gwneud hi’n haws i symud yn ôl trwy ddeunyddiau’r cwrs heb golli eich lle. 

Delwedd 1:   Mae’r cynnwys bellach yn agor fel tudalen lawn gyda phenawdau a llywio cyson, yn hytrach na phaneli troshaen wedi’u pentyrru.  

Briwsion bara i ddangos y cyd-destun 

Mae tudalennau cynnwys bellach yn cynnwys llywio gan ddefnyddio briwsion bara.  

Mae briwsion bara yn dangos lle mae eitem wedi’i osod o fewn strwythur y cwrs ac yn darparu mynediad cyflym yn ôl i’r ffolderi a’r modiwlau gwreiddiol.  Maent yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig ac nid oes angen i hyfforddwyr gymryd camau i’w sefydlu.   

Mae’r cyd-destun ychwanegol hwn yn helpu defnyddwyr i gadw golwg ar eu lleoliad o fewn y cwrs ac i symud o gwmpas yn fwy effeithlon.   

Delwedd 2:  Dyma friwsion bara ar dudalen cynnwys sy’n dangos lleoliad y defnyddiwr ac yn galluogi’r defnyddiwr i  symud yn ôl yn gyflym trwy fodiwlau a ffolderi. 

Ffordd gliriach, bwriadol i ddod allan o’r cynnwys 

Mae’r “X” porffor a ddefnyddiwyd o’r blaen i adael y cynnwys wedi’i ddisodli gan opsiwn ymadael wedi’i labelu’n glir yn yr ardal llywio.  

Mae sicrhau bod y dull rheoli ymadael yn fwy gweladwy a bwriadol yn helpu i leihau achosion o gau tudalennau yn ddamweiniol gan wneud llywio yn fwy rhagweladwy.  

Delwedd 3:  Mae’r opsiwn ymadael bellach yn rhan o’r faner lywio, gan leihau achosion o adael ar ddamwain.  

Cyflwr Ffocws ar gyfer profion ac aseiniadau (Myfyrwyr) 

Pan fydd myfyrwyr yn agor prawf neu aseiniad, mae Blackboard yn newid i gyflwr ffocws yn awtomatig.  

Mae’r olwg hon yn lleihau ymyriadau gweledol trwy leihau’r elfennau llywio nad ydynt yn hanfodol a chyflwyno sgrin asesu lanach.   

Mae’r nodwedd yn:  

  • Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar asesiadau. 
  • Nid yw’n effeithio ar raddio nac ymarferoldeb. 
  • Mae’n dal i adael i fyfyrwyr lywio i rywle arall os oes angen.  
  • Nid oes angen unrhyw weithredu gan hyfforddwyr.  

Mae’r cyflwr ffocws wedi ei alluogi’n awtomatig ac ni ellir ei ddiffodd. 

Delwedd 4:  Yn y cyflwr ffocws, mae llywio nad yw’n hanfodol yn cael ei leihau fel y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar gwblhau’r asesiad.  

Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr 

Gellir cysylltu amodau rhyddhau nawr â chyflwyniadau dyddlyfr.  

Hyfforddwyr 

Wrth bennu amodau rhyddhau, gall hyfforddwyr ddewis gwneud statws cyflwyno dyddlyfr yn ofyniad.   Unwaith y bydd myfyriwr yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr gofynnol, mae’r cynnwys cysylltiedig ar gael yn awtomatig.  

Mae’n bwysig nodi, nid oes angen i hyfforddwyr raddio’r dyddlyfr cyn i’r cynnwys gael ei ryddhau.   Mae Blackboard yn cofnodi’r cyflwyniad fel un sydd wedi’i gwblhau gan ddefnyddio’r broses olrhain cynnydd ac mae’n defnyddio’r statws hwnnw i beri i’r cynnwys gael ei ryddhau.  

Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd wrth ddylunio llwybrau dysgu strwythuredig a gweithgareddau rhagofynnol.  

