[:cy]Yn dilyn sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd gennym yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu, dyma atebion i 10 cwestiwn cyffredin. Ceir rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio MS Teams yn ein hadran cwestiynau cyffredin, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach (udda@aber.ac.uk).
C1: Os ydw i’n rhannu fy sgrin alla i weld y chat o hyd?
A1: Yn anffodus, oni bai fod gennych ddwy sgrin yna ni fydd hyn yn bosibl. Gallech naill ai ofyn i fyfyriwr neu gydweithiwr fonitro’r chat i chi neu gallech roi’r gorau i rannu eich sgrin o bryd i’w gilydd i wirio beth sydd wedi’i bostio yn y chat. Mae rhai opsiynau rhannu sgrin uwch yn bodoli a allai eich galluogi i weld y chat mewn rhai achosion, ac rydym yn hapus i drafod y rhain gyda chi ymhellach.
C2: Hoffwn ychwanegu unigolyn allanol o’r tu allan i Brifysgol Aberystwyth at un o’m timau, a yw hyn yn bosibl?
A2: Mae’n bosibl ychwanegu unigolion allanol sydd â chyfrif Office 365 gyda pharth ac.uk, ond bydd angen i unrhyw unigolyn allanol sydd heb gyfrif ac.uk gael mynediad yna bydd yn rhaid i chi i lenwi ffurflen gais er mwyn iddynt gael mynediad at Teams Prifysgol Aberystwyth. Fel arall, gallech sefydlu cyfarfodydd gydag unigolion allanol drwy MS Teams heb orfod gofyn am fynediad.
C3: Ar ôl cofnodi cyfarfod, sut byddwn i’n cael gafael ar y recordiad a pha mor hir bydd ar gael?
A3: Ar ôl dod â chyfarfod i ben bydd y recordiad yn ymddangos yn y chat a bydd hwn ar gael i’w lawrlwytho am 22 diwrnod. Mae’n syniad da eich bod yn ymgyfarwyddo â Pholisi Cipio Darlithoedd y Brifysgol am fanylion am ba fath o sesiynau mae’n briodol eu recordio.

