Y mis hwn hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at dri o welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard Learn Ultra ym mis Rhagfyr.
Opsiynau mewnosod delwedd ychwanegol
Mae delweddau’n helpu i wella dealltwriaeth o gynnwys y cwrs a’r ymgysylltiad ag ef. Mae hyfforddwyr a myfyrwyr eisiau defnyddio delweddau o ansawdd uchel mewn cynnwys a chyflwyniadau. Er mwyn helpu â hyn, mae botwm delwedd newydd wedi’i ychwanegu i’r golygydd cynnwys yn y mannau canlynol:
Cyhoeddiadau
Cwestiynau Asesu
Atebion myfyrwyr ar gwestiynau (uwchlwytho ffeiliau lleol yn unig)
Adborth cyflwyno (gwedd safonol)
Cofnodion a sylwadau mewn dyddlyfrau
Llun isod: Gwedd hyfforddwr – botwm delwedd ar olygydd cynnwys ar gyfer Cyhoeddiadau
Graddio hyblyg – rheoli didoli ar y tab myfyrwyr
Gall graddio nifer fawr o gyflwyniadau heb ffordd i’w trefnu fod yn ddiflas. Nawr, gall hyfforddwyr gymhwyso gwahanol opsiynau didoli gyda graddio hyblyg:
Dyddiad cyflwyno (hynaf – diweddaraf) o’r ymgais ddiweddaraf
Dyddiad cyflwyno (hynaf – diweddaraf) o’r ymgais ddiweddaraf
Cyfenw (A – Y)
Cyfenw (Y – A)
Enw Cyntaf (A – Y)
Enw Cyntaf (Y – A)
Cyfeirnod Myfyriwr (esgynnol)
Cyfeirnod Myfyriwr (disgynnol)
Mae’r rhyngwyneb graddio yn storio’r opsiwn didoli a ddefnyddiwyd fwyaf diweddar. Os yw hyfforddwr yn rhoi’r gorau i raddio asesiad ac yn ailddechrau graddio yn ddiweddarach, cymhwysir yr opsiwn didoli olaf.
Hefyd, os ydych yn didoli’r cyflwyniadau yn ôl cyfenw neu statws graddio, mae’r opsiwn didoli a ddewiswyd yn cario drosodd i’r rhyngwyneb graddio.
Llun isod: Opsiynau didoli fel y dangosir o’r tab Myfyrwyr yn y graddio hyblyg.
Eithriadau dyddiadau cyflwyno asesiadau grŵp
Efallai y bydd hyfforddwyr am bennu dyddiadau cyflwyno gwahanol ar gyfer pob grŵp sy’n gweithio ar asesiad grŵp.
Yn y gorffennol, nid oedd unrhyw ffordd i glustnodi dyddiadau cyflwyno amrywiol ar gyfer pob grŵp sy’n gweithio ar asesiad grŵp. Nawr, gall hyfforddwyr neilltuo dyddiad cyflwyno unigryw i bob grŵp gan ddefnyddio’r llif gwaith eithriadau.
Ar y dudalen Cyflwyniadau yn yr asesiad grŵp, gall yr hyfforddwr ychwanegu neu olygu eithriadau ar gyfer grŵp.
Llun isod: Gwedd hyfforddwyr – ychwanegu neu olygu opsiwn eithriadau ar y dudalen Cyflwyniadau asesiad grŵp.
Mae’r panel Eithriadau yn dangos gwybodaeth berthnasol megis enw’r aseiniad ac enw’r grŵp dethol. Mae hyn yn helpu i sicrhau cywirdeb eithriad. Gall hyfforddwyr ddewis dyddiad cyflwyno ar gyfer y grŵp gan ddefnyddio’r dewisydd dyddiad ac amser.
Ar 31 Rhagfyr 2023, mae Blackboard yn dod â Building Blocks i ben fel datrysiad integreiddio ar gyfer offer trydydd parti ac ni fyddant yn gweithredu mwyach yn Blackboard. Ni fydd hyn yn effeithio ar gyrsiau Blackboard Learn Ultra.
Er ein bod wedi defnyddio Building Blocks yn y Blackboard Learn gwreiddiol (cyrsiau a gynhaliwyd cyn 2023-24), nid yw eich Cyrsiau Blackboard Learn Ultra yn eu defnyddio.
Building Blocks yw pecynnau meddalwedd sydd wedi’u gosod i integreiddio offer megis Panopto a Turnitin (ymhlith llawer o rai eraill) i Blackboard. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi uwchraddio’r offer hyn i integreiddiadau LTI (Learning Tools Interoperability). Dod â Building Blocks i ben oedd un o’r gyrwyr ar gyfer symud i Blackboard Learn Ultra.
Mae LTI yn cynnig mynediad i ddiweddariadau rheolaidd, atgyweirio namau, a datblygiadau a gwelliannau parhaus a gynlluniwyd ar gyfer Blackboard Ultra. Roedd angen uwchraddio Building Blocks â llaw ac anaml iawn yr oedd yn cael ei ddiweddaru wrth i’r dull hwn o integreiddio agosáu at ddod i ben.
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi gwneud profion helaeth i sicrhau y bydd y newid hwn yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar gyrsiau Blackboard Learn Ultra cyfredol.
Byddwn yn ymgymryd â’r gwaith o analluogi Building Blocks ar ddydd Mawrth 12 Rhagfyr yn ystod cyfnod cynnal a chadw rheolaidd GG ar fore Mawrth i baratoi ar gyfer dod â hwy i ben yn derfynol.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Nodedig eleni ar agor. Mae’r GCN yn cael ei barnu ar draws 4 categori:
Cynllun y Cwrs
Rhyngweithio a Chydweithio
Asesu
Cymorth i Fyfyrwyr
Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno 3 arfer sy’n sefyll ar wahân ar gyfer eu Cwrs i helpu i fframio eu cais cyn hunanasesu eu cwrs – gall hyn fod yn naratif 1,000 o eiriau neu’n recordiad Panopto 8 munud o hyd. Yn dilyn yr hunanasesiad, caiff y cyrsiau eu marcio hefyd gan banel o arbenigwyr. Gan ategu’r symud i Ultra, rydym wedi diweddaru ein ffurflen GCN. Mae’r newidiadau’n cynnwys llai o feini prawf a chyfrif geiriau uwch ar gyfer y naratifau.
Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer ceisiadau, cynhelir dau weithdy gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ar:
Mae’r gosodiadau ar gyfer profion yn Blackboard Ultra wedi newid yn Blackboard Ultra ac mae’r trefniadau ar gyfer cynnal arholiad wedi’u diweddaru eleni.
Dyma’r prif newidiadau:
Gallwch greu un cȏd mynediad yn unig ar gyfer eich arholiad o flaen llaw. Caiff y cȏd hwn ei greu’n awtomatig ar ffurf cȏd rhifiadol 6 digid, pan fyddwch yn dewis yr opsiwn ‘angen cȏd mynediad’ i opsiwn addass ar gyfer pob arholiad ar-lein wyneb yn wyneb.
Disgwylir i’r cydlynwyr modiwlau fynychu’r arholiad wyneb yn wyneb ar gyfer eu modiwl (am y 30 munud cyntaf). Os nad yw’n bosibl bod yn bresennol, dylid trefnu eilydd. Mae bod yn gorfforol bresennol ar gyfer yr arholiad yn galluogi cydlynwyr y Modiwl i gynhyrchu ail gȏd mynediad 30 munud ar ôl i’r arholiadau ddechrau ac i gylchredeg y cȏd hwn gyda’r tîm arholiadau.
Gall cydlynwyr modiwlau gysylltu â’r swyddfa arholiadau trwy eosstaff@aber.ac.uk cyn diwrnod yr arholiad i ddarganfod pa staff goruchwylio fydd yn bresennol yn ystod eu harholiad i gadw cofnod o’u henwau a’u henwau defnyddiwr.
Rydym wedi paratoi canllawaiau newydd sy’n esbonio’r newidiadau’n llawn: Profion Blackboard ar gyfer Arholiadau Wyneb yn Wyneb. Byddai’n werth clustnodi amser peneodol i ddarllen ac ymgyfarwyddo gyda’r canllawiau wrth i chi barartoi’ch prawf. Gweler isod y gosodiadau prawf yn Blackboard ar gyfer creu cȏd mynediad i’ch arholiad ar-lein:
Yn sgȋl y newidiadau hyn, mae’r tȋm E-ddysgu yn cynnal sesiynau hyfforddi newydd ar ‘Baratoi am Arholiadau Ar-lein’, ar 5 a 11 Rhagfyr. Gellir archebu lle ar Sesiynau Hyfforddiant DPP.
Bydd y tȋm e-ddysgu ar gael i wiro gosodiadau eich prawf rhwng 4 a 20 Rhagfyr 2023. Cofiwch, nad ydym yn gallu gwiro eich prawf heb amser neu ddyddiad wedi’i gadarnhau.
Cysylltwch gyda eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych gwestiynau pellach ar brofion Blackboard.
Hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at bump o welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard Learn Ultra ym mis Tachwedd. Mae’r gwelliannau hyn mewn tri maes:
Gwneud eich cynnwys yn fwy gweledol.
Diweddariadau i Brofion.
Rheoli eich Llyfr Graddau.
Gwneud eich cynnwys yn fwy gweledol:
1. Opsiwn Mewnosod Delwedd ar gyfer Dogfennau Ultra, Cyfnodolion, Trafodaethau, Ymdrechion Asesu, a Chyrsiau.
Mae delweddau’n chwarae rhan bwysig ym mhrofiad addysg myfyriwr. Mae delweddau’n helpu i wella dealltwriaeth o gynnwys y cwrs a’r ymgysylltiad ag ef. Er mwyn helpu hyfforddwyr i adnabod delweddau o ansawdd uchel yn haws, mae Blackboard wedi ychwanegu botwm delwedd newydd yn y golygydd cynnwys yn y mannau canlynol:
Dogfennau Ultra
Ysgogiadau cyfnodolion
Trafodaethau
Negeseuon Cyrsiau
Llun isod: Gwedd hyfforddwr – botwm delwedd newydd ar olygydd cynnwys ar gyfer Dogfennau Ultra.
Pan gaiff ei ddewis, mae gan yr hyfforddwr yr opsiynau canlynol:
Uwchlwytho delwedd trwy ddewis neu lusgo a gollwng.
Dewis delwedd heb freindal, o ansawdd uchel o Unsplash.
Gall myfyrwyr hefyd gyrchu’r botwm delwedd newydd ar y golygydd cynnwys yn y meysydd canlynol:
Ymatebion trafodaeth.
Asesiadau a mewnbynnu cwestiynau prawf.
Negeseuon Cyrsiau.
Llun isod: Gwedd myfyrwyr – botwm delwedd newydd ar olygydd cynnwys ar gyfer ymateb i drafodaeth.
Llun isod: Gwedd myfyrwyr – Llusgo a gollwng neu uwchlwytho ffeil delwedd.
Ar ôl dewis y ddelwedd, gall hyfforddwyr a myfyrwyr ail-leoli ffocws a chwyddiad y ddelwedd. Mae yna opsiwn hefyd i newid cymhareb wynebwedd y ddelwedd.
Llun isod: Addasu chwyddiad a ffocws y ddelwedd; gosod cymhareb yr wynebwedd.
Gall defnyddwyr ailenwi’r ddelwedd. Mae’n bwysig ystyried hygyrchedd cynnwys cwrs bob amser. Dylai’r defnyddiwr farcio’r ddelwedd fel addurniadol neu ddarparu testun amgen addas.
Gall hyfforddwyr hefyd osod y wedd a lawrlwytho opsiynau ffeil ar gyfer y ddelwedd. Ar ôl i’r ddelwedd gael ei mewnosod, gall yr hyfforddwr newid maint y ddelwedd.
Diweddariadau i Brofion:
2. Golygu/Ailraddio mewn Cwestiynau
Gall hyfforddwyr sylwi ar gamgymeriad mewn cwestiwn prawf wrth raddio cyflwyniad prawf. Er enghraifft, efallai bod hyfforddwyr wedi dod o hyd i gamsillafu, wedi dewis ateb anghywir, neu eisiau addasu pwyntiau.
Yn y gorffennol, roedd y dewis “Edit / Regrade Quesetions” ar gael wrth raddio cyflwyniadau gan “Fyfyriwr.” yn unig. Nawr, gall hyfforddwyr hefyd gael mynediad i’r llif gwaith Edit/Regrade wrth raddio yn ôl cwestiwn.
Llun isod: Gwedd hyfforddwr – opsiwn Edit/Regrade wrth raddio prawf yn ôl cwestiwn.
Llun isod: Gwedd hyfforddwr – golygu cwestiwn gan ddefnyddio’r opsiwn Edit/Regrade.
