Fel rhan o’n tanysgrifiad sefydliadol i Vevox, mae modd i ni fynychu gweminarau a gynhelir gan Vevox. Am 2yp ddydd Iau 30 Medi bydd Vevox yn cynnal gweminar o’r enw ‘Co-creating expectations with Vevox’. Bydd y weminar yn cael ei redeg gan Tom Langston, sy’n arbenigwr Dysgu ac Addysgu Digidol ym Mhrifysgol Portsmouth.
Bydd y weminar yn cynnig syniadau ynghylch sut y gellir defnyddio pleidleisio (digidol ac “analog”) i ennyn cyfranogiad myfyrwyr, cyngor ymarferol ynglŷn â strwythur trafodaethau, a defnyddio’r swyddogaeth Holi ac Ateb fel bod modd i fyfyrwyr rannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu a gofyn cwestiynau.
Yn ystod y gwanwyn eleni, cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth arolwg cenedlaethol Jisc i ddeall profiadau digidol myfyrwyr. Cawsom ymateb gan dros 1,000 o fyfyrwyr, yn dweud wrthym am eu hagweddau tuag at dechnoleg mewn dysgu ac addysgu a’u profiadau o’r dechnoleg honno. Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr arolwg hwn.
Crynodeb o’r ystadegau allweddol
CWESTIWN
EIN DATA %
DATA’R DU %
DATA CYMRU %
Amgylchedd dysgu ar-lein wedi’i gynllunio’n dda
40
41
44
Cefnogaeth i ddefnyddio’ch dyfais eich hun
60
54
56
Yn gallu cael mynediad i systemau/gwasanaethau ar-lein o unrhyw le
67
68
67
Deunyddiau dysgu ar-lein wedi’u cynllunio’n dda
56
53
54
Ansawdd y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol ar y cwrs
69
66
68
Cefnogaeth i ddysgu heb fod ar-lein/oddi ar y campws
57
51
53
Yn gallu cael gafael ar yr holl wasanaethau cymorth yr oedd arnoch eu hangen ar-lein
51
49
50
Faint o gefnogaeth a gawsoch i ddysgu ar-lein
58
61
62
Mae’r data yn ymwneud â chanran y myfyrwyr a oedd yn cytuno â’r datganiadau a nodwyd.
Dangosir hefyd y cymariaethau meincnodi.
Mae pump o’r wyth ystadegyn allweddol yn uwch ar gyfer Prifysgol Aberystwyth nag ar gyfer sefydliadau eraill yn y DU a Chymru.
Mae’r tueddiadau cyffredinol yr un fath ag ar gyfer sefydliadau eraill yn y DU a Chymru (mae’r meysydd lle cafodd PA ganlyniadau is yn rhai isel yn genedlaethol).
Chi a’ch sefyllfa ddysgu ar hyn o bryd
Technolegau Cynorthwyol
Dywedodd 17% o’r rhai a ymatebodd eu bod wedi defnyddio o leiaf un math o dechnoleg gynorthwyol.
Dywedodd 13% o’r myfyrwyr hyn ein bod wedi cynnig cefnogaeth iddynt ddefnyddio technolegau cynorthwyol.
Problemau wrth ddysgu ar-lein
Llwyfannau a gwasanaethau digidol yn eich sefydliad
Technoleg wrth ichi ddysgu
Gwella ansawdd dysgu ar-lein a dysgu digidol
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa un peth y dylem ei wneud i wella ansawdd y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
Crybwyllodd 42% welliannau i gynllun a threfn y dysgu ar-lein
Crybwyllodd 14% ddysgu ar-lein mwy difyr a rhyngweithiol
Crybwyllodd 12% fwy o ymwneud â myfyrwyr eraill
Crybwyllodd 11% fwy o sesiynau dysgu byw
Crybwyllodd 10% well darpariaeth ddigidol
Crybwyllodd 9% fwy o ymwneud â’r darlithwyr
Crybwyllodd 6% gynyddu sgiliau a gallu digidol
Agweddau cadarnhaol ar ddysgu ar-lein
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa agwedd ar ddysgu ar-lein fu fwyaf cadarnhaol iddynt hwy – os oedd yna agwedd gadarnhaol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
Crybwyllodd 54%hyblygrwydd
Crybwyllodd 27%fynediad i ddeunyddiau ac adnoddau
Crybwyllodd 12%gyswllt â’r darlithwyr
Crybwyllodd 10% fuddiannau o ran lles ac anableddau
Crybwyllodd 7%ddysgu difyr a rhyngweithiol
Crybwyllodd 7% dechnoleg ddigidol
Crybwyllodd 6%gyswllt â’r myfyrwyr eraill
Agweddau negyddol ar ddysgu ar-lein
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa agwedd ar ddysgu ar-lein fu fwyaf negyddol iddynt hwy – os oedd yna agwedd negyddol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
Crybwyllodd 45% ddiffyg ysgogiad neu ymwneud
Crybwyllodd 23%gynllun a threfn y dysgu ar-lein
Crybwyllodd 21% ddiffyg ymwneud cymdeithasol
Crybwyllodd 14% faterion lles
Crybwyllodd 14% broblemau â systemau TG
Crybwyllodd 9% ddiffyg cyswllt â staff
Crybwyllodd 6% ddiffyg sgiliau ymarferol
Ansawdd cyffredinol y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol ar y cwrs
Dywedodd 69% ein bod yn dda neu’n well na hynny
Datblygu eich sgiliau digidol
Cefnogaeth ac arweiniad i ddatblygu sgiliau digidol
I BA RADDAU YR YDYCH YN CYTUNO EIN BOD WEDI RHOI’R PETHAU CANLYNOL ICHI:
PA % CYTUNO
CYMRU % CYTUNO
Y DU % CYTUNO
Cefnogaeth i ddysgu ar-lein/oddi ar y campws
57
51
53
Arweiniad ynghylch y sgiliau digidol sy’n angenrheidiol ar gyfer eich cwrs
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa un peth y dylem ei wneud i’ch helpu i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
Crybwyllodd 35% welliannau i gynllun a threfn y dysgu ar-lein
Crybwyllodd 14% well mynediad i’r darlithwyr
Crybwyllodd 14%ddysgu ar-lein mwy difyr a rhyngweithiol
Crybwyllodd 13% fwy o hyfforddiant a chymorth gyda sgiliau a thechnoleg ddigidol
Crybwyllodd 8% fwy o gymorth gyda materion lles
Crybwyllodd 8% well mynediad i adnoddau a deunyddiau
Crybwyllodd 6% well darpariaeth ddigidol
Beth oedd barn y myfyrwyr am y gefnogaeth a gawsant i ddysgu ar-lein?
Ysgrifennwyd gan Erin Whittaker, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Yn sgil gweithgaredd profi defnyddioldeb y prosiect Llysgenhadon Dysgu, cefais fy annog i ysgrifennu fy mlog am rwyddineb a hygyrchedd dod o hyd i wybodaeth benodol a drafodir mewn darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar gynllun cronolegol a labeli eu ffeiliau. Ar ôl gwneud fy ffordd trwy ddau fodiwl enghreifftiol nad oeddwn i wedi eu gweld o’r blaen ac un arall o fodiwl a ddilynais yn yr 2il flwyddyn, sylwais mai’r cynlluniau modiwl mwyaf hygyrch a hawdd llywio drwyddynt oedd y rhai lle’r oedd y wybodaeth a’r deunyddiau ar gyfer darlithoedd a seminarau wedi eu labelu yn ôl wythnos a theitl y pwnc, yn hytrach na dim ond yn ôl rhif y seminar benodol honno; h.y. ‘Seminar: Wythnos 2 – Dysgu am Benodoldeb ‘>’ Seminar 2 ‘. Roedd labelu’r ffeiliau fel hyn yn golygu bod dod o hyd i’r wybodaeth a gyflwynwyd yn y seminarau a’r darlithoedd penodol hynny yn broses fwy syml a chyflym na gorfod chwilio drwy amryfal gyflwyniadau PowerPoint seminarau er mwyn dod o hyd i wybodaeth benodol.
