:cy]Rydym wedi creu Ardaloedd Ymarfer ar gyfer staff sy’n addysgu. Ardaloedd yw’r rhain ar gyfer rhoi cynnig ar holl wahanol nodweddion Blackboard a llwytho deunyddiau ymlaen llaw heb weithio ar fodiwl Blackboard byw.
Er mwyn cael mynediad i’r Ardal Ymarfer, mewngofnodwch i Blackboard, a sgroliwch lawr i Fy Nghyfundrefnau. Fe welwch eich modiwl ymarfer gyda’r cod PRAC_username.
Os byddwch yn datblygu rhywbeth yn eich ardal ymarfer gallwch gopïo’r cynnwys i fodiwl byw. Mae’r Cwestiynau Cyffredin isod yn trafod copïo:
- Sut mae copïo neu symud cynnwys fy modiwl yn Blackboard?
- A alla i symud prawf Blackboard o un modiwl i’r llall?
- Sut mae gosod prawf neu arolwg yn Blackboard?
Hefyd, ceir llawer mwy o Gwestiynau Cyffredin a Chanllawiau i’ch cefnogi wrth ddefnyddio Blackboard, yn ogystal â rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.
Gan mai cyrsiau ymarfer yw’r rhain, nid ydych yn cofrestru ac mae rhai eitemau na ellir eu copïo, megis:
- Mannau cyflwyno Turnitin
- Eitemau sy’n galluogi rhyddhau ymaddasol
- Eitemau wedi’u hasesu sy’n gysylltiedig â’r ganolfan raddau
- Grwpiau Blackboard
Mae croeso ichi ddefnyddio eich cwrs ymarfer ar unrhyw adeg. Nid yw’r ardaloedd ymarfer yn ddarostyngedig i Gopi Gwag o Gwrs a bydd y cynnwys yn trosglwyddo ymlaen bob blwyddyn.
Os oes gennych gwestiynau, mae pob croeso ichi gysylltu â ni.