Ni fydd Turnitin ar gael i’w ddefnyddio rhwng 16:00 a 20:00 ddydd Sadwrn 18 Ionawr 2025 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Yn ystod y cyfnod, ni fydd modd i chi gyflwyno na graddio asesiadau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Ni fydd Turnitin ar gael i’w ddefnyddio rhwng 16:00 a 20:00 ddydd Sadwrn 18 Ionawr 2025 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Yn ystod y cyfnod, ni fydd modd i chi gyflwyno na graddio asesiadau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Diolch yn fawr iawn i’r holl staff sydd wedi cofrestru ar gyfer Peilota SafeAssign ar Blackboard Assignment. Mae amser o hyd i wirfoddoli os oes gennych ddiddordeb (e-bost eddysgu@aber.ac.uk).
Ers y blog diwethaf, rydym wedi sicrhau bod SafeAssign ar gael i’w ddefnyddio yn Blackboard Assignments. Rydym hefyd wedi cynnal y ddwy sesiwn hyfforddi gyntaf. Bydd mwy o sesiynau hyfforddi yn cael eu trefnu ar gyfer semester un – ewch i’r dudalen Digwyddiadau a Hyfforddiant i archebu lle.
Rydym wedi bod yn trafod rhai o’r opsiynau ar gyfer marcio yn Blackboard Assignment y gallai staff eu gweld yn ddefnyddiol:
Noder y gellir adfer aseiniadau Blackboard sydd wedi’u dileu am hyd at 30 diwrnod ar ôl eu dileu. Os oes angen adfer aseiniadau wedi’u dileu, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk cyn gynted ag y bo modd, gan roi manylion y modiwl ac enw’r aseiniad.
Pan fyddwch chi’n creu sylw, cliciwch ar yr eicon marcio dienw
Gallwch olygu sylwadau presennol i’w gwneud yn ddienw trwy glicio ar y sylw. Cliciwch ar y tri dot yng nghornel dde uchaf y sylw a chliciwch ar Dienw.
I gael rhagor o wybodaeth am yr offer marcio sydd ar gael yn Blackboard Assignments, gweler Canllawiau Anodi Blackboard
Er mwyn helpu’ch myfyrwyr i ddefnyddio Blackboard Assignment i gyflwyno eu gwaith a dod o hyd i’w hadborth, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cynnwys y Cwestiynau Cyffredin canlynol yn y Modiwl Dysgu Asesu ac Adborth yn eich cwrs Blackboard:
Mae diweddariad Blackboard mis Medi yn cynnwys gwelliannau i Dudalen Cynnwys y Cwrs, yn cyflwyno Gwiriadau Gwybodaeth mewn Dogfennau, newidiadau i asesiadau, adborth a graddau sydd wedi’u cuddio gan ddefnyddio Amodau Rhyddhau, a thab Trosolwg yn y Llyfr Graddau i gynorthwyo graddio.
Mae diweddariad mis Medi i Blackboard yn gweld gwelliannau i dudalen cynnwys y cwrs.
Mae’r gwelliannau yn cynnwys:
Mae’r dyluniad newydd yn ymgorffori:
Llun 1: Gwedd hyfforddwr: Gwelliannau dyfnder gweledol i Dudalen Cynnwys y Cwrs
Llun 2: Gwedd myfyrwyr: Gwelliannau dyfnder gweledol i Dudalen Cynnwys y Cwrs
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysguyn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.
Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:
Mae gan bob modiwl ei gwrs penodol ei hun yn Blackboard. Mae gan y modiwlau hyn gynnwys ar-lein, fel rhestrau darllen, a manylion staff addysgu. Dyma’r prif bwynt cyswllt am wybodaeth i’ch myfyrwyr ar unrhyw fodiwl, gan gynnwys mynediad at ddarlithoedd wedi’u recordio a chyflwyno aseiniadau. Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboardar gyfer pob modiwl.
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn ymwybodol y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr) yn defnyddio Panopto, ein meddalwedd Cipio Darlithoedd. Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr amlinellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol. Ar gyfer hyn rydym ni’n defnyddio’r teclynau e-gyflwyno Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu swyddogaeth paru testun awtomatig.
Vevox yw offer pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Gellir cynnal pleidleisiau mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfarfodydd, er mwyn creu sesiynau sy’n rhyngweithiol a chydweithredol, a cheir llawer o bosibiliadau gwahanol o ran defnydd.