Delwedd 1:   Mae hyfforddwyr yn dewis Cyfrannu (Engagement) fel y gweithgaredd sy’n ofynnol ar gyfer dyddlyfr.  

⁠Myfyrwyr 

Mae’r myfyrwyr yn cael mynediad awtomatig at gynnwys newydd unwaith y byddant yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr sy’n gysylltiedig â’r amod rhyddhau.  

Nid oes angen aros i’r gwaith gael ei farcio neu am gymeradwyaeth yr hyfforddwr cyn symud ymlaen, gan greu profiad dysgu llyfnach a lleihau’r oedi rhwng gweithgareddau.  

Cronfa Gwobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwy

Mae’r Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol yn dwyn cydweithwyr ynghyd i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ledled ein Prifysgol i gyfoethogi’r dysgu, addysgu a phrofiad y myfyrwyr.

Er mwyn cefnogi ac annog y gwaith hwn, rydym ni’n falch o wahodd ceisiadau ar gyfer Gwobrau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr eleni.

Eleni, mae cyfanswm o £10,000 ar gael, a chroesewir ceisiadau ar gyfer prosiectau o hyd at £2,000 yr un.

Dylai prosiectau alinio â themau’r gynhadledd eleni.

  • Creu cwricwlwm mwy amrywiol
  • Sgiliau, nodweddion graddedigion, a chymhwyso cymwyseddau yn y byd go iawn.
  • Myfyrwyr fel Cyd-grewyr a Chydweithwyr

Mae’r gwobrau’n cael eu hariannu trwy’r Gronfa Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a’r Gronfa Siarter Cydraddoldeb Hil.

Rydym yn annog ceisiadau o bob rhan o gymuned y Brifysgol ac yn croesawu cynigion a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’n haddysg a phrofiad y myfyrwyr.

Dylai ymgeiswyr fynychu’r gynhadledd eleni, sy’n cael ei chynnal rhwng 8-10 Medi. Gallwch archebu eich lle drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon.

Mae rhaglen y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan dderbynwyr gwobrau’r llynedd.

I gyflwyno cais:

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ar gael ar dudalennau gwe’r Gwobrau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr.

Bydd y cronfeydd hyn yn cael eu gweinyddu gan drefnwyr y gynhadledd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau ac at weld sut mae cydweithwyr yn parhau i ddatblygu a rhannu arferion arloesol ar draws y Brifysgol.

Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr:   Adborth am y Gynhadledd Flaenorol

Ydych chi’n ystyried dod i’r gynhadledd Addysg a Phrofiad Myfyrwyr ym mis Medi? Efallai nad ydych erioed wedi mynychu o’r blaen, neu eich bod chi’n newydd i’r brifysgol. Efallai nad ydych chi’n siŵr a fyddai’n ddefnydd da o’ch amser. Gydag ychydig llai na mis i fynd, roeddem am ryddhau blogbost yn amlinellu adborth blaenorol am y gynhadledd.

Wrth gwrs, byddem ni’n dweud mai dyma’r tri diwrnod gorau yn y dyddiadur (ni yw’r trefnwyr!), ond beth mae mynychwyr y llynedd yn ei ddweud?

Bob blwyddyn rydym yn cynnal arolwg adborth gydag unigolion sydd wedi bod i’r gynhadledd. Y llynedd gwnaeth 97% o’r bobl a ymatebodd i’r arolwg roi sgôr o 4 neu 5 allan o 5 i’r gynhadledd. A dywedodd 90% ei bod yn bodloni eu disgwyliadau.

Yr agweddau ar y gynhadledd yr oedd mynychwyr yn eu gwerthfawrogi fwyaf oedd ei bod yn rhoi cyfle i drafod pynciau cyfredol ym maes dysgu ac addysgu, ac adeiladu cymunedau. Mae’r cymysgedd o siaradwyr mewnol ac allanol yn golygu eich bod chi’n cael y cyfle i ddarganfod beth sy’n digwydd mewn adrannau eraill yn PA, yn ogystal â phrifysgolion yn y DU a thu hwnt. A gallwch gwrdd â staff mewn adrannau eraill a allai rannu’r un diddordebau addysgu neu ymchwil â chi. Mae digon o amser yn ystod egwyliau i gwrdd â phobl newydd yn ogystal â dal i fyny â chydweithwyr nad ydych wedi’u gweld ers tro.

Nid yn unig y mae’r gynhadledd yn ddigwyddiad gwych, ond mae mynychwyr yn dweud ei bod yn cael effaith uniongyrchol ar eu hymarfer addysgu. Trwy bapurau a gweithdai’r gynhadledd, a’r sgyrsiau, dywed staff eu bod yn defnyddio dulliau newydd a ddysgwyd o’r gynhadledd yn eu haddysgu. Ar ôl y gynhadledd y llynedd, dywedodd sawl aelod o staff wrthym eu bod yn mynd i bwyso a mesur defnyddio DA yn eu haddysgu. Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am gymrodoriaeth AUYmlaen, mae’r gynhadledd hefyd yn ffordd wych o gymryd rhan mewn DPP a myfyrio ar eich ymarfer addysgu.

Un o’r negeseuon a awgrymodd mynychwyr ein bod ni’n ei rhannu’n ehangach yw bod croeso i chi bigo i mewn ac allan o’r gynhadledd. Gwyddom efallai na fyddwch chi’n gallu mynychu ar y tri diwrnod, ond gallwch ddod draw ar gyfer rhai o’r sgyrsiau sydd o ddiddordeb i chi. Ac wrth gwrs, gallwch aros cyhyd ag y dymunwch os ydych chi’n teimlo eich bod eisiau parhau â’r sgwrs, neu os oes sesiwn arall yn mynd â’ch bryd.

Felly, nid y tîm trefnu yn unig sydd â barn ffafriol am y gynhadledd – mae staff o bob rhan o’r brifysgol yn cytuno ei bod hi’n ffordd dda o gwrdd â chydweithwyr, trafod pynciau addysgu, a dysgu rhywbeth y gallant ei ddefnyddio yn eu haddysgu. Dewch draw ac ymunwch â nhw a darganfod drosoch eich hun. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld yno.

Gallwch fwrw golwg dros ein rhaglen lawn ac archebu eich lle ar-lein. 

Cyfuno Cyrsiau 2026-27 

Mae cyrsiau 2026-27 bellach ar gael i staff yn Blackboard, felly gallwch gyfuno cyrsiau trwy ddefnyddio offeryn Partneriaid Modiwl Blackboard. 

Mae’r offeryn Partneriaid Modiwl Blackboard yn ar gael trwy myadmin.aber.ac.uk a gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i ddefnyddio yn ein Cwestiynau Cyffredin: Sut ydw i’n cyfuno modiwlau yn Blackboard (staff)?

Mae cysylltu cyrsiau yn ffordd effeithiol o drin cyrsiau unigol gyda’r un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau i ddau neu ragor o gyrsiau gwahanol.

Yn ôl y proses hwn, bydd un cwrs yn gwrs cynradd (gelwid gynt yn rhiant), a’r cwrs neu gyrsiau eraill yn gwrs eilaidd (gelwid gynt yn blentyn). Ni chyfyngir ar nifer y gyrsiau eilaidd ond ni ellir cael mwy nag un cwrs cynradd.

Enghreifftiau o Aberystwyth

Mae llawer o aelodau staff eisoes wedi cyfuno cyrsiau ar draws y sefydliad. Dyma ambell engraifft:

  1. Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol.
  2. Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig.

Yn y bôn, mae pob cwrs sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer eu cyfuno.

Beth mae’r myfyrwyr yn ei weld?

