Gan ein bod unwaith eto’n wynebu’r sefyllfa o addysgu ar-lein, roeddem eisiau ailymweld â rhai o’r adnoddau a’r cymorth sydd ar gael i chi.
Y lle gorau i ddechrau fyddai ymweld â gweddalennau Cefnogi eich Addysgu sy’n cynnwys adnoddau megis:
- Dysgu ar-lein? Sut i wneud Gweithgareddau Blackboard yn fwy rhyngweithiol gyda Rhyddhau Deunyddiau’n Ymaddasol
- Defnyddio Meddalwedd Trydydd Parti ar gyfer Dysgu ac Addysgu
- Profion Blackboard – Creu Gweithgaredd Asesu Ar-lein i’ch Myfyrwyr
- Addysgu gydag Awgrymiadau MS Teams
- Cyngor i Fyfyrwyr ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer Cyfarfodydd Ar-lein
Yn ail, ewch i’n tudalen hyfforddi i archebu lle ar un o’n cyrsiau hyfforddi:
- 19/01/2021 – Dysgu Gweithredol ac Ymgysylltiad Ar-lein
- 27/01/2021 – Fforwm Academi 5: Sut mae cynllunio gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb
- 09/02/2021 – E-ddysgu Uwch: Defnyddio nodweddion datblygedig Panopto
Rydym hefyd yn trefnu i gynnig sesiynau hyfforddi ychwanegol ar ddefnyddio ystafelloedd trafod yn ogystal â sesiynau e-ddysgu galw heibio bob dydd Mawrth rhwng 10:00-11:00 a dydd Iau rhwng 14:00-15:00, o 19 Ionawr tan 4 Chwefror). Mae dolenni i’r sesiynau galw heibio ar gael ar ein blog.
Yn olaf, ewch i’n blog sy’n cynnwys rhagor o awgrymiadau a chanllawiau:
- Trefnu Cynnwys yn Blackboard
- Strategaethau er mwyn Ysgogi Ymroddiad i Ddysgu Ar-lein – myfyrdodau o’r Fforwm Academi ddiwethaf yn Semester
- Nodwedd NEWYDD – Ystafelloedd Trafod yn MS Teams
- NEWYDD: Nodwedd Cyfarfodydd MS Teams sy’n ailddigwydd yn Blackboard
- Gweithgareddau amgen i addysgu wyneb yn wyneb
- Helpu Myfyrwyr i Fanteisio i’r Eithaf ar Ddarlithoedd a Recordiwyd – Defnyddio’r ffwythiannau ‘Discussion’ a ‘Notes’ yn Panopto
- Defnyddio Podlediadau i Ddysgu
- Cyngor ynghylch monitro’r blwch sgwrs mewn sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb
- Sicrhau bod myfyrwyr yn ymroi i’r tasgau ar-lein nad ydynt yn fyw: Safbwynt y Ddamcaniaeth Hunanbenderfynu
I ailadrodd rhai o’r pwyntiau allweddol o’r adnoddau uchod, o ran addysgu ar-lein, cofiwch:
- Gadw pethau’n fyr, ni fydd myfyrwyr yn gallu canolbwyntio ar recordiad awr o hyd.
- Gwnewch y sesiwn yn ddiddorol, boed y sesiwn yn recordiad Panopto neu’n sesiwn fyw ar Teams, mae sawl nodwedd a ffordd o hyrwyddo dysgu gweithredol yn hytrach na chreu cynnwys yn seiliedig ar drosglwyddiad.
- Cyfannwch eich holl elfennau addysgu, mewn darlithoedd wedi’u recordio cyfeiriwch at seminarau byw, darlleniadau, canolbwyntiwch ar greu llwybr dysgu parhaus i’r myfyrwyr.
Rydym yn hyderus y bydd pob aelod o staff yn bodloni gofynion y sefyllfa bresennol yn llwyddiannus. Cysylltwch os oes gennych unrhyw ymholiadau neu awgrymiadau am hyfforddiant neu adnoddau angenrheidiol: lteu@aber.ac.uk.