Ar 21 Mawrth bydd Vevox, meddalwedd pleidleisio’r Brifysgol, yn cael ei ddiweddaru gyda rhywfaint o nodweddion ychwanegol.
Rydym yn falch iawn o allu gweld rhai o’r datblygiadau gan eu bod yn geisiadau yr ydym wedi’u gwneud i Vevox ar eich rhan.
Yn gyntaf, ar gyfer ymarferwyr dysgu o bell a’r rhai sydd am i fyfyrwyr ymgymryd â phleidleisio wrth eu pwysau, mae cwisiau wrth eich pwysau yn cael eu cyflwyno i’r offer arolwg.
Bydd angen i chi greu arolwg ac yna ychwanegu ateb cywir. Gall myfyrwyr wneud hyn yn ddienw neu gallwch ddewis eu hadnabod.
Mae’r byrddau Holi ac Ateb yn dal i gael eu tanddefnyddio rywfaint yma yn PA, ond bydd opsiwn i dagio cwestiynau a sylwadau. Bydd yn ddefnyddiol i’r rhai ohonoch sy’n cyd-gyflwyno cyflwyniad ac sydd am glustnodi cwestiynau penodol i gyflwynydd.
Mae rhagor o wybodaeth am nodweddion newydd Vevox ar gael ar eu blogbost diweddariad.
Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â’n rheolwyr cyfrif Vevox. Maent eisoes wedi cynorthwyo i greu agweddau dwyieithog ac wedi estyn allan atom i gael trafodaeth bellach ar sut y gellid datblygu hyn ymhellach. Hefyd, dyma rai o’r ceisiadau am welliannau yr ydym wedi gofyn amdanynt:
- Graff gwasgariad o’r cwestiwn X Y
- Cwestiwn sy’n seiliedig ar drefn neu ddilyniant
Nodyn i atgoffa’r mathemategwyr yn ein plith fodLaTex ar gael yn eich mathau o gwestiynau.
Nid yw Vevox wedi’i gyfyngu i weithgareddau dysgu ac addysgu. Gall pob aelod o’r Brifysgol fewngofnodi a defnyddio Vevox. Os ydych chi’n cynnal cyfarfod ac eisiau gosod pôl i’r mynychwyr, gallai Vevox fod yn ddefnyddiol i chi. Edrychwch ar eu hastudiaethau achos diweddar ar sut iwneud cyfarfodydd yn rhyngweithiol gyda Vevox.
Os yw Vevox yn newydd i chi, yna mae gennym ganllawiau arein tudalennau gwe. Mae Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddi 15 munud –cofrestru ar-lein. Rydyn ni bob amser yn barod i glywed am unrhyw beth arloesol yr ydych yn ei wneud â Vevox felly cysylltwch â ni os ydych chi’n gwneud rhywbeth cyffrous.