3. Diweddariadau i gwestiynau sy’n cyfateb: dosbarthu credyd rhannol yn awtomatig a diweddariadau eraill
Mae cwestiynau sy’n cyfateb yn ddefnyddiol ar gyfer profi sgiliau myfyriwr wrth wneud cysylltiadau cywir rhwng cysyniadau cysylltiedig. Mae’r math hwn o gwestiwn hefyd yn gwirio dealltwriaeth myfyrwyr mewn fformat strwythuredig.
Er mwyn gwobrwyo myfyrwyr sy’n dangos dealltwriaeth rannol, mae rhai hyfforddwyr yn dymuno dyfarnu credyd rhannol a/neu negyddol am gwestiynau sy’n cyfateb.
Yn y gorffennol, dewisodd hyfforddwyr opsiwn sgorio:
caniatáu credyd rhannol.
y cyfan neu ddim byd.
tynnu pwyntiau ar gyfer cyfatebiadau anghywir, ond ni all sgôr cwestiwn fod yn negyddol.
neu ganiatáu sgôr cwestiwn negyddol.
Roedd yr opsiynau hyn yn gyfyngedig ac, ar adegau, yn creu dryswch i hyfforddwyr.
Nawr, mae credyd rhannol a negyddol yn cael ei droi ymlaen yn ddiofyn. Mae Blackboard yn awto-ddosbarthu credyd rhannol fel canran ar draws y parau cyfatebol. Mae awto-ddosbarthu credyd yn arbed amser i hyfforddwyr. Gall hyfforddwyr olygu’r gwerthoedd credyd rhannol os oes angen i roi mwy neu lai o gredyd i rai parau. Rhaid i’r gwerthoedd ar gyfer credyd rhannol ddod i gyfanswm o 100%.
Os dymunir, gall hyfforddwyr hefyd nodi canran credyd negyddol i unrhyw bâr. Asesir credyd negyddol pan gaiff ei gymhwyso a phan fydd myfyriwr yn camgyfatebu pâr yn unig. Os dymunir, gall hyfforddwyr ddewis caniatáu sgôr negyddol cyffredinol ar gyfer y cwestiwn.
Rydym hefyd wedi gwneud rhai gwelliannau eraill i’r cwestiwn hwn:
Ail-eiriodd Blackboard y canllawiau adeiladu cwestiynau a’i symud i swigen wybodaeth.
Yn y gorffennol, roedd y dewisiadau ‘Ailddefnyddio ateb’ a “Dileu pâr” y tu ôl i’r ddewislen tri dot. Nawr, mae’r opsiynau hyn yn ymddangos ar ochr dde’r ateb ar gyfer pob pâr.
O’r blaen roedd atebion a ailddefnyddiwyd yn ymddangos fel “Reused answer from pair #” yn y maes ateb. Nawr, mae’r ateb ei hun yn cael ei arddangos yn y maes ateb. ‘Reused answer’ o dan yr ateb i’r pâr.
Llun isod: Cynllun newydd ar gyfer cwestiwn sy’n cyfateb
Rheoli eich Llyfr Graddau:
4. Gwelliannau i berfformiad gwedd grid y Llyfr Graddau
Mae’n well gan rai hyfforddwyr weithio yng ngwedd grid y llyfr graddau. Er mwyn gwella profiad y defnyddiwr, gwnaethom sawl gwelliant i’r wedd hon. Mae’r gwelliannau hyn yn mynd i’r afael â pherfformiad cyffredinol ac yn lleihau’r amser llwytho.
Senarios profi perfformiad:
25K o gofrestriadau myfyrwyr a 400 o eitemau graddadwy: Amser llwytho wedi gostwng o 108 eiliad (tua 2 funud) i 14 eiliad (gwella perfformiad o 87%)
2000 o gofrestriadau myfyrwyr a 400 o eitemau graddadwy: Amser llwytho wedi gostwng o 19 eiliad i 8 eiliad (gwella perfformiad o 57%)
40 o fyfyrwyr a 400 o eitemau graddadwy: Amser llwytho wedi gostwng o 8 eiliad i 6.8 eiliad (gwella perfformiad o 14.75%)
5. Trefnu rheolyddion ar gyfer Enw Myfyrwyr, Gradd Gyffredinol, Asesiadau, a Cholofnau â Llaw yn y wedd grid.
I ddefnyddio’r wedd grid cliciwch toglo a’r botwm ‘list view’
Mae dewisiadau trefnu yn y llyfr graddau yn darparu profiad graddio mwy effeithlon.