Yn ogystal, y ffolder fwyaf amlwg ar gyfer cadw recordiadau Panopto y ddarlith a’r seminar a’r sleidiau PowerPoint cysylltiedig fyddai ‘Deunyddiau Dysgu’ yn fy marn i. Byddai’n lle da hefyd i’r deunyddiau ychwanegol fel Rhestr Ddarllen Aspire, gweithdai, sesiynau tiwtorial, ac amserlen gyffredinol y modiwl hwnnw. Byddwn yn argymell, fodd bynnag, os oes nifer fawr o ffeiliau ar gyfer seminarau a darlithoedd h.y. mwy na thair ffeil yr wythnos, eu bod yn cael eu rhoi mewn ffolder ar wahân o dan y teitl ‘Darlithoedd/ Seminarau’ yn y golofn ffolderi ar y chwith, ynghyd â chopi o’r Rhestr Ddarllen Aspire.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Fe wn y gallai swnio’n rhyfedd i holi a yw eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith eich myfyrwyr. Gallaf eich clywed yn dweud “Wrth gwrs eu bod nhw”. Yn amlwg, rydych chi’n llwytho deunyddiau i fyny yn Gymraeg a Saesneg. Ond nid am hynny rwy’n sôn. I sicrhau bod Blackboard yn hygyrch i gynifer o fyfyrwyr â phosib mae angen i ni roi ein hunain yn eu hesgidiau hwy am ychydig ac edrych ar y dyluniad a’r cynnwys yn wrthrychol i weld a yw’r deunyddiau wedi’u gosod yn y ffordd orau i garfan benodol er mwyn iddyn nhw allu deall eich modiwlau’n rhwydd.
Dywedir yn aml mewn addysg os byddwch yn addasu eich cyflwyno i’r rheini sydd ag anghenion ychwanegol, byddwch yn ei gwneud yn haws i bawb. Efallai y gellid cymhwyso’r ethos hon yn nhermau Blackboard, gan roi’r holl fyfyrwyr mewn sefyllfa i gyflawni eu potensial llawn gyda chyn lleied o straen â phosibl.
Heb os, mae rhai elfennau mewn modiwl Blackboard yn galw am ffurfioldeb a phroffesiynoldeb, fel Arfer Academaidd Annerbyniol, a llawlyfr y modiwl. Mae’r llawlyfr yn gweithredu bron fel cytundeb contract rhwng cydlynydd y modiwl a’r myfyriwr, a’r ffordd arall, gan ei fod yn amlinellu’n glir yr hyn y bydd y modiwl yn ei gyflwyno a’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan y myfyrwyr yn eu tro. Ond trwy osgoi jargon addysgol lle bo modd, neu ei gyflwyno’n raddol, gallwch helpu i godi hyder eich myfyrwyr a’u gwneud yn gyfarwydd â’r termau hyn. Er enghraifft, faint o fyfyrwyr oedd wir yn deall y termau “cydamserol” ac “anghydamserol” a hyrddiwyd i mewn yn sydyn i fyd addysg y llynedd? A phan oedden nhw’n ddealledig, a oedden nhw’n cael eu drysu gyda rywbeth arall tebyg o dro i dro? Fe wn i mi gael fy nal unwaith neu ddwy.
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ardudalennau gwe’rUned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio’n ddwys gyda chydweithwyr academaidd i ddatblygu datrysiadau i bandemig Covid 19. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysguyn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.
Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:
udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)
Wrth inni symud tuag at ddysgu wyneb yn wyneb eto, hoffem atgoffa’r staff nad ydynt ar eu pen eu hunain o ran ailaddasu i ddysgu wyneb yn wyneb, a allai newid eto o ran maint y grwpiau, y dulliau o ddarparu’r dysgu, cadw pellter, a masgiau. Bydd yr eitem hon ar ein blog yn trafod yr offer arferol yn yr ystafelloedd dysgu a sut i ymdrin â disgwyliadau myfyrwyr, yn ogystal â chyfeirio’r staff tuag at adnoddau perthnasol ar gyfer yr agweddau hynny.
Mae’n bosibl y bydd trefn fanylach o ran hylendid a phrotocolau Iechyd a Diogelwch yn dal i fod ar waith ym mis Medi, felly sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch, gan gynnwys systemau unffordd mewn adeiladau, amseroedd cyrraedd/gadael graddol ar gyfer staff a myfyrwyr, gorsafoedd glanhau, a chynlluniau eistedd.
Mae arnom eisiau atgoffa’r staff hefyd o bolisi recordio darlithoedd y Brifysgol – fe allai dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb olygu dychwelyd at recordio darlithoedd byw. Bydd nifer o fanteision i wneud recordiadau o ddarlithoedd wrth i ni fynd nôl i ddysgu wyneb yn wyneb. Os bydd myfyrwyr yn methu bod yn bresennol mewn darlith oherwydd salwch gallant ddal i fyny â’r gwaith yn haws. Ac os yw myfyrwyr yn gwybod bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael, gallant osgoi dod i ganol pobl os nad ydynt yn teimlo’n hwylus. Mae’r cwbl hyn yn ein cynorthwyo â’r gwaith o warchod iechyd a lles pawb ledled y Brifysgol. Os ydych yn ansicr o gwbl, edrychwch eto ar ein rhestr o fideos ar Panopto.
Efallai nad yw eich adran mewn ystafell ddysgu ganolog, a bod offer gwahanol i’r offer canolog arferol ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r asesiadau risg perthnasol ar gyfer eich mannau dysgu a gwiriwch sut orau i’w rhoi ar waith gyda’r person priodol yn eich adran.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Bydd gan Vevox ddiweddariad ar 13Medi a fydd yn cyflwyno mathau newydd o gwestiynau sy’n cynnwys delweddau.
Pôl Delwedd y gellir ei Farcio
Gallwch uwchlwytho delwedd fel y math o gwestiwn a gofyn i’ch myfyrwyr farcio’r datrysiad ar y ddelwedd. Bydd hyn yn wych ar gyfer diagramau, mapiau neu graffiau:
Amlddewis ar bôl Delwedd
Cwestiwn arall ar ffurf delwedd, ond y tro hwn rhowch gyfle i’ch myfyrwyr ddewis yr ateb cywir o nifer o wrthdyniadau:
Nodyn i’ch atgoffa bod Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddi ar:
09.09.2021, 11:00-12:00
28.09.2021, 14:00-15:00
06.10.2021, 10:00-11:00
Bydd y sesiynau hyn yn ymdrin â:
Sut i gael mynediad at gyfrif
Sut i greu sesiwn
Creu a Rhedeg polau
Cwestiwn ac Ateb Vevox – arddangos, cymedroli
Arolygon
Data a gosodiadau
Gosod Integreiddiad MS Teams
Cwestiwn ac Ateb – unrhyw gwestiynau gan gyfranogwyr
Yn ystod y flwyddyn diwethaf, prynodd y Brifysgol offer Vevox er mwyn cynnal pleidleisiau. Ers hynny, rydym wedi gweld llu o weithgareddau pleidleisio gwych yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau ledled y Brifysgol.
Os nad ydych wedi defnyddio Vevox o’r blaen, neu os hoffech rywfaint o arweiniad, bydd Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddiant ym mis Medi a Hydref: