Dr Rob Grieve – Cyflwyniad yn ein Cynhadledd Fechan

Mae’r Grŵp E-ddysgu yn cynnal cynhadledd fechan ar Addysg Gynhwysol Ddydd Mercher 10 Ebrill am 1pm yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu, Academi Aber. Yn ychwanegol at ein postiad blog blaenorol yn cyhoeddi’r siaradwyr ar gyfer y gynhadledd fechan, rydym yn falch o gyhoeddi hefyd y bydd Dr Rob Grieve yn rhoi cyflwyniad wedi’i recordio dan y teitl Stand Up and Be Heard: Student Fear of Public Speaking.

Mae Rob yn Uwch Ddarlithydd mewn Ffisiotherapi yn Adran y Proffesiynau Perthynol i Iechyd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE). Yn ogystal â’i brif faes ymchwil a’i brif weithgareddau dysgu, mae Rob hefyd yn un o ymddiriedolwyr Cymdeithas Atal Dweud Prydain. Yn rhinwedd hynny, mae wedi siarad mewn sawl digwyddiad am ddefnyddio cyflwyniadau fel math o asesu a rhoi i fyfyrwyr y sgiliau angenrheidiol ar gyfer siarad cyhoeddus. Yn y cyflwyniad hwn, bydd Rob yn cyfeirio at ambell un o’r cyflwyniadau y mae wedi’u rhoi yn ddiweddar yn Advance Higher Education. Bydd Rob hefyd yn myfyrio ar weithdai Stand Up and Be Heard y mae wedi bod yn eu cynnal i fyfyrwyr y mae arnynt ofn siarad yn gyhoeddus. Nod y gweithdai oedd cefnogi dysgu ac addysgu ym maes cyflwyniadau a siarad cyhoeddus trwy gyfrwng strategaethau penodol, ac adolygu manteision cyffredinol siarad cyhoeddus fel sgìl trosglwyddadwy ar gyfer y brifysgol, bywyd, a chyflogaeth yn y dyfodol. Mae Rob yn adeiladu ar sail arolwg a gynhaliwyd yn 2012 a dystiodd fod 80% o fyfyrwyr yn dweud iddynt brofi pryder cymdeithasol yn rhan o aseiniadau a oedd yn cynnwys siarad cyhoeddus (Russell a Topham, 2012). Yn ogystal â hyn, canfu astudiaeth bellach (Marinho et al, 2017) fod gan 64% o fyfyrwyr ofn siarad yn gyhoeddus, tra byddai 89% wedi hoffi petai eu rhaglen israddedig wedi cynnwys dosbarthiadau ar wella eu siarad cyhoeddus. Ceir rhagor o wybodaeth am waith Rob yn y postiad blog hwn. Enw ei gyfrif ar Twitter yw @robgrieve17.

Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn ein cynhadledd fechan. Mae ambell le ar gael o hyd. Gallwch archebu eich lle ar-lein.

Cyfeiriadau

Marinho, ACF., de Madeiros, AM., Gama, AC., & Teixeir, LC. 2017. Fear of Public Speaking: Perception of College Students and Correlates. Journal of Voice. 31:1 DOI: 10.1016/j.jvoice.2015.12.012

Russell, G. a Topham, P. 2012. The impact of social anxiety on student learning and wellbeing in higher education. Journal of Mental Health 21:4. Tt. 375-385. https://doi.org/10.3109/09638237.2012.694505

Cynhadledd Fer yr Academi – Addysg Gynwysol

Cynhelir Cynhadledd Fer yr Academi eleni ar ddydd Mercher 10 Ebrill am 2yp yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu, Academi Aber, Adeilad Hugh Owen. Yn sgil cyflwyno Rheoliadau Hygyrchedd newydd ar gyfer cynnwys ar-lein ym mis Medi 2018 ac o ganlyniad i ymwybyddiaeth gynyddol o sicrhau bod profiadau dysgu ar gael i bawb, bydd thema’r gynhadledd fer eleni’n canolbwyntio ar Addysg Gynhwysol.

Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r Brifysgol i gynnal cyflwyniadau, arddangosiadau, gweithdai a thrafodaethau ar eu harferion addysgu cynhwysol.

Dyma rai pynciau posibl:

  • Asesiadau cynhwysol a chreadigol
  • Ehangu cyfranogiad
  • Defnyddio technoleg ar gyfer profiadau dysgu cynhwysol

Os hoffech gyflwyno cynnig ar gyfer y gynhadledd fer eleni, llenwch y ffurflen ar-lein hon cyn dydd Gwener 15 Mawrth.

Gallwch gofrestru i ddod i’r Gynhadledd Fer trwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.

Fforwm Academi 2018/19

Mae Fforymau Academi eleni wedi cychwyn o ddifri erbyn hyn. Eleni, mae ein Fforymau Academi wedi’u strwythuro o amgylch themâu sy’n deillio o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ac a gynigiwyd gan fynychwyr y gynhadledd.

Y Fforymau Academi ar gyfer y flwyddyn yw:

  • 03.10.2018, 3yp-4yp: Cyflwyniad i’r Fforwm Academi
  • 11.10.2018, 10yb-11yb: Traciwr Digidol Myfyrwyr JISC
  • 16.11.2018, 11yb-12yp: Myfyrwyr fel Partneriaid
  • 17.12.2018, 1yp-2yp: Dulliau arloesol o roi adborth
  • 21.01.2019: 12yp-1yp: Cynllun Dysgu
  • 28.02.2019: 3yp-4yp: Addysgu trwy Ymchwil
  • 01.04.2019: 12yp-1yp: Annog hunanddisgyblaeth mewn dysgwyr
  • 09.05.2019: 11yb-12yp: Sut ydyn ni’n gwybod bod ein haddysgu’n gweithio?
  • 12.06.2019, 2yp-4yp: Defnyddio Dadansoddeg Dysgu Crynodeb a Gorffen

Gallwch archebu lle ar y Fforymau Academi drwy dudalennau archebu y GDSYA.

Mae ein Fforymau Academi’n darparu gofod anffurfiol i aelodau o gymuned y Brifysgol ddod ynghyd i drafod materion sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu a dysgu trwy gyfrwng technoleg.

Roedd Fforymau Academi’r llynedd yn seiliedig ar gardiau ehangu profiad digidol myfyrwyr gan  JISC. O fewn y Grŵp E-ddysgu, gwnaethom ddechrau datblygu ein Strategaeth Ymgysylltu Myfyrwyr ein hunain a dechrau meddwl sut y gallem weithio’n agosach â’r myfyrwyr. Yn ogystal â hyn gwnaethom ddechrau gweithio gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth Gyrfaoedd i siarad am y sgiliau digidol sydd eu hangen yn y gweithle.

Cynhelir y Fforymau Academi yn E3, yr Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu. I gael mynediad i E3, byddwch angen eich Cerdyn Aber. Ewch i mewn i adeilad Hugh Owen drwy’r Labordai Iaith a mynd i fyny’r grisiau i Lawr E. Defnyddiwch eich Cerdyn Aber i ddod trwy’r drws ac mae Ystafell Hyffordd E3 rownd y gornel ar yr ochr dde.

Os hoffech ymuno â rhestr bostio’r Fforwm Academi, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.