Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 byddwn yn defnyddio fersiwn newydd o Turnitin.
Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhoi fersiwn newydd o Turnitin ar Blackboard.
Er y bydd y rhan fwyaf o swyddogaethau presennol Turnitin yn aros yr un fath, bydd rhai newidiadau.
I helpu myfyrwyr gyda’r newid hwn, rydym wedi llunio’r Cwestiynau Cyffredin canlynol:
- Pam fod Turnitin yn newid?
- Beth sy’n wahanol i fyfyrwyr yn fersiwn newydd Turnitin?
- Sut ydw i’n cyflwyno aseiniad yn fersiwn newydd Turnitin?
- Sut ydw i’n gweld fy marciau a’r adborth yn fersiwn newydd Turnitin?
- Sut ydw i’n gallu cadarnhau bod yr aseiniad wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus?
- Sut mae lawrlwytho derbynneb Turnitin?
- A fyddaf yn dal yn gallu mynd at fy hen aseiniadau a’r adborth arnynt?
Bydd ein tudalennau gwe a’n canllawiau cymorth yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).