Ddiwedd mis diwethaf, gwnaethom flogio am gael ein dwylo ar amgylchedd profi Blackboard SaaS. Y mis hwn rydym wedi dechrau’r broses o brofi’r amgylchedd i weld beth sy’n debyg ac yn wahanol rhwng SaaS a’n fersiwn presennol o Blackboard.
Mae llawer o’r gwaith y mis hwn yn cael ei wneud gan ein Rheolwr Prosiect Blackboard yn Amsterdam. Mae Blackboard wedi cymryd copi llawn o’n fersiwn lleol ni ac yn ei fewnforio i’r system SaaS newydd. Pan fydd hyn wedi cael ei wneud, bydd modd i ni edrych ar ein cyrsiau presennol, gwirio bod y broses fudo wedi gweithio a bod popeth yn gweithio fel y disgwyl. Bydd hyn yn golygu edrych ar gynnwys presennol, profi bod yr holl offer yn gweithio’n iawn, a mynd trwy’r holl brosesau dyddiol arferol yr ydym yn eu defnyddio.
Yn y cyfamser, rydym yn profi’r holl flociau adeiladu sydd wedi cael eu datblygu’n fewnol yn PA. Blociau adeiladu yw enw Blackboard am offer estyniad – rhai o’r blociau adeiladu y byddwch chi’n eu hadnabod yw Turnitin a Panopto. Mae bloc adeiladu yn mewnosod gweithrediadau trydydd parti i Blackboard, er enghraifft defnyddio cofrestriadau Blackboard i reoli caniatâd, a’i gwneud hi’n haws arddangos cynnwys mewn modiwl Blackboard. Ond, mae offer eraill yr ydych yn eu defnyddio bob dydd, ond nad ydych yn gwybod eu bod wedi cael eu creu yn PA hyd yn oed. Mae’r faner sgrolio a’r blwch Fy Modiwlau yn enghreifftiau o’r rhain. Mae gennym ni hefyd offer yr ydym ni fel Gweinyddwyr System yn eu defnyddio ac na fydd defnyddwyr arferol byth yn eu gweld – pethau sy’n galluogi i ni gyflwyno gwybodaeth yr ACF i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn neu ddarparu porth Blackboard i ApAber.
Mae’r broses brofi wedi golygu dogfennu beth mae pob offer yn ei wneud a sut mae’n gweithio nawr. Rydym wedyn yn defnyddio’r un offer yn ein hamgylchedd SaaS i wirio ei fod yn cael yr un canlyniad ac yn gweithio yn yr un modd. Rydym yn gwneud yn siŵr bod yr holl flociau adeiladu’n cael eu profi mewn nifer o borwyr, yn ogystal ag ar gyfrifiaduron PC ac Apple. Pan fo’n briodol byddwn hefyd yn profi ar ddyfais symudol. Ac wrth gwrs, byddwn yn gwirio yn Gymraeg a Saesneg. Pan fydd hyn wedi cael ei wneud, byddwn yn pasio’r adborth ymlaen i’n datblygwyr lleol i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol. Ac yna bydd y broses yn dechrau eto.
Rydym hefyd yn dod i arfer â’r cylch adleoli parhaus y gwnaethom siarad amdano yn y blog diwethaf. Golyga hyn ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn derbyn y negeseuon e-bost sy’n dod gan Blackboard ac yn eu darllen yn ofalus i weld beth sy’n newid ar gyfer ein hamgylchedd. Efallai fod gennym ddatrysiadau i broblemau yr ydym wedi rhoi gwybod amdanynt neu offer newydd/diwygiedig. Ar ôl gosod yr adleoli, bydd angen i ni wedyn brofi pob un o’r eitemau newydd i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maent i fod i’w wneud yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y nam wedi’i drwsio pan fo’n briodol. Efallai y bydd angen i ni hefyd ddiweddaru ein dogfennau, Cwestiynau Cyffredin ac ati i adlewyrchu’r newidiadau a fydd yn cael eu gwneud.