Ystyriaethau ar gyfer Canfod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Ysgrifennwyd y blogbost hwn gan aelodau’r Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.

Mae tirwedd dysgu ac addysgu yn oes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wedi bod yn datblygu’n gyflym. Fel y mae’r staff yn ymwybodol, diweddarwyd y Rheoliad Ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol  er mwyn mynd i’r afael â’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth asesu myfyrwyr. Diweddarwyd y Ffurflen Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a’r tabl cosbau i gynnwys ‘Cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fel eich gwaith eich hun’ (a gymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd ym mis Mawrth 2023).

Crëwyd y gweithgor Deallusrwydd Artiffisial, dan gadeiryddiaeth Mary Jacob, ym mis Ionawr 2023 i gydlynu ymdrechion y prifysgolion. Gweler Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol i gael canllawiau ac adnoddau cyfredol. Rydym wrthi’n cynllunio deunyddiau hyfforddi ar gyfer staff a myfyrwyr a fydd ar gael ymhell cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Cyngor ar farcio

Ar 3/4/2023, daeth offeryn canfod Deallusrwydd Artiffisial Turnitin yn weithredol. Ar hyn o bryd, mae’r Sgôr Deallusrwydd Artiffisial (AI Score) yn weladwy i staff ond nid i fyfyrwyr. Gallai hyn newid os bydd Turnitin yn diweddaru’r adnodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gweler Lansio Adnodd Turnitin i Ddatgelu Ysgrifennu drwy Ddeallusrwydd Artiffisial a ChatGPT | (aber.ac.uk) ar flog UDDA a Turnitin’s AI Writing Detection (Cynnwys allanol) gan Turnitin (sylwer y gall yr un darn gael ei adnabod fel cynnyrch Deallusrwydd Artiffisial ac fel darn sy’n cyfateb i ffynhonnell allanol).

Mae consensws clir ymhlith arbenigwyr yn y sector na all unrhyw offeryn canfod Deallusrwydd Artiffisial roi tystiolaeth bendant.

Daw hyn gan y QAA, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg Drydyddol (a noddir gan Jisc), ac eraill. Cewch hyd i ddolenni i’r dystiolaeth hon ar dudalen Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, gan gynnwys y recordiad QAA lle mae Michael Webb o’r Ganolfan Genedlaethol yn esbonio pam fod hyn yn wir.

Os ydych chi’n wynebu achos posib o ymddygiad academaidd annerbyniol, mae eich barn broffesiynol yn allweddol er mwyn gwneud y penderfyniad cywir. Dyma’r cyngor gorau y gallwn ei roi i adrannau:

  1. Defnyddiwch offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Turnitin ar y cyd â dangosyddion eraill – Gall offeryn Turnitin roi arwydd bod angen ymchwiliad pellach ond nid yw’n dystiolaeth ynddo’i hun.
  2. Gwiriwch y ffynnonellau – Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml, ond nid bob amser, yn cynhyrchu dyfyniadau ffug. Gall y rhain ymddangos yn gredadwy ar yr olwg gyntaf – awduron go iawn a chyfnodolion go iawn, ond nid yw’r erthygl yn bodoli. Gwiriwch y ffynonellau a nodwyd er mwyn gweld a ydynt yn 1) rhai go iawn a 2) wedi eu dewis yn briodol ar gyfer yr aseiniad. A yw’r ffynhonnell yn berthnasol i’r pwnc? Ai dyma’r math o ffynhonnell y byddai myfyriwr wedi’i darllen wrth ysgrifennu’r aseiniad (e.e. nid llyfr plant yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell ar gyfer astudiaeth achos busnes)? Nid yw hyn yn brawf pendant o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, ond mae’n dystiolaeth gadarn nad yw’r myfyriwr wedi gwneud pethau’n gywir.
  3. Gwiriwch y ffeithiau – Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml yn cynhyrchu celwyddau credadwy. Gallai’r testun swnio’n rhesymol ond mae’n cynnwys rhai ‘ffeithiau‘ sydd wedi eu creu. Nid yw deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn ddeallus mewn gwirionedd, mae’n gweithio fel peiriant rhagfynegi testun soffistigedig, felly os byddwch chi’n sylwi ar rywbeth sy’n ymddangos o’i le, gwnewch yn siŵr nad yw’n gelwydd credadwy.
  4. Ystyriwch lefel y manylder – Mae deallusrwydd artiffisial yn tueddu i gynhyrchu allbwn rhy generig, e.e. defnyddio termau haniaethol heb unrhyw ddiffiniadau nac enghreifftiau pendant. A yw’r traethawd neu’r adroddiad wedi’i ysgrifennu yn or-gyffredinol ynteu a yw’n cynnwys enghreifftiau pendant sy’n ddigon manwl i gefnogi’r casgliad ei fod wedi ei ysgrifennu gan fyfyriwr? Unwaith eto, nid yw diffyg manylder yn dystiolaeth bendant bod myfyriwr wedi twyllo ond gall fod yn rhybudd ar y cyd â ffactorau eraill.
  5. Cynhaliwch gyfweliad i benderfynu a yw’r gwaith yn ddilys – Os gwelwch arwyddion cryf o ymddygiad academaidd annerbyniol, gallai cyfweliad neu banel lle gofynnir cwestiynau i’r myfyriwr am ei aseiniad fod yn ffordd o gael tystiolaeth bendant. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymarferol ar raddfa eang. Mae hon yn broblem gymhleth, nid i’n prifysgol ni yn unig ond ar draws y sector.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, gweler y Crynodeb Wythnosol o Adnoddau i ddysgu am ddigwyddiadau a deunyddiau, e.e. yr erthygl hon yn benodol am astudiaeth ar offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Turnitin: Fowler, G. A. (3/4/2023), We tested a new ChatGPT-detector for teachers. It flagged an innocent studentWashington Post. Mae Fowler yn egluro sut yr aethant ati i’w brofi, yr hyn a ganfuwyd, a pham y cynhyrchodd ganlyniadau ffug.