Mae gennym ni nifer o Ganllawiau a Chwestiynau Cyffredini’ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal nifer o sesiynau hyfforddi. Mae’r rhain yn cynnwys:
Rydym ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhaglenni hyfforddi. Ceir manylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle drwy ein Tudalen Archebu Cwrs. Rydym ni’n cyflwyno rhai sesiynau ein hunain, tra bo eraill yn cael eu cyflwyno gan staff y brifysgol y mae eu haddysgu’n cynnwys arfer da yn y meysydd hynny. Edrychwch am (D&A) yn nheitl y sesiwn.
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, Cynadleddau Bach, Gwyliau Bach a Fforymau Academi. Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd gwych i gyfarfod â phobl o bob rhan o’r brifysgol i drafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu.
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu hefyd yn cynnal rhaglenni i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (TPAU) a’r Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCTHE) ar lefel Meistr a Chynllun Cymrodoriaeth (ARCHE).
Croeso cynnes i fyfyrwyr newydd sy’n ymuno â ni a’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn y blogbost hwn, byddwn yn amlinellu’r newidiadau a wnaed i’ch amgylchedd dysgu digidol, Blackboard, yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2024-25.
Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio Blackboard, gweler ein Canllaw i Fyfyrwyr sy’n cynnwys pob math o wybodaeth ddefnyddiol.
Mae gennym hefyd gwestiynau cyffredin ar gael ar gyfer yr offer eraill yr ydym yn eu cefnogi, gan gynnwys Turnitin ar gyfer e-gyflwyno a Panopto ar gyfer cipio darlithoedd.
Mae’r holl gyrsiau wedi cael eu creu eleni gan ddefnyddio templed ychydig yn wahanol.
Mae Gwybodaeth am y Modiwl ac Asesu ac Adborth wedi’u disodli gan Fodiwlau Dysgu. Mae Modiwlau Dysgu yn cynnig ffordd fwy gweledol i chi drefnu’ch cynnwys.
Yn Gwybodaeth am y Modiwl gallwch ddisgwyl dod o hyd i eitemau sy’n ymwneud â gweinyddu’r cwrs.
Yn Asesu ac Adborth gallwch ddisgwyl dod o hyd i’ch mannau cyflwyno, briffiau aseiniadau a meini prawf marcio.
Efallai y gwelwch fod eich darlithwyr hefyd wedi defnyddio Modiwlau Dysgu ar gyfer eich Deunyddiau Dysgu.
Newid arall yw bod Olrhain Cynnydd wedi’i droi ymlaen yn ddiofyn ar yr holl gynnwys ar eich cwrs. Mae’r hyn yn eich galluogi i olrhain eich cynnydd eich hun drwy’r cwrs drwy farcio eich bod wedi cwblhau tasgau. Mae Canllawiau Blackboard yn darparu gwybodaeth bellach.
Nodyn i’ch atgoffa ein bod wedi galluogi Blackboard Ally ar eich holl gyrsiau. Mae Blackboard Ally yn caniatáu ichi lawrlwytho cynnwys i wahanol fformatau. Mae hyn yn cynnwys ffeiliau mp3, darllenwyr trochi, a Braille electronig. Am gymorth, edrychwch ar ganllaw Ally.
Byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau peilota gyda rhai cyrsiau ar draws y Brifysgol gan ddefnyddio Blackboard Assignment. I’r rhai ohonoch sydd wedi arfer cyflwyno drwy Turnitin, mae Blackboard Assignment yn cynnig swyddogaeth debyg. Mae gennym gwestiwn cyffredin penodol i fyfyrwyr ar Sut i gyflwyno gan ddefnyddio Blackboard Assignment. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk) a’ch adran academaidd.
Yn olaf, cam olaf ein prosiect Ultra oedd symud Mudiadau Adrannol i Ultra. Mae Mudiadau yn debyg i Gyrsiau ond nid ydynt yn fodiwlau y gallwch eu hastudio. Defnyddir mudiadau i roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am eich Adran. Fe’u defnyddir hefyd at ddibenion hyfforddi a phrofi, fel y cwis Cyfeirnodi a Llên-ladrad. Gallwch gael mynediad i’ch Mudiadau o’r ddewislen ar y chwith yn Blackboard.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio Blackboard cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk).
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i werthuso dewis arall yn lle Turnitin ar gyfer paru testun a marcio. Enw’r dewis arall hwn yw SafeAssign. Mae SafeAssign yn rhan o Blackboard.
Darllenwch yr wybodaeth isod a fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech gymryd rhan yn y gwerthusiad. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech wirfoddoli, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk
Mae SafeAssign yn adnodd paru testun a ddarperir gan Blackboard. Mae wedi’i gynnwys yn ein prif drwydded Blackboard. Mae SafeAssign yn ddewis amgen i Turnitin.
Roedd PA yn defnyddio SafeAssign cyn i ni ddechrau defnyddio Turnitin. Yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn defnyddio’r offer gorau sydd ar gael, hoffem werthuso a fyddai SafeAssign yn briodol ar gyfer paru testunau. Cymeradwywyd y gwerthusiad hwn gan y Pwyllgor Gwella Academaidd (Mai 2024).
Bydd rhai agweddau ar farcio a chyflwyno wedi newid:
Byddwch yn gweld rhai nodweddion newydd:
Ac ni fydd rhai nodweddion ar gael:
Mae manylion llawn nodweddion Turnitin a SafeAssign ar gael.
Bydd holl elfennau’r gwerthusiad hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn cynnwys canllawiau cymorth, hyfforddiant, cefnogaeth a gwerthusiad. Mae SafeAssign ei hun yn cael ei gyfieithu yn rhan o ymrwymiad Anthology i’r Gymraeg. Mae testun Cymraeg wedi’i gynnwys yn y gwasanaeth paru testunau.
Rydym yn argymell yn gryf bod modiwlau sydd wedi’u cynnwys yn y gwerthusiad yn defnyddio SafeAssign ar gyfer pob e-gyflwyniad yn ystod cyfnod y modiwl. Mae hyn yn helpu staff a myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â SafeAssign yn hytrach na chyfnewid rhwng offer cyflwyno a marcio lluosog.
Bydd yn rhaid i’r holl staff sy’n ymwneud â chyflwyno, marcio a chymedroli ar gyfer y modiwl ddefnyddio SafeAssign (nodwch fod hyn yn cynnwys arholwyr allanol). Os ydych yn gwirfoddoli modiwl sydd â nifer o staff yn marcio arno, gwnewch yn siŵr eu bod i gyd yn ymwybodol, a’u bod i gyd wedi derbyn hyfforddiant priodol (gweler isod). Byddwn yn rhoi gwybodaeth i bob arholwr allanol am y gwerthusiad.
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu cyflwyniad prawf/ymarfer i’ch myfyrwyr cyn eu haseiniad cyntaf. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gwybod sut i ddefnyddio SafeAssign yn gywir. Byddwn yn darparu canllawiau a Chwestiynau Cyffredin i fyfyrwyr y gallwch gysylltu â nhw o ardal Asesu ac Adborth eich cwrs Blackboard.
Byddwn yn cyhoeddi canllawiau a Chwestiynau Cyffredin ar gyfer staff a myfyrwyr ar wefan yr UDDA. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar sut i greu mannau cyflwyno a sut i farcio. Bydd cefnogaeth lawn ar gael i staff a myfyrwyr drwy gydol y tymor.
Bydd y dull cyflwyno yn wahanol i fyfyrwyr; un fantais o ddefnyddio SafeAssign yw y bydd myfyrwyr yn cael derbynneb e-bost. Bydd myfyrwyr hefyd yn gweld eu hadborth mewn ffordd ychydig yn wahanol. Byddwn yn darparu cefnogaeth lawn i fyfyrwyr.
Cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk i gael gwybodaeth ac i drafod a yw SafeAssign yn briodol ar gyfer eich modiwl.
Gall hyfforddwyr nawr argraffu asesiadau. Mae argraffu yn darparu datrysiad cyfleus ar gyfer amrywiaeth o ddefnydd:
Mae’r opsiwn argraffu ar gael yn Forms, Tests ac Assignments with questions. Mae argraffu hefyd yn rhoi’r opsiwn i gadw fel PDF.
I argraffu asesiad, o Content and Settings dewiswch Print.
Noder: Mae Blackboard yn bwriadu cefnogi argraffu allweddi ateb a chronfeydd cwestiynau mewn diweddariadau sydd ar ddod.
Llun isod: Opsiwn argraffu o brawf
Llun isod: Dewiswch yr opsiynau argraffu a ddymunir
Mae’r hidlydd Needs Grading nawr yn hidlo ymatebion myfyrwyr wedi’u graddio yn ddiofyn. Mae hidlo fel hyn yn helpu hyfforddwyr i ganolbwyntio ar unrhyw ymatebion heb eu graddio sy’n weddill ar gyfer cwestiwn penodol. Mae hefyd yn rhoi gwell golwg i hyfforddwyr o’u llwyth gwaith graddio sy’n weddill. Os yw hyfforddwyr eisiau cynnwys ymatebion wedi’u graddio, gallant ddewis Show graded responses. Mae’r dewis hwn bellach yn cael ei storio fesul cwrs ac mae’n parhau ar draws asesiadau ym mhob cwrs.
Llun isod: opsiwn Grading by question gyda statws graddio Needs Grading wedi’i ddewis
Llun isod: Gwedd Grading by question gyda hidlydd statws graddio Needs Grading a Show graded responses wedi’u dewis
Gall hyfforddwyr nawr bostio cyhoeddiadau yn rhan o’r prosesau drafftio a golygu. Mae hyn yn gwneud y broses o greu a phostio cyhoeddiadau yn symlach.
Gall hyfforddwyr barhau i bostio o’r dudalen cyhoeddiadau.
Llun isod: Wrth greu neu olygu cyhoeddiad, mae opsiwn bellach i bostio
Hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at bump o welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard Learn Ultra ym mis Tachwedd. Mae’r gwelliannau hyn mewn tri maes:
Mae delweddau’n chwarae rhan bwysig ym mhrofiad addysg myfyriwr. Mae delweddau’n helpu i wella dealltwriaeth o gynnwys y cwrs a’r ymgysylltiad ag ef. Er mwyn helpu hyfforddwyr i adnabod delweddau o ansawdd uchel yn haws, mae Blackboard wedi ychwanegu botwm delwedd newydd yn y golygydd cynnwys yn y mannau canlynol:
Llun isod: Gwedd hyfforddwr – botwm delwedd newydd ar olygydd cynnwys ar gyfer Dogfennau Ultra.
Pan gaiff ei ddewis, mae gan yr hyfforddwr yr opsiynau canlynol:
Llun isod: Gwedd hyfforddwr – Opsiynau ffynhonnell delwedd.
Gall myfyrwyr hefyd gyrchu’r botwm delwedd newydd ar y golygydd cynnwys yn y meysydd canlynol:
Llun isod: Gwedd myfyrwyr – botwm delwedd newydd ar olygydd cynnwys ar gyfer ymateb i drafodaeth.
Llun isod: Gwedd myfyrwyr – Llusgo a gollwng neu uwchlwytho ffeil delwedd.
Ar ôl dewis y ddelwedd, gall hyfforddwyr a myfyrwyr ail-leoli ffocws a chwyddiad y ddelwedd. Mae yna opsiwn hefyd i newid cymhareb wynebwedd y ddelwedd.
Llun isod: Addasu chwyddiad a ffocws y ddelwedd; gosod cymhareb yr wynebwedd.
Gall defnyddwyr ailenwi’r ddelwedd. Mae’n bwysig ystyried hygyrchedd cynnwys cwrs bob amser. Dylai’r defnyddiwr farcio’r ddelwedd fel addurniadol neu ddarparu testun amgen addas.
Gall hyfforddwyr hefyd osod y wedd a lawrlwytho opsiynau ffeil ar gyfer y ddelwedd. Ar ôl i’r ddelwedd gael ei mewnosod, gall yr hyfforddwr newid maint y ddelwedd.
Gall hyfforddwyr sylwi ar gamgymeriad mewn cwestiwn prawf wrth raddio cyflwyniad prawf. Er enghraifft, efallai bod hyfforddwyr wedi dod o hyd i gamsillafu, wedi dewis ateb anghywir, neu eisiau addasu pwyntiau.
Yn y gorffennol, roedd y dewis “Edit / Regrade Quesetions” ar gael wrth raddio cyflwyniadau gan “Fyfyriwr.” yn unig. Nawr, gall hyfforddwyr hefyd gael mynediad i’r llif gwaith Edit/Regrade wrth raddio yn ôl cwestiwn.
Llun isod: Gwedd hyfforddwr – opsiwn Edit/Regrade wrth raddio prawf yn ôl cwestiwn.
Llun isod: Gwedd hyfforddwr – golygu cwestiwn gan ddefnyddio’r opsiwn Edit/Regrade.
Mae cwestiynau sy’n cyfateb yn ddefnyddiol ar gyfer profi sgiliau myfyriwr wrth wneud cysylltiadau cywir rhwng cysyniadau cysylltiedig. Mae’r math hwn o gwestiwn hefyd yn gwirio dealltwriaeth myfyrwyr mewn fformat strwythuredig.
Er mwyn gwobrwyo myfyrwyr sy’n dangos dealltwriaeth rannol, mae rhai hyfforddwyr yn dymuno dyfarnu credyd rhannol a/neu negyddol am gwestiynau sy’n cyfateb.
Yn y gorffennol, dewisodd hyfforddwyr opsiwn sgorio:
Roedd yr opsiynau hyn yn gyfyngedig ac, ar adegau, yn creu dryswch i hyfforddwyr.
Nawr, mae credyd rhannol a negyddol yn cael ei droi ymlaen yn ddiofyn. Mae Blackboard yn awto-ddosbarthu credyd rhannol fel canran ar draws y parau cyfatebol. Mae awto-ddosbarthu credyd yn arbed amser i hyfforddwyr. Gall hyfforddwyr olygu’r gwerthoedd credyd rhannol os oes angen i roi mwy neu lai o gredyd i rai parau. Rhaid i’r gwerthoedd ar gyfer credyd rhannol ddod i gyfanswm o 100%.
Os dymunir, gall hyfforddwyr hefyd nodi canran credyd negyddol i unrhyw bâr. Asesir credyd negyddol pan gaiff ei gymhwyso a phan fydd myfyriwr yn camgyfatebu pâr yn unig. Os dymunir, gall hyfforddwyr ddewis caniatáu sgôr negyddol cyffredinol ar gyfer y cwestiwn.
Rydym hefyd wedi gwneud rhai gwelliannau eraill i’r cwestiwn hwn:
Llun isod: Cynllun newydd ar gyfer cwestiwn sy’n cyfateb
Mae’n well gan rai hyfforddwyr weithio yng ngwedd grid y llyfr graddau. Er mwyn gwella profiad y defnyddiwr, gwnaethom sawl gwelliant i’r wedd hon. Mae’r gwelliannau hyn yn mynd i’r afael â pherfformiad cyffredinol ac yn lleihau’r amser llwytho.
Senarios profi perfformiad:
I ddefnyddio’r wedd grid cliciwch toglo a’r botwm ‘list view’
Mae dewisiadau trefnu yn y llyfr graddau yn darparu profiad graddio mwy effeithlon.
Nawr gall hyfforddwyr ddidoli’r colofnau gwedd grid llyfr graddau canlynol:
Gall hyfforddwyr drefnu cofnodion mewn trefn wrth esgynnol neu ddisgynnol a chael gwared ar unrhyw ddull didoli presennol. Mae amlygu porffor ym mhennawd y golofn yn helpu hyfforddwyr i nodi lle mae’r didoli ar waith.
Mae unrhyw ddull didoli a gymhwysir yn esgor ar newid dros dro i drefn didoli pob colofn yng ngwedd grid y llyfr graddau.
Llun isod: Trefnu asesiad yn y wedd grid gyda hidlwyr wedi’u cymhwyso.
Yn ein neges flog flaenorol amlinellwyd rhai o’r newidiadau i Panopto wrth i ni symud i Blackboard Learn Ultra.
Yn y neges flog hon byddwn yn amlinellu’r newidiadau i ddefnyddio Panopto ar gyfer Aseiniadau. Defnyddir Aseiniadau Panopto i fyfyrwyr gyflwyno recordiad neu gyflwyniad.
Yn rhan o’r newid hwn, rydym yn argymell:
Y manteision i’r llif gwaith newydd hwn yw:
Er mwyn cefnogi staff gyda’r broses hon, mae gennym ganllaw Aseiniad Panopto sy’n mynd â chi drwy osod yr aseiniad, cyflwyniad y myfyrwyr, a marcio ar ein tudalennau gwe Cipio Darlithoedd.
Mae gennym hefyd gwestiwn cyffredin ar gyfer staff a myfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysgu yn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.
Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:
udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)