Datganiadau asesu DA Cynhyrchiol ar gael yng Nghadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol bellach ar gael yng Nghadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard.

Mae hyn yn rhan o’r gwaith y mae’r Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu yn ei wneud mewn cydweithrediad ag UndebAber a’r Gofrestrfa Academaidd.

Nod y gwaith hwn yw ei gwneud yn glir i fyfyrwyr beth yw’r disgwyliadau o ran eu hymgysylltiad a’u defnydd o DA Cynhyrchiol mewn dysgu ac addysgu.

Mae tri datganiad ar gael yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu:

  • Dim defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
  • Rhywfaint o ddefnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
  • Disgwylir defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn

Mae pob un o’r datganiadau yn rhoi cyngor ac yn cyfeirio myfyrwyr at gymorth ychwanegol.

Gall cydweithwyr gopïo’r datganiadau hyn i faes perthnasol y cwrs. Gan fod lefelau derbyniol o ddefnydd DA Cynhyrchiol yn amrywio rhwng asesiadau unigol, argymhellir bod y datganiadau yn cael eu copïo i’r ffolder asesu perthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth gweler: Sut mae ychwanegu eitem o Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard at fy nghwrs?

Yn ogystal â’r Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol, mae Datganiad Defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gael hefyd. Mae’r datganiad hwn wedi’i ddatblygu gan gydweithwyr yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr amlinellu sut maent wedi defnyddio DA Cynhyrchiol yn eu haseiniadau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.

Creu Cyrsiau Blackboard 2025-26

Mae’r holl gyrsiau ar gyfer 2025-26 wedi cael eu creu ac maent ar gael i staff yn Blackboard.

Bydd y templed cwrs eleni yn cynnwys ambell eitem newydd a gobeithiwn y byddant o gymorth i staff a myfyrwyr:

  1. Eitem am recordio a chreu capsiynau gyda Panopto (gweler ein blogbost ar gapsiynau am ragor o wybodaeth)
  2. Dolen i dudalennau gwe SgiliauAber
  3. Gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial ac Ymddygiad Academaidd Annerbyniol

Mae rhoi’r wybodaeth hon yn y templed cwrs yn golygu bod pob myfyriwr yn gweld yr un wybodaeth. Mae hefyd yn golygu nad oes rhaid i staff gynnwys y wybodaeth wrth baratoi eu cyrsiau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Mae holl safleoedd cyrsiau Blackboard PA yn defnyddio templed y cytunwyd arno, sy’n cynnwys meysydd ar gyfer gwybodaeth graidd ynghyd â chynnwys ynglŷn â pholisïau ar lefel y brifysgol. Mae Pwyllgor y Panel Ansawdd a Safonau yn cytuno ar y templed cwrs bob blwyddyn. Mae Cydlynwyr Modiwlau yn gyfrifol am sicrhau bod y deunyddiau yn eu cyrsiau wedi’u trefnu’n briodol. Ni ddylai staff ddileu unrhyw gynnwys sydd yn y templed.

Gweler yr Isafswm Presenoldeb Gofynnol i weld beth y dylid ei gynnwys yn y cwrs.

Os ydych chi angen unrhyw gymorth â chyrsiau Blackboard, gweler y Canllaw Blackboard i Staff.

Unwaith y bydd cyrsiau wedi’u creu, byddwn yn darparu llif wythnosol rhwng y System Rheoli Modiwlau a Blackboard i adlewyrchu unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau. Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r rolau cwrs eleni, ac mae mwy o fanylion ar gael ar ein blogbost.

Ni fydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyrsiau nes bod y cofrestru wedi’i gwblhau ym mis Medi.

Adolygiad o Bolisïau E-ddysgu (2025-26)

Bob blwyddyn, rydym yn ailedrych ar yr holl bolisïau sy’n ymwneud ag offer e-ddysgu ac yn eu hadolygu.   Mae’r holl newidiadau yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.  Mae’r polisïau newydd bellach ar gael, a dyma fanylion y prif newidiadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisïau newydd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost elearning@aber.ac.uk

Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG) Blackboard

Mae’r IPG yn rhoi amlinelliad i staff a myfyrwyr o’r safonau gofynnol ar gyfer Cwrs Blackboard. 

Mae dau o’r newidiadau i’r IPG wedi’u cynllunio i wella hygyrchedd deunyddiau cwrs:

  • Dylai pob cwrs gael sgôr Ally o 70% neu uwch (gweler yr wybodaeth am y Sgôr Ally) 
  • Y gofyniad i ddeunyddiau gael eu huwchlwytho 1 diwrnod gwaith cyn y sesiwn (gweler yr wybodaeth am Uwchlwytho Deunyddiau Ymlaen Llaw)

I helpu staff i reoli cyrsiau:

  • Bydd y templed Blackboard yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir yn fwy canolog (gweler ein gwybodaeth ar Greu Cyrsiau)

⁠Y Polisi E-gyflwyno

Amlinellir yn y Polisi E-gyflwyno fod pob darn o waith testun a baratowyd ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno, ei farcio, a’r adborth yn cael ei ryddhau’n electronig.  

