Mae Cyfieithu ar y Pryd bellach ar gael yn Teams

Accessibility icons showing 3 images: a checklist, a computer workstation, an image

Yn ei ddiweddariad diweddaraf, cyflwynodd Teams eu sianel gyfieithu newydd ar gyfer cyfarfodydd ar-lein. Nawr, gallwch bennu cyfieithydd ar gyfer eich cyfarfod a gall y rhai sydd ar yr alwad wrando ar y cyfieithiad. Datblygwyd y datrysiad hwn ar y cyd rhwng Microsoft a Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio Teams, cysylltwch ag is@aber.ac.uk.

Yn unol â gofynion statudol Safonau’r Gymraeg a pholisi mewnol y Brifysgol ar ddefnyddio’r Gymraeg, mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg yn darparu gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd mewn cyfarfodydd (h.y. cyfarfodydd rhithwir, hybrid ac wyneb yn wyneb).

Mae Cyfieithu ar y Pryd yn caniatáu i’r rhai sy’n mynychu ddefnyddio eu dewis iaith (e.e. Cymraeg/Saesneg) yn gwbl naturiol ac yn rhwydd mewn, er enghraifft, cyfarfodydd, pwyllgorau a digwyddiadau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau Cymraeg: tlustaff@aber.ac.uk.

Canllawiau i’r rhai sy’n trefnu cyfarfodydd

Sut mae rhoi’r sianel gyfieithu ar waith mewn cyfarfod Teams?

  • Crëwch eich cyfarfod Teams a gwahoddwch eich mynychwyr gan gynnwys eich cyfieithydd.
  • Agorwch y cyfarfod Teams a dewiswch Meeting Options/Dewisiadau’r Cyfarfod:
Cyfarfod Microsoft Teams gyda Dewisiadau’r Cyfarfod wedi'i amlygu / Microsoft Teams meeting with Meeting options highlighted
  • Bydd ffenestr y porwr yn agor.
  • Sgroliwch i lawr i Enable language interpretation/Galluogi cyfieithu ar y pryd ac ewch i Yes/Iawn.
  • Rhowch enw defnyddiwr y cyfieithydd yn y blwch ‘’Search for interpreter’/Chwilio am gyfieithwyr’ – (sylwch fod angen i chi wahodd y cyfieithydd i’r cyfarfod er mwyn i chi allu ei ddewis).
Chwilio am gyfieithwyr’ gyda’r gwymplen
  • O’r gwymplen Iaith Wreiddiol, dewiswch Welsh/Cymraeg*. Ar gyfer yr Iaith Darged dewiswch English/Saesneg.
  • Gwasgwch Save/Cadw.
  • Ar ddechrau’r cyfarfod Teams, atgoffwch bawb bod cyfieithydd ar yr alwad a bod croeso iddyn nhw siarad yn Gymraeg. Cyfeiriwch y rhai y mae angen y gwasanaeth cyfieithu arnyn nhw at y sianel gyfieithu (ceir cyfarwyddiadau isod).

* Yng Nghymru, rydym fel arfer yn cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i siaradwyr Cymraeg gyfrannu at gyfarfodydd/digwyddiadau yn eu dewis iaith. Fodd bynnag, dan amgylchiadau arbennig, megis wrth ymdrin â chwynion ac achosion disgyblu, neu mewn sefyllfaoedd sy’n ymwneud â lles neu fuddiant personol, rydym yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Saesneg i’r Gymraeg hefyd.

Canllawiau i Gyfieithwyr

  • Byddwch yn derbyn y gwahoddiad calendr a fydd eisoes wedi’i greu gyda chi yn gyfieithydd.
  • Rhaid i chi ymuno â’r cyfarfod gyda’ch manylion defnyddiwr Prifysgol Aberystwyth.
  • Os gwahoddir chi i’r cyfarfod fel cyfieithydd, byddwch yn ymuno â’r sianel gyfieithu’n awtomatig.
  • Ni fydd y rhai yn y prif gyfarfod yn gallu eich clywed oni bai eu bod yn dewis y sianel gyfieithu, felly gwnewch yn siŵr bod gennych ryw fodd o gysylltu â chadeirydd y cyfarfod os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Canllawiau i fynychwyr

  • I wrando ar sianel y cyfieithydd, ymunwch â’r cyfarfod.
  • Byddwch yn cael y neges Choose language/Dewiswch iaith yn y ffenestr uchaf:
Cliciwch ar yr anogwr iaith ar ddechrau'r cyfarfod 
Choose language prompt at the start of the meeting
  • Dewiswch o’r gwymplen yr iaith rydych chi am wrando arni (e.e. os nad ydych yn siarad Cymraeg, dewis English/Saesneg).
  • Cadarnhewch eich dewis.

Os oes angen i chi ddechrau gwrando ar y sianel gyfieithu yng nghanol cyfarfod neu ar ôl i’r opsiwn cyfieithu ar y pryd diflannu, ewch i More/Mwy ar eich bar tasgau:

Bar tasgau Teams yn dangos More/Mwy wedi'i amlygu
Teams taskbar with More highlighted
  • Dewiswch Language Interpretation/Cyfieithu ar y Pryd a dilynwch y camau uchod i ddewis eich iaith.

I newid yn ôl i iaith y cyfarfod:

  • Dewiswch More/Mwy o’r bar tasgau a dewiswch Language Interpretation/Cyfieithu ar y Pryd.
  • O’r gwymplen, dewiswch Original Language/Iaith Wreiddiol.
  • Cliciwch Confirm/Cadarnhau.

Ychwanegu cyfieithydd ar y pryd allanol

Mae ffwythiant cyfieithu ar y pryd Microsoft Teams wedi datblygu ac mae bellach yn caniatáu i bobl sydd â chyfrifon allanol (nad ydynt yn gweithio i’r Brifysgol) fod yn gyfieithwyr ar y pryd.

Dim ond ar ôl i’r cyfarfod ddechrau y gallwch chi wneud rhywun o du allan i’r sefydliad yn gyfieithydd ar y pryd – nid oes modd gwneud hyn ymlaen llaw ar hyn o bryd.

Bydd angen ichi alluogi’r ffwythiant cyfieithu yng ngosodiadau’r cyfarfod a gwneud rhywun sydd â chyfrif Prifysgol Aberystwyth yn gyfieithydd. Dylech gynnwys y mynychwr allanol yn apwyntiad y cyfarfod.

Wedi i’r cyfarfod ddechrau, ac wedi i’r cyfieithydd allanol ymuno, cliciwch ar ei enw o’r rhestr  cyfranogwyr a dewiswch ‘Gwneud yn Gyfieithydd/Make an interpreter’.

Screenshot of participant pane in Teams meeting
Yna bydd yn rhaid ichi bennu’r iaith wreiddiol a’r sianel gyfieithu ar gyfer y cyfieithydd ar y pryd.
Gellir newid y sawl sydd wedi’i wneud yn gyfieithydd yng ngosodiadau’r cyfarfod i fod yn un o fynychwyr y cyfarfod. Cliciwch ar ei enw a dewiswch ‘Gwneud yn fynychwr/Make an Attendee’.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*