Dros yr haf bu rhai diweddariadau i Blackboard Ally a fydd yn helpu cydweithwyr i ddatrys problemau gyda delweddau a dogfennau PDF yn Blackboard.
Disgrifiad a awto-gynhyrchir gan DA
Mae’r adnodd disgrifiad a awto-gynhyrchir gan DA wedi’i ddatblygu i ysgrifennu testun amgen gwell ar gyfer siartiau, testun mewn delweddau, cynnwys STEM, a llawysgrifen mewn delweddau. Fel yr holl offer DA yn Blackboard, gall staff olygu unrhyw agwedd ar yr allbwn DA a’i addasu os oes angen. Mae’r offer DA hefyd yn darparu man cychwyn da ar gyfer dysgu mwy am ysgrifennu testun amgen. Ac os ydych chi’n defnyddio Blackboard yn Gymraeg, bydd yr adnodd DA yn creu testun amgen Cymraeg.
I ddefnyddio’r teclyn DA:
Cliciwch ar y dangosydd Ally ar gyfer eich delwedd (neu ewch iddo drwy Llyfrau ac Offer > Adroddiad Hygyrchedd Ally > Cynnwys)
O dan Golygu disgrifiad y ddelwedd, cliciwch ar Cynhyrchu disgrifiad yn awtomatig
Yna gallwch glicio Cadw i ddefnyddio’r disgrifiad neu olygu’r disgrifiad cyn clicio ar Cadw.
Os nad ydych eisiau defnyddio’r disgrifiad, cliciwch ar Tynnu o’r ddelwedd, a theipiwch eich disgrifiad eich hun.
Haen OCR ar ddogfennau wedi’u sganio
Roedd tua 15% o ddogfennau PDF yng nghyrsiau 2024-25 yn ddogfennau nad ydynt yn OCR. Mae hyn yn achosi problem i unrhyw un sydd angen newid maint y testun neu ddefnyddio darllenydd sgrin oherwydd bod y testun yn ymddangos fel delwedd yn hytrach na thestun darllenadwy. Mae Ally bellach yn darparu offer i ychwanegu haen OCR ddarllenadwy ar ben dogfen nad yw’n OCR. Bydd ansawdd yr haen hon yn dibynnu ar natur y cynnwys (mae dogfennau wedi’u teipio yn gweithio’n well na delweddau neu lawysgrifen) yn ogystal ag ansawdd y sgan.
Rydym yn awgrymu eich bod chi’n rhoi cynnig ar yr offer haen OCR a gweld a all eich helpu i ddarparu dogfennau PDF mwy hygyrch. Cofiwch y gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Digido’r Llyfrgell sy’n darparu sganiau darllenadwy OCR o erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau llyfrau.
I ddefnyddio’r haen OCR:
Cliciwch ar y dangosydd Ally ar gyfer eich delwedd (neu ewch iddo drwy Llyfrau ac Offer > Adroddiad Hygyrchedd Ally > Cynnwys)
Cliciwch ar y botwm Rhagolwg a Defnyddio i ychwanegu’r haen
Bydd rhagolwg yn ymddangos – defnyddiwch eich llygoden i amlygu’r testun ar y rhagolwg. Bydd hyn yn dangos i chi pa destun fydd yn cael ei ychwanegu at y ffeil.
Os ydych chi’n hapus i’w ddefnyddio, cliciwch ar Defnyddio. Os nad ydych yn hapus, dewiswch Canslo
Os nad ydych chi’n defnyddio’r haen OCR, bydd y botwm Dysgu sut i drwsio PDF yn rhoi opsiynau i chi ar gyfer ychwanegu cyfeirnod llyfrgell.
Iaith a Theitl PDF
Gellir trwsio dogfennau PDF heb iaith neu deitl wedi’u gosod yn uniongyrchol yn Ally:
Cliciwch ar y dangosydd Ally ar gyfer eich dogfen PDF (neu ewch iddo drwy Llyfrau ac Offer > Adroddiad Hygyrchedd Ally > Cynnwys)
O dan Ychwanegu Iaith PDF, dewiswch iaith y ddogfen a chlicio ar Defnyddio gosodiad
Teipiwch deitl eich dogfen yn y blwch Gosod Teitl PDF ac yna cliciwch Defnyddio gosodiad.
Cyfarwyddyd i fyfyrwyr
I’ch helpu i annog eich myfyrwyr i ddefnyddio Fformatau Amgen Ally, mae gennym eitem Cadwrfa Gwrthrychau Dysgu ar Ally y gallwch ei defnyddio yn eich cwrs. Gweler ein Cwestiwn Cyffredin ar ychwanegu eitem o’r Gadwrfa i’ch cwrs.
Mae mwy o newidiadau wedi’u cynllunio ar gyfer Ally dros y tri mis nesaf, a byddwn yn diweddaru cydweithwyr trwy’r blog. Am ragor o wybodaeth am Ally, edrychwch ar y dudalennau cymorth Ally
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol bellach ar gael yng Nghadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard.
Mae hyn yn rhan o’r gwaith y mae’r Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu yn ei wneud mewn cydweithrediad ag UndebAber a’r Gofrestrfa Academaidd.
Nod y gwaith hwn yw ei gwneud yn glir i fyfyrwyr beth yw’r disgwyliadau o ran eu hymgysylltiad a’u defnydd o DA Cynhyrchiol mewn dysgu ac addysgu.
Mae tri datganiad ar gael yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu:
Dim defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
Rhywfaint o ddefnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
Disgwylir defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
Mae pob un o’r datganiadau yn rhoi cyngor ac yn cyfeirio myfyrwyr at gymorth ychwanegol.
Gall cydweithwyr gopïo’r datganiadau hyn i faes perthnasol y cwrs. Gan fod lefelau derbyniol o ddefnydd DA Cynhyrchiol yn amrywio rhwng asesiadau unigol, argymhellir bod y datganiadau yn cael eu copïo i’r ffolder asesu perthnasol.
Yn ogystal â’r Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol, mae Datganiad Defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gael hefyd. Mae’r datganiad hwn wedi’i ddatblygu gan gydweithwyr yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr amlinellu sut maent wedi defnyddio DA Cynhyrchiol yn eu haseiniadau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.
Mae problem wedi codi â’r system recordio Panopto sydd wedi effeithio ar y ffolderi sydd gan rai pobl i recordio ynddynt.
Credwn ein bod wedi dod o hyd i ateb i’r broblem erbyn hyn, ac rydym wedi’i brofi mewn nifer o ystafelloedd.
Rydym bellach wrthi’n addasu’r peiriannau ym mhob ystafell ddysgu er mwyn datrys y broblem.
Bydd proffiliau’r defnyddwyr bellach yn cael eu hadnewyddu bob 5 diwrnod (yn hytrach na phob 10 niwrnod). Bydd yr adnewyddu hwnnw’n golygu y bydd unrhyw gopïau lleol o ddeunyddiau a gopïwyd i’r bwrdd gwaith yn cael eu dileu ar ôl 5 diwrnod.
Ymddiheuriadau i bawb y mae hyn wedi effeithio arnynt am yr anghyfleustra a achoswyd.
Mae rhai nodweddion newydd ar gael yn y diweddariad Vevox (Adnodd Pleidleisio) yr hoffem dynnu eich sylw atynt.
I’r rhai sy’n anghyfarwydd â Vevox, gellir defnyddio’r feddalwedd bleidleisio i ofyn cwestiynau i fyfyrwyr ac er mwyn iddynt ymateb ar y pryd gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio Vevox, gweler ein tudalen we.
Os ydych chi’n defnyddio polau a chwisiau Tîm, gallwch nawr sefydlu Tabl arweinwyr. Mae’r datblygiad hwn yn wych ar gyfer gweithgareddau diwedd tymor neu adolygu.
Cyflwynwyd y nodwedd hon yn y diweddariad diwethaf ond mae rhai gwelliannau i’r llif gwaith. Gallwch gynnal pôl demograffig i gasglu gwybodaeth neu nodweddion allweddol ar gyfer eich ymatebwyr, cyn gofyn rhagor o gwestiynau i ddadgyfuno’r canlyniadau.
Mae’r ychwanegyn PowerPoint a ddiweddarwyd yn cynnwys gwelliannau i rendro LaTeX a KaTeX, opsiynau testun cyfoethog ar gyfer fformatio cwestiynau, a diweddariadau i wella polau Siart Cylch a rhifol.
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Capsiynau Adnabod Lleferydd Awtomatig Panopto wedi’i gymeradwyo yn y Pwyllgor Ansawdd a Safonau diweddar.
Mae hyn yn golygu, ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-26 a thu hwnt, y bydd capsiynau awtomatig yn cael eu defnyddio yn eich recordiadau Panopto.
Bydd y rhai sy’n gwylio yn gweld y capsiynau ar waelod y sgrin neu gallant lawrlwytho trawsgrifiad:
Er y bydd capsiynau’n ymddangos yn awtomatig y flwyddyn academaidd nesaf, gall cydweithwyr eisoes gynnwys capsiynau awtomatig i’r holl recordiadau mewn ffolder Panopto. Edrychwch ar ganllaw Panopto ar sut i wneud hyn.
Rydym wedi bod yn gweithio i alluogi capsiynau awtomatig ers sawl blwyddyn, felly rydym yn croesawu’r datblygiad hwn. Yn rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi cymryd camau lliniarol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau a’r pryderon, gan gynnwys:
Anghywirdebau capsiynau awtomatig
Disgwyliadau clir ar gyfer staff a myfyrwyr
Rheoli cyrsiau aml-iaith
Bydd capsiynau awtomatig yn cael eu defnyddio ym mhob recordiad ar y safle pan fyddwn wedi galluogi’r nodwedd hon. Yr iaith ddiofyn a fydd yn cael ei defnyddio yn ffolderi’r modiwl yw Saesneg. Bydd gosodiadau ffolderi modiwlau a gyflwynir 100% drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu diweddaru â llaw i gynhyrchu Capsiynau Awtomatig yn Gymraeg.
