Y 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol:  Cyhoeddi’r Thema

Rydym yn falch o gyhoeddi thema’r 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a gynhelir rhwng 8 a 10 Gorffennaf 2025.

Y thema yw:  “Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr:  Addasu, Ymroi, a Ffynnu”.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Dylunio asesiadau y gellir eu haddasu
  • Ymroddiad myfyrwyr a dysgu annibynnol
  • Meithrin cymuned  
  • Technolegau i wella dysgu
  • Dysgu ar-lein

Bob blwyddyn, rydym yn siarad â’n grŵp rhanddeiliaid ac aelodau eraill o’r Brifysgol i benderfynu ar bynciau a fydd yn ddefnyddiol i’n cydweithwyr. 

Mae’r maes cyntaf, sef dylunio asesiadau y gellir eu haddasu, yn dwyn ynghyd ddarn o waith gan gydweithwyr yn y Gwasanaethau i Fyfyrwyr, sy’n amlygu dulliau hyblyg o ddylunio asesiadau, asesiadau â sawl fformat, a dylunio asesu dilys.

Mae ymroddiad myfyrwyr a meithrin dysgu annibynnol yn parhau i fod yn her allweddol i gydweithwyr.  Yn y maes hwn, mae gennym ddiddordeb mewn strategaethau ar gyfer meithrin annibyniaeth wrth ddysgu, ffyrdd y gellir sgaffaldio dysgu, ac ymgorffori sgiliau ar gyfer dysgu a’r gweithle i raddedigion. 

Mae ein trydydd maes, sef meithrin cymuned, yn ceisio tynnu sylw at les yn y cwricwlwm gan ystyried dulliau o weithio sydd yn fwy ystyriol o drawma, sut mae cymunedau dysgu ar-lein yn cael eu creu, a defnyddio dadansoddeg dysgu.  Mae addysgeg gynhwysol yn ganolog i’r holl themâu hyn. 

Yn y maes technolegau i wella dysgu, bydd gennym ddiddordeb i glywed am astudiaethau achos cadarnhaol ac am ffyrdd o ymgorffori DA yn yr ystafell ddosbarth, am ffyrdd uwch a rhagorol o ddefnyddio Blackboard Ultra, ac am arferion da mewn addysgu yn yr oes ddigidol. 

Mae ein maes olaf, sef dysgu ar-lein, yn cyfeirio at waith Prosiect Dysgu Aber Ar-lein mewn partneriaeth â HEP, yn pontio dysgu ar y campws i ddysgu ar-lein, a strategaethau i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu ar-lein.

Bydd yr Alwad am Gynigion yn agor yn fuan a chyfle i archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk

Cynhadledd Fer: Cyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol

Mae’r Grŵp Addysg Ddigidol mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn falch o gyhoeddi’r thema ar gyfer ein Cynhadledd Fer nesaf.

Gan adeiladu ar lwyddiant Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol y llynedd, byddwn yn ailedrych ar y pwnc cyflogadwyedd gyda’r thema Cyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol.   

Bydd y gynhadledd fer yn cael ei chynnal ar-lein fore Mawrth 8 Ebrill.

Bydd y rhestr lawn yn cael ei chadarnhau maes o law ond rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn lansio eu pecyn cymorth newydd ar gyfer ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm.

Mae modd archebu ar gyfer y digwyddiad nawr. Gallwch archebu’ch lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Mini Conference Logo

Cadwch y Dyddiad: Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 12fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 8 Gorffennaf hyd ddydd Iau 10 Gorffennaf 2025.

Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.

Cynhadledd Fer: Arfer Nodedig Blackboard: Deunyddiau ar gael

Accessibility icons showing 3 images: a checklist, a computer workstation, an image

Blwyddyn Newydd Dda!

Ddydd Mercher 18 Rhagfyr, cynhaliodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Gynhadledd Fer ar-lein yn edrych ar Arfer Nodedig Blackboard. Gyda thros 40 o fynychwyr, a 5 sesiwn, hon oedd un o’n cynadleddau byr mwyaf i ni ei chynnal.

Mae deunyddiau’r digwyddiad bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.

Roeddem yn falch iawn o groesawu Carol Chatten o Brifysgol Edge Hill a Robert Farmer o Brifysgol Northampton i arddangos eu cyrsiau arobryn.

Mae cwrs Carol wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n cwblhau eu lleoliadau. Roedd cwrs Robert yn cyflwyno israddedigion i sgiliau meddwl beirniadol. Mae’r ddau gwrs wedi ennill Gwobr Rhaglen Cwrs Nodedig Blackboard.

Ymunodd Dom Gore a Richard Gibbons o Anthology (Blackboard) â ni. Fe wnaethant roi trosolwg o’r datblygiadau newydd sydd ar y gweill yn Blackboard, yn ogystal â chyflwyno mynychwyr i’r offer AI Conversations newydd. Rydym wedi galluogi AI Conversations ac wedi diweddaru ein hyfforddiant Cynorthwyydd Dylunio DA Blackboard. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein blog. 

Yn olaf, gwnaeth Lauren Harvey o Adran y Gyfraith a Throseddeg, a Panna Karlinger o’r Ysgol Addysg ein tywys drwy eu cyrsiau nodedig. Cyflwynodd y ddwy gais i Wobr Cwrs Nodedig y llynedd. Y dyddiad cau ar gyfer 2025 yw dydd Gwener 31 Ionawr 2025. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein blog.

Cynhadledd Fer Ar-lein: Presenoldeb Blackboard Eithriadol

Distance Learner Banner

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ei digwyddiad olaf o’r flwyddyn.

Ddydd Mercher 18 Rhagfyr (10:00-14:30), byddwn yn cynnal Cynhadledd Fer ar-lein yn edrych ar Bresenoldeb Blackboard Eithriadol.

Rydym yn falch iawn o gael dau gyflwynydd allanol yn ymuno â ni.

  • Daw Carol Chatten o Brifysgol Edge Hill a bydd yn arddangos eu Cwrs Meddygol ac Addysg. Enillodd y cwrs hwn wobr ECP Blackboard yn ddiweddar.
  • Bydd Robert Farmer o Brifysgol Northampton yn rhannu eu cwrs ar Feddwl yn Feirniadol a enillodd wobr ECP Blackboard hefyd.

Hefyd yn ymuno â ni i rannu eu cyrsiau buddugol mae Panna Karlinger o’r Ysgol Addysg a Lauren Harvey o Adran y Gyfraith a Throseddeg. Cymerodd y ddwy ran yn ein Gwobr Cwrs Eithriadol mewnol y llynedd.

Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli mynychwyr ac yn rhoi syniadau i gydweithwyr ynghylch sut y gallant ddatblygu eu cyrsiau cyn Semester 2.

Rydym hefyd yn defnyddio’r digwyddiad hwn fel sbardun i ddechrau meddwl am well presenoldeb ar Blackboard.

Ac yn olaf, byddwn yn rhannu’r offer Cynorthwyydd Dylunio DA diweddaraf yr ydym yn bwriadu ei alluogi ym mis Ionawr: AI Conversations. Mae hyn yn adeiladu ar yr offer Cynorthwyydd Dylunio DA eraill yr ydym eisoes wedi’u galluogi yn Blackboard.

Gall cydweithwyr archebu lle ar gyfer y digwyddiad hanner diwrnod hwn drwy’r system archebu ar-lein a bydd gwahoddiad Teams yn cael ei anfon allan.

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Deunyddiau’r 12fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ar gael nawr

Rhwng 10 a 12 Medi, cynhaliodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yr 12fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol.

Mae deunyddiau’r gynhadledd bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.

Hoffem ddiolch i’n holl gyfranwyr a’r rhai oedd yn bresennol. Roedd y sesiynau o ansawdd mor uchel.

Rydym eisoes yn cynllunio ein 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a gynhelir ym mis Gorffennaf 2025 (dyddiad i’w gadarnhau).

Gobeithiwn eich gweld mewn digwyddiad sydd i ddod.

Croeso i staff newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Distance Learner Banner

Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.

Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysguyn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.

Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.

Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:

  • udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
  • eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)

Cyflwyniad i’r arlwy e-ddysgu

Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard

Mae gan bob modiwl ei gwrs penodol ei hun yn Blackboard. Mae gan y modiwlau hyn gynnwys ar-lein, fel rhestrau darllen, a manylion staff addysgu. Dyma’r prif bwynt cyswllt am wybodaeth i’ch myfyrwyr ar unrhyw fodiwl, gan gynnwys mynediad at ddarlithoedd wedi’u recordio a chyflwyno aseiniadau. Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboardar gyfer pob modiwl.

Cipio Darlithoedd: Panopto

Wrth addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn ymwybodol y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr) yn defnyddio Panopto, ein meddalwedd Cipio Darlithoedd. Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd.

E-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr amlinellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol. Ar gyfer hyn rydym ni’n defnyddio’r teclynau e-gyflwyno Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu swyddogaeth paru testun awtomatig.

Offer Pleidleisio: Vevox

Vevox yw offer pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Gellir cynnal pleidleisiau mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfarfodydd, er mwyn creu sesiynau sy’n rhyngweithiol a chydweithredol, a cheir llawer o bosibiliadau gwahanol o ran defnydd.

Adnoddau a rhagor o gymorth

Mae gennym ni nifer o Ganllawiau a Chwestiynau Cyffredini’ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.

Hyfforddiant

Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal nifer o sesiynau hyfforddi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • sesiynau ymarferol i staff ymgyfarwyddo â gwahanol elfennau o’r amgylchedd dysgu rhithwir,
  • yr agenda Dysgu Gweithredol,
  • asesu ac adborth,
  • hygyrchedd,
  • sgiliau cyflwyno, a mwy.

Rydym ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhaglenni hyfforddi. Ceir manylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle drwy ein Tudalen Archebu Cwrs. Rydym ni’n cyflwyno rhai sesiynau ein hunain, tra bo eraill yn cael eu cyflwyno gan staff y brifysgol y mae eu haddysgu’n cynnwys arfer da yn y meysydd hynny. Edrychwch am (D&A) yn nheitl y sesiwn.

Digwyddiadau

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu FlynyddolCynadleddau Bach, Gwyliau Bach a Fforymau Academi. Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd gwych i gyfarfod â phobl o bob rhan o’r brifysgol i drafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu.

Rhaglenni

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu hefyd yn cynnal rhaglenni i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (TPAU) a’r Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCTHE) ar lefel Meistr a Chynllun Cymrodoriaeth (ARCHE).

Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol:  Nodyn Atgoffa

Erbyn hyn dim ond ychydig dros fis sydd tan ein cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol, a gynhelir rhwng 10 a 12 Medi 2024.

Gallwch archebu’ch lle ar-lein.

Mae llawer o uchafbwyntiau i’r rhaglen eleni ac rydym yn ddiolchgar i’n cydweithwyr am rannu eu harferion dysgu arloesol â ni.

Mae’r gynhadledd yn dechrau gyda phrif anerchiad a gweithdy a roddir ar-lein gan yr Athro Lisa Taylor (Prifysgol Dwyrain Anglia). Bydd yr Athro Taylor yn rhoi cyflwyniad ar sut y gellir ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm, cyn symud ymlaen i sôn am ei gwaith arloesol ar leoliadau gwaith ar-lein.

Yn y gweithdy wedyn, bydd y cynadleddwyr yn cael cyfle i gymhwyso’r egwyddorion hyn i’w disgyblaethau eu hunain. Mae’r crynodeb gan yr Athro Taylor yn darparu rhagor o wybodaeth.

Er mwyn adeiladu ar sylfaen sesiwn yr Athro Taylor, bydd staff o bob rhan o’r Brifysgol yn rhannu eu dulliau o wreiddio cyflogadwyedd yn y cwricwlwm, gan arwain at weithdy a gynhelir gan Bev Herring ar ddylunio’r cwricwlwm ar gyfer datblygu cyflogadwyedd.

Yn ogystal â chyflogadwyedd, mae gennym sesiynau ar:

  • Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn Dysgu ac Addysgu
  • Dad-drefedigaethu’r cwricwlwm
  • Niwroamrywiaeth mewn Addysg
  • Dulliau o ddysgu mewn tîm
  • Gwella’r cyswllt â’r myfyrwyr
  • Dysgu drwy efelychu
  • Dysgu sy’n ystyriol o drawma

A llawer mwy.

Gallwch weld y rhaglen lawn ac archebu’ch lle ar-lein. 

Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Rhaglen Cyhoeddi

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r 12fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, 10-12 Medi.

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen lawn. 

Byddwn yn cael 1 diwrnod ar-lein (dydd Mawrth 10 Medi) a 2 ddiwrnod wyneb yn wyneb (dydd Mercher 11 Medi a dydd Iau 12 Medi).

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd ar-lein. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi gysylltu â ni. 

Cyhoeddi Prif Siaradwr: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Yr Athro Lisa Taylor

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r prif siaradwr yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni.

Bydd yr Athro Lisa Taylor o Brifysgol Dwyrain Anglia yn ymuno â ni i roi cyflwyniad am gyflogadwyedd yn y cwricwlwm. Mae Lisa yn Athro Cyflogadwyedd ac Arloesedd Dysgu ac yn Ddeon Cyswllt ar gyfer Cyflogadwyedd yn y Gyfadran Meddygaeth ac Iechyd.

Mae gan Lisa gefndir fel Therapydd Galwedigaethol gyda deng mlynedd o brofiad clinigol yn y GIG a chwblhaodd raddau MSc a PhD.

Dros y deuddeng mlynedd diwethaf mae Lisa wedi gweithio ym maes addysg uwch fel darlithydd yn nhîm academaidd Therapi Galwedigaethol Prifysgol Dwyrain Anglia. Mae Lisa wedi dal rolau arweinyddiaeth cyflogadwyedd ochr yn ochr â’i rôl darlithio am un ar ddeg o’r blynyddoedd hynny, i ddechrau fel cyfarwyddwr cyflogadwyedd Ysgol y Gwyddorau Iechyd ac yna fel Deon Cyswllt ar gyfer Cyflogadwyedd y Gyfadran Meddygaeth a Gwyddorau Iechyd.

Mae Lisa yn angerddol am gyflogadwyedd ac arloesiadau dysgu, gan sicrhau’r effaith fwyaf posibl ar fyfyrwyr/dysgwyr, cydweithwyr academaidd a phartneriaid allanol. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol Advance HE (NTF) i Lisa yn seiliedig ar ei gallu parhaus i hwyluso a dylanwadu ar ddysgu o safon i fyfyrwyr.

Mae Lisa wedi helpu i ddatblygu’r agenda cyflogadwyedd ehangach trwy gefnogi ac ymgysylltu â chydweithwyr yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan sicrhau effaith ar ganlyniadau a phrofiad dysgu myfyrwyr, trwy gyfrwng addysgu, mentrau strategol ac arloesiadau dysgu. Mae’r dyfarniad NTF yn gosod Lisa fel arweinydd sector ym maes cyflogadwyedd ac arloesiadau dysgu. Mae Lisa yn cyhoeddi ac yn cyflwyno’n eang, gan helpu i lywio’r sgwrs genedlaethol am gyflogadwyedd. 

Un o arloesiadau dysgu Lisa yw’r Peer Enhanced e-Placement (PEEP). Mae Lisa wedi ennill sawl gwobr am y PEEP arloesol ac mae wedi cyhoeddi llyfr yn seiliedig ar ei egwyddorion dylunio a chyflawni, Constructing Online Work-Based Learning Placements: Approaches to Pedagogy Design, Planning and Implementation. Bydd y PEEP yn cael ei gyflwyno yn rhan o ddarlith Lisa.

Cynhelir y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol rhwng 10 a 12 Medi. Mae croeso i gydweithwyr gyflwyno cynigion ac mae modd archebu lle nawr.