Nawr gall hyfforddwyr ddidoli’r colofnau gwedd grid llyfr graddau canlynol:
Enw’r Myfyriwr
Gradd Gyffredinol
Profion ac Aseiniadau
Colofnau â llaw
Gall hyfforddwyr drefnu cofnodion mewn trefn wrth esgynnol neu ddisgynnol a chael gwared ar unrhyw ddull didoli presennol. Mae amlygu porffor ym mhennawd y golofn yn helpu hyfforddwyr i nodi lle mae’r didoli ar waith.
Mae unrhyw ddull didoli a gymhwysir yn esgor ar newid dros dro i drefn didoli pob colofn yng ngwedd grid y llyfr graddau.
Llun isod: Trefnu asesiad yn y wedd grid gyda hidlwyr wedi’u cymhwyso.
Yn y blogbost hwn rydym yn amlinellu nodwedd ddefnyddiol i helpu staff a myfyrwyr i lywio eu Cyrsiau Blackboard.
Os na allwch ddod o hyd i’r cynnwys rydych chi’n chwilio amdano neu os oes angen i chi lywio i ardal cwrs yn gyflym, ceisiwch ddefnyddio’r swyddogaeth chwilio sydd ar gael ym mhob cwrs.
Mae swyddogaeth chwilio’r cwrs yn ymddangos ar frig pob cwrs:
Cliciwch ar y chwyddwydr a dechrau nodi enw’r cynnwys yr ydych chi’n chwilio amdano.
Wrth i chi nodi enw’r cynnwys, bydd yr eitem yn ymddangos fel dolen. Bydd clicio ar y ddolen yn mynd â chi i’r ardal honno o’r modiwl.
Edrychwch ar y sgrinlun isod i weld hyn ar waith:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Ultra, neu os hoffech roi adborth am eich profiad, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.
Pan fyddwch yn mewngofnodi i Blackboard fe sylwch efallai fod iaith y rhyngwyneb wedi newid. Mae’r iaith gychwynnol a welwch yn Blackboard yn cael ei phenderfynu gan y Dewis Iaith yr ydych wedi’i osod yn ABW fel staff neu yn y Cofnod Myfyriwr fel myfyriwr.
Os ydych eisoes wedi gosod eich dewis iaith i’r Gymraeg, fe welwch ryngwyneb Gymraeg Blackboard, ac os ydych wedi gosod eich dewis iaith i’r Saesneg, fe welwch ryngwyneb Saesneg Blackboard.
Os nad ydych chi’n gweld rhyngwyneb Blackboard yn eich dewis iaith, gallwch ei newid yn hawdd.
Defnyddiwch yr opsiwn Iaith ar eich tudalen Proffil
Mae’r adnodd Blackboard Ally newydd hefyd yn rhoi mynediad i fersiynau sain Cymraeg o gynnwys Cymraeg mewn cyrsiau Blackboard. Gall unrhyw ddogfennau Cymraeg, boed yn ffeiliau PowerPoint, dogfennau PDF ac ati, gael eu darllen yn uchel gan ddefnyddio’r fersiwn sain MP3. Am fwy o wybodaeth am ddefnyddio Blackboard Ally, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i staff neu fyfyrwyr.
Y mis hwn rhyddhawyd nifer o welliannau pellach yn Blackboard Learn Ultra.
Gwelliannau o ran Swp-Olygu (Batch Edit)
Mae Swp-Olygu yn symleiddio gwneud newidiadau i eitemau lluosog ar unwaith yn Blackboard p’un a yw hynny’n golygu gwelededd, amodau rhyddhau neu ddileu. Mae Blackboard wedi diweddaru Swp-Olygu fel bod camau gweithredu bellach yn berthnasol i bob eitem y tu mewn i Ffolderi a Modiwlau Dysgu.
Mae’r holl eitemau i’w gweld ar un dudalen erbyn hyn. Mae Blackboard wedi ychwanegu’r gallu i ehangu a chwympo Ffolderi a Modiwlau Dysgu.
Fel y trafodwyd mewn neges flog flaenorol, gall Hyfforddwyr nawr chwilio llyfrgell delweddau stoc helaeth Unsplash am ddelweddau stoc o ansawdd uchel, heb freindal i’w defnyddio o fewn Blackboard.
Y mis hwn hefyd fe wnaethom alluogi offer hygyrchedd Blackboard Ally sy’n caniatáu i fyfyrwyr lawrlwytho fformatau cynnwys amgen yn ogystal â gwiriwr hygyrchedd ar gyfer Hyfforddwyr.
Mae rhywfaint o’r adborth yr ydym wedi’i gael am Gyrsiau Blackboard Ultra yn nodi nad ydynt mor addasadwy yn weledol â chyrsiau’r Blackboard gwreiddiol. Caiff Ultra ei greu gan gadw hygyrchedd mewn cof, sy’n golygu nad yw rhai o’r nodweddion a oedd gennym o’r blaen, megis cefndiroedd lliw neu weadog a thestun a allai fod mewn cyferbyniad lliw isel ar gael mwyach.
Yn y neges flog hon byddwn yn rhoi rhai awgrymiadau i chi a allai helpu i wneud eich Cyrsiau Blackboard Ultra yn fwy deniadol i’r golwg, gan gynnwys rhai nodweddion newydd sbon a gyrhaeddodd ym mis Medi.
Modiwlau Dysgu
Mae Modiwlau Dysgu yn gweithio’n debyg i ffolderi a gellir eu gosod ar lefel uchaf y Dudalen Gynnwys. Gallwch ddefnyddio’r rhain i drefnu eich Deunyddiau Dysgu. Un o’r datblygiadau a gyrhaeddodd yn ddiweddar yw’r gallu i uwchlwytho delweddau i Fodiwlau Dysgu.
I greu Modiwl Dysgu, cliciwch ar y + a Creu > Modiwl Dysgu:
Mae rhywfaint o’r adborth yr ydym wedi’i gael am Gyrsiau Blackboard Ultra yn nodi nad ydynt mor addasadwy yn weledol â chyrsiau’r Blackboard gwreiddiol. Caiff Ultra ei greu gan gadw hygyrchedd mewn cof, sy’n golygu nad yw rhai o’r nodweddion a oedd gennym o’r blaen, megis cefndiroedd lliw neu weadog a thestun a allai fod mewn cyferbyniad lliw isel ar gael mwyach.
Yn y neges flog hon byddwn yn rhoi rhai awgrymiadau i chi a allai helpu i wneud eich Cyrsiau Blackboard Ultra yn fwy deniadol i’r golwg, gan gynnwys rhai nodweddion newydd sbon a gyrhaeddodd ym mis Medi.
Modiwlau Dysgu
Mae Modiwlau Dysgu yn gweithio’n debyg i ffolderi a gellir eu gosod ar lefel uchaf y Dudalen Gynnwys. Gallwch ddefnyddio’r rhain i drefnu eich Deunyddiau Dysgu. Un o’r datblygiadau a gyrhaeddodd yn ddiweddar yw’r gallu i uwchlwytho delweddau i Fodiwlau Dysgu.
I greu Modiwl Dysgu, cliciwch ar y + a Creu > Modiwl Dysgu:
O’r fan honno, gallwch bwyso Ychwanegu delwedd i uwchlwytho delwedd o’r chwilotwr ffeiliau. Dewiswch y ddelwedd o’r Chwilotwr Ffeiliau sy’n agor ac uwchlwytho. Fel arall, gallwch lusgo a gollwng eich delwedd i olygydd y Modiwl Dysgu. Ar ôl i chi ychwanegu delwedd at Fodiwl Dysgu, bydd yn ymddangos fel a ganlyn:
Yn ein neges flog flaenorol amlinellwyd rhai o’r newidiadau i Panopto wrth i ni symud i Blackboard Learn Ultra.
Yn y neges flog hon byddwn yn amlinellu’r newidiadau i ddefnyddio Panopto ar gyfer Aseiniadau. Defnyddir Aseiniadau Panopto i fyfyrwyr gyflwyno recordiad neu gyflwyniad.
Yn rhan o’r newid hwn, rydym yn argymell:
Eich bod yn Creu Aseiniad Blackboard
Bod myfyrwyr yn cyflwyno drwy Blackboard Assignment ac yn uwchlwytho drwy’r adnodd cyflwyno Panopto
Y manteision i’r llif gwaith newydd hwn yw:
Mae’r llif gwaith ar gyfer cyflwyno a marcio yn haws
Mae marciau ac adborth yn mynd yn awtomatig i’r Llyfr Graddau
Mae myfyrwyr yn cael derbynneb e-bost ar gyfer eu cyflwyniad