Dydd Iau 16 Rhagfyr, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal ail Gynhadledd Fer yr Academi ar-lein y flwyddyn academaidd hon. Y thema fydd ‘ Using Polling Software to Enhance Learning and Teaching Activities’. Ers i ni gaffael Vevox eleni, rydym wedi gweld cynnydd yn y defnydd o feddalwedd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu. Cynhelir y Gynhadledd Fer o 10:30-15:00. Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen: Dr Christina Stanley – prif siaradwr (Prifysgol Caer): Polling to boost student confidence and promote inclusivity Joe Probert & Izzy Whitley: Vevox Dr Maire Gorman (Ffiseg ac Ysgol y Graddedigion): Inter & Intra-cohort bonding (and peer learning) in statistics teaching Bruce Wight (Ysgol Fusnes Aberystwyth): Heb ei gadarnhau Dr Jennifer Wood (Ieithoedd Modern) – Is there anybody out there? Using Polling Software in the Language Classroom: Breaching the void. Gweler y rhaglen ar ein tudalennau gwe i gael crynodebau ac amserau’r sesiynau. Gobeithio y gallwch ymuno â ni. Gallwch gofrestru i ddod i’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch udda@aber.ac.uk. |