Rydym hefyd wedi cynnal Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb i edrych ar rai o’r heriau a achosir gan Bensiynau Awtomatig sydd ar gael ar gais (eddysgu@aber.ac.uk).
Er mwyn hwyluso galluogi capsiynau awtomatig, mae’r polisi Cipio Darlithoedd wedi’i ddiweddaru. Rydym yn adolygu ein holl bolisïau (Cipio Darlithoedd, Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard, ac E-gyflwyno) yn flynyddol. Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y diweddariadau hyn maes o law.
Byddwn nawr yn dechrau gweithio ar ddiweddaru Panopto i alluogi capsiynau Awtomatig ar gyfer 2025-26.
Rydym wedi galluogi nodwedd newydd ar Blackboard o’r enw Cyflawniadau.
Mae cyflawniadau’n caniatáu i hyfforddwyr gysylltu cyflawniad myfyrwyr â bathodynnau i helpu i gydnabod eu cyflawniadau neu eu hyfedredd.
Gweler Cymorth Blackboard i gael trosolwg o’r cyflawniadau. Bydd y safle cymorth yn rhoi cyngor i chi ar y mathau o weithgareddau y gellir eu defnyddio ar eu cyfer yn ogystal â sut i’w gosod.
I greu bathodyn, mae angen i chi ei gysylltu â cholofn Llyfr Graddau – megis prawf, aseiniad, neu Turnitin. Gallwch nodi lefel benodol y mae angen ei chyrraedd i gael bathodyn.
Yna gall myfyrwyr weld eu cyflawniadau ar y cwrs neu’r mudiad o’r tab Cyflawniadau.
Byddem yn croesawu gweithio gyda chydweithwyr i drin a thrafod sut y gellid defnyddio cyflawniadau ar lefel cynllun neu adrannol.
Bydd Mudiadau Ymarfer Blackboard Original yn cael eu dileu ddydd Iau 9 Ionawr 2025.
Mae’r Mudiadau Ymarfer hyn yn Original, sef yr hen fersiwn o Blackboard.
Mae gan bob aelod o staff Fudiadau ymarfer Ultra gyda’r confensiwn enwi Enw Cyntaf, Enw Olaf Cwrs Ymarfer Ultra / Ultra Practice (Ultra_username) y gellir eu cyrchu o’r tab Mudiad ar y ddewislen ar y chwith.
Gellir copïo cynnwys o’r Mudiad Ymarfer ‘Original’ i’r Mudiad Ymarfer ‘Ultra’. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Cwestiwn Cyffredin.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â symud Mudiadau o Original i Ultra ar gael ar y blogbost hwn.
Cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon.
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:
udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)
Cyflwyniad i’r arlwy e-ddysgu
Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard
Mae gan bob modiwl ei gwrs penodol ei hun yn Blackboard. Mae gan y modiwlau hyn gynnwys ar-lein, fel rhestrau darllen, a manylion staff addysgu. Dyma’r prif bwynt cyswllt am wybodaeth i’ch myfyrwyr ar unrhyw fodiwl, gan gynnwys mynediad at ddarlithoedd wedi’u recordio a chyflwyno aseiniadau. Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboardar gyfer pob modiwl.
Cipio Darlithoedd: Panopto
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn ymwybodol y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr) yn defnyddio Panopto, ein meddalwedd Cipio Darlithoedd. Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd.
E-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr amlinellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol. Ar gyfer hyn rydym ni’n defnyddio’r teclynau e-gyflwyno Turnitin aBlackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu swyddogaeth paru testun awtomatig.
Offer Pleidleisio: Vevox
Vevox yw offer pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Gellir cynnal pleidleisiau mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfarfodydd, er mwyn creu sesiynau sy’n rhyngweithiol a chydweithredol, a cheir llawer o bosibiliadau gwahanol o ran defnydd.
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal nifer o sesiynau hyfforddi. Mae’r rhain yn cynnwys:
sesiynau ymarferol i staff ymgyfarwyddo â gwahanol elfennau o’r amgylchedd dysgu rhithwir,
yr agenda Dysgu Gweithredol,
asesu ac adborth,
hygyrchedd,
sgiliau cyflwyno, a mwy.
Rydym ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhaglenni hyfforddi. Ceir manylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle drwy ein Tudalen Archebu Cwrs. Rydym ni’n cyflwyno rhai sesiynau ein hunain, tra bo eraill yn cael eu cyflwyno gan staff y brifysgol y mae eu haddysgu’n cynnwys arfer da yn y meysydd hynny. Edrychwch am (D&A) yn nheitl y sesiwn.
Digwyddiadau
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, Cynadleddau Bach, Gwyliau Bach a Fforymau Academi. Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd gwych i gyfarfod â phobl o bob rhan o’r brifysgol i drafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu.