Gan Joseph Wiggins
Unwaith eto mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhedeg yr Arolwg Mewnwelediad Digidol Myfyrwyr, arolwg sy’n gofyn i ddysgwyr am effaith dysgu ar-lein a dysgu a weithredir â thechnoleg. Eleni cwblhaodd dros 600 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yr arolwg.
Metrigau Allweddol
Mae arolwg JISC wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf gyda rhywfaint o’r cwestiynau metrig allweddol wedi’u newid. Ar gyfer y cwestiynau sydd wedi aros yr un fath neu’n debyg iawn gallwn gymharu gyda chanlyniadau y llynedd.
Metrig Allweddol | 2020-2021 | 2021-2022 |
Cymorth i ddefnyddio eich dyfeisiau eich hun | 60% | 81% |
Mynediad at lwyfannau ar-lein oddi ar y safle | 67% | 74% |
Amgylchedd dysgu ar-lein | 40% | 83% |
Ansawdd y dysgu ar-lein ar y cwrs | 69% | 80% |
Yn y mwyafrif o’r metrigau allweddol hyn gwelwyd cynnydd cadarnhaol gyda Phrifysgol Aberystwyth wedi gwella ers y flwyddyn flaenorol. Caiff y duedd hon i wella ei hadlewyrchu drwy holl ganlyniadau’r arolwg.
Yn achos cwestiynau a newidiodd yn y metrigau allweddol nid oes modd cymharu nifer ohonynt oherwydd y newidiadau a wnaed. Er enghraifft y llynedd holwyd am ddeunyddiau dysgu ar-lein ‘Wedi’u cynllunio’n dda’. Newidiwyd hyn i ddeunyddiau dysgu ar-lein ‘Difyr a chymhellol’. Gyda thueddiadau dysgu ar-lein mae cwestiynau’n ymwneud â chymhelliant yn nodweddiadol yn fwy negyddol, gan wneud cwestiynau sy’n defnyddio’r ansoddeiriau hyn lawer yn fwy negyddol.