Canllaw Blackboard Learn Ultra i Fyfyrwyr ar gael

Mae deunyddiau cymorth i gynorthwyo myfyrwyr gyda Blackboard Learn Ultra bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi creu Canllaw Myfyrwyr yn benodol ar gyfer Ultra y gellir ei lawrlwytho.

Rhoddwyd gwybod i’r myfyrwyr am y newid i Blackboard cyn diwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Fel rhan o’r symudiad i Ultra mae ein Cwestiynau Cyffredin wrthi’n cael eu diweddaru.

Blackboard Ally

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn falch o gyhoeddi bod y Wasanaethau Gwybodaeth wedi caffael Blackboard Ally fel rhan o’r symud i Blackboard Learn Ultra.

Mae Blackboard Ally yn integreiddio i’n hamgylchedd Blackboard Learn Ultra ac yn canolbwyntio ar wneud cynnwys digidol yn fwy hygyrch.

Ar gyfer cydweithwyr sy’n creu cynnwys, bydd modd i chi newid hygyrchedd eich cynnwys. Mae hyn yn golygu y bydd eich cynnwys yn fwy hygyrch i dechnolegau cynorthwyol, megis darllenwyr sgrin.

Mantais arall Blackboard Ally yw y gellir lawrlwytho cynnwys mewn sawl fformat. Mae hyn yn golygu y gellir trosi eich nodiadau darlith, PowerPoint a dogfennau eraill i lawer o fformatau gwahanol, gan gynnwys:

  • Darllenwyr ymgolli
  • Ffeiliau sain
  • Braille electronig

Nid oes angen gwneud unrhyw beth i alluogi Ally ar eich cwrs. Bydd yn cael ei alluogi’n awtomatig ddydd Llun 11 Medi ar Gyrsiau 2023-24 ymlaen a Mudiadau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am greu deunyddiau dysgu hygyrch, edrychwch ar ein hadnoddau.

Am fwy o wybodaeth am ddefnyddio Blackboard Ally, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i staff neu fyfyrwyr.

Newidiadau i’r ategyn PowerPoint Vevox

Mae Vevox, adnodd pleidleisio a gefnogir gan y Brifysgol, wedi diweddaru ei ategyn PowerPoint.

O fis Medi 2023, dylai cydweithwyr sy’n defnyddio’r ategyn ddefnyddio’r fersiwn diweddaraf.

Gweler ein Cwestiwn Cyffredin am wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio’r ategyn PowerPoint newydd.

Yn ein neges flog ddiweddar, gwnaethom ysgrifennu am y cynhyrchydd cwestiynau deallusrwydd artiffisial newydd.

Os yw Vevox yn newydd i chi yna edrychwch ar ein deunyddiau cymorth a’n negeseuon blog blaenorol.

Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn hyfforddi ddydd Llun 18 Medi, 14:00-15:00. Cynhelir y sesiwn hon gan gydweithwyr o Vevox. Archebwch eich lle ar-lein.

Mae Vevox yn ffordd wych o sicrhau bod eich addysgu yn rhyngweithiol ac yn datblygu dysg y myfyrwyr.

Awst 2023: Diweddariad Blackboard Learn Ultra

Un o fanteision symud i Blackboard Learn Ultra yw’r gwelliannau cynyddol i’r amgylchedd dysgu rhithwir.

Yn y blogbost hwn, byddwn yn amlinellu rhywfaint o’r nodweddion newydd sydd ar gael yn y diweddariad y mis hwn.

1.   Grwpiau

Mae’r lleoliad i reoli’r nodwedd Grwpiau wedi newid. Gallwch gael mynediad at hwn yn uniongyrchol o’r ddewislen ar frig eich cwrs:

sgrinlun o eitem dewislen gyda grwpiau wedi’i amlygu

Gweler Canllawiau grwpiau i gael rhagor o wybodaeth.

2.   Delweddau ar gyfer Modiwlau Dysgu

Nawr gallwch ychwanegu delweddau at Fodiwlau Dysgu.

delwedd o Fodiwl Dysgu gyda delwedd

Mae Modiwlau Dysgu yn cynnig ffordd i chi drefnu’ch cynnwys. Am fwy o wybodaeth, gweler Canllaw Modiwlau Dysgu.

3.   Gwiriwr Hygyrchedd Ultra

Er mwyn sicrhau bod eich cynnwys mor hygyrch â phosibl, defnyddiwch y gwiriwr hygyrchedd.

Sgrinlun o gyfrifiadur Disgrifiad a gynhyrchir yn awtomatig.

delwedd o ddogfen yn cael ei chreu gyda'r sgôr gwiriwr hygyrchedd wedi’i amlygu

Wrth i chi greu eich cynnwys, cynhyrchir eich sgôr hygyrchedd i’ch hysbysu am unrhyw newidiadau y gallech eu gwneud o bosibl.

4.   Graddio Profion Hyblyg

O ran graddio profion, gallwch bellach raddio yn ôl cwestiwn neu fyfyriwr yn Ultra. Gweler Canllawiau profion Blackboard a Graddio hyblyg i gael rhagor o wybodaeth.

Am ddiweddariadau eraill y mis hwn, edrychwch ar Nodiadau rhyddhau Blackboard.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio unrhyw un o’r nodweddion hyn neu Blackboard Learn Ultra, cysylltwch â ni eddsygu@aber.ac.uk.

Cyrsiau Ultra 2023-24

Ar 1 Awst, bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn symud eu systemau ymlaen i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf (2023-24).

Nid yw Cyrsiau Blackboard yn wahanol bellach. Ar 1 Awst, daw’r dyddiadau tymor ar gyfer 2023-24 yn fyw.

Mae hyn yn golygu nad yw Cyrsiau 2023-24 wedi’u rhestru fel rhai Preifat ond yn hytrach maent bellach ar gael. Mae hefyd yn golygu na fyddant yn arddangos yn y Cyrsiau sydd i ddod.

Gellir cyrchu cyrsiau 2023-24 o’r hafan nawr. Os hoffech weld eich cyrsiau 2023-24 yn unig, defnyddiwch y togl ar y brig neu hidlo yn ôl cyrsiau.

Dewislen cyrsiau gyda chyrsiau 2023-24 wedi'u hamlygu

Gallwch wneud eich cwrs yn ffefryn er mwyn iddo ymddangos ar frig y dudalen trwy glicio ar y seren:

Cwrs gyda seren wedi'i hamlygu i’w wneud yn ffefryn

[Testun amgen: Cwrs gyda seren wedi’i hamlygu i’w wneud yn ffefryn]

Ni fydd myfyrwyr yn dod ar eich cwrs nes eu bod wedi cwblhau’r cofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Ultra, cysylltwch â eddysgu@aber.ac.uk.

Cwestiynau wedi’u Cynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial yn awr ar gael yn Vevox Polls

Mae Cynhyrchydd Cwestiynau Deallusrwydd Artiffisial wedi cael ei ychwanegu at ein meddalwedd pleidleisio, Vevox, yn y fersiwn ddiweddaraf. Gall cyd-weithwyr yn awr greu cwestiynau gan ddefnyddio’r Cynhyrchydd Cwestiynau DA.

Mae rhagor o wybodaeth (gan gynnwys sut i’w ddefnyddio) ar gael ar wefan Vevox.

Fel gyda’r holl ddeunydd a gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial, mae’n holl bwysig eich bod yn gwirio cywirdeb y cynnwys ac yn ei olygu cyn ei ryddhau i fyfyrwyr. Darllenwch ddeunyddiau cymorth yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ar Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r adnodd hwn. 

Mae yna hefyd nifer o bostiadau blog y gallwch edrych arnynt sy’n canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial.

Mae newid arall ar y gweill yn Vevox hefyd. Mae’r ychwanegiad PowerPoint wedi cael ei ddiweddaru. Byddwn yn cysylltu â’r holl gyd-weithwyr sy’n defnyddio’r ychwanegyn PowerPoint trwy e-bost cyn dechrau mis Medi.

Os nad ydych wedi defnyddio Vevox o’r blaen, mae gennym lu o ddeunyddiau cymorth ar ein tudalen we Vevox.

Sesiynau Hyfforddi Adrannol: Cyflwyniad i Blackboard Ultra

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu bellach wedi cwblhau eu cylch o sesiynau hyfforddi adrannol ar gyfer Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Ultra.

Cynlluniwyd y sesiwn hyfforddi hon i sicrhau bod staff yn cael cyfle i ymgyfarwyddo â Blackboard Ultra a chyflawni Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard.

Ers mis Mai, rydym wedi hyfforddi dros 300 aelod o staff mewn sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein.

I’r rhai ohonoch a oedd yno ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd byddwch wedi gweld y nodweddion cyffrous sy’n dod i Blackboard Ultra dros y blynyddoedd nesaf.

Os nad ydych wedi llwyddo i fynychu un o’ch sesiynau adrannol neu os hoffech gael sesiwn loywi, rydym yn cynnal y sesiynau yn Gymraeg a Saesneg ar-lein.

Gallwch archebu lle ar ein sesiynau hyfforddi a gweld sesiynau eraill ar y dudalen archebu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Ultra, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.

Deunyddiau’r 11eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ar gael nawr

Photograph of think tank during conference opening.

Rhwng 4 a 6 Gorffennaf, cynhaliodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yr 11eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol.

Mae deunyddiau’r gynhadledd bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.

Hoffem ddiolch i’n holl gyfranwyr a’r rhai oedd yn bresennol. Roedd y sesiynau o ansawdd mor uchel.

Ar draws dau ddiwrnod wyneb yn wyneb ac un diwrnod ar-lein, clywodd y cynrychiolwyr am y datblygiadau ar gyfer Blackboard Learn Ultra, Chat GPT a Deallusrwydd Artiffisial, a dulliau creadigol o ddylunio asesiadau.

Rydym eisoes yn cynllunio ein 12fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a gynhelir ym mis Medi 2024 (dyddiad i’w gadarnhau).

Gobeithiwn eich gweld mewn digwyddiad sydd i ddod.

Diweddariad ar Brosiect Blackboard Ultra

Y newyddion mawr ers ein diweddariad diwethaf ar brosiect Blackboard Ultra yw ein bod wedi dechrau sesiynau hyfforddi adrannol. Mae wedi bod yn wych cwrdd â staff a dangos hanfodion defnyddio Ultra. Hyd yma mae 200 o bobl wedi mynychu sesiwn, ac mae gennym fwy o sesiynau wedi’u trefnu dros yr haf.

Os nad ydych yn gallu mynychu eich sesiwn hyfforddi adrannol, mae gennym nifer o rai wedi’u trefnu’n ganolog i chi ymuno â hwy.  

Yn ogystal â hyn, ac i sicrhau bod gan gydweithwyr fynediad at nodweddion llawn Ultra, mae’r sesiynau canlynol wedi’u trefnu (ar gael yn Gymraeg a Saesneg): 

  1. E-ddysgu Uwch:    Defnyddio Profion
  2. E-ddysgu Uwch:    Cynllunio Dewisiadau Eraill yn lle Wici
  3. E-ddysgu Uwch:    Defnyddio Trafodaethau
  4. E-ddysgu Uwch:    Defnyddio Cyfnodolion
  5. E-ddysgu Uwch:    Cynllunio Dewisiadau Eraill yn lle Blog

Gallwch weld ein sesiynau ac archebu eich lle ar y dudalen archebu cwrs.  

Rydym hefyd yn gweithio y tu ôl i’r llenni ar integreiddio ag offer eraill. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar ei gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i’r ffolder Panopto ar gyfer y flwyddyn academaidd gywir pan fyddwch chi’n creu recordiadau. Rydyn ni’n credu y bydd hyn yn gwneud pethau’n llawer haws pan fydd yr addysgu’n dechrau eto. Cadwch lygad allan am newyddion ar hyn.

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cydweithwyr o Antholeg / Blackboard a Phrifysgol Bangor i’r gynhadledd ddysgu ac addysgu flynyddol. Mae gennym ddiwrnod cyfan o ddigwyddiadau cysylltiedig ag Ultra ar 4 Gorffennaf. Os nad ydych wedi archebu eich lle yn y gynhadledd, gallwch wneud ar ein gwefan. Gweddalennau’r gynhadledd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Blackboard Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).  

Siaradwyr Allanol y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni:   Rhan 2:  Prifysgol Bangor

I gyd-fynd â’r prif sesiynau gan Blackboard, rydym yn falch iawn o groesawu cydweithwyr o Brifysgol Bangor:  Bethan Wyn Jones ac Alan Thomas.

Gallwch fwrw golwg dros ein rhaglen lawn ac archebu eich lle ar-lein. 

Fel rhan o’r gynhadledd, roeddem yn awyddus i glywed am brofiad cydweithwyr wrth symud i Blackboard Ultra.  Mae Bangor wedi bod yn defnyddio Ultra ers 2020.

Gweler eu bywgraffiadau isod:

Read More