Gweithdy Kay Sambell a Sally Brown (Gŵyl Fach)

Distance Learner Banner

Gwella prosesau asesu ac adborth wedi’r pandemig: dulliau gwreiddiol o wella’r modd y mae myfyrwyr yn dysgu ac yn ymgysylltu: Gweithdy Yr Athro Kay Sambell ac Y Athro Sally Brown

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi gweithdy ar-lein arbennig a gynhelir gan Kay Sambell & Sally Brown ddydd Mercher 17 Mai, 10:30-12:30.

Archebwch eich lle ar-lein [link].

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch cyn gynted â phosibl.

Trosolwg o’r Sesiwn:

Nod y gweithdy hwn yw adeiladu ar sail y gwersi a ddysgwyd yn ystod y newidiadau cymhleth y bu’n rhaid i academyddion eu gwneud y llynedd pan ddaeth yn amhosibl asesu wyneb yn wyneb ar y campws. Bu academyddion ledled y byd yn defnyddio ystod eang o ddulliau nid yn unig i ymdopi â’r sefyllfa annisgwyl ond hefyd i symleiddio’r gwaith asesu a sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn fwy trylwyr â’r dysgu.  

Mae gennym yn awr gyfle pwysig i newid arferion asesu ac adborth yn barhaol trwy wella dilysrwydd y dulliau yr aethom ati i’w dylunio er mwyn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Gan ddefnyddio’r gwaith a wnaethant trwy gydol 2020, https://sally-brown.net/kay-sambell-and-sally-brown-covid-19-assessment-collection/, bydd hwyluswyr y gweithdy hwn, yr Athro Kay Sambell a’r Athro Sally Brown, yn dadlau na allwn fyth ddychwelyd at yr hen ffyrdd o asesu, a byddant yn cynnig dulliau ymarferol, hylaw sy’n integreiddio’r asesu a’r adborth yn llwyr â’r dysgu, gan arwain at well canlyniadau a dysgu mwy hirdymor i’r myfyrwyr.

Mae’r gweithdy hwn wedi’i fapio’n bennaf i A2, A5, K2, K3 ar yr UKPSF. 

Bywgraffiad am yr Hwylusydd:

Mae’r Athro Kay Sambell yn Ymgynghorydd Annibynnol sy’n enwog yn rhyngwladol  am ei chyfraniad i fudiad Asesu ar gyfer Dysgu (Assessment for Learning, AfL) mewn addysg uwch. A hithau’n Gymrawd Dysgu Cenedlaethol (NTF) er 2002 ac yn Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (PFHEA), mae’n Llywydd y gyfres o gynadleddau bywiog Assessment in Higher Education (AHE) (https://ahenetwork.org/) ac yn Athro Gwadd Asesu ar gyfer Dysgu ym Mhrifysgol Sunderland a Phrifysgol Cumbria. Bu gan Kay gadeiriau personol mewn Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Northumbria, lle roedd hi’n gyd-arweinydd un o Ganolfannau Rhagoriaeth Dysgu ac Addysgu’r DU a oedd yn arbenigo mewn Asesu ar gyfer Dysgu, ac, yn fwy diweddar, ym Mhrifysgol Napier Caeredin.

Kay.sambell@cumbria.ac.uk

Gwefan: https://kaysambell.wordpress.com

Mae’r Athro Sally Brown yn Ymgynghorydd Annibynnol mewn Dysgu, Addysgu ac Asesu ac yn Athro Emerita ym Mhrifysgol Beckett Leeds lle roedd hi, hyd 2010, yn Ddirprwy Is-Ganghellor. Mae hi hefyd yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Edge Hill ac arferai fod yn Athro Gwadd ym Mhrifysgolion Plymouth, Robert Gordon, De Cymru a John Moores Lerpwl ac ym mhrifysgolion James Cook Central Queensland a’r Sunshine Coast yn Awstralia. Mae’n Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (PFHEA), yn Gymrawd Uwch y Gymdeithas Datblygu Staff ac Addysg (SEDA) ac yn Gymrawd Dysgu Cenedlaethol (NTF). Mae hi wedi cyhoeddi’n eang ym maes dysgu ac addysgu ac yn enwedig felly ym maes asesu ac mae’n mwynhau gweithio gyda sefydliadau a thimau ar wella profiad dysgu y myfyrwyr.  

S.brown@leedsbeckett.ac.uk

Gwefan: https://sally-brown.net

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*