Wrth fewngofnodi i Blackboard, bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r cwrs y maent wedi’i cofrestru arno (hyd yn oed os mai’r cwrs eilaidd yw hwnnw) ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y cwrs cynradd. Ni ddylid gosod na chreu unrhyw gynnwys yn y cwrs eilaidd.

Pwyntiau i’w hystyried

Nawr, cyn dechrau’r tymor ac wrth i chi greu cynnwys eich cyrsiau, yw’r amser perffaith i gysylltu cyrsiau. Er bod cysylltu cyrsiau yn arbed amser wrth lwytho deunyddiau, ystyriwch yr isod cyn gwneud cais:

  • Gellir gweld yr holl gynnwys cyn gynted ag y bydd y cyrsiau’n cael eu cyfuno (cyn belled â bod y myfyrwyr wedi’u cofrestru ar y cwrs). Gellir gweld sleidiau PowerPointdeunyddiau darlithoedd, a chwynnwys fel Cyhoeddiadau a deunyddiau rhyngweithiol eraill ar eich cwrs cynradd.
  • Ni fydd rhyngweithiadau myfyrwyr hanesyddol ar fodiwl eilaidd (megis defnyddio blog neu bostio mewn byrddau trafod) ar gael ar ôl i’r cyrsiau gael eu cyfuno.
  • Ni fydd modd gweld unrhyw fannau cyflwyno a grëwyd ar gwrs eilaidd cyn y cyfuno. Fe’ch cynghorir i’w creu o’r newydd yn y cwrs cynradd.

Sut gallaf reoli’r cynnwys i sicrhau mai myfyrwyr y modiwl yn unig fydd yn ei weld?

Er bod modd gweld yr holl gynnwys yn awtomatig ar ôl i’r cyrsiau gael eu cyfuno, gallwch ddefnyddio grwpiau ac ‘amodau rhyddhau’ (gynt ‘rhyddhau’n ymaddasol’ yn Blackboard Original) os dymunwch i’r cynnwys gael ei weld gan garfan benodol o fyfyrwyr. Gall fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych wedi cyfuno cwrs ail a thrydedd flwyddyn ond bod gan y myfyrwyr ar y gwahanol gyrsiau aseiniadau annibynnol. Gallwch ddefnyddio grwpiau – 1 ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn ac 1 ar gyfer myfyrwyr y drydedd flwyddyn a chyfyngu ar bwy all weld y wybodaeth am yr aseiniadau a’r man cyflwyno. Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar greu grŵp ac amodau rhyddhau.

Llyfr Graddau a Chyfuno Cyrsiau

Ar ôl cyfuno, bydd pob myfyriwr yn ymddangos yn Llyfr Graddau’r cwrs cynradd. Mae’n bosibl hidlo’r llyfr graddau gan ddefnyddio Modiwlau wedi’u Cyfuno fel eich bod yn gweld y wybodaeth ar gyfer myfyrwyr ar y modiwlau perthnasol yn unig.

Cliciwch y botwm hidlo a amlygir isod a dewiswch o’r gwymplen ar gyfer cyrsiau wedi’u cyfuno:

Os hoffech ragor o wybodaeth am y proses neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Diweddariad i Lyfr Graddau Blackboard, Awst 2026

Mewn ychydig dros wythnos, caiff diweddariad Blackboard ar gyfer mis Awst ei ryddhau. Mae hyn yn cynnwys ailwampio’r Llyfr Graddau. Gweler isod am ragor o wybodaeth.

Mae diweddariad misol Blackboard ar gyfer mis Awst yn cynnwys rhyngwyneb defnyddiwr newydd i’r Llyfr Graddau.

O ystyried natur y diweddariad hwn, mae gennym flogbost ar wahân sy’n ei drafod yn benodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r diweddariad i’r Llyfr Graddau neu’r drefn raddio, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).

Mae gan bob cwrs y Llyfr Graddio, a ddefnyddir i reoli pob agwedd ar weinyddu marciau. Gellir dod o hyd iddo drwy ddewislen uchaf  cyrsiau Blackboard.

Fel rhan o’r diweddariad hwn, ni fydd y prosesau isod yn newid:

  • Graddau, cyfrifiadau, a chyfluniad cyffredinol y graddau
  • Sgemâu graddau a gosodiadau graddio
  • Addasiadau ar lefel cwrs
  • Gwedd Rhestr
  • Yr holl raddau presennol a hanes aseiniadau a gyflwynir.

Mae’r broses ar gyfer trosglwyddo marciau cydrannol hefyd yn aros yr un fath.

Newid 1: Gwedd ragosodedig

Gwedd ragosodedig y Llyfr Graddau yw’r wedd grid bellach

Gallwch newid rhwng y wedd grid a’r wedd rhestr drwy glicio ar yr eicon perthnasol (gweler isod):

Blackboard Gradebook screen

Newid 2: Rhestr pethau i’w gwneud:

Bellach, gelwir Trosolwg yn y Llyfr Graddau yn Rhestr Pethau i’w Gwneud, sydd ar gael yn y wedd grid a’r wedd rhestr:

To do list highlighted

Newid 2: Rhestr pethau i’w gwneud:

Bellach, gelwir Trosolwg yn y Llyfr Graddau yn Rhestr Pethau i’w Gwneud, sydd ar gael yn y wedd grid a’r wedd rhestr:

screenshot of the to do menu item which is showing needs marking and needs posting options

Fe’ch hatgoffir bod angen i farciau gael eu cyhoeddi i gael eu cynnwys wrth drosglwyddo marciau.

Newid 3: Mewnbynnu Graddau

Mae’r ffyrdd o fewnbynnu graddau i’r colofnau wedi newid.

Cliciwch ar yr eicon pensil i newid a mewnbynnu’r radd:

screenshot of the grading icon

Yna, gallwch gyhoeddi’r marciau o’r sgrin hon trwy glicio ar yr eicon cyhoeddi:

screenshot of the marks posting icon

Gallwch hefyd adael adborth yn y wedd hon drwy glicio ar y marc

screenshot of adding feedback item highlighted

Os ydych chi eisiau marcio a gadael adborth ar yr holl eitemau sydd wedi’u marcio ar Blackboard, cliciwch ar yr eicon yma:

screenshot of all items highlighted

Yna bydd hyn yn agor y sgrin marcio aseiniadau.

Newid 4: Diweddaru a golygu colofnau

Mae golygu colofnau bellach yn digwydd trwy’r wedd rhestr.

screenshot of how to edit a column being the list view

Newid 5: Hidlo yn ôl modiwlau wedi’u cyfuno

Mae’n bosibl hidlo’r llyfr graddau gan ddefnyddio Modiwlau wedi’u Cyfuno fel eich bod yn gweld y wybodaeth ar gyfer myfyrwyr ar y modiwlau perthnasol yn unig.

Cliciwch y botwm hidlo a amlygir isod a dewiswch o’r gwymplen ar gyfer cyrsiau wedi’u cyfuno:

settings cog highlighted

Newid 6: Lanlwytho a lawrlwytho ffeiliau i’r llyfr graddau

Mae’r swyddogaeth lawrlwytho a lanlwytho i’r llyfr graddau wedi symud.

Cliciwch ar y gocsen Gosodiadau:

Settings cog highlighted

Dewiswch Lawrlwytho marciau neu Lanlwytho marciau, yn dibynnu ar yr hyn yr hoffech ei wneud.

Newid 7: Gwirio a yw colofn yn weladwy

Ni ellir gweld statws gwelededd colofnau yn y wedd grid mwyach.

I wirio a yw’r golofn yn weladwy ai peidio, llywiwch i’r wedd rhestr:

list view showing line through a column

Gallwch ddiwygio a yw’r golofn yn weladwy ai peidio drwy glicio ar y ….

