Diweddariad Pwysig i’r Staff am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Anfonwyd y neges ebost isod at yr holl staff gan yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr, ar 25 Medi.

“Annwyl Gyd-weithiwr

Fel y trafodwyd yn y Bwrdd Academaidd ar 13 Medi 2023, mae’r brifysgol wedi penderfynu diffodd yr adnodd Canfod Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn Turnitin o 30 Medi 2023. Roedd y penderfyniad yn seiliedig ar brofiad o’r adnodd ledled y sector addysg uwch, ac yn enwedig felly ar ystadegau sy’n ymddangos fel pe baent yn dangos nifer uchel o ganlyniadau cadarnhaol ffug a’r pryder y mae hyn yn ei achosi i fyfyrwyr.

Mae DA Cynhyrchiol eisoes wedi dod yn hollbresennol. Mae’n cael ei gynnwys fwyfwy yn rhan o’r offer a ddarparwn ar gyfer staff a myfyrwyr megis Office 365 a Blackboard, yn ogystal ag offer fel Google sy’n cael eu defnyddio’n eang gan y cyhoedd yn gyffredinol. Nid yw’n ymarferol gwahardd defnyddio’r offer hyn, felly mae angen i ni ganfod ffyrdd o helpu myfyrwyr i ddefnyddio DA Cynhyrchiol mewn modd moesegol ac effeithiol er mwyn dysgu go iawn, yn hytrach na thwyllo.

Mae hyrwyddo’r gallu i ddefnyddio DA ymhlith staff a myfyrwyr wedi datblygu i fod yn agenda holl bwysig ledled y sector addysg uwch. Un o’r egwyddorion allweddol yw’r angen i staff fod yn agored gyda’u myfyrwyr ynghylch y rhesymau am yr asesiadau, sut maent yn helpu myfyrwyr i ddysgu, a’r hyn y mae’r staff yn ei ddisgwyl gan eu myfyrwyr. Dylai myfyrwyr, yn eu tro, ddefnyddio sgiliau meddwl beirniadol os ydynt yn defnyddio offer DA, a bod yn agored yn y gwaith cwrs y maent yn ei gyflwyno ynghylch sut ac ymhle y maent wedi defnyddio offer o’r fath. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer fel Grammarly neu Quillbot sydd, o bosibl, wedi’u hargymell ar gyfer myfyrwyr a chanddynt wahaniaethau dysgu penodol, er enghraifft.

Dylech annog eich myfyrwyr i ddarllen y canllaw LibGuide newydd a grëwyd gan y Tîm Cysylltiadau Academaidd yn y Gwasanaethau Gwybodaeth: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Llyfrgell: Canllaw i Fyfyrwyr: Beth yw Deallusrwydd Artiffisial? Cafodd y dudalen Deallusrwydd Artiffisial a’ch Astudiaethau yn y LibGuide ei chreu gan y Gweithgor DA Cynhyrchiol ac mae’n cynnwys clipiau fideo sy’n tynnu sylw at ganllawiau ymarferol ar ddefnyddio DA yn foesegol ac effeithiol. Bydd sesiwn ar Ddefnyddio DA er Lles yn cael ei chynnig ar 6 Tachwedd yn rhan o’r Ŵyl Sgiliau Digidol.

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gyfer staff ar dudalen deunyddiau gweithdy Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiolyr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, gyda chanllawiau a grëwyd gan y Gweithgor DA Cynhyrchiol a dolenni i rai ffynonellau awdurdodol. Bydd y ddogfen i staff yn cael ei diweddaru’n fuan gyda manylion ychwanegol ar ba rybuddion i chwilio amdanynt wrth farcio.

Mynnwch gip ar y dudalen archebu DPP i weld y  sesiynau hyfforddiant sydd i ddod i’r staff ar DA Cynhyrchiol, a’r fforymau trafod lle mae croeso i’r staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeallusrwydd artiffisial o safbwynt marcio neu gynllunio dysgu, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.

Dymuniadau gorau

Tim”

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*