Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn falch o gyhoeddi digwyddiad hanner diwrnod arbennig sy’n edrych ar ffyrdd y gellir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) mewn cyd-destunau academaidd.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau 11 Ebrill rhwng 09:00 a 13:00 ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Gallwch archebu lle ar gyfer y digwyddiad drwy dudalen Archebu’r Cwrs.
Nod y digwyddiad yw edrych ar draws y 3 swyddogaeth academaidd:
Ymchwil
Dysgu ac Addysgu
Ac i fyfyrio ar ffyrdd y gellir defnyddio DA i wella’r gweithgareddau hyn, cynyddu cynhyrchiant, ac arbed amser.
Hoffem hefyd ystyried yr heriau a’r rhwystrau sy’n eich wynebu wrth ddefnyddio DA yn y cyd-destunau hyn a sefydlu ffyrdd y gall y Brifysgol eich cefnogi orau.
Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol, gyda’r cyfranogwyr yn cael eu hannog i rannu eu profiadau eu hunain ac enghreifftiau o arfer da. Mae croeso i bob cydweithiwr fod yn bresennol – o’r rhai sydd wedi bod yn defnyddio DA ers tro i’r rhai sydd heb ei ddefnyddio o’r blaen.
Mae croeso i fynychwyr ymuno â’r sesiwn drwy gydol y bore a bydd amserlen ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru yn cael ei chylchredeg yn nes at y digwyddiad.
Mae Lauren Harvey a Caroline Whitby, o Adran y Gyfraith a Throseddeg, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl LC31520: Dispute Resolution in Contract and Tort.
Yn ogystal, cafodd y modiwl canlynol statws Canmoliaeth Uchel:
Panna Karlinger o Ysgol Addysg am fodiwl ED20820: Making Sense of the Curriculum
Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd naufed mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.
Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.
Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.
Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.
Yn ddiweddar cymeradwyodd y Pwyllgor Gwella Academaidd rai newidiadau i’r broses flynyddol o greu cyrsiau:
Bydd cyrsiau’n cael eu creu’n wag gyda thempled cymeradwy’r Brifysgol
Bydd creu cyrsiau bob amser yn digwydd ar y dydd Llun cyntaf ym mis Mehefin (dydd Llun 3 Mehefin fydd hyn y flwyddyn hon).
Mae rhai staff wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch pam y bydd y cwrsiau yn cael ei greu’n wag. Mae’r blog hwn wedi’i gynllunio i helpu i egluro’r rhesymau dros y penderfyniad hwn.
Yn y blynyddoedd blaenorol roedd y broses o gopïo cyrsiau yn cael ei wneud drwy ddefnyddio Building Blocks. Nid yw Building Blocks bellach yn cael ei gefnogi gan Blackboard ac ni ellir ei ddefnyddio (efallai y byddwch yn cofio mai dyma un o’r rhesymau dros symud i Ultra). Nid yw adnodd copïo cyrsiau Blackboard wedi’i ddiweddaru, felly nid oes gennym ffordd dechnegol o gopïo cyrsiau.
Mae’r llif gwaith copïo cyrsiau yn haws yn Ultra nag ydoedd yn y gwreiddiol. A chan y byddwn yn copïo o gyrsiau Ultra i Ultra, bydd modd i chi gopïo blociau mwy o gynnwys.
Mae cyrsiau gwag yn golygu y gellir defnyddio templedi wedi’u diweddaru a gosodiadau ychwanegol ar gyfer cyrsiau. Mae Blackboard wedi newid llawer ers yr haf diwethaf, ac mae yna osodiadau newydd a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer cyrsiau’r flwyddyn nesaf. I ddefnyddio’r rhain byddai angen i’r staff eu hychwanegu at bob cwrs â llaw.
Roedd copïau o’r cyrsiau blaenorol yn cynnwys colofnau llyfr graddau. Ar ôl sawl blwyddyn dechreuodd hyn achosi dryswch i’r staff a gwneud y llyfr graddau’n anodd ei lywio. Gallai copïo dolenni drosodd ar gyfer Turnitin, Panopto a Talis hefyd beri dryswch – nid yw’n hawdd dweud a yw’r dolenni hyn wedi cael eu diweddaru ai peidio, a byddai angen i staff wirio pob un â llaw.
Ni fydd rhai cyrsiau wedi’u creu yn Ultra (er enghraifft cyrsiau sy’n rhedeg bob dwy flynedd yn unig). Mae angen creu’r rhain yn wag fel cyrsiau Ultra beth bynnag.
