Cofnod Gweithgaredd Blackboard

Yn y blogbost hwn, rydyn ni’n mynd i gyflwyno cofnod Gweithgaredd Blackboard sydd ar gael ar bob Cwrs Blackboard Ultra.

O’r cofnod gweithgaredd hwn, gallwch edrych ar fyfyrwyr penodol a gweld pa eitemau y maent wedi ymgysylltu â hwy ar y cwrs. Mae’r cofnod yn dangos yr holl weithgarwch ar y cwrs – o ddeunyddiau dysgu, hyd at fannau cyflwyno Turnitin, a Rhestrau Darllen Talis Aspire.

Mae hyn hefyd yn cynnwys y dyddiad a’r amser y gwnaeth y myfyrwyr edrych ar y deunyddiau hynny.

I weld gweithgaredd y myfyrwyr ar y cwrs:

  • Ewch i’r modiwl yn Blackboard
  • Cliciwch ar ‘Class Register’
Sgrinlun o Class Register o dan Details & Actions
  • Chwiliwch am y myfyriwr yr hoffech ddod o hyd i’r wybodaeth ar eu cyfer:
sgrinlun o’r nodwedd chwilio am fyfyriwr yn y cofnod gweithgaredd
  • Cliciwch ar enw’r myfyriwr:
Sgrinlun o’r myfyriwr gyda’u henw wedi’i oleuo
  • Dewiswch y Cofnod Gweithgaredd:
sgrinlun o’r Cofnod Gweithgaredd wedi’i oleuo
  • Yna byddwch yn gweld yr amser a’r eitem y mae’r myfyriwr yn ymgysylltu â hi:
sgrinlun o’r cofnod gweithgaredd yn dangos dyddiad ac amser, digwyddiad, ac eitem
  • Gallwch newid y paramedrau dyddiad ar y brig a dewis nodi digwyddiadau penodol. Cyfeirir at offer ychwanegol megis mannau cyflwyno Turnitin, Rhestrau Darllen Talis Aspire a recordiadau Panopto fel Eitemau LTI.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cofnod Gweithgaredd neu os oes arnoch angen cymorth i’w ddehongli, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.

Gwasanaethau Gwybodaeth: Canllawiau DA i chi

Bellach mae gennym dudalen gymorth a gwybodaeth newydd ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/ai/

Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd bolisïau a chyngor ar ddiogelwch yn ogystal â chanllawiau ar gyfer defnyddio DA yn eich astudiaethau, eich addysgu, eich ymchwil a’ch gwaith gweinyddol.

Newydd: Sgwrs ag AI yn Blackboard

Mae’r adnodd Cynorthwyydd Dylunio DA ddiweddaraf wedi’i alluogi yn Blackboard.

Mae AI Conversations yn darparu bot sgwrsio i fyfyrwyr ryngweithio ag ef fel rhan o weithgaredd dysgu.

Mae dau opsiwn o fewn AI Conversations:

  • Cwestiynau Socrataidd
    • Mae hyn yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol trwy gyfrwng anogwyr holi parhaus
  • Chwarae rôl
    • Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr actio senario gyda’r persona DA a ddyluniwyd ac a grëwyd gan yr hyfforddwr

Ar ôl ei osod, gall myfyrwyr gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r pwnc ymhellach.

Mae myfyrwyr yn teipio ymateb i’r cwestiynau a ofynnir gan y bot sgwrsio DA. Ar ddiwedd y gweithgaredd, mae myfyrwyr yn ymateb i gwestiwn myfyriol i amlinellu sut y gwnaeth y sgwrs helpu gyda’u dealltwriaeth o’r pwnc.

Byddwn yn arddangos AI Conversations yn ein Cynhadledd Fer ar-lein ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein blog.

E-ddysgu Uwch:  Mae cyflwyniad i hyfforddiant Cynorthwyydd Dylunio DA hefyd wedi’i ddiweddaru i gynnwys AI Conversations. Gallwch archebu lle ar y cwrs ar y system archebu Digwyddiadau a Hyfforddiant.

Gweler Sgwrs ag AI am ragor o wybodaeth.

Read More

Vevox:  Adnodd Pleidleisio

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio Vevox, adnodd pleidleisio, sy’n galluogi i chi gael gwybodaeth amser real gan bobl yn eich sesiynau addysgu neu’r rhai yn eich cyfarfod.

Rydym wedi bod yn defnyddio Vevox ers dros 3 blynedd bellach ac roeddem yn falch o’i weld yn cael ei ddefnyddio mewn Sgyrsiau Croesawu gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau’n ddienw.

Rydym yn cynnal rhai sesiynau hyfforddi ar ddefnyddio Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Vevox ar gyfer Dysgu ac Addysgu:

  • 4 Hydref, 10:10-11:30
  • 8 Hydref, 14:10-15:30

Cynhelir y sesiynau hyn ar-lein drwy Teams.

Yn ogystal â’n sesiynau hyfforddi mewnol, mae Vevox hefyd yn cynnal gweminarau sy’n rhannu arfer gorau ac astudiaethau achos gan eu cleientiaid eraill.

Os na allwch ymuno â’n sesiynau, mae Vevox yn cynnal eu sesiynau eu hunain a gallwch gofrestru ar gyfer y rhain yma: Getting started with Vevox I Your guide to Unmissable Classes

Am gymorth pellach i ddefnyddio Vevox, edrychwch ar ein Deunyddiau cymorth.

Croeso i staff newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Distance Learner Banner

Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.

Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysguyn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.

Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.

Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:

  • udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
  • eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)

Cyflwyniad i’r arlwy e-ddysgu

Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard

Mae gan bob modiwl ei gwrs penodol ei hun yn Blackboard. Mae gan y modiwlau hyn gynnwys ar-lein, fel rhestrau darllen, a manylion staff addysgu. Dyma’r prif bwynt cyswllt am wybodaeth i’ch myfyrwyr ar unrhyw fodiwl, gan gynnwys mynediad at ddarlithoedd wedi’u recordio a chyflwyno aseiniadau. Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboardar gyfer pob modiwl.

Cipio Darlithoedd: Panopto

Wrth addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn ymwybodol y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr) yn defnyddio Panopto, ein meddalwedd Cipio Darlithoedd. Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd.

E-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr amlinellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol. Ar gyfer hyn rydym ni’n defnyddio’r teclynau e-gyflwyno Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu swyddogaeth paru testun awtomatig.

Offer Pleidleisio: Vevox

Vevox yw offer pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Gellir cynnal pleidleisiau mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfarfodydd, er mwyn creu sesiynau sy’n rhyngweithiol a chydweithredol, a cheir llawer o bosibiliadau gwahanol o ran defnydd.

Adnoddau a rhagor o gymorth

Mae gennym ni nifer o Ganllawiau a Chwestiynau Cyffredini’ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.

Hyfforddiant

Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal nifer o sesiynau hyfforddi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • sesiynau ymarferol i staff ymgyfarwyddo â gwahanol elfennau o’r amgylchedd dysgu rhithwir,
  • yr agenda Dysgu Gweithredol,
  • asesu ac adborth,
  • hygyrchedd,
  • sgiliau cyflwyno, a mwy.

Rydym ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhaglenni hyfforddi. Ceir manylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle drwy ein Tudalen Archebu Cwrs. Rydym ni’n cyflwyno rhai sesiynau ein hunain, tra bo eraill yn cael eu cyflwyno gan staff y brifysgol y mae eu haddysgu’n cynnwys arfer da yn y meysydd hynny. Edrychwch am (D&A) yn nheitl y sesiwn.

Digwyddiadau

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu FlynyddolCynadleddau Bach, Gwyliau Bach a Fforymau Academi. Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd gwych i gyfarfod â phobl o bob rhan o’r brifysgol i drafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu.

Rhaglenni

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu hefyd yn cynnal rhaglenni i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (TPAU) a’r Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCTHE) ar lefel Meistr a Chynllun Cymrodoriaeth (ARCHE).

SafeAssign

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i werthuso dewis arall yn lle Turnitin ar gyfer paru testun a marcio. Enw’r dewis arall hwn yw SafeAssign. Mae SafeAssign yn rhan o Blackboard.

Darllenwch yr wybodaeth isod a fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech gymryd rhan yn y gwerthusiad. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech wirfoddoli, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk

Beth yw SafeAssign?

Mae SafeAssign yn adnodd paru testun a ddarperir gan Blackboard. Mae wedi’i gynnwys yn ein prif drwydded Blackboard. Mae SafeAssign yn ddewis amgen i Turnitin.

Pam ydyn ni’n ei ystyried?

Roedd PA yn defnyddio SafeAssign cyn i ni ddechrau defnyddio Turnitin. Yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn defnyddio’r offer gorau sydd ar gael, hoffem werthuso a fyddai SafeAssign yn briodol ar gyfer paru testunau. Cymeradwywyd y gwerthusiad hwn gan y Pwyllgor Gwella Academaidd (Mai 2024).

Beth fydd yn wahanol os byddaf yn defnyddio SafeAssign yn lle Turnitin?

Bydd rhai agweddau ar farcio a chyflwyno wedi newid:

  • Offer newydd ar gyfer cyflwyno, marcio a pharu testun
  • Cronfa ddata wahanol o aseiniadau a ffynonellau ar gyfer paru testunau. Ni fydd y gronfa ddata hon yn cynnwys cyflwyniadau’r blynyddoedd blaenorol gan PA.

Byddwch yn gweld rhai nodweddion newydd:

  • Amlygu testun
  • Rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer cyflwyno a marcio
  • Gweld ac adalw cyflwyniadau blaenorol gan fyfyrwyr

Ac ni fydd rhai nodweddion ar gael:

  • Bydd angen i chi bostio marciau â llaw yn hytrach na gosod dyddiad ac amser rhyddhau. Fodd bynnag, bydd hyn yn rhoi ychydig mwy o reolaeth i chi ynghylch pryd y bydd marciau ar gael i fyfyrwyr.
  • Cyflwyno ar ran myfyrwyr
  • Diffodd marcio dienw ar gyfer myfyrwyr unigol
  • Ni ellir allforio cyfarwyddiadau a marciau cyflym o Turnitin, er bod offer tebyg ar gael yn Blackboard.

Mae manylion llawn nodweddion Turnitin a SafeAssign ar gael.

Y Gymraeg

Bydd holl elfennau’r gwerthusiad hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn cynnwys canllawiau cymorth, hyfforddiant, cefnogaeth a gwerthusiad. Mae SafeAssign ei hun yn cael ei gyfieithu yn rhan o ymrwymiad Anthology i’r Gymraeg. Mae testun Cymraeg wedi’i gynnwys yn y gwasanaeth paru testunau.

Beth fydd angen i mi ei wneud os ydw i’n gwirfoddoli?

Rydym yn argymell yn gryf bod modiwlau sydd wedi’u cynnwys yn y gwerthusiad yn defnyddio SafeAssign ar gyfer pob e-gyflwyniad yn ystod cyfnod y modiwl. Mae hyn yn helpu staff a myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â SafeAssign yn hytrach na chyfnewid rhwng offer cyflwyno a marcio lluosog.

Bydd yn rhaid i’r holl staff sy’n ymwneud â chyflwyno, marcio a chymedroli ar gyfer y modiwl ddefnyddio SafeAssign (nodwch fod hyn yn cynnwys arholwyr allanol). Os ydych yn gwirfoddoli modiwl sydd â nifer o staff yn marcio arno, gwnewch yn siŵr eu bod i gyd yn ymwybodol, a’u bod i gyd wedi derbyn hyfforddiant priodol (gweler isod). Byddwn yn rhoi gwybodaeth i bob arholwr allanol am y gwerthusiad.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu cyflwyniad prawf/ymarfer i’ch myfyrwyr cyn eu haseiniad cyntaf. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gwybod sut i ddefnyddio SafeAssign yn gywir. Byddwn yn darparu canllawiau a Chwestiynau Cyffredin i fyfyrwyr y gallwch gysylltu â nhw o ardal Asesu ac Adborth eich cwrs Blackboard.

Pa hyfforddiant a chefnogaeth fydd ar gael?

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau a Chwestiynau Cyffredin ar gyfer staff a myfyrwyr ar wefan yr UDDA. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar sut i greu mannau cyflwyno a sut i farcio. Bydd cefnogaeth lawn ar gael i staff a myfyrwyr drwy gydol y tymor.

Sut fydd hyn yn effeithio ar fy myfyrwyr?

Bydd y dull cyflwyno yn wahanol i fyfyrwyr; un fantais o ddefnyddio SafeAssign yw y bydd myfyrwyr yn cael derbynneb e-bost. Bydd myfyrwyr hefyd yn gweld eu hadborth mewn ffordd ychydig yn wahanol. Byddwn yn darparu cefnogaeth lawn i fyfyrwyr.

A allaf siarad â rhywun am hyn?

Cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk i gael gwybodaeth ac i drafod a yw SafeAssign yn briodol ar gyfer eich modiwl.

Cyfle i ddefnyddio Talis Elevate am ddim ar gyfer anodi cymdeithasol

Mae’n bleser gennym wahodd staff addysgu i ddefnyddio Talis Elevate am ddim am gyfnod prawf ar gyfer anodi cydweithredol. Fe’i cynlluniwyd i annog myfyrwyr i ymgysylltu â deunydd darllen cyrsiau a dysgu’n weithredol trwy anodi cydweithredol ac unigol. Mae’n cynnwys dadansoddeg fanwl i’ch helpu i gadw eich myfyrwyr ar y trywydd iawn.

Mae ein cyfnod prawf am ddim o’r offer ar waith ar hyn o bryd a bydd yn rhedeg tan fis Tachwedd 2023. Gan ddibynnu ar ymateb staff ac ystyriaethau cyllidebol, efallai y bydd modd i’r brifysgol gaffael Elevate i’w ddefnyddio am gyfnod hwy.

Cysylltwch â ni yn thestaff@aber.ac.uk i ymuno â’r cynllun prawf.

Dyma sgrinlun o brif dudalen Elevate i ddangos i chi sut mae’n edrych:

[Llun o wefan allanol ar gael yn Saesneg yn unig]

Diolch yn fawr,

Mary Jacob & Julie Hart

Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr unfed ar ddeg gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Dysgu sy’n Trawsnewid: Creu Cyfleoedd i Ddysgu ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 4 a dydd Iau 6 Gorffennaf 2023.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Galwad am Gynigion

Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein. Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 5 Mai 2023.

Hyfforddiant Blackboard Ultra

Blackboard Ultra icon

Yn y blogbost hwn byddwn yn sôn am yr hyfforddiant yr ydym wedi bod yn ei greu fel ein bod yn barod i ddechrau defnyddio Blackboard Ultra.

Byddwn yn cynnig sesiwn hyfforddi Hanfodion E-ddysgu:  Cyflwyniad i Blackboard Ultra. Byddwn yn cysylltu â’ch cyfarwyddwr dysgu ac addysgu yn eich adran i drefnu hyn, gan gynnig naill ai sesiwn ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Yn y sesiwn hon, byddwn sôn am yr hyn y mae angen i gydweithwyr ei wneud i gael eu modiwlau yn barod ar gyfer mis Medi. Prif ganlyniad y sesiwn hon yw y bydd cydweithwyr yn gallu sicrhau’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol. Mae’r sesiwn yn cynnwys rhai awgrymiadau ar gynllunio, trosolwg o’r elfennau dadansoddi sydd ar gael yn Blackboard Ultra, yn ogystal â sut i greu mannau cyflwyno Turnitin, dolenni i’ch rhestr ddarllen, a dolenni Panopto. Byddwn yn eich cyflwyno i’r offer rhyngweithiol mwyaf diweddar: Trafodaethau a Chyfnodolion. Yn ogystal â hyn, byddwn yn edrych ar y llif gwaith newydd ar gyfer creu Aseiniadau Blackboard, Profion Blackboard a’r Llyfr Graddau.

Os na allwch ddod i sesiwn eich adran, rydym hefyd yn cynnig sesiynau’n ganolog.   

 Yn ychwanegol at y sesiwn hon, rydym yn cynnal rhai Sesiynau E-ddysgu Uwch a drefnwyd yn ganolog:

  • E-ddysgu Uwch: Cyflwyniad i Drafodaethau
  • E-ddysgu Uwch: Cyflwyniad i Gyfnodolion
  • E-ddysgu Uwch: Cyflwyniad i Brofion
  • E-ddysgu Uwch: Cynllunio Dewisiadau Eraill yn lle Wici
  • E-ddysgu Uwch: Cynllunio Dewisiadau Eraill yn lle Blogiau

Caiff y sesiynau hyn eu hysbysebu ar ein safle archebu cyrsiau.

Os yw’r sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein, byddwch yn cael dolen Teams dros e-bost. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddechrau defnyddio Blackboard Ultra, cysylltwch â ni eddysgu@aber.ac.uk.  

Cynaliadwyedd yn y Cwricwlwm: Deunyddiau ar gael

Ar 9 Mawrth, croesawodd yr UDDA Dr Sarah Gretton ac Alice Jackson o Brifysgol Caerlŷr i gynnal sesiwn o’r enw How to use UN 2030 Agenda Sustainability Development Goals to frame the Curriculum.

Mae sleidiau a recordiadau o’r sesiwn ar gael nawr.

Yn y sesiwn, rhoddodd Sarah ac Alice drosolwg o sut y gwnaethant ymgorffori Nodau Datblygu Cynaliadwyedd ar draws yr holl gwricwla yng Nghaerlŷr, gyda 100% o’u rhaglenni yn cynnwys modiwl yn ymwneud â’r Nod Datblygu Cynaliadwy.

Rhoddwyd cyfle i gyfranogwyr yn y sesiwn fyfyrio ar fodiwlau y maent yn eu haddysgu ac ar a oes unrhyw rai o Nodau Datblygu Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig wedi’u mapio iddynt. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr hefyd a oedd myfyrwyr yn ymwybodol o’r mapio hwn ac a oedd wedi’i gipio yng nghanlyniadau dysgu’r modiwlau a’r rhaglenni.

Os oes gennych ddiddordeb mewn Cynaliadwyedd yn y Cwricwlwm yna mae targedau Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn fan cychwyn da.

Yn ogystal â’r Nodau Datblygu Cynaliadwyedd, roedd y cyflwynwyr hefyd yn cyfeirio at yr adnoddau canlynol:

Mae’r digwyddiad siaradwr allanol hwn yn adeiladu ar ein Cynhadledd Fer ar Gynaliadwyedd a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr.

Cynhelir ein digwyddiad siaradwr allanol nesaf ar 19 Ebrill, 14:00-15:30, lle bydd James Wood o Brifysgol Bangor yn cynnal sesiwn o’r enw Improving Feedback Literacy. Gallwch archebu’r sesiwn hwn drwy dudalen Archebu’r Cwrs.