Hoffem ni yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd ac a ymunodd â ni yn ein cynhadledd flynyddol dysgu ac addysgu.
Peidiwch â phoeni os na fu modd ichi fod yn bresennol – mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr holl recordiadau bellach ar gael ar dudalen rhaglen y Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu.
Os oeddech yn bresennol yn y gynhadledd eleni, byddai’n dda gennym glywed eich adborth. Llenwch Arolwg Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2022. Rydym yn dechrau ar ein paratoadau ar gyfer ein 11eg Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu a bydd eich adborth o gymorth inni sicrhau mai’r gynhadledd hon fydd yr orau eto!
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r 10fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, sydd ychydig dros fis i ffwrdd, 12-14 Medi.
Diben thema’r gynhadledd eleni, Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth: Dathlu 10 mlynedd o Gynadleddau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth, yw myfyrio ar yr ymrwymiad sydd gan staff PA i wella profiad dysgu myfyrwyr a chydnabod degawd o gynadleddau.
Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen lawn. Byddwn yn cael 2 ddiwrnod ar-lein (dydd Llun 12 Medi a dydd Mercher 14 Medi) ac 1 diwrnod wyneb yn wyneb (dydd Mawrth 13 Medi).
Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein hon.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu tri anerchiad allanol eleni:
Cyflwynir y prif anerchiad eleni gan Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol Westminster. Byddant yn edrych yn benodol ar waith partneriaethol rhwng staff a myfyrwyr sydd yn gymdeithasol gyfiawn.
Bydd ein hail siaradwr allanol, Alex Hope, yn edrych ar ffyrdd ystyrlon y gallwn ymgorffori cynaliadwyedd ar draws ein maes llafur.
Mae’n bleser gennym groesawu ein cydweithiwr, Ania Udalowska, yn ôl i gynnal sesiwn ar y prosiect Hyrwyddwyr Dysgu Digidol maen nhw’n ei gynnal ym Mhrifysgol Celfyddydau Llundain.
Mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol eleni gyda chynrychiolwyr o bob cyfadran. Yn ogystal â’n siaradwyr allanol, mae gennym bynciau gwych yn cael eu cyflwyno gan gydweithwyr:
Bord gron ar ddatblygu galluoedd digidol myfyrwyr gyda chydweithwyr o’r adrannau Busnes, Seicoleg ac Addysg
Uniondeb academaidd ar ôl Covid
Strategaethau ymgysylltiad myfyrwyr
Asesiadau dilys
Trawsieithu o fewn cyd-destun dwyieithog
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y gynhadledd, a chofiwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chigysylltu â ni.
Eleni yw’r 10fed flwyddyn y trefnir cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Er mwyn dathlu, rydym wedi rhoi ein holl ddeunydd o’r cynadleddau blaenorol ar we-ddalennau’r gynhadledd.
Rydym hefyd wedi cymryd golwg ar ein hystadegau ac wedi crynhoi nifer o ffeithiau i chi.
Ers y gynhadledd gyntaf yn 2013:
Bu dros 400 o wahanol aelodau o staff a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn bresennol yn y gynhadledd
Daeth mwy na 1000 o bobl i’r cynadleddau
Nifer y sesiynau yn ôl Adran:
Ein 10 prif adran academaidd a gyflwynodd yn y gynhadledd yw:
IBERS gyda 41 sesiwn
Addysg gyda 28 sesiwn
Dysgu Gydol Oes gyda 26 sesiwn
Seicoleg gyda 21 sesiwn
Cyfrifiadureg gyda 18 sesiwn
Ysgol Fusnes Aberystwyth gyda 17 sesiwn
Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyda 14 sesiwn
Ffiseg gyda 13 sesiwn
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear gyda 12 sesiwn
Y Gyfraith a Throseddeg gydag 11 sesiwn
Y rhan fwyaf o sesiynau gan gyflwynydd
Mae 3 unigolyn yn gydradd gyntaf am y nifer fwyaf o sesiynau a gyflwynwyd gan aelod o staff academaidd. Â chyfanswm o 8 sesiwn, mae Steve Atherton, Addysg, Antonia Ivaldi a Gareth Norris, Seicoleg. Yn gydradd yn y pedwerydd safle, gyda 7 sesiwn, mae Basil Wolf, IBERS a Maire Gorman o Ysgol Graddedigion a Ffiseg. Llongyfarchion a diolch iddyn nhw.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y ddegawd nesaf o gynadleddau. Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn y gynhadledd rhwng 12 a 14 Medi eleni, lle bydd cymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Archebwch eich lle ar-lein.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r prif siaradwyr gwadd i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol eleni (12-14 Medi 2022).
Bydd Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol San Steffan yn ymuno â ni’n rhithiol ar gyfer y prif anerchiad, Navigating power lines: Developing principles and practices to support socially just student : staff partnerships.
Yn yr anerchiad hwn, bydd Kyra, Jennifer, a Moonisah yn trafod eu prosiectau am bartneriaethau llwyddiannus rhwng staff a myfyrwyr.
Crynodeb o’r Sesiwn
I lawer ohonom mae prifysgolion ac ystafelloedd dosbarth yn safleoedd llawn posibiliadau (hooks, 1994) a buddsoddwn ni ynddynt ein gobeithion ar gyfer mathau gwahanol o ddyfodol i’r myfyrwyr ac i ninnau. Maent hefyd yn safleoedd o densiwn wrth i ni symud drwy gydberthnasau a dynameg grym sy’n gallu bod yn gymhleth. Mae’r ffordd yr ydym yn ‘byw’ addysg ar gyfer rhyddid wedi dod yn bwysicach byth yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda’r gwrthdystiadau Mae Bywydau Du o Bwys, a’r galwadau am ddad-drefedigaethu prifysgolion. Yn Power Lines: On the Subject of Feminist Alliances mae Aimee Carrillo Rowe yn gofyn ‘Sut ydym yn adeiladu llinellau grym a fydd yn ein cysylltu ni ag eraill mewn cyfiawnder, drwy gyfiawnder, ac ar gyfer cyfiawnder?’ (2008), t. 2). Mae ein hanerchiad yn ymdrin â’r cwestiwn hwn, gan ystyried sut rydym yn datblygu egwyddorion ac arferion i gynnal cydberthnasau partneriaethol rhwng myfyrwyr a staff sydd yn gymdeithasol gyfiawn. Rydym yn dadlau bod perthynas, os yw wedi’i dylunio ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, yn gallu creu awyrgylchoedd gwrth-hiliol a dad-drefedigaethol (Bell, 2018) sy’n dod yn safleoedd llawn posibiliadau. Gan ddefnyddio enghreifftiau o’n gwaith ym Mhrifysgol San Steffan, ymdriniwn â’r mannau lle y mae grym, cynghreiriaeth, cyfiawnder cymdeithasol a phartneriaeth yn dod ynghyd er mwyn ystyried strategaethau ar gyfer llunio rhaglenni lle mae cydberthnasau trawsnewidiol yn greiddiol. Rydym yn rhannu enghreifftiau o sut rydym wedi meithrin cydberthnasau, cyd-greu gwerthoedd rhaglenni, a’u rhoi ar waith mewn prosiectau partneriaethol. Er mwyn dangos sut y gallwn feithrin partneriaethau gyda llinellau grym sy’n ein cysylltu â chyfiawnder cymdeithasol, byddwn yn defnyddio enghraifft y Prosiect Pedagogies for Social Justice (https://blog.westminster.ac.uk/psj/). Mae’r prosiect hwn wedi ymrwymo i roi lle canolog i leisiau myfyrwyr o safbwynt ei werthoedd, ei gredoau a’i brofiadau, ac i ddefnyddio’r rhain i ddatgymalu mathau cyfoes o wladychiaeth mewn cwricwla, cydberthnasau ac ymchwil. Dadleuwn fod partneriaethau’n hanfodol i’r gwaith hwn wrth iddynt gyd-gynhyrchu gwybodaeth; datblygu ffyrdd newydd a beirniadol o ddeall disgyblaethau; ac ymgymryd â chydweithredu, arbrofi a deialog dros gyfnod estynedig. Gan ddeall mai prosesau heriol a chymhleth yw’r rhain, rydym yn cynnig y prif anerchiad hwn fel cam ymlaen yn eich teithiau’ch hun a thaith eich Prifysgol tuag at greu mannau dysgu cymdeithasol gyfiawn i fyfyrwyr a staff.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enw ein siaradwr gwadd cyntaf i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol am eleni (12-14 Medi 2022).
Bydd Dr Alex Hope yn ymuno â ni i sôn am wreiddio cynaliadwyedd yn ystyrlon yn y cwricwlwm.
Mae Dr Alex Hope yn Ddirprwy i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg) ac yn Athro Cyswllt Moeseg Busnes yn Ysgol Fusnes Newcastle, Prifysgol Northumbria. Mae’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol addysg ledled y gyfadran ac mae’n addysgu, ymchwilio ac ymgynghori mewn meysydd megis addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy, busnes cyfrifol, moeseg busnes, a’r nodau datblygu cynaliadwy. Ochr yn ochr â’i waith yn Ysgol Fusnes Newcastle, mae Dr Hope yn Gyd-Gadeirydd Gweithgor Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar Addysg Rheolaeth Gyfrifol (UN PRME) ac yn gyn Is-Gadeirydd UN PRME y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon. Mae’n aelod o Bwyllgor Dysgu ac Addysgu Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes (CABS) ac yn aelod o fwrdd Busnes yn y Gymuned y gogledd ddwyrain, rhwydwaith busnes cyfrifol Tywysog Cymru. Mae ganddo PhD mewn Datblygu Cynaliadwy, MA mewn Ymarfer Academaidd, a BSc (Anrh) mewn Rheoli Amgylcheddol.
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y degfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth ac fe’i cynhelir rhwng dydd Llun 12 Medi a dydd Mercher 14 Medi 2022.
Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein.
Galwad am Gynigion
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu. Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein. Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 27 Mai 2022.
Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 10fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Llun 12 Medi – Dydd Mercher 14 Medi.
Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth
Dathlu 10 mlynedd o Gynadleddau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth
Yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.
Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:
Addysgeg gynhwysol a chynaliadwy
Dilysrwydd asesu, asesu dilys, ac ymgysylltu ag adborth
Sgiliau sgaffaldio ar draws y cwricwlwm a thu hwnt
Datblygu cymuned Prifysgol Ddwyieithog
Gweithio gyda myfyrwyr fel partneriaid i ddylunio dysgu
Dysgu gweithredol yn y dirwedd addysg uwch heddiw
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.
Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.
Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 27 Mai 2022.
Anelwn at roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais erbyn 17 Mehefin 2022. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am udda@aber.ac.uk.
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r thema a’r agweddau ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni.
Dyddiad i’r Dyddiadur: cynhelir y gynhadledd eleni rhwng 12 a 14 Medi 2022. Y gobaith yw y byddwn yn gweld rhai o’r elfennau wyneb yn wyneb yr ydym wedi’u mwynhau yn y gorffennol yn dychwelyd.
Thema’r gynhadledd eleni yw
Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth
Dathlu 10 mlynedd o Gynadleddau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth
Gyda’r agweddau canlynol:
· Addysgeg gynhwysol a chynaliadwy
· Dilysrwydd asesu, asesu dilys, ac ymgysylltu ag adborth
· Sgiliau sgaffaldio ar draws y cwricwlwm a thu hwnt
· Datblygu cymuned Prifysgol Ddwyieithog
· Gweithio gyda myfyrwyr fel partneriaid i ddylunio dysgu
· Dysgu gweithredol yn y dirwedd addysg uwch heddiw
Mae’n anodd credu mai hon yw’n degfed gynhadledd flynyddol, gyda’r un cyntaf yn dechrau yn 2013. Bydd gennym lawer o uchafbwyntiau o’r deng mlynedd diwethaf. Cyn y gynhadledd, byddwn yn sicrhau bod ein harchif o ddeunyddiau ar gael felly cadwch lygad am y rheini.
Cadwch y dyddiad ac edrychwch allan am yr alwad am gynigion, siaradwyr gwadd, a chyhoeddiadau archebu ar ein blog a’n tudalennau gwe.
Cyn y gwyliau, cynhaliodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu eu cynhadledd fer olaf am y flwyddyn.
Defnyddio meddalwedd pleidleisio i gyfoethogi dysgu ac addysgu oedd thema’r gynhadledd. Os nad oedd modd ichi fod yno, mae recordiadau i’w cael ar we-ddalen y Gynhadledd Fer.
Ers i’r Brifysgol gaffael trwydded i feddalwedd pleidleisio Vevox yn gynharach eleni, gwelsom bod llu o gydweithwyr yn gwneud defnydd ohono. Yn semester 1, mae 136 o aelodau staff wedi cynnal 1873 pleidlais a chael 6485 o ymatebion gan fyfyrwyr.
Os hoffech wybod mwy am feddalwedd pleidleisio mae gennym we-ddalen Vevox sy’n rhoi’r holl ganllawiau. Arweiniodd Kate a Jim weminar i Vevox ynglŷn â’n dull o’i weithredu a dulliau cydweithwyr o’i ddefnyddio wrth addysgu. Fe welwch y recordiad ar YouTube, neu mae astudiaethau achos eraill i’w gweld ar wefan Vevox ei hun. Gallwch ddarllen am ddiweddariadau Vevox yn ein blogbost diweddar.
Dechreuodd y gynhadledd gyda sesiwn gan Dr Christina Stanley o Brifysgol Caer. Rhoddodd Christina olwg i ni ar y dulliau a ddefnyddiodd hi o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio i hybu hyder myfyrwyr a hyrwyddo cynhwysiant.
Nesaf, rhoddodd ein rheolwyr cleientiaid o Vevox, Joe Probert ac Izzy Whitley, ddiweddariad i ni ynglŷn â datblygiadau i feddalwedd pleidleisio Vevox sydd ar ddod a rhai gwelliannau i’r cynnyrch a fydd yn digwydd maes o law.
Yna bu cydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth yn disgrifio’u dulliau hwy o ddefnyddio pleidleisio wrth addysgu. Rhoddodd Dr Maire Gorman, sy’n dysgu yn Ysgol y Graddedigion a’r Adran Ffiseg, ddarlun cyffredinol i ni ynglŷn â’r defnydd y gellir ei wneud o’r feddalwedd pleidleisio wrth addysgu ystadegau, er mwyn hwyluso dysgu gan gymheiriaid a chreu cyswllt ymhlith a rhwng carfannau o gyfoedion.
Nesaf, dangosodd Bruce Fraser Wight, o’r Ysgol Fusnes, sut y bu’n defnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer gweithgarwch i dorri’r iâ. Roeddem yn ddiolchgar i gael clywed gan ddau o fyfyrwyr Bruce ynglŷn â’u profiad o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio.
Yn olaf, amlinellodd Dr Jennifer Wood o’r Adran Ieithoedd Modern sut y gellir defnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer dysgu iaith ac ennyn diddordeb myfyrwyr.
Os oes gennych ddulliau diddorol o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych ar gyfer blogbost – anfonwch e-bost atom udda@aber.ac.uk.
Un o fanteision cael tanysgrifiad sefydliad yw y gallwn ni fanteisio ar welliannau a diweddariadau.
Un o’r gwelliannau diweddar oedd y cwestiwn arddull cwmwl geiriau. Cyn hynny, dim ond un gair y gellid ei gyflwyno i’r cwestiwn arddull cwmwl geiriau, ond nawr gall cyfranogwyr ddarparu cyflwyniadau aml-air yn ogystal â geiriau unigol. Mae cymylau geiriau hefyd yn derbyn nodau nad ydynt yn Saesneg ac emojis.
Mae Vevox hefyd wedi bod yn gweithio ar hygyrchedd y cwestiwn cwmwl geiriau ac mae’r cynllun lliw wedi cael ei ehangu i wella ei arddangosiad.
Rydym yn falch iawn o’r modd y mae cydweithwyr yn defnyddio Vevox. Os ydych chi’n chwilio am syniadau am sut y gallwch ei ddefnyddio i addysgu, gall Kate a minnau gyflwyno gweminar ar ran Vevox. Yn ogystal â rhoi trosolwg o’n cyflwyniad o Vevox ers i ni ei brynu ym mis Mawrth, gwnaethom hefyd amlinellu rhai arferion nodedig gan gydweithwyr:
Gwerthuso Modiwlau (Dr Emmanual Isibor a Dr Chris Loftus, Cyfrifiadureg)
Cynhyrchu ystadegau (Dr Maire Gorman, Ffiseg ac Ysgol y Graddedigion)
Cwestiwn ac Ateb anhysbys (Dr Megan Talbot, y Gyfraith a Throseddeg)
Asesu gan gymheiriaid a chysylltiadau geiriau (Dr Michael Toomey, Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
Cwestiwn ac ateb Anghydamserol (Dr Victoria Wright, Seicoleg)
Pin ar luniau ac effaith sesiwn (Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu)
Diolch i’r cydweithwyr uchod am rannu eu harferion a’u profiadau â ni. Mae recordiad o’r weminar ar gael ar YouTube.
Ddydd Iau cynhelir ein Cynhadledd Fer sy’n edrych ar sut y gellir defnyddio meddalwedd pleidleisio i ddatblygu gweithgareddau dysgu ac addysgu. Mae modd archebu lle ar y gynhadledd o hyd. Rydym yn ddiolchgar y bydd Joe ac Izzy o Vevox yn ymuno â ni, yn ogystal â’n siaradwr allanol, Dr Christina Stanley o Brifysgol Caer.
Mae canllawiau Vevox ar gael ar ein tudalennau gwe. Os nad ydych wedi defnyddio Vevox o’r blaen cofrestrwch ar gyfer y sesiynau ‘Zero to Hero’ a gynhelir bob dydd Mawrth am 3yp. Byddwn hefyd yn ail-gynnal ein sesiwn hyfforddi Designing Teaching Activities using Vevox ar 16 Mawrth 2022 am 10yb. Gallwch gofrestru drwy ein tudalen Archebu Cyrsiau.