Bydd creu cyrsiau gwag hefyd yn helpu i osgoi copïo cynnwys sydd wedi dyddio.
Mae gwybodaeth am sut i gopïo cynnwys ar gael o safle cymorth Blackboard. Bydd arweiniad a chefnogaeth ar gael dros yr haf, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.
Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 12fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Mawrth 10 – Dydd Iau 12 Medi 2024.
Paratoi ar gyfer Rhagoriaeth: Cynllunio Dysgu ac Addysgu Arloesol.
Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:
Ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd ar draws y cwricwlwm a thu hwnt
Harneisio pŵer Deallusrwydd Artiffisial a thechnolegau eraill i wella dysgu
Creu gweithgareddau dysgu deinamig i ysgogi ac ymgysylltu
Dylunio dysgu cynhwysol i bawb
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.
Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.
Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 24 Mai 2024. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am udda@aber.ac.uk.
Mae Vevox, ein meddalwedd bleidleisio, yn cynnal cyfres o weminarau sy’n arddangos yr arferion gorau o integreiddio pleidleisio i weithgareddau dysgu ac addysgu.
Cynhelir y sesiynau hyn ar-lein.
Ar 22 Mawrth am 3pm, bydd Patrick Cadwell o Brifysgol Dinas Dulyn yn arddangos sut maen nhw’n defnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer astudiaethau cyfieithu.
Ar 26 Ebrill am 3pm, bydd Liam Bagley o Brifysgol Metropolitan Manceinion yn arddangos sut maen nhw’n defnyddio meddalwedd pleidleisio i hyfforddi ar gyfer sefyllfaoedd yn y byd go iawn o fewn cyd-destun iechyd a heneiddio’n iach.
Fel rhan o brosiect Blackboard Learn Ultra, rydym bellach yn troi ein sylw at Fudiadau yn barod ar gyfer Medi 2024.
Safleoedd ar Blackboard yw Mudiadau sydd at ddibenion anacademaidd. Yr un yw eu swyddogaeth â Chyrsiau Blackboard a gellir eu defnyddio i roi gwybodaeth, hyfforddiant ar-lein, a mynediad at ddeunyddiau. Yn wahanol i Gyrsiau, mae Mudiadau yn cael eu creu heb unrhyw dempled. Mae gan Fudiadau yr un nodweddion a swyddogaethau ymarferol â Chyrsiau.
Mae yna 3 math o Fudiad:
Mudiadau Adrannol
Mae gan bob adran 3 Mudiad adrannol: 1 ar gyfer myfyrwyr Israddedig, 1 ar gyfer myfyrwyr Uwchraddedig, ac 1 ar gyfer staff Adrannol. Mae’r rhain yn cael eu creu yn awtomatig.
Mudiadau Pwrpasol a Mudiadau Hyfforddi
Mudiadau yw’r rhain y mae unigolion wedi gofyn amdanynt. Gellir eu creu i gynnwys ffrydiau awtomatig, megis mathau o fyfyrwyr, myfyrwyr ar gynlluniau astudio penodol, neu aelodau o staff mewn adran benodol. Mae gan rai o’r Mudiadau hyn becynnau hyfforddi y gofynnir i ni eu gwneud.
Mudiadau Ymarfer
Mae’r rhain yn unigol ar gyfer pob aelod o staff ac nid oes myfyrwyr wedi cofrestru arnynt. Fel rhan o’r newid i Ultra, rydym wedi creu Mudiad Ymarfer Ultra personol i bob aelod o staff.
Wrth i ni symud i Blackboard Learn Ultra i Fudiadau, rydym wedi gweithio ar bolisi Mudiadau newydd sy’n amlinellu’r mathau o weithgareddau y gellir defnyddio Mudiadau ar eu cyfer yn ogystal â’u cyfnod cadw. Cymeradwywyd y polisi newydd hwn gan y Pwyllgor Gwella Academaidd ar 7 Chwefror a gellir ei weld ar ein tudalennau gwe.
Mudiadau Adrannol
Bydd Mudiadau Ultra Adrannol Newydd yn cael eu creu yn fuan ond ni fyddant ar gael i fyfyrwyr tan fis Medi 2024.
Bydd gan bob adran Fudiad ar wahân ar gyfer myfyrwyr Israddedig, Uwchraddedig, a Staff yn eu hadran.
Mae’r rhain ar ffurf:
DEPT-[llythyren adrannol]-UG (e.e. DEPT-N-UG)
Bydd myfyrwyr newydd ac aelodau newydd o staff yn cael eu ffrydio’n awtomatig i’r Mudiad unwaith y byddant wedi actifadu eu cyfrif. Unwaith y bydd y Mudiadau hyn ar gael, byddwn yn cysylltu â Chyfarwyddwyr Adrannol Dysgu ac Addysgu, Cofrestryddion y Cyfadrannau, a Phenaethiaid Adran i helpu i hwyluso’r symud i Fudiadau Ultra.
Mudiadau Pwrpasol a Mudiadau Hyfforddi
Mudiadau yw’r rhain y gofynnwyd amdanynt yn unigol at ddiben penodol. Nid ydym erioed wedi dileu Mudiad o’r blaen (oni bai y gofynnwyd am hyn).
Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn:
Rhwystro mynediad i’r holl Fudiadau pwrpasol nad ydynt wedi cael eu defnyddio am 3 blynedd gyda’r bwriad o ddod â’r Mudiad i ben.
Cysylltu â’r rhai sy’n dal i fod â chyfrifoldeb am Fudiadau sy’n bodoli eisoes i weld a oes eu hangen a hwyluso’r newid i Ultra ar gyfer y Mudiadau hyn.
Mudiadau Ymarfer
Ar hyn o bryd mae gan aelodau o staff fynediad at ddau Fudiad Ymarfer – un yn Blackboard Original ac un yn Ultra.
Byddwn yn dod â Mudiadau Blackboard Originial i ben ym mis Medi 2024. Rhaid i gydweithwyr gopïo unrhyw ddeunyddiau y maent am eu cadw i fersiwn Ultra y Mudiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Fudiadau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 12fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 10 Medi hyd ddydd Iau 12 Medi 2024.
Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.
Mae gan y Brifysgol drwydded Vevox i’r holl staff a myfyrwyr ei defnyddio. Meddalwedd Pleidleisio yw Vevox sy’n caniatáu i gyfranogwyr ddefnyddio eu dyfeisiau symudol i ymateb i gwestiynau. Yn Semester 1, cynhaliwyd dros 300 o sesiynau Vevox, gyda thros 10,000 o gyfranogwyr a 1,500 o arolygon barn. Mewn cyd-destunau dysgu ac addysgu, gallwch ddefnyddio Vevox i wneud eich addysgu yn fwy rhyngweithiol, gan roi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu, ymateb i gwestiynau, darparu syniadau, a chyfnerthu eu dealltwriaeth. Nid yw Vevox wedi’i gyfyngu i weithgareddau dysgu ac addysgu. Gallwch hefyd ddefnyddio Vevox mewn cyfarfodydd a gweithgareddau estyn allan i gynfasio barn, helpu i wneud penderfyniadau, a rhoi cyfle i gydweithwyr roi adborth. Mae gwahanol fathau o gwestiynau ar gael:
Amlddewis
Cwmwl Geiriau
Graddio Testun
Rhifol
Sgorio
Plot XY
Pinio delwedd
Gallwch hefyd gynnal arolygon.
Mae’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb yn rhoi cyfle i gydweithwyr adael i’r myfyrwyr ofyn cwestiynau ac i chi ymateb iddynt yn fyw yn y sesiwn.
Mae’r nodwedd hon yn ddefnyddiol ar gyfer technegau asesu yn yr ystafell ddosbarth, megis y pwynt mwyaf dryslyd ac adolygu cysyniadau allweddol.
Gyda’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb, gall cyfranogwyr hefyd uwchbleidleisio sylwadau er mwyn i chi fynd i’r afael â chwestiynau. Gellir defnyddio’r nodwedd ddefnyddiol hon hefyd ar gyfer cyflwynwyr allanol a gweithgareddau cynadledda.
Gallwch gynnal dadansoddiadau ar eich arolygon barn i weld ymateb cyfranogwyr.
Fel sefydliad, mae gennym nifer o astudiaethau achos. Gweler ein neges flog flaenorol ar astudiaethau achos Vevox.
Os yw Vevox yn newydd i chi, mae gennym sesiwn hyfforddi ar 26 Ionawr am 11:00 ar-lein trwy Teams. Gallwch archebu lle drwy eintudalen archebu DPP.