Traciwr Digidol Jisc: canfyddiadau myfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch yn y DU

Cymerwch gipolwg ar yr adroddiad llawn ar ganfyddiadau’r holl sefydliadau a gymerodd ran yn arolwg Traciwr Profiad Digidol 2018. Mae llawer o’r negeseuon allweddol a geir yn yr adroddiad yn cyd-fynd â chanfyddiadau o’r Traciwr Digidol yn Aber.

Cysondeb yn yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir

Rydym wedi derbyn adborth oddi wrth fyfyrwyr droeon yn gofyn inni ei wneud yn haws i ddod o hyd i bethau ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir ac i sicrhau bod mwy o gysondeb ar draws y modiwlau o ran trefn y cynnwys. Mae canfyddiadau o’r Traciwr Digidol yn Aber a’r data meincnodi o’r DU yn pwysleisio’r mater hwn. Hoffai’r myfyrwyr i’r holl ddeunyddiau ar gyfer eu cyrsiau fod ar gael ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir yn brydlon ac o bosib yn yr un lleoliad ar gyfer pob modiwl, fel bod modd iddynt ddod o hyd i’r cynnwys y maent ei angen yn ddidrafferth.

Defnyddio technoleg i ennyn diddordeb myfyrwyr yn y dosbarth

A allwn ddefnyddio technoleg i wneud darlithoedd yn fwy difyr? Roedd ein canlyniadau yn adran gweithgareddau cwrs digidol y Traciwr yn is na’r sgorau meincnodi. Mae’r myfyrwyr hefyd wedi gofyn am sesiynau mwy rhyngweithiol yn y sylwadau testun agored:

Gwnewch y darlithoedd yn fwy rhyngweithiol fel bod modd cynnwys y myfyrwyr a chynnig mwy o gyfle i ryngweithio. Mae yna wefan ar-lein lle y gallwch ymuno i gael yr ateb cywir, ac mae hyn yn annog pobl i gystadlu a dysgu.’

Rydym yn hapus i gefnogi unrhyw aelodau o staff sydd am gyfoethogi eu dysgu trwy ddefnyddio gweithgareddau cwrs digidol. Cysylltwch â ni i drafod eich syniadau neu dewch i un o’n sesiynau E-ddysgu wedi’i Gyfoethogi: Beth alla i ei wneud gyda Blackboard?

Sgiliau digidol am oes

Er bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn defnyddio technoleg bob dydd, nid ydynt o reidrwydd yn ymwybodol beth yw’r sgiliau digidol hanfodol hyn na pha mor bwysig yw sgiliau digidol o ran eu cyflogadwyedd. Roedd llai na hanner o’r myfyrwyr a ymatebodd i arolwg Traciwr Digidol Prifysgol Aberystwyth yn teimlo nad oedd y brifysgol yn eu paratoi ar gyfer y gweithle digidol.

Efallai eich bod wedi sylwi mai Digital Experience Insights yw enw’r adroddiad yn hytrach na Digital Experience Tracker. Astudiaeth beilot oedd y Digital Experience Tracker 2018 a arweiniodd at wasanaeth newydd sydd bellach yn dwyn yr enw Digital Experience Insights. Rydym yn credu bod cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi ein helpu i gwrdd â disgwyliadau digidol ein myfyrwyr yn fwy effeithiol. Gobeithiwn rannu enghreifftiau o arferion da yn y maes hwn ar ein blog.

Os hoffech rannu eich profiadau am gefnogi ein myfyrwyr yn ddigidol fel blogiwr gwadd, cysylltwch â ni: elearning@aber.ac.uk

Darllenwch wch:

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*