Yn fyr, os mai sgôr deallusrwydd artiffisial Turnitin yw’r unig beth amheus y mae staff yn sylwi arno, byddem yn argymell yn erbyn dwyn achos Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Mae gormod o bosibilrwydd o niwed os nad yw’r myfyriwr wedi twyllo mewn gwirionedd.

Deunyddiau’r Gynhadledd Fer Dysgu ac Addysgu ar gael Nawr

Mae adnoddau bellach ar gael o Gynhadledd Fer Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Dysgu ac Addysgu a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2022. I’r rhai nad oedd yn gallu dod neu a hoffai gael eu hatgoffa o gynnwys y gynhadledd, mae’r adnoddau ar gyfer pob sesiwn i’w gweld yma.

Canolbwyntiodd y gynhadledd ar Gynaliadwyedd mewn Addysg Uwch, gyda’r brif sesiwn yn cael ei darparu gan Dr Georgina Gough (UWE Bryste) a oedd yn archwilio sut i gynnwys amcanion cynaliadwyedd yn y cwricwlwm.

Ymhlith y pynciau eraill roedd sesiwn Marian Gray: ‘Student Mobility and Cross-Cultural Skills – Global & Sustainable?’, a Dr. Louise Marshall: ‘Discipline hopping: Interdisciplinary approaches to a sustainable curriculum’.

Blackboard UBN

Mae tua wythnos wedi mynd heibio ers i ni symud i Blackboard UBN. Dyma atebion i rai o’r cwestiynau y mae’r staff a’r myfyrwyr wedi eu gofyn i ni. Efallai y dewch o hyd i ateb i’ch cwestiwn yma (neu yn ein Cwestiwn Cyffredin Sut mae dechrau arni gydag Ultra Base Navigation). Os nad ydych yn dod o hyd i ateb, gallwch anfon e-bost atom.

  1. Ble mae safle fy ngwybodaeth adrannol / modiwl hyfforddi? Os ydych chi’n chwilio am safle Blackboard nad yw’n gysylltiedig â modiwl PA a addysgir, edrychwch ar y dudalen Sefydliadau. Mae’n debygol y dewch o hyd i’r cwrs rydych chi’n chwilio amdano yma.
  2. Sut mae’r cyrsiau wedi eu trefnu ar y dudalen Cwrs? Maent wedi’u rhestru yn ôl blwyddyn academaidd, ac yna yn nhrefn yr wyddor yn ôl teitl y modiwl. Efallai ei bod hi’n haws ichi ddod o hyd i’ch cyrsiau drwy ddefnyddio un o’r canlynol:
    a. Blwch chwilio – gallwch chwilio yn ôl enw’r modiwl neu god y modiwl.
    b. Ffefryn – defnyddiwch yr eicon ffefryn (seren) i binio’r cyrsiau yr ydych yn eu defnyddio’n rheolaidd ar frig eich rhestr.
    c. Hidlydd. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i staff sy’n Hyfforddwyr ar rai modiwlau ac sydd â rolau eraill mewn modiwlau eraill. Bydd ‘Dewis Cwrs rwy’n ei addysgu’ yn dangos eich holl gyrsiau Hyfforddwr i chi.
    d. Newid y flwyddyn academaidd. Gallwch gyfyngu eich gwedd i’r flwyddyn academaidd bresennol yn unig drwy newid Cyrsiau i Cyrsiau 2022-23 Courses.
  3. Roedd gan fy newislen cwrs liw / dyluniad gwahanol – alla i ei newid yn ôl? Na, nid yw hyn ar gael bellach. Unwaith y byddwn yn symud i gyrsiau Ultra ni fydd dewislen cwrs.
  4. Sut mae newid y llun sy’n cael ei arddangos? Edrychwch ar y Canllawiau Blackboard (dilynwch o bwynt bwled 3).
  5. Pam ydw i’n cael neges wall wrth fynd i Blackboard? Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd yn syth i https://blackboard.aber.ac.uk. Peidiwch â defnyddio dolen na llyfrnod.
  6. Mae’r Ffrwd Weithgaredd yn dweud bod gen i aseiniadau hwyr? Mewn rhai cyrsiau efallai y bydd pwyntiau cyflwyno ar gyfer estyniadau, grwpiau ac ati nad ydynt yn berthnasol i chi. Bydd y rhain yn dangos yn y Chwiliad Gweithgaredd. Os nad ydych yn siŵr a yw cyflwyniad ar eich cyfer chi, ewch yn ôl i’r cwrs a gwirio nad oes gennych unrhyw aseiniadau nad ydynt wedi’u cyflwyno.
  7. Mae Fy Nghwrs neu Sefydliad yn dweud Preifat arno; beth mae hyn yn ei olygu? Mae’n golygu nad yw’r cwrs ar gael i fyfyrwyr. Os nad oes angen y cwrs arnoch mwyach, rhowch wybod i ni, a gallwn ei ddileu.

Rhaglen cydnabod goruchwylwyr ymchwil yr UKCGE

Ysgol y Graddedigion/ Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Ydych chi’n oruchwyliwr gradd ymchwil sefydledig?

A fyddech chi’n hoffi i’ch ymarfer goruchwylio gael ei gydnabod ar lefel genedlaethol?

Mae Cyngor y DU ar gyfer Addysg i Raddedigion (UKCGE) wedi datblygu’r Fframwaith Arfer Da wrth Oruchwylio a’r Rhaglen cydnabod goruchwylwyr ymchwil fel gall goruchwylwyr sefydledig gael cydnabyddiaeth am y rôl heriol, ond gwerth chweil hon.

Ym mis Mai 2022, daeth yr Athro Stephen Tooth o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yr aelod cyntaf o staff academaidd y Brifysgol i gael cydnabyddiaeth am ei ddull o oruchwylio graddedigion.
Rydym yn awyddus i gefnogi goruchwylwyr sy’n dymuno cyflawni’r achrediad hwn. I gael rhagor o fanylion am y fframwaith a sut i wneud cais, gweler ein gwefan https://www.aber.ac.uk/cy/grad-school/supervisory-framework/ neu cysylltwch ag Annette Edwards trwy’r Fframwaith Goruchwylio (sfastaff@aber.ac.uk).

Diweddariad yr Haf 2022 UDDA

Diweddariad i Turnitin

Ym mlwyddyn academaidd 2022/23 byddwn yn defnyddio fersiwn newydd o Turnitin.
Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022 bydd fersiwn newydd Turnitin ar Blackboard yn cael ei alluogi gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Er y bydd rhan fwyaf y swyddogaethau yn aros yr un fath, fe fydd rhai newidiadau. I helpu staff gyda’r newid, fe baratowyd y Cwestiynau Cyffredin canlynol.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein blog Newidiadau i Turnitin: Gwybodaeth i Staff.

Diweddaru’r Polisïau E-ddysgu

Mae fersiynau wedi’u diweddaru o’r holl bolisïau e-ddysgu ar gael o’r wefan Rheoliadau a Pholisïau Gwasanaethau Gwybodaeth.
Nid yw polisïau RMP ac E-gyflwyno Blackboard yn newid ers y llynedd. Bu rhai diweddariadau i’r polisi recordio darlithoedd. Maent yn cynnwys eglurhad ar gyfnod cadw recordiadau a chanllawiau ar ddefnyddio Panopto ar gyfer asesu.

10fed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Bydd ein 10fed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu yn cael ei chynnal rhwng 12-14 Medi 2022.
Mae cyfnod Cofrestru’r Gynhadledd bellach ar agor. Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys rhaglen y gynhadledd, i’w gweld ar wefan ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol.

Arolwg Mewnwelediad Digidol

Mae’r Arolwg Mewnwelediadau Digidol i fyfyrwyr wedi cau’n ddiweddar, a chafwyd dros 660 o ymatebion. Dan oruchwyliaeth JISC, mae’r arolwg yn gofyn i fyfyrwyr am eu defnydd o dechnoleg mewn dysgu ac addysgu ac yn darparu meincnod ar gyfer cymharu â sefydliadau eraill.
Gellir defnyddio canlyniadau’r arolwg i lywio penderfyniadau strategol i wella’r profiad digidol a galluogi trawsnewid digidol.
Mae canfyddiadau allweddol y llynedd i’w gweld yn y blog Canlyniadau Arolwg Mewnwelediadau Digidol Myfyrwyr. Cyhoeddir y canfyddiadau allweddol yn fuan. Tanysgrifiwch i’r blog LTEU i gael hysbysiadau.

ARCHE

Rhaglen yw ARCHE y gall staff Prifysgol Aberystwyth (PA) ei defnyddio i wneud cais am Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (sydd bellach yn rhan o Advance HE). Gweler Llawlyfr y Cynllun ARCHE i gael manylion llawn.
Y dyddiad cau nesaf i wneud cais yw 07/09/2022. I fynegi diddordeb mewn gwneud cais, anfonwch e-bost i felstaff@aber.ac.uk.

TUAAU

Mae’r TUAAU yn agored i staff sy’n addysgu ar gyrsiau Prifysgol Aberystwyth. Bydd yn rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan gyflawni o leiaf 40 awr o addysgu (ar lefel addysg uwch) dros gyfnod pob modiwl, ond fe allai staff sydd mewn sefyllfaoedd eraill gael eu hystyried fesul achos. Anfonwch e-bost at dîm y cwrs i gael rhagor o wybodaeth.
Y tro nesaf y derbynnir ymgeiswyr ar gyfer modiwl 1 a modiwl 2 yw Ionawr 2023. (Rhaid cyflwyno ceisiadau cyn 1 Tachwedd). Mae angen i bob myfyriwr fynd I sesiwn ragarweiniol.

Cystadleuaeth AUMA 2022-3 yn agor ym mis Mai

Y mis hwn byddwn yn dechrau derbyn y garfan nesaf i’r rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth. Os oes diddordeb gan unrhyw ymchwilwyr uwchraddedig sy’n gwneud gwaith addysgu gallant wneud cais am le hyd at 24 Mehefin. Cynhelir cyfnod Cynefino gorfodol y rhaglen ar 20fed a 21ain Medi. Mwy o wybodaeth.

Tanysgrifio i’r Blog UDDA

Tanysgrifiwch i Flog yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu er mwyn i chi gael hysbysiad e-bost pan fydd neges newydd yn cael ei hysgrifennu. Cewch y newyddion am fentrau newydd, sesiynau hyfforddi a digwyddiadau i ategu gweithgareddau dysgu ac addysgu trwy gyfrwng technoleg.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau

Mae’r Crynodeb Wythnosol o Adnoddau yn cynnwys adnoddau i gynorthwyo staff i addysgu’n effeithiol, e.e. gweminarau allanol, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy.

DPP

Dewch i sesiynau yn ein rhaglen DPP flynyddol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau ar e-ddysgu, yn ogystal â llawer o sesiynau ar bynciau dysgu ac addysgu megis asesu ac adborth, sgiliau cyflwyno, hygyrchedd, a mwy.
Rydym yn cyflwyno rhai o’r sesiynau ein hunain, a chaiff eraill eu cyflwyno gan staff y brifysgol sydd ag arferion da o ran addysgu yn y meysydd hynny. Edrychwch am (L&T) yn nheitl y sesiwn.

Helo

View of Aberystwyth and the sea from the National Library

Su’mae! Fy enw i yw Keziah ac ymunais â’r UDDA yn 2022 fel Cynorthwyydd Cymorth, felly byddaf yn cynorthwyo’r tîm mewn amrywiaeth o ffyrdd, o ymdrin ag ymholiadau i gefnogi sesiynau DPP a’r gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Deuthum i Aber am y tro cyntaf yn 2012 fel myfyriwr israddedig gyda’r adran Hanes a Hanes Cymru. Ar ôl graddio arhosais i gwblhau MA, cyn treulio cyfnod byr yng Nghaerlŷr. Ar ôl hynny roeddwn yn ddigon ffodus i allu ymgymryd â PhD yma yn ymchwilio i hanes modern cynnar Ceredigion drwy ddefnyddio cofnodion troseddol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn ystod y PhD cefais gyfle i wneud rhywfaint o addysgu o fewn yr adran ac i gymryd rhan yn y rhaglen AUMA. Deuthum yn angerddol am ddod o hyd i ffyrdd newydd o wella addysgu mewn Addysg Uwch, yn enwedig yr agwedd o gydbwyso’r holl elfennau gwahanol sy’n rhan o gynllunio rhaglen werth chweil a diddorol.

Fy meysydd diddordeb presennol y tu allan i’m hymchwil, yw dysgu Cymraeg ac edrych ar ffyrdd o ddefnyddio syniadau am hyfforddiant arweinyddiaeth o fusnes a diwydiant mewn addysgu israddedig i feithrin hyder a menter mewn myfyrwyr.
Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi staff a myfyrwyr Aberystwyth yn eu datblygiad parhaus, a chwrdd â phobl newydd o bob cwr o’r brifysgol.