6ed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu

Gwelodd Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol eleni amrywiaeth o fyfyrwyr, staff academaidd a staff cynorthwyol yn dod ynghyd o bob rhan o’r Brifysgol i ddangos eu harferion arloesol. Diben thema’r gynhadledd eleni, Dysgu Myfyrwyr – Camu Ymlaen, oedd dangos a dathlu’r agweddau o arfer da mewn dysgu ac addysgu sydd i’w gweld yn Aberystwyth. A hithau’n fuan iawn ar ôl anrhydeddau diweddar i’r Brifysgol, gan gynnwys cael ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu a hefyd cyflawni Gwobr Aur Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, mae llawer o arferion arloesol i’w dathlu a’u rhannu. Un o gryfderau’r gynhadledd yw darparu lle i gydweithwyr ddod ynghyd i drafod eu dysgu ac addysgu.

Y prif siaradwr eleni oedd yr Athro Jonathan Shaw o’r Disruptive Media Learning Lab, Prifysgol Coventry. Trafododd Jonathan sut mae’r labordy yn canolbwyntio ar ddulliau prif ffrwd ac amgen o ddefnyddio technoleg i feithrin dull mwy hybrid ac agored o ddysgu ac addysgu.

Yn ogystal â’r prif siaradwr, cynigiodd dau o gydweithwyr Jonathan, Oliver Wood a Thamu Dube, weithdai i gyfranogwyr y gynhadledd. Roedd gweithdy Oliver yn canolbwyntio ar LEGO fel offer dysgu – rhoddwyd tasg i’r cyfranogwyr i ddefnyddio LEGO i drafod syniadau. Rhannwyd strategaethau â chydweithwyr ar gyfer sut y gallant ddefnyddio LEGO yn yr ystafell ddosbarth fel rhan o weithgaredd dysgu. Mae LEGO bellach ar gael yn y stoc benthyca. Os hoffech archebu LEGO, e-bostiwch gg@aber.ac.uk gyda’ch gofynion.

Y peth mwyaf buddiol am y gynhadledd oedd gwrando ar, a chlywed am, y dulliau arloesol o ddysgu ac addysgu sy’n digwydd ar draws y Brifysgol. Mae’n anodd dewis ein huchafbwyntiau, ond dyma rai o’r negeseuon y byddwn yn eu cofio o’r gynhadledd:

  • Defnyddio technoleg i wella adborth
  • Y Traethawd Fideo fel dull o asesu – gallwch weld hwn yma
  • Myfyrwyr fel Partneriaid wrth gynllunio’r dysgu
  • Beth na ddylid ei ddysgu gan hyfforddwyr gwael

Bydd recordiadau o’r gynhadledd ar gael ar ein gweddalennau felly os gwnaethoch chi fethu sesiwn, neu os hoffech glywed mwy am bwnc penodol, cliciwch yma.

Byddwn yn dechrau trefnu cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol y flwyddyn nesaf yn fuan. Os hoffech gynnig syniad neu awgrymu prif siaradwr, cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*