Mae’r drwydded ar gyfer Qwizdom Virtual Remote (QVR) sy’n galluogi i fyfyrwyr ddefnyddio eu dyfeisiau symudol eu hunain i bleidleisio yn y dosbarth yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2018 ac ni fydd ar gael wedi hynny.
Rydym yn ymwybodol bod rhai ohonoch yn ei ddefnyddio yn eich sesiynau, felly hoffem eich annog i barhau i ddefnyddio gweithgareddau rhyngweithiol yn eich cwrs ac ystyried un o’r dewisiadau isod:
- Er na fydd hi bellach yn bosibl defnyddio’r fersiwn o bell o Qwizdom sy’n galluogi i fyfyrwyr bleidleisio o’u dyfeisiau symudol eu hunain, bydd modd i chi ddefnyddio pedwar set o offer Qwizdom sydd â chyfanswm o 118 set law. Yn hytrach na defnyddio eu dyfeisiau symudol eu hunain bydd rhaid i’r myfyrwyr bleidleisio gan ddefnyddio’r setiau llaw. Os hoffech archebu’r setiau e-bostiwch gg@aber.ac.uk gan gynnwys y dyddiad(au) a’r amser yr hoffech ddefnyddio’r offer a sawl set yr hoffech eu defnyddio.
- Mae’r Grŵp E-ddysgu wedi bod yn arolygu’r nifer gynyddol o offer pleidleisio ar-lein sydd ar gael. Mae’n rhaid talu am y rhan fwyaf ohonynt ac mae pecynnau gwahanol ar gael gan ddibynnu ar yr offer, maint y dosbarth ac ati. Ond, mae gan bron iawn bob un opsiwn rhad ac am ddim o’r gwasanaeth y mae’n rhaid talu amdano. Mae’r holl wasanaethau yr ydym wedi edrych arnynt yn seiliedig mewn cwmwl – nid oes ganddynt feddalwedd i’w lawrlwytho, ond rydych chi’n creu eich cyflwyniadau drwy dudalen we ac yna cânt eu cadw a’u rhedeg o bell.
Some of the polling software we recommend:
- 40 cyfranogwr, nifer anghyfyngedig o gwestiynau, 23 math o gwestiwn, integreiddio PowerPoint
- nifer anghyfyngedig o gyfranogwyr, 7 cwestiwn am bob cyflwyniad (5 cwis a 2 math arall), 10 math o gwestiwn, integreiddio PowerPoint
- 50 cyfranogwr, nifer anghyfyngedig o gwestiynau, 3 math o gwestiwn, adroddiadau ar gael
Noder y byddwch yn dal i allu defnyddio’r QVR yn ystod semester cyntaf 2018.
Cysylltwch â’r Grŵp E-ddysgu os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu hyfforddiant ar ddefnyddio’r gwahanol ddulliau o bleidleisio yn y dosbarth.