Lansiad Llyfr Pedagodzilla ac Ymosodiad Pod

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn falch iawn o groesawu Pedagodzilla, y podlediad pedagogaidd â’i graidd mewn diwylliant pop, i Brifysgol Aberystwyth.  Maen nhw’n cynnal cyfres arbennig iawn o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a sesiynau DPP ar 2 a 3 Mai 2024. 

  • 2/5/2024 10:00-12:00 Powering professional development with Pedagodzilla
  • 2/5/2024 13:30-15:30 The Aber Takeover 
  • 3/5/2024 10:00-11:00 Pedagodzilla Live
  • 3/5/2024 11:05-12:00 Picking Pedagodzilla Panellist Brains

Gall staff archebu lle ar ein System archebu DPP.  Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb gysylltu â thîm  Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu i ychwanegu eu henwau.

Mae ymweliad Pedagodzilla  ag Aberystwyth yn dechrau gyda chyflwyniad gan y tîm yn sôn am bwy ydyn ni a beth yw Pedagodzilla – gan gynnwys rhoi copïau am ddim o’n llyfr sydd newydd ei lansio, Pedagodzilla:  Exploring the Realm of Pedagogy.

Nod y llyfr yw egluro a datrys maes addysgeg, gan ddefnyddio lens y diwylliant pop mewn ffordd chwareus a hygyrch.  Mae’r llyfr yn deillio o benodau’r Podlediad Pedagodzilla, sydd bellach wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd, ac sydd wedi arwain at gydweithio a sgyrsiau ar draws y byd, eitemau mewn cynadleddau a phapurau i gyfnodolion. 

Rydyn ni’n teimlo y bydd y llyfr yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymarfer addysg –a sut y gall damcaniaeth lywio ein dull o addysgu.  Yn benodol, mae’r llyfr hwn wedi’i anelu at ymarferwyr a allai fod yn dioddef o’r perygl galwedigaethol cyffredin ym maes addysg uwch sef syndrom y ffugiwr – gan roi iddynt ffordd hygyrch o ddefnyddio iaith addysgeg i drafod a datblygu eu hymarfer eu hunain.  Byddwn yn siarad am y llyfr – yn rhannu cod QR i gael gafael ar y pdf – ac yn rhannu rhai copïau print nes eu bod yn rhedeg allan.

Byddwn wedyn yn symud i weithdy, gan ddechrau drwy drafod datblygiad a fframwaith Podlediad Pedagodzilla fel offeryn datblygu proffesiynol. Yna byddwn yn gwahodd y rhai sy’n bresennol i ffurfio grwpiau lle bydd cyfle, o fewn fframwaith, i lunio syniad o’u prosiectau datblygu proffesiynol pwerus eu hunain.  Byddwn yn crynhoi’r cyfan mewn trafodaeth o’r addysgeg sylfaenol, ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol i bweru eich datblygiad proffesiynol eich hun â chreadigrwydd a dilysrwydd.

Yn sesiwn Aber Takeover, rydym yn gwahodd y rhai sy’n bresennol i ffurfio tîm (gan ddefnyddio swyddogaethau hunan-ddisgrifiedig i rannu grwpiau) i ddylunio rhan fer o sioe o fewn fframwaith ac iddo strwythur chwareus.  Bydd grwpiau’n recordio eu cyfraniadau, a bydd y rhain yn cael eu cynnwys mewn pennod arbennig sef Aberystwyth Takeover, i’w chyhoeddi ar ffrwd podlediad Pedagodzilla.  Os nad ydych chi’n hyderus yn siarad neu’n cael eich recordio, peidiwch â phoeni!  Mae’r fformat hwn yn cynnwys opsiynau ar gyfer cyfraniadau di-siarad.

Ar yr ail ddiwrnod, ymunwch â Pedagodzilla am sesiwn recordio!  Yma rydyn ni’n arbrofi gyda’n fformat ac yn gwahodd y rhai sy’n bresennol i gyflwyno eu cwestiynau yn null Pedagodzilla lle mae ‘addysgeg yn cwrdd â’r diwylliant pop’, i weld a all ein panelwyr ffwndrus ein hargyhoeddi rhywsut gydag atebion dilys o fewn terfyn amser tynn, mewn podlediad wedi’i recordio.

Yn y sesiwn olaf, rydyn ni’n gwahodd pobl dda Aberystwyth i fynd ati i holi ac elwa ar wybodaeth tîm Pedagodzilla – gweithwyr proffesiynol addysg uwch o brifysgolion proffil uchel ledled y wlad.  Gall y pynciau gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • Theori ac ymarfer Dylunio Dysgu (Pawb)
  • Uchafbwyntiau ac anfanteision dysgu o bell (Pawb)
  • Dysgu trwy brofiad mewn bydoedd rhithwir, ac addysgeg (neu beidio) y byd rhithwir (Mark)
  • Creu podlediadau ar gyfer dechreuwyr (Mike)
  • Dyfodol addysg, ac arloesi mewn addysgeg (Rebecca)
  • Ymddygiadau dysgu (Elizabeth Ellis)

Ynglŷn â Pedagodzilla

Pedagodzilla Dyma’r podlediad pedagogaidd â’i graidd mewn diwylliant pop, sy’n ceisio deall ac ystyried addysgeg ac ymarfer addysg yn chwareus trwy lens diwylliant pop.  Bydd tîm Pedagodzilla yn lansio eu llyfr cyntaf yn swyddogol yn Aberystwyth, Pedagodzilla:  Exploring the Realm of Pedagogy

Hwyluswyr

  • Mike Collins: Cynhyrchydd a chyflwynydd podlediad Pedagodzilla, ac Uwch Ddylunydd Dysgu yn Y Brifysgol Agored.  Mike hefyd sydd wedi darparu’r darluniau ar gyfer y llyfr.
  • Dr Mark Childs: Mae Mark yn Uwch Ddylunydd Dysgu ym Mhrifysgol Durham.  Mae ganddo PhD mewn Addysg a dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yn 2021 am ei ymchwil a’i addysgu yn defnyddio realiti rhithwir a fideogynadledda.
  • Yr Athro Rebecca Ferguson: Yr Athro Rebecca Ferguson yw golygydd y Journal of Learning Analytics, cydlynydd academaidd y Rhwydwaith Academaidd FutureLearn (FLAN).
  • Elizabeth Ellis: Yn y Brifysgol Agored, mae Elizabeth yn datblygu profiadau dysgu digidol ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol Agored yn ogystal ag OpenLearn a FutureLearn.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*