Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol:  Cyhoeddi Siaradwyr Gwadd: Yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS a Beth Brooks

Yn dilyn cyhoeddi prif siaradwr ein cynhadledd, rydym yn falch o gadarnhau ein siaradwyr gwadd nesaf.

Ddydd Mawrth 8 Gorffennaf, bydd yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS a Beth Brooks o Brifysgol Caerwysg yn ymuno â ni i arddangos eu gwaith arloesol ym maes symudedd cymdeithasol yn Ne Orllewin Lloegr.

Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor a byddwn yn cyhoeddi’r rhestr lawn o siaradwyr maes o law.

Yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS yw’r Athro Symudedd Cymdeithasol cyntaf ym Mhrydain, ac mae’n gweithio ym Mhrifysgol Caerwysg. Fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes symudedd cymdeithasol, mae ei waith yn ymroddedig i wella rhagolygon pobl ifanc o gefndiroedd lle bo adnoddau’n brin. Cyn hynny roedd Lee yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sutton ac yn ymddiriedolwr y Sefydliad Gwaddol Addysg. Mae’n canolbwyntio ar effaith ymchwil, gan gydweithio’n agos â Llywodraethau, llunwyr polisi yn ogystal ag ysgolion, prifysgolion a chyflogwyr ledled y byd, ac mae’n hyrwyddo ‘dull tegwch’ mewn ysgolion yn seiliedig ar yr egwyddorion a drafodir yn ei lyfr, Equity in Education.

Mae Beth Brooks yn Swyddog Gweithredol gyda Chomisiwn Symudedd Cymdeithasol De-orllewin Lloegr, lle mae’n arwain prosiectau amrywiol yn ymwneud â symudedd cymdeithasol. Cyn ymuno â’r Comisiwn, bu Beth yn gweithio ym maes Ehangu Cyfranogiad ym Mhrifysgol Caerwysg, ac fel athrawes ysgol uwchradd yn Ne Orllewin Lloegr. Mae ganddi gymhwyster TAR gyda rhagoriaeth o Brifysgol Caerwysg.

Mae eu Gwasanaeth Tiwtora dan arweiniad Prifysgolion yn fodel tiwtora cynaliadwy, cost isel, sy’n gallu tyfu yn unol â’r anghenion, ac mae’n ddull ansawdd uchel o diwtora sydd â’r potensial i drawsnewid bywydau miloedd o bobl ifanc ledled Prydain. Gan ddefnyddio rhaglenni, mae tiwtoriaid israddedig yn rhoi hwb i sgiliau allweddol disgyblion ysgol, gan ennill profiad gwaith a chredydau tuag at eu gradd, a meithrin cysylltiadau amhrisiadwy gyda disgyblion sy’n syrthio ar ei hôl hi yn y dosbarth, tra maent yn ystyried gyrfa mewn addysgu. Yn wahanol i raglenni eraill, mae’n rhad ac am ddim i ysgolion – sy’n golygu bod pawb ar eu hennill trwy’r cynllun hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler eu gwefan.

Deunyddiau ar gael: Cynhadledd Fer: Cyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol

Ddydd Mawrth 8 Ebrill, fe wnaethom gyd-gynnal ein Cynhadledd Fer ddiweddaraf gyda chydweithwyr o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Fe wnaethom groesawu 50 o fynychwyr o bob rhan o’r Brifysgol a chawsom 5 sesiwn.

Mae deunyddiau’r gynhadledd bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.

Dechreuodd y gynhadledd gyda chroeso gan yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr. Yn dilyn anerchiad Anwen, rhoddodd Dr Aranee Manhoaran o King’s College Llundain y prif anerchiad. Yn ei phrif anerchiad, nododd Aranee fframwaith Cyflogadwyedd y gellir ei gymhwyso i’r cwricwlwm. Yn ogystal â hyn, rhoddwyd strategaethau ynglŷn â sut i fapio’r fframwaith hwn ar y cwricwlwm i adolygu dulliau asesu.

Rhoddodd Dr Saffron Passam o’r adran Seicoleg gyflwyniad a oedd yn canolbwyntio ar Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant fel sgil cyflogadwyedd hanfodol.

Rhoddodd Dr Louise Ritchie o Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu drosolwg o’r modd y mae’r Cwricwlwm Drama a Theatr yn gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i wella amlygrwydd a chanlyniadau graddedigion.

Amlinellodd Annabel Latham o’r Ysgol Addysg gynllun asesu arloesol gyda’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Roedd yr asesiad yn cynnwys gweithdai, creu posteri, a thrafodaeth ar ôl yr aseiniad.

Yn olaf, rhoddodd Bev Herring a Jo Hiatt o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd grynodeb o ddigwyddiad y bore a chynhaliwyd cyflwyniad rhyngweithiol i gydweithwyr i fyfyrio ar ba mor gyfforddus yr oeddent yn teimlo wrth integreiddio sgiliau cyflogadwyedd yn eu cwricwlwm.

Diolch yn fawr i’n cyflwynwyr am sesiynau hynod ddiddorol ac i’r rhai a fynychodd.

Edrychwn ymlaen at ein Cynhadledd Fer nesaf. Yn y cyfamser, gall cydweithwyr archebu lle ar y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol sy’n cael ei chynnal rhwng 8 a 10 Gorffennaf.

Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Cyhoeddi’r Prif Siaradwr

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein prif siaradwr ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni. Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor. 

Bydd Dr Neil Currant yn ymuno â ni ar gyfer prif gyflwyniad wyneb-yn-wyneb a gweithdy dosbarth meistr ar ail ddiwrnod y gynhadledd, ddydd Mercher 9 Gorffennaf.

Bydd Neil yn trafod rôl bwysig asesu tosturiol, perthyn, ac arferion asesu cynhwysol.

Yn y gweithdy, bydd cyfle i gydweithwyr fyfyrio ar eu harferion asesu eu hunain a’r ffyrdd y gallent eu hymgorffori a’u haddasu yn seiliedig ar gyflwyniad Neil. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar y gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud yn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. 

Gweler bywgraffiad y siaradwr a dolenni at weithiau a phrosiectau dethol isod:

Mae Dr Neil Currant yn Uwch Ddatblygwr Addysgol ym Mhrifysgol Swydd Bedford. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Datblygu Addysgol ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol. Mae Neil wedi bod yn cefnogi arferion addysgu, dysgu ac asesu ym maes addysg uwch ers ugain mlynedd, ac mae ganddo arbenigedd mewn cynhwysiant ac asesu.

Mae Neil wedi bod yn rhan o brosiectau ymchwil a ariennir gan JISC ar ddefnyddio technoleg dysgu, prosiect a ariennir gan AU Ymlaen ar ddinasyddiaeth fyd-eang, ymchwil sefydliadol ar fylchau dyfarnu a phrosiectau a ariennir gan ASA ar berthyn a thosturi.

Mae Neil yn adolygydd ac yn achredwr ar gyfer AU Ymlaen. Cyd-sefydlodd Neil y Rhwydwaith Asesu Tosturiol mewn Addysg Uwch, ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i arferion asesu sy’n gysylltiedig â thosturi, effaith affeithiol adborth, a pheidio â defnyddio graddau.

Ymchwil perthyn – Teaching Insights journal.

Rethinking assessment? Research into the affective impact of higher education grading

Prosiect perthyn – https://www.qaa.ac.uk/membership/collaborative-enhancement-projects/assessment/belonging-through-assessment-pipelines-of-compassion

Prosiect Asesu Tosturiol – https://www.qaa.ac.uk/membership/collaborative-enhancement-projects/assessment/compassionate-assessment-in-higher-education

Byddwn yn cyhoeddi siaradwyr allanol pellach maes o law.

Galw am Gynigion

Mae ein Cais am Gynigion yn dal ar agor, ac yn cau ar 8 Ebrill. Rydym yn croesawu cynigion sy’n ymwneud â themâu’r gynhadledd, ond hefyd y rhai sy’n arddangos yr arferion addysgu rhagorol sy’n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyfnod Archebu ar agor

Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor. Cwblhewch ein harolwg ar-lein i archebu eich lle.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk

Cynhadledd Fer: Cyhoeddi’r Rhaglen

Rydym yn falch o gyhoeddi’r rhaglen ar gyfer ein Cynhadledd Fer ar-lein a gynhelir cyn hir: Cyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol

Fe’i cynhelir rhwng 09:15 a 13:00 ar 8 Ebrill, gyda chydweithrediad ein cydweithwyr yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd. Gellir archebu lleoedd ar-lein.

Byddwn yn dechrau’r gynhadledd gyda chroeso gan yr Athro Anwen Jones am 09:15 cyn symud ymlaen i anerchiad cyweirnod gan Dr Aranee Manoharan. Bydd Dr Aranee Manoharan yn ymuno â ni o Goleg y Brenin, Llundain.  Cewch ragor o wybodaeth am waith arloesol Dr Manoharan ar ein blog.

Bydd Dr Saffron Passam o Seicoleg yn arwain gweithdy rhyngweithiol “Future-Proofing Graduates: Embedding Equality, Diversity, and Inclusion as a Core Employability Skill” rhwng 10:20 a 10:50.

Bydd Dr Louise Ritchie o Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn arwain sesiwn ar Staging Success: Integrating Employability in the Drama and Theatre Curriculum (Part 2) rhwng 10:50 a 11:20.

Ar ôl egwyl, bydd Annabel Latham o’r Ysgol Addysg yn ymuno â ni ar gyfer eu sesiwn ‘Professional Partnerships in HE: a discussion around the co-creation of assessment to embed employability in the curriculum rhwng 11:35 a 12:05.

Bydd y digwyddiad yn dod i ben gydag anerchiad gyda Bev Herring a Jo Hiatt o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a fydd yn rhoi llwyfan i’r ymdrechion a’r cynlluniau cydweithredol sydd ar waith i wella’r modd y mae cyflogadwyedd yn cael ei ymgorffori ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gobeithio y gallwch ddod i’r digwyddiad arbennig hwn.

Mae’r rhaglen lawn, gan gynnwys crynodebau o’r sesiynau, ar gael ar ein tudalennau ar y we.

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr trydydd ar ddeg gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.

Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr:  Addasu, Ymroi, a Ffynnu ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 8 a dydd Iau 10 Gorffennaf 2025.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Cyhoeddi Prif Siaradwr y Gynhadledd Fer:  Dr Aranee Manoharan 

Cwricwlwm Cynhwysol 2.0:  Pontio Nodau Cynhwysiant a Chyflogadwyedd drwy’r Cwricwlwm

Dr Aranee Manoharan

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein prif siaradwr ar gyfer ein cynhadledd fer a gynhelir ddydd Mawrth 8 Ebrill.

Bydd Dr Aranee Manoharan o Goleg y Brenin Llundain yn ymuno â ni.

Gweler isod drosolwg o anerchiad Aranee a bywgraffiad.  Gallwch archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd fer ar-lein a byddwn yn cyhoeddi’r rhaglen lawn maes o law. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r digwyddiad hwn, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk

Yn yr anerchiad hwn, bydd Aranee yn cyflwyno dull o gynllunio cwricwlwm cynhwysol sy’n rhoi cymorth i bob myfyriwr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnynt i lywio’n llwyddiannus drwy anawsterau’r unfed ganrif ar hugain sy’n gyfnod cyfnewidiol, ansicr, cymhleth ac amwys. Bydd y cyflwyniad yn edrych ar ddatblygu cwricwlwm cynhwysol o ran yr egwyddorion allweddol sy’n cefnogi canlyniadau myfyrwyr a graddedigion, cyn rhannu sut y gellir integreiddio cyflogadwyedd yn effeithiol drwy addysgu pynciau a dysgu – gan gynnwys defnyddio dull rhaglennol o gynllunio’r cwricwlwm ac addysgeg ac asesiadau uchel eu heffaith.  Bydd y sesiwn yn rhannu ystod o offer y mae Aranee wedi’u datblygu yn ei gwaith gyda thimau gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yn y maes hwn; gellir hefyd ddod o hyd i bob un ohonynt yn y pecyn cymorth a ariennir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Datblygu Cyflogadwyedd Cynhwysol trwy’r Cwricwlwm a arweiniwyd ganddi hi â chydweithwyr ym Mhrifysgol Dinas Llundain a Phrifysgol Llundain. 

Dr Aranee Manoharan, PhD, SFHEA, FRSA

Mae Aranee yn Uwch Gyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Gyrfaoedd a Cyflogadwyedd yng Ngholeg y Brenin, Llundain.  Gyda phrofiad ar draws meysydd addysgu, profiad myfyrwyr, a datblygiad addysgol, yn ogystal â Chydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant a llywodraethu, ei maes arbenigol yw gwella canlyniadau myfyrwyr trwy ystyried eu cylch bywyd cyfan fel myfyrwyr.  Yn Uwch Gymrawd AU Ymlaen, mae’n arbenigo mewn dulliau cynhwysol o gynllunio’r cwricwlwm i gefnogi canlyniadau myfyrwyr a graddedigion ac mae ganddi brofiad sylweddol o weithio gyda thimau academaidd i hwyluso dysgu yn y byd go iawn, gan ddefnyddio addysgeg ac asesiadau uchel eu heffaith, a gyflwynir mewn cydweithrediad â phartneriaid cymunedol a diwydiant.

Yn eiriolwr ymroddedig dros degwch a chynhwysiant, mae Aranee yn gwasanaethu ar nifer o grwpiau cynghori, gan gynnwys y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr (ISE); Rhwydwaith Bwlch Dyfarnu HUBS y Gymdeithas Fioleg Frenhinol; Pwyllgor Llywodraethu Siarter Cydraddoldeb Hil AU Ymlaen; ac fel Cyfarwyddwr Bwrdd Cymdeithas Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd i Raddedigion, lle mae’n arwain y portffolio ar symudedd cymdeithasol, ehangu cyfranogiad, ac anghydraddoldeb rhanbarthol.  Aranee hefyd yw Cyfarwyddwr y cwmni  AM Coaching & Consulting, cwmni sy’n cynghori a rhoi cymorth i sefydliadau er mwyn iddynt sefydlu diwylliannau gweithio, dysgu ac ymchwil cynhwysol.

Galw am Gynigion: Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2025

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 13eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Mawrth 8 – Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Dyma’r thema ar gyfer y gynhadledd eleni:

Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr:  Addasu, Ymroi, a Ffynnu

Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:

  • Dylunio asesiadau y gellir eu haddasu
  • Ymroddiad myfyrwyr a dysgu annibynnol
  • Meithrin cymuned  
  • Technolegau i wella dysgu
  • Dysgu ar-lein

Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.

Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.

Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 8 Ebrill 2025. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r eddygsu@aber.ac.uk.

Y 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol:  Cyhoeddi’r Thema

Rydym yn falch o gyhoeddi thema’r 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a gynhelir rhwng 8 a 10 Gorffennaf 2025.

Y thema yw:  “Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr:  Addasu, Ymroi, a Ffynnu”.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Dylunio asesiadau y gellir eu haddasu
  • Ymroddiad myfyrwyr a dysgu annibynnol
  • Meithrin cymuned  
  • Technolegau i wella dysgu
  • Dysgu ar-lein

Bob blwyddyn, rydym yn siarad â’n grŵp rhanddeiliaid ac aelodau eraill o’r Brifysgol i benderfynu ar bynciau a fydd yn ddefnyddiol i’n cydweithwyr. 

Mae’r maes cyntaf, sef dylunio asesiadau y gellir eu haddasu, yn dwyn ynghyd ddarn o waith gan gydweithwyr yn y Gwasanaethau i Fyfyrwyr, sy’n amlygu dulliau hyblyg o ddylunio asesiadau, asesiadau â sawl fformat, a dylunio asesu dilys.

Mae ymroddiad myfyrwyr a meithrin dysgu annibynnol yn parhau i fod yn her allweddol i gydweithwyr.  Yn y maes hwn, mae gennym ddiddordeb mewn strategaethau ar gyfer meithrin annibyniaeth wrth ddysgu, ffyrdd y gellir sgaffaldio dysgu, ac ymgorffori sgiliau ar gyfer dysgu a’r gweithle i raddedigion. 

Mae ein trydydd maes, sef meithrin cymuned, yn ceisio tynnu sylw at les yn y cwricwlwm gan ystyried dulliau o weithio sydd yn fwy ystyriol o drawma, sut mae cymunedau dysgu ar-lein yn cael eu creu, a defnyddio dadansoddeg dysgu.  Mae addysgeg gynhwysol yn ganolog i’r holl themâu hyn. 

Yn y maes technolegau i wella dysgu, bydd gennym ddiddordeb i glywed am astudiaethau achos cadarnhaol ac am ffyrdd o ymgorffori DA yn yr ystafell ddosbarth, am ffyrdd uwch a rhagorol o ddefnyddio Blackboard Ultra, ac am arferion da mewn addysgu yn yr oes ddigidol. 

Mae ein maes olaf, sef dysgu ar-lein, yn cyfeirio at waith Prosiect Dysgu Aber Ar-lein mewn partneriaeth â HEP, yn pontio dysgu ar y campws i ddysgu ar-lein, a strategaethau i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu ar-lein.

Bydd yr Alwad am Gynigion yn agor yn fuan a chyfle i archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk

Cynhadledd Fer: Cyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol

Mae’r Grŵp Addysg Ddigidol mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn falch o gyhoeddi’r thema ar gyfer ein Cynhadledd Fer nesaf.

Gan adeiladu ar lwyddiant Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol y llynedd, byddwn yn ailedrych ar y pwnc cyflogadwyedd gyda’r thema Cyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol.   

Bydd y gynhadledd fer yn cael ei chynnal ar-lein fore Mawrth 8 Ebrill.

Bydd y rhestr lawn yn cael ei chadarnhau maes o law ond rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn lansio eu pecyn cymorth newydd ar gyfer ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm.

Mae modd archebu ar gyfer y digwyddiad nawr. Gallwch archebu’ch lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Mini Conference Logo

Cadwch y Dyddiad: Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 12fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 8 Gorffennaf hyd ddydd Iau 10 Gorffennaf 2025.

Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.