Canllaw Llawysgrifen

Gwyddom fod rhai staff yn defnyddio dogfennau wedi’u hysgrifennu â llaw mewn darlithoedd – efallai fod hyn ar gyfer gweithio drwy gyfrifiadau, neu i ddangos proses, neu i lunio graff. Pan fyddwch chi’n uwchlwytho’r rhain i Blackboard, maen nhw’n tueddu i gael sgôr Ally isel gan nad ydyn nhw’n hygyrch i rai defnyddwyr. Dyma rai ffyrdd y gallwch wneud y mathau hyn o ddogfennau yn fwy hygyrch. 

Pan fyddwch chi’n ysgrifennu mewn darlithoedd gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio llawysgrifen glir a chyson – ceisiwch beidio â defnyddio ysgrifennu sownd, a gwnewch yn siŵr bod maint eich llawysgrifen yn iawn. Bydd defnyddio pen blaen ffelt fel Sharpie hefyd yn helpu gyda chyferbyniad.

Os gallwch ddarparu fersiwn wedi’i deipio, ychwanegwch hwn at Blackboard ynghyd â’r fersiwn wedi’i ysgrifennu â llaw. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai yr hoffech gyfeirio myfyrwyr at ffynhonnell arall i gael y deunydd cyfatebol (er enghraifft gwerslyfr, recordiad Panopto gyda chapsiynau, fideo YouTube ac ati). 

Pan fyddwch chi’n sganio deunyddiau, gallwch ddefnyddio argraffyddion y brifysgol, gan fod gan bob un ohonynt osodiad OCR (Optical Character Recognition). Golyga hyn y gall y testun a’r delweddau ar eich sgan gael eu dewis gan fyfyriwr. Mae hyn yn helpu gyda darllenwyr sgrin, yn ogystal â Blackboard Ally – ni fydd Ally yn creu ffeil MP3 o ddogfen nad oedd ganddi OCR (er y bydd yn ceisio creu fersiwn OCR, ond nid yw hyn bob amser yn gweithio’n dda). Gwnewch yn siŵr eich bod yn sganio’r cyfeiriad cywir. Ar ôl i chi wneud sgan, rhowch gynnig ar gopïo a gludo eich testun i Word fel y gallwch weld beth mae’r myfyrwyr yn ei weld neu’i glywed.  

Gall yr adnodd PDF24 (sydd ar gael drwy Company Portal PA) hefyd drosi dogfen nad yw’n OCR yn fersiwn OCR. Bydd pa mor llwyddiannus yw hyn yn dibynnu’n fawr ar gynnwys eich dogfen wreiddiol.  

Gall myfyrwyr ddefnyddio Google Lens i ddarllen dogfennau yn Blackboard ac mae’n ymddangos bod y lens yn gwneud gwaith da wrth ddarllen testun wedi’i ysgrifennu â llaw. Edrychwch ar y canllaw gan Guide Dogs am fwy o wybodaeth. Mae yna hefyd fwy o syniadau ar gyfer myfyrwyr ar wefan Perkins. Os ydych chi’n defnyddio Google Lens:  

  • Peidiwch â’i ddefnyddio i edrych ar bethau sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am unigolion  
  • Edrychwch ar y polisi preifatrwydd Google i gael mwy o wybodaeth am sut mae eich data yn cael ei ddefnyddio 

Panopto: Capsiynau Adnabod Lleferydd Awtomatig

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Capsiynau Adnabod Lleferydd Awtomatig Panopto wedi’i gymeradwyo yn y Pwyllgor Ansawdd a Safonau diweddar.

Mae hyn yn golygu, ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-26 a thu hwnt, y bydd capsiynau awtomatig yn cael eu defnyddio yn eich recordiadau Panopto.

Bydd y rhai sy’n gwylio yn gweld y capsiynau ar waelod y sgrin neu gallant lawrlwytho trawsgrifiad:

Sgrinlun yn dangos recordiad Panopto gyda chapsiynau]

Er y bydd capsiynau’n ymddangos yn awtomatig y flwyddyn academaidd nesaf, gall cydweithwyr eisoes gynnwys capsiynau awtomatig i’r holl recordiadau mewn ffolder Panopto. Edrychwch ar ganllaw Panopto ar sut i wneud hyn.

Rydym wedi bod yn gweithio i alluogi capsiynau awtomatig ers sawl blwyddyn, felly rydym yn croesawu’r datblygiad hwn. Yn rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi cymryd camau lliniarol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau a’r pryderon, gan gynnwys:

  • Anghywirdebau capsiynau awtomatig
  • Disgwyliadau clir ar gyfer staff a myfyrwyr
  • Rheoli cyrsiau aml-iaith

Bydd capsiynau awtomatig yn cael eu defnyddio ym mhob recordiad ar y safle pan fyddwn wedi galluogi’r nodwedd hon. Yr iaith ddiofyn a fydd yn cael ei defnyddio yn ffolderi’r modiwl yw Saesneg. Bydd gosodiadau ffolderi modiwlau a gyflwynir 100% drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu diweddaru â llaw i gynhyrchu Capsiynau Awtomatig yn Gymraeg.

Rydym hefyd wedi cynnal Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb i edrych ar rai o’r heriau a achosir gan Bensiynau Awtomatig sydd ar gael ar gais (eddysgu@aber.ac.uk).

Er mwyn hwyluso galluogi capsiynau awtomatig, mae’r polisi Cipio Darlithoedd wedi’i ddiweddaru. Rydym yn adolygu ein holl bolisïau (Cipio Darlithoedd, Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard, ac E-gyflwyno) yn flynyddol. Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y diweddariadau hyn maes o law.

Byddwn nawr yn dechrau gweithio ar ddiweddaru Panopto i alluogi capsiynau Awtomatig ar gyfer 2025-26.

Blackboard Ally

Mae Blackboard Ally ar gael i bawb sy’n defnyddio Blackboard.

Gall unrhyw fyfyriwr lawrlwytho cynnwys cwrs mewn fformatau amgen am ddim. Os hoffech chi wybod mwy, edrychwch ar y tabl Pa fformat ddylwn i ei ddefnyddio ar wefan Ally.

Gall pob aelod o staff wirio hygyrchedd eu cwrs a chael help i ddatrys unrhyw broblemau.

Ers mis Medi 2023, pan ddechreuodd Prifysgol Aberystwyth ddefnyddio Blackboard Ally, mae staff a myfyrwyr wedi bod yn ei ddefnyddio.

Fformatau Amgen

• Mae 3579 o ddefnyddwyr unigol yn lawrlwytho fformat amgen
• Mae 22,912 o ddogfennau wedi’u trosi
• Defnyddir fformatau amgen mewn 1100 o gyrsiau

Y fformat amgen sy’n cael ei lawrlwytho fwyaf yw’r PDF wedi’i dagio. Mae PDF wedi’i dagio yn ddefnyddiol i ddarllen wrth fynd, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n hoffi darllen gwybodaeth i chwilio, argraffu neu gymryd nodiadau. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrin neu feddalwedd testun-i-lais gydag addasiad cyflymder.

Hygyrchedd Cyrsiau

• 282 o addasiadau i’r cynnwys
• Mae cynnwys 66 o gyrsiau wedi’u haddasu
• Mae sgôr hygyrchedd PA wedi gwella o 65.7% i 69.5%

I gael gwybod mwy am ddefnyddio Ally, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i Staff a Myfyrwyr

Hygyrchedd – Defnyddio Adnoddau Allanol

Wrth ddefnyddio adnoddau allanol megis dogfennau PDF neu sganiau a fideos yn eich gweithgareddau addysgu a dysgu, mae’n bwysig gwirio pa mor hygyrch ydyn nhw a sicrhau y bydd pob myfyriwr yn gallu eu defnyddio. Mae hyn yn hanfodol os ydych yn dibynnu arnynt i gefnogi gweithgaredd dysgu, oherwydd fel arfer nid yw’n bosibl i chi olygu adnodd allanol o’r fath. Os nad yw’r eitem yr hoffech ei defnyddio yn hygyrch iawn, yna edrychwch am ddewis arall, fel arall bydd rhai myfyrwyr yn cael eu heithrio.

Gellir defnyddio’r cyfarwyddyd yn y Rhestr wirio hygyrchedd PA i werthuso pa mor hygyrch yw adnodd allanol.

Dewiswch y deunydd mwyaf hygyrch sydd ar gael – os nad yw’r unig adnodd sydd ar gael yn hygyrch, meddyliwch yn ofalus am sut rydych chi’n darparu’r wybodaeth honno i fyfyriwr a allai ei chael hi’n anodd ei defnyddio.

Dogfennau PDF / sganiau

Mae sganiau o ddogfennau ysgrifenedig, neu sganiau heb adnabyddiaeth nodau gweledol (OCR) o lyfrau, cylchgronau ac ati yn anhygyrch i bobl sydd angen defnyddio darllenwyr sgrin, testun chwyddedig ac ati. Lle bynnag y bo modd, defnyddiwch sganiau a dogfennau PDF darllenadwy ag adnabyddiaeth nodau gweledol. Gallwch siarad â Thîm Digido’r Gwasanaethau Gwybodaeth ynghylch cael sganiau priodol o ddeunyddiau. Os ydych chi’n defnyddio sganiau o ddogfennau wedi’u hysgrifennu â llaw, gallech ddarparu trawsgrifiad o’r cynnwys.

Mae canllaw Prifysgol Chicago ar adnabyddiaeth nodau gweledol a dogfennau PDF yn ddefnyddiol os ydych chi eisiau gwybod mwy am hyn (noder ei fod yn cynnwys dolenni i wasanaethau a meddalwedd nad ydynt ar gael yn PA; mae hefyd ar gael yn Saesneg yn unig).

Fideos

Gwiriwch fod gan y fideo yr ydych am ei ddefnyddio gapsiynau neu is-deitlau. Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio YouTube, mae yna eicon Subtitles/Closed Captions yng nghornel chwith isaf y sgrin.

Sgrinlun o reolyddion fideo YouTube gyda’r eicon Subtitles/Closed Captions wedi’i amlygu.

Gwiriwch ansawdd y sain a gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu ei glywed a’i ddeall ar lefel sain resymol.

Os nad oes capsiynau, neu os yw ansawdd y sain yn wael, a yw’n bosib darllen gwefusau’r actorion neu’r cyflwynwyr?

Mae llawer o recordiadau teledu yn Box of Broadcasts yn cynnwys trawsgrifiad, felly mae hwn yn lle da i ddod o hyd i fideo. Cofiwch fod rhai o raglenni’r BBC hefyd yn cael eu darlledu gyda dehonglwyr iaith arwyddion.

Os yw fideos yn defnyddio testun i gyfleu ystyr, gwnewch yn siŵr bod ganddo ffontiau clir a chefndir da.

Osgowch fideos gyda llawer o oleuadau sy’n fflachio a delweddau sy’n symud yn gyflym – os na allwch osgoi defnyddio fideo sy’n cynnwys hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhybuddio myfyrwyr (ac yn darparu esboniad neu fideo amgen lle bo hynny’n bosibl).

Mae gwefan W3C ar gynnwys sain a fideo hefyd yn ddefnyddiol. Er ei fod wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n creu sain a fideo, mae’n rhoi rhai awgrymiadau i chi o bethau i chwilio amdanynt wrth ddewis adnoddau.