Er mwyn gwella sut mae myfyrwyr yn cael gafael ar eu marciau a’u hadborth:

Er mwyn gwella cysondeb e-gyflwyno ar draws y brifysgol: 

  • Ceir gofyniad i gyflwyno gwaith ôl-raddedig ymchwil yn electronig ac mae hyn yn cynnwys aseiniadau Hyfforddiant Ymchwil Ysgol y Graddedigion. 

Ar gyfer staff sydd am ddefnyddio SafeAssign fel rhan o’u Haseiniadau Blackboard: 

  • Ychwanegu gwybodaeth am SafeAssign

⁠Polisi Cipio Darlithoedd

Amlinellir yn y Polisi Cipio Darlithoedd fod pob cyflwyniad yn y dull trosglwyddo yn cael ei recordio’n electronig i’w ddefnyddio gan fyfyrwyr. 

Mae’r newid mwyaf arwyddocaol yn y Polisi Cipio Darlithoedd wedi’i gynllunio i wella hygyrchedd recordiadau:

  • Bydd capsiynau awtomatig yn cael eu troi ymlaen ar gyfer pob recordiad a wneir ar ôl 1 Medi 2025 (gweler ein blog)
  • Argymhellir bod sesiynau nad ydynt wedi’u recordio yn cael eu crynhoi.

I helpu staff i reoli cyrsiau:

  • Bydd templed Blackboard yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir yn ganolog am Panopto, gan gynnwys datganiad sy’n dweud y bydd recordio yn digwydd, gwybodaeth am yr hyn sy’n cael/ddim yn cael ei recordio, a gwybodaeth am ansawdd y capsiynau (gweler ein gwybodaeth am Greu Cwrs). 

Polisi Mudiadau

Mae pob adran yn defnyddio eu Mudiadau i ddarparu gwybodaeth weinyddol allweddol.  Er mwyn sicrhau bod deunyddiau’n hygyrch ac yn gyfredol, rydym wedi datblygu IPG Mudiadau, yn seiliedig ar IPG Blackboard.  Nid yw hyn yn berthnasol i Gyrsiau Ymarfer staff. 

Dylai pob Mudiad arall gynnwys:

  • Manylion Cyswllt. 
  • Gwybodaeth ynglŷn â phwrpas y Mudiad a sut y disgwylir i gyfranogwyr ei ddefnyddio.
  • Cynnwys sydd wedi’i drefnu’n glir, a’r holl ddeunyddiau wedi’u henwi’n glir ac yn gyson. 
  • Cynnwys cyfredol. 
  • Cyfarwyddiadau clir i gyfranogwyr ar beth i’w wneud gyda’r deunyddiau  
  • Rhaid i’r holl ddeunyddiau fod mor hygyrch â phosibl.

Sgôr Ally

Am y tro cyntaf, mae ein Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard yn cynnwys sgôr Ally.  Mae hyn yn cydnabod ac yn adeiladu ar sail y gwaith y mae staff eisoes wedi’i wneud i sicrhau bod deunyddiau dysgu mor hygyrch â phosibl.   

70% yw’r sgôr Ally a osodir gan yr IPG – y newyddion da i staff a myfyrwyr yw bod 87% o holl gyrsiau 2024-25 yn cyrraedd sgôr o 70%.   Ac yn gyffredinol, 72.5% yw sgôr Ally ar gyfer 2024-25, sydd 3% yn uwch na’r llynedd.  

Mae sicrhau bod cynnwys Blackboard mor hygyrch â phosibl o fudd i’n holl fyfyrwyr.    Mae cael deunyddiau mewn fformat hawdd ei ddefnyddio yn golygu y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar eu dysgu yn hytrach na cheisio ymdopi â fformatau anhygyrch.  Mae’r dewisiadau y mae staff yn eu gwneud i ddylunio deunyddiau hygyrch, yn ogystal ag offer Fformatau Amgen Ally, yn ein helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cymryd rhan yn eu hastudiaethau.  

Mae hyn yn arbennig o bwysig yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan fod data diweddaraf HERA yn dangos bod dros 28% o’n myfyrwyr wedi datgan bod ganddynt anabledd (o’i gymharu â 16.7% yn genedlaethol).   

I wirio sgôr Ally eich cwrs, edrychwch ar y canllawiau ar y tudalen we Blackboard.  A gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddylunio deunyddiau hygyrch trwy edrych ar ein deunyddiau hyfforddi ar-lein.   

Bydd Ally yn rhoi help ac arweiniad i chi fynd i’r afael â phroblemau cyffredin.  Un o’r problemau mwyaf cyffredin ym Mhrifysgol Aberystwyth yw dogfennau wedi’u hysgrifennu â llaw sydd wedi’u sganio.  Rydym wedi ysgrifennu rhai canllawiau i helpu staff sy’n defnyddio’r math hwn o ddeunyddiau. 

Ac os ydych chi eisiau defnyddio erthyglau wedi’u sganio yn eich cwrs, cysylltwch â’r Gwasanaeth Digideiddio

Uwchlwytho Deunyddiau Ymlaen Llaw

Mae darparu deunyddiau dysgu cyn y sesiwn yn eu gwneud yn fwy hygyrch i fyfyrwyr.  Mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr baratoi o flaen llaw er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar gynnwys y ddarlith pan fyddant yn bresennol yn y sesiwn.  Ar gyfer sesiynau sy’n cynnwys trafodaeth neu waith grŵp, gall roi cyfle i fyfyrwyr ystyried sut y gallant gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.  Mae papur ymchwil gan Oxford Brookes yn rhoi gwybodaeth am y budd a geir o sicrhau bod deunyddiau ar gael ymlaen llaw. 

Mae’r adborth gan fyfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf wedi gofyn am y newid hwn, a thrafodwyd y mater yn y Bwrdd Academaidd yn yr haf 2024.  Ac mae’n safonol mewn nifer o brifysgolion eraill, er enghraifft ym Mhrifysgol Caeredin ac Oxford Brookes

Mae PA wedi penderfynu y dylid rhyddhau deunyddiau dysgu o leiaf un diwrnod gwaith cyn y digwyddiad:

  • Ar gyfer sesiwn a gynhelir ar ddydd Iau, dylai’r deunyddiau fod ar gael erbyn bore Mercher
  • Ar gyfer sesiwn a gynhelir ar ddydd Llun, dylai’r deunyddiau fod ar gael erbyn y bore Gwener blaenorol.

Gallwch ddefnyddio Amodau rhyddhau cynnwys Blackboard i wneud yn siŵr bod deunyddiau ar gael ar yr adeg iawn. Os ydych eisoes yn darparu eich holl ddeunyddiau ar ddechrau’r tymor, mae croeso i chi barhau â hyn. 

Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang

Mae darparu deunyddiau dysgu hygyrch yn helpu pawb i ddysgu.  Gall defnyddio rhai offer sylfaenol a gwneud rhai newidiadau bach i’ch dogfennau wneud gwahaniaeth mawr i fyfyrwyr sydd ag anableddau. 

Heddiw (15 Mai) yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang, felly mae’n ddiwrnod da i weld beth allwch chi ei wneud i wella hygyrchedd deunyddiau yn Blackboard. 

Gallwch gael gafael ar offer yn Blackboard a Microsoft Office i’ch helpu i greu dogfennau hygyrch:

Os oes gennych 5 munud heddiw, edrychwch ar Adroddiad Hygyrchedd Cwrs Ally yn un o’ch cyrsiau Blackboard.  Mae’r adran ar y cynnwys sydd â’r problemau hawsaf i’w datrys yn lle da i ddechrau.   Cewch eich tywys trwy rai newidiadau cyflym y gallwch eu gwneud ar unwaith.  

Neu efallai y byddwch chi’n dod o hyd i rai pethau rydych chi am eu gwella dros yr haf, fel rhan o’r broses flynyddol o greu cyrsiau.  Un o’r problemau mwyaf a welwn mewn cyrsiau Blackboard yw dogfennau wedi eu sganio heb adnabyddiaeth nodau gweledol (OCR).   Ffordd dda o sicrhau hygyrchedd dogfennau wedi’u sganio yw siarad â’n Tîm Digideiddio sy’n gallu cynghori ar sganio penodau llyfrau ac erthyglau cyfnodolion.  

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mae bron i 30% o boblogaeth ein myfyrwyr wedi datgan bod ganddynt anabledd, felly bydd gwella hygyrchedd eich deunyddiau mewn unrhyw ffordd yn cael effaith fawr ar sut mae myfyrwyr yn eu defnyddio. 

Cewch ragor o wybodaeth yma am Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang (gwefan allanol yw hon ac nid yw ar gael yn y Gymraeg).

Canllaw Llawysgrifen

Gwyddom fod rhai staff yn defnyddio dogfennau wedi’u hysgrifennu â llaw mewn darlithoedd – efallai fod hyn ar gyfer gweithio drwy gyfrifiadau, neu i ddangos proses, neu i lunio graff. Pan fyddwch chi’n uwchlwytho’r rhain i Blackboard, maen nhw’n tueddu i gael sgôr Ally isel gan nad ydyn nhw’n hygyrch i rai defnyddwyr. Dyma rai ffyrdd y gallwch wneud y mathau hyn o ddogfennau yn fwy hygyrch. 

Pan fyddwch chi’n ysgrifennu mewn darlithoedd gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio llawysgrifen glir a chyson – ceisiwch beidio â defnyddio ysgrifennu sownd, a gwnewch yn siŵr bod maint eich llawysgrifen yn iawn. Bydd defnyddio pen blaen ffelt fel Sharpie hefyd yn helpu gyda chyferbyniad.

Os gallwch ddarparu fersiwn wedi’i deipio, ychwanegwch hwn at Blackboard ynghyd â’r fersiwn wedi’i ysgrifennu â llaw. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai yr hoffech gyfeirio myfyrwyr at ffynhonnell arall i gael y deunydd cyfatebol (er enghraifft gwerslyfr, recordiad Panopto gyda chapsiynau, fideo YouTube ac ati). 

Pan fyddwch chi’n sganio deunyddiau, gallwch ddefnyddio argraffyddion y brifysgol, gan fod gan bob un ohonynt osodiad OCR (Optical Character Recognition). Golyga hyn y gall y testun a’r delweddau ar eich sgan gael eu dewis gan fyfyriwr. Mae hyn yn helpu gyda darllenwyr sgrin, yn ogystal â Blackboard Ally – ni fydd Ally yn creu ffeil MP3 o ddogfen nad oedd ganddi OCR (er y bydd yn ceisio creu fersiwn OCR, ond nid yw hyn bob amser yn gweithio’n dda). Gwnewch yn siŵr eich bod yn sganio’r cyfeiriad cywir. Ar ôl i chi wneud sgan, rhowch gynnig ar gopïo a gludo eich testun i Word fel y gallwch weld beth mae’r myfyrwyr yn ei weld neu’i glywed.  

Gall yr adnodd PDF24 (sydd ar gael drwy Company Portal PA) hefyd drosi dogfen nad yw’n OCR yn fersiwn OCR. Bydd pa mor llwyddiannus yw hyn yn dibynnu’n fawr ar gynnwys eich dogfen wreiddiol.  

Gall myfyrwyr ddefnyddio Google Lens i ddarllen dogfennau yn Blackboard ac mae’n ymddangos bod y lens yn gwneud gwaith da wrth ddarllen testun wedi’i ysgrifennu â llaw. Edrychwch ar y canllaw gan Guide Dogs am fwy o wybodaeth. Mae yna hefyd fwy o syniadau ar gyfer myfyrwyr ar wefan Perkins. Os ydych chi’n defnyddio Google Lens:  

  • Peidiwch â’i ddefnyddio i edrych ar bethau sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am unigolion  
  • Edrychwch ar y polisi preifatrwydd Google i gael mwy o wybodaeth am sut mae eich data yn cael ei ddefnyddio 

Beth sy’n Newydd yn Blackboard mis Mai 2025 

Yn y diweddariad ym mis Mai, rydym yn arbennig o gyffrous am Sgyrsiau DA yn awtomatig, Cyfarwyddyd Ansoddol, a Gwelliannau i’r Llyfr Graddau a Phrofion.

Newydd: Creu Sgyrsiau DA yn awtomatig gyda’r Cynorthwyydd Dylunio DA

Nôl ym mis Tachwedd fe wnaethom lansio AI Conversations.

Gall y Cynorthwyydd Dylunio DA bellach gynhyrchu sgyrsiau DA yn awtomatig. Mae AI Conversations yn sgyrsiau rhwng myfyrwyr a phersona DA.

  • Cwestiynau Socrataidd: Sgyrsiau sy’n annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol trwy gyfrwng holi parhaus
  • Chwarae rôl: Sgyrsiau sy’n caniatáu i fyfyrwyr chwarae senarios gyda’r persona DA, gan wella eu profiad dysgu.

Gall creu persona a phynciau ar gyfer sgwrs DA gymryd llawer o amser. Er mwyn symleiddio’r broses hon, gall y Cynorthwyydd Dylunio DA gynhyrchu tri awgrym ar unwaith. Gallwch ddewis yr hyn y mae’r Cynorthwyydd Dylunio DA yn ei gynhyrchu. Gallwch ddewis cynhyrchu:

  • Teitl sgwrs DA
  • Persona DA
  • Cwestiwn myfyrio

Mae’r awgrymiadau hyn yn rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer sgwrs DA. Gall hyfforddwyr fireinio awgrymiadau’r Cynorthwyydd Dylunio DA mewn sawl ffordd:

  • Darparu cyd-destun ychwanegol
  • Addasu cymhlethdod y cwestiwn
  • Dewis cyd-destun o’r cwrs
  • Adolygu’r cwestiwn â llaw

Llun 1: Mae’r nodwedd awto-gynhyrchu bellach ar gael yn AI Conversations.

Delwedd 2: Mae sawl ffordd i addasu AI Conversations.

Rydym yn argymell eich bod yn edrych yn fanwl ar y persona DA i wirio am unrhyw ragfarnau a allai fod yno a golygu’r rhain.

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiadau o ddefnyddio AI Conversations – rhowch wybod i ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.

Newydd: Cyfarwyddyd Ansoddol

Gall darlithwyr nawr greu a defnyddio cyfarwyddyd di-bwyntiau ar gyfer Aseiniadau Blackboard. Mae’r math hwn o gyfarwyddyd yn caniatáu i hyfforddwyr asesu gwaith myfyrwyr yn seiliedig ar feini prawf ac adborth, yn hytrach na gwerthoedd rhifiadol.

Gall hyfforddwyr ddewis No Points fel math o gyfarwyddyd wrth greu neu gynhyrchu cyfarwyddyd. Mae’r opsiwn hwn ar gael ochr yn ochr â chyfarwyddiadau canrannol a phwyntiau presennol. Gall hyfforddwyr hefyd olygu cyfarwyddiadau i newid rhwng gwahanol fathau o gyfarwyddiadau, gan gynnwys canran, ystod pwyntiau, a dim pwyntiau.

Delwedd 1: Mae’r opsiwn No Points ar gael yn y gwymplen Rubric Type

Gofynnwyd am y nodwedd hon yn ein Peilot Aseiniad Blackboard (Safe Assign).

Gwelliannau i’r Llyfr Graddau a Phrofion

Gwelliannau Hygyrchedd i’r Llyfr Graddau

Mae’r tab Markable Items yn y Llyfr Graddau bellach yn cynnwys rhyngwyneb wedi’i ailgynllunio i wella hygyrchedd a llywio ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd a darllenydd sgrin yn unig. Mae’r gwelliant hwn yn cefnogi profiad hygyrch i hyfforddwyr sy’n graddio gwaith myfyrwyr, gan leihau’r amser a’r ymdrech sydd eu hangen i reoli graddau myfyrwyr.

Gyda’r diweddariad hwn, mae’r tab Gradable Items yn defnyddio cynllun yn seiliedig ar dabl i wella defnyddioldeb:

  • Gall defnyddwyr darllenydd sgrin bellach glywed cyhoeddiadau pennawd a rhes, gan ganiatáu llywio llyfnach trwy gyflwyniadau myfyrwyr.
  • Gall defnyddwyr bysellfwrdd nawr symud yn effeithlon ar draws rhesi neu i lawr colofnau gan ddefnyddio bysellau saeth.

Delwedd 1: Llyfr graddau gyda’r tab Markable Items wedi’i amlygu

Newydd: Colofnau testun yn y Llyfr Graddau

Gall hyfforddwyr nawr greu colofnau testun arferol yn y Llyfr Graddau, gan roi’r gallu iddynt gofnodi gwybodaeth ar gyfer asesiad, megis cod perfformiad, aelodaeth grŵp, a gwybodaeth tiwtora.

Mae’r colofnau hyn yn caniatáu i hyfforddwyr gofnodi hyd at 32 nod. Nid yw’r golofn wedi’i chyfyngu i fewnbwn testun.

Efallai y bydd cydweithiwr eisiau defnyddio hyn i gofnodi timau goruchwylio traethawd hir neu farcwyr.

Gall hyfforddwyr:

  • Greu colofnau sy’n seiliedig ar destun drwy’r llif gwaith Add yn y wedd grid a’r dudalen Gradable Items;
  • Enwch y golofn, rheolwch welededd y myfyriwr, ac ychwanegu disgrifiad;
  • Ychwanegwch a golygwch wybodaeth testun ar gyfer myfyriwr penodol gan ddefnyddio llif gwaith Inline Edit.

Mae colofnau testun yn eithrio’r canlynol:

  • Gwerthoedd pwyntiau (wedi’u gosod yn awtomatig i 0 pwynt)
  • Dyddiad cyflwyno
  • Categorïau
  • Cyfrifiadau llyfr graddau a rhyngwynebau cyfrifo cysylltiedig

Mae cynnwys mewn colofnau sy’n seiliedig ar destun yn postio’n awtomatig ac yn cefnogi ymarferoldeb didoli o fewn gwedd grid Llyfr Graddau. Gall hyfforddwyr hefyd lawrlwytho ac uwchlwytho colofnau sy’n seiliedig ar destun gan ddefnyddio swyddogaeth uwchlwytho / lawrlwytho’r Llyfr Graddau.

Delwedd 1: Gall hyfforddwyr ddewis Add Text Item i greu colofn sy’n seiliedig ar destun.

Delwedd 2: Gall hyfforddwyr nodi enw colofn, gosod gwelededd i fyfyrwyr, a rhoi disgrifiad ar gyfer y golofn sy’n seiliedig ar destun.

Gall myfyrwyr gael mynediad at golofnau testun a gwybodaeth gysylltiedig yn eu Llyfr Graddau pan fydd y golofn wedi’i gosod i Visible to students.

Gosodiad prawf newydd: Gweld cyflwyniad unwaith

Mae opsiwn gosod canlyniadau prawf newydd, View submission one time.

Pan fydd myfyriwr yn cwblhau’r prawf, gallant adolygu eu hatebion a’u hadborth manwl, megis pa gwestiynau gafodd eu hateb yn gywir.

Delwedd 1: Allow students to view their submission one more time wedi’i amlygu:

Hyfforddwyr

I weld yr opsiwn gosodiad hwn, dewiswch Available after submission yn yr adran Assessment results o’r Assessment Settings, yna dewiswch View submission one time o’r gwymplen Customise when the submission content is visible to students. Mae’r gwymplen hon ar gael os ydych wedi dewis Allow students to view their submission yn unig.

Noder nad yw’r gosodiad hwn yn newid y gosodiadau a argymhellir ar gyfer arholiadau ar-lein.

Cyfnewid Syniadau:

Nod yr adran hon yw eich diweddaru ar gynnydd gwelliannau y gofynnwyd amdanynt ar y Gyfnewidfa Syniadau Blackboard.

Rydym yn falch o weld y Cyfarwyddyd Ansoddol wedi’i gynnwys yn y datganiad y mis hwn gan fod hon yn nodwedd y gofynnwyd amdani’n rhan o’r peilot SafeAssign.

Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.

Creu Cyrsiau Blackboard 2025-26

Blackboard Logo

Byddwn yn creu’r cyrsiau Blackboard gwag newydd ar gyfer 2025-26 ddydd Llun 2 Mehefin 2025.

Unwaith y bydd cyrsiau wedi’u creu, byddwn yn darparu llif wythnosol rhwng y System Rheoli Modiwlau a Blackboard i adlewyrchu unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau. Ni fydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyrsiau nes bod y cofrestru wedi’i gwblhau ym mis Medi.

Os hoffech wybod mwy ynglŷn â pham rydyn ni’n creu cyrsiau gwag ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, gweler ein blog ar Greu Cwrs o 2024.

Beth sy’n Newydd yn Blackboard Ebrill 2025 

Yn y diweddariad ym mis Ebrill, rydym yn arbennig o gyffrous am nodwedd newydd o’r enw Cadwrfa Gwrthrychau Dysgu. Mae hi bellach yn bosibl argraffu Dogfennau Blackboard, a diweddariadau i’r llif gwaith graddio ac adborth ar gyfer staff a myfyrwyr.

Newydd: Cadwrfa Gwrthrychau Dysgu

Mae’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu newydd yn gadwrfa sefydliadol sydd wedi’i chynllunio i ganoli adnoddau ar draws cyrsiau a mudiadau.

Gallwn uwchlwytho eitemau i’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu i hyfforddwyr eu copïo i’w cyrsiau. Noder na ellir golygu eitemau sydd wedi’u copïo i gyrsiau.

Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer Dogfennau Blackboard ar hyn o bryd ond mae cynlluniau i ddatblygu opsiynau i gynnwys ffeiliau yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi gofyn i gael datblygu strwythur lefel ffolder fel y gallwn drefnu eitemau cynnwys i hyfforddwyr ddod o hyd iddynt.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio ar ddatblygu’r broses i gydweithwyr ofyn i eitemau gael eu hychwanegu at y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu. Ein nod yw cael hyn yn barod ar gyfer eich cyrsiau 2025-26.

Mae rhai syniadau cychwynnol gennym yn cynnwys dolenni i adnoddau sgiliau generig, polisïau DA cynhyrchiol, a datganiadau iechyd a diogelwch dewisol.

Os oes gennych unrhyw syniadau ynglŷn â sut y gallem ddefnyddio’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu, cysylltwch ageddysgu@aber.ac.uk.

Dylunydd Cynnwys: Argraffu Dogfen

Rydym wedi gweld rhai newidiadau sylweddol i’r nodwedd Dogfennau yn Blackboard dros y 6 mis diwethaf. Nawr gall cydweithwyr a myfyrwyr argraffu’r Dogfennau hyn neu eu cadw i PDF fel y gallant adolygu cynnwys all-lein.

Mae’r nodwedd argraffu yn cadw cynllun y Ddogfen. Noder, ar gyfer hyfforddwyr, mae blociau gwirio gwybodaeth yn argraffu gyda’r holl opsiynau cwestiwn ac ateb. Mae pob bloc arall yn argraffu fel y’u dangosir y tu allan i’r modd golygu.

Llun 1: Mae’r botwm Argraffu newydd ar gyfer Dogfennau bellach ar gael i fyfyrwyr.

Rhoi Gradd ac Adborth

Mae rhai mân welliannau i Roi Gradd ac Adborth y mis hwn.

Dangosydd i weld a yw myfyriwr wedi adolygu eu hadborth

Yn y Llyfr Graddau, mae gan hyfforddwyr bellach well gallu i fonitro ymgysylltiad myfyrwyr ag adborth asesu. Mae dangosydd ar dudalen Trosolwg y myfyriwr unigol bellach yn dangos a yw myfyriwr wedi adolygu’r adborth ar gyfer asesiad penodol.

Pan fydd gradd yn cael ei nodi, mae’r dangosydd yn cynnwys label Heb ei adolygu gyda’r label Cwblhau presennol yn y golofn Statws. Pan fydd y myfyriwr yn adolygu’r adborth, mae’r statws yn diweddaru i Adolygwyd gyda stamp amser adolygu.

Os yw’r dangosydd gradd newydd yn cael ei ailosod ar gyfer yr asesiad, megis pan fydd gradd yn cael ei diweddaru neu os oes gan yr asesiad sawl ymgais, mae’r stamp amser yn diweddaru pan fydd y myfyriwr yn adolygu’r adborth eto. Os caiff pob ymgais eu dileu, caiff y label Heb ei adolygu neu Adolygwyd ei ddileu.

Llun 1: Mae gan wedd Llyfr Graddau Hyfforddwr labeli Adolygwyd a Heb ei Adolygu yn y golofn Statws.

I weld a yw myfyriwr wedi gweld eu hadborth:

  1. Llywio i’r Cwrs
  2. Dewiswch Gweld pawb ar eich cwrs a chwiliwch am y myfyriwr unigol
  3. O dan y sgrin Marcio fe welwch a yw’r myfyriwr wedi adolygu eu hadborth

Gwell profiad graddio ar gyfer cyflwyniadau grŵp

Gall Blackboard Assignment reoli Cyflwyniadau Grŵp lle mae myfyriwr mewn grŵp yn cyflwyno ffeil, a gellir clustnodi marciau ac adborth ar gyfer pob myfyriwr.

Yn y diweddariad y mis hwn mae’r rhyngwyneb graddio ar gyfer cyflwyniadau grŵp wedi’i ddiweddaru i gyd-fynd â chyflwyniadau unigol.

Newid colofn Adborth gyda cholofn Canlyniadau gweithredadwy yn Llyfr Graddau’r myfyriwr

Mae Llyfr Graddau’r myfyriwr wedi newid i gynnwys:

  • Colofn Canlyniadau newydd sy’n disodli’r golofn Adborth
  • Botwm Gwedd yn y golofn Canlyniadau newydd sy’n disodli eicon adborth porffor y golofn Adborth

Pan fydd gradd yn cael ei nodi a’r dangosydd gradd newydd (cylch porffor) yn cael ei droi ymlaen, mae’r botwm Gwedd yn ymddangos ar gyfer yr asesiad.

Pan fydd myfyrwyr yn dewis y botwm Gwedd, mae’r dangosydd gradd newydd yn diffodd, ac mae myfyrwyr yn cael eu hailgyfeirio at eu cyflwyniad. Os na wneir cyflwyniad, mae’r paneli ochr gydag adborth yn agor. Mae’r botwm Gwedd yn aros oni bai bod yr hyfforddwr yn dileu’r cyflwyniad wedi’i raddio a phob ymgais.

Delwedd 1: Roedd gwedd flaenorol o Lyfr Graddau’r myfyriwr yn cynnwys colofn Adborth gydag eicon adborth a dangosydd gradd newydd pan fydd adborth ar gael i’w adolygu.

Llun 2: Mae gwedd newydd o Lyfr Graddau’r myfyriwr yn cynnwys colofn Canlyniadau gweithredadwy, gyda’r dangosydd gradd newydd yn diffodd ar ôl i’r myfyriwr weld yr adborth.

Cyfnewid Syniadau:

Nod yr adran hon yw eich diweddaru ar gynnydd gwelliannau y gofynnwyd amdanynt ar y Gyfnewidfa Syniadau Blackboard.

Rydym yn falch o weld y Dangosydd Adborth wedi’i gynnwys yn y diweddariad y mis hwn. Mae hon yn nodwedd y gwnaethom ofyn amdani ac a oedd yn bwysig yn ein harolwg Peilot SafeAssign diweddar.

Mae Groeg hefyd wedi’i ychwanegu fel iaith allbwn ar gyfer y Cynorthwyydd Dylunio DA. Gofynnwyd am hyn gan gydweithiwr yn yr adran Dysgu Gydol Oes.

Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.

Newidiadau i Rolau Cwrs Blackboard

Dros y misoedd nesaf, rydym yn gwneud y newidiadau canlynol i rolau cwrs Blackboard.  

Ni fydd Darlithydd Ychwanegol a Thiwtor Ychwanegol ar gael mwyach

(o fis Mehefin 2025).

Dylid ychwanegu staff addysgu gan ddefnyddio’r rôl fwyaf priodol trwy Rheoli Modiwlau (a fydd yn bwydo’n uniongyrchol i Blackboard o fewn awr). Bydd unrhyw un sydd â Darlithydd Ychwanegol neu Diwtor Ychwanegol mewn cyrsiau blynyddoedd blaenorol yn cadw eu mynediad, ond ni fydd y rolau ar gael ar gyfer cofrestriadau newydd. 

Bydd Gweinyddwyr Adrannol ac Arholwyr Allanol yn cael eu hychwanegu at gyrsiau gyda rôl Hwyluswr

(o fis Mehefin 2025).  

Bydd hyn yn rhoi’r un mynediad ag o’r blaen ond bydd yn ein helpu i wneud yn siŵr nad yw myfyrwyr yn gweld y cydweithwyr hyn fel aelodau o’r staff dysgu. Dylai hyn leihau’r posibilrwydd y bydd myfyrwyr yn cysylltu â gweinyddwyr ac Arholwyr Allanol yn anghywir. Sylwch y bydd Arholwyr Allanol a Gweinyddwyr Adran yn cael eu rhestru fel Hwyluswyr yng Nghofrestr y Cwrs. Bydd modd i chi wahaniaethau rhyngddynt oherwydd nad oes gan Arholwyr Allanol gyfeiriad e-bost PA (@aber.ac.uk).  

Mae rhai rolau dros ben wedi’u dileu

(o fis Mawrth 2025).  

Roedd y rhain yn bennaf yn rolau a grëwyd at ddibenion profi’r system. Fodd bynnag, os ychwanegwyd unrhyw un gydag un o’r rolau sydd wedi’u dileu, maen nhw wedi cael eu newid i Myfyriwr. Dylid anfon unrhyw ymholiadau am gofrestriadau at eddysgu@aber.ac.uk.  

Rhaid ychwanegu staff ag unrhyw rôl at gwrs drwy Rheoli Modiwlau 

Bydd unrhyw staff sy’n cael eu hychwanegu â llaw yn cael eu tynnu o’r cwrs ar y nos Lun ganlynol. Rhaid rheoli cofrestriadau myfyrwyr drwy’r Cofnod Myfyrwyr. Mae cofrestriadau cyrsiau newydd yn cael eu hychwanegu o fewn awr i’r newid, a chaiff myfyrwyr eu tynnu o hen gofrestriadau cyrsiau ar y nos Lun ganlynol. 

Ni ddylech sylwi ar ormod o wahaniaethau, ond bydd yn gwella rhai agweddau technegol ar fynediad staff a myfyrwyr i gyrsiau Blackboard.  

Mae’r newidiadau hyn i rolau cwrs wedi’u cynllunio i gael gwared ar yr holl rolau cwrs sydd wedi’u creu’n fewnol yn PA. Mae hyn oherwydd nad ydyn nhw’n diweddaru’n rhan o ddiweddariadau misol Blackboard. Mae hyn yn golygu efallai na fydd gan rolau cwrs y caniatâd i ddefnyddio offer newydd na rhyngwyneb Cymraeg cyfredol. Dylai newid i ddefnyddio’r rolau Blackboard yn unig wella mynediad a dwyieithrwydd, yn ogystal â bod yn fwy effeithlon.  Yr unig eithriad i hyn yw’r rôl Arsyllwr Cwrs a grëwyd gan PA a fydd yn parhau. Rydym wedi pleidleisio dros gofnod Cyfnewidfa Syniadau Blackboard ar gyfer rôl Arsyllwr Cwrs parod, a byddwn yn ei ddefnyddio os caiff ei gyflwyno.  

Yn dilyn ein hamserlen cadw cofnodion, bydd y rolau a ddilëwyd yn cael eu dileu’n derfynol yn 2030 pan fydd yr olaf o’r cyrsiau sy’n eu defnyddio yn cael eu tynnu o Blackboard. 

Enillydd Gwobr Cwrs Eithriadol 2024-25

Mae’n bleser gennym gyhoeddi enillydd y Wobr Cwrs Eithriadol eleni.

Llongyfarchiadau i Mari Dunning o’r adran Dysgu Gydol Oes am y cwrs buddugol: XM18210: Writing Women: Feminism in Poetry and Prose.

Nododd y panel yr arfer rhagorol o ran cyflwyniad a dyluniad clir y cwrs, y gefnogaeth a’r arweiniad cryf a gynigiwyd, y gweithgareddau cyfranogol bywiog a difyr, a’r tasgau creadigol. Cyflawnwyd hyn i gyd drwy amgylchedd dysgu ar-lein hygyrch a brwdfrydig.

Llongyfarchiadau i’r rhai a dderbyniodd ganmoliaeth a chanmoliaeth uchel:

  • Dr Kathy Hampson, y Gyfraith a Throseddeg, ar gyfer y cwrs LC37120: Critical and Radical Criminology
  • Henrietta Tremlett, Dysgu Gydol Oes, ar gyfer y cwrs XM15710: Autobiographical Writing
  • Dr Yasir Saleem Shaikh o Gyfrifiadureg ar gyfer y cwrs CSM0120: Programming for Scientists

Yn y 3 chwrs hyn fe gafwyd rhai arferion rhagorol, gan gynnwys: strwythurau clir a hygyrch, defnyddio cwisiau wythnosol yn effeithiol, gweithgareddau difyr ac amrywiol, prosesau marcio ac adborth clir, asesiadau a gynlluniwyd yn greadigol, ac amcanion dysgu wedi’u cynllunio’n dda a’u cyfleu’n glir.

Asesir y wobr ar sail pedwar maes:

  • Cynllun y Cwrs
  • Rhyngweithio a Chydweithio
  • Asesu
  • Cymorth i’r Dysgwyr

Roedd y cyrsiau o safon mor uchel, ac edrychwn ymlaen at rannu eu harferion â chi maes o law.

Llongyfarchiadau mawr i’r buddugwyr haeddiannol eleni.