Rydym yn diweddaru ein canllawiau ar hyn o bryd i adlewyrchu’r newidiadau yn y Llyfr Graddau.

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk

14eg Gynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr:  Cyhoeddi Siaradwyr Gwadd: Yr Athro Ruth Healey a Millie Leach

Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi’r prif siaradwr ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr eleni: Dr Hardeep Kaur Basra.

Rydym nawr yn falch iawn o gyhoeddi’r ail siaradwyr gwadd: Yr Athro Ruth Healey a Millie Leach

Byddant yn ymuno â ni ar Ddiwrnod 1 y gynhadledd gyda’r sesiwn: From tokenistic to authentic: meaningful co-creation with students.

Gweler eu bywgraffiadau isod: 

Mae Ruth Healey yn Athro Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch ym Mhrifysgol Caer.  Mae hi’n Gymrawd Addysgu Cenedlaethol (NTF) (2017); Cymrawd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ysgolheictod Addysgu a Dysgu (ISSOTL) (2019), Uwch Gymrawd y Gymdeithas Datblygu Staff ac Addysg (SEDA) (2024), a Phrif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (PFHEA) (2026). Mae hi’n un o olygyddion cyntaf yr International Journal for Students as Partners (2016-).

Mae Millie Leach yn fyfyriwr israddedig sy’n astudio BSc Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Caer, ac ar y cyd â’i gradd mae’n gweithio fel Ymgynghorydd Dysgu Myfyrwyr ar gyfer Canolfan Arloesi a Datblygu Academaidd y brifysgol. Dyfarnwyd ‘Gwobr Effaith Partneriaeth Myfyrwyr’ y Gymdeithas Datblygu Staff ac Addysg (SEDA) iddi yn 2025, ac yn ddiweddar daeth yn olygydd y International Journal for Students as Partners (2025-).

Mae rhaglen y gynhadledd ar gael ar ein tudalennau gwe.

Gallwch archebu eich lle ar-lein. 

Paratoi ar gyfer ailsefyll

Dogfen Blackboard / Blackboard document

Er mwyn cefnogi myfyrwyr sy’n ailsefyll ym mis Awst, rydym yn gofyn i holl gydlynwyr modiwlau ychwanegu’r eitem Paratoi ar gyfer ailsefyll newydd i’r ardal Asesu ac Adborth yng nghyrsiau Blackboard.

Mae Paratoi ar gyfer ailsefyll yn cynnwys adnoddau i gefnogi myfyrwyr sy’n ailsefyll gwaith cwrs neu arholiadau yn y cyfnod arholiadau atodol. Ar ôl ei ychwanegu at gyrsiau, gall cydweithwyr ychwanegu unrhyw wybodaeth benodol i fodiwl neu adran i’r maes Asesu ac Adborth.

Mae manylion sut i ychwanegu Paratoi ar gyfer ailsefyll ar gael.

Yn ogystal â defnyddio Paratoi ar gyfer ailsefyll, dylai cydlynwyr modiwlau wneud y canlynol yn eu cyrsiau Blackboard:

 Ychwanegu manylion unrhyw waith cwrs atodol, gan gynnwys cyfarwyddiadau llawn a dyddiad cyflwyno, i’r ardal Asesu ac Adborth

  1. Gwneud pob pwynt cyflwyno yn weladwy i fyfyrwyr fel y gallant weld adborth ar aseiniadau blaenorol
  2. Gwneud yr holl ddeunyddiau dysgu yn weladwy i fyfyrwyr fel y gallant baratoi aseiniadau ac adolygu ar gyfer arholiadau
  3. Darparu manylion pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau academaidd yn ystod y cyfnod gwaith cwrs ac arholiadau
  4. Darparu manylion pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau academaidd yn ystod y cyfnod gwaith cwrs ac arholiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ychwanegu Paratoi ar gyfer Ailsefyll i’ch cwrs, cysylltwch ag e-ddysgu@aber.ac.uk