Un o’r gwelliannau newydd gwych sydd gennym yn Blackboard Ultra yw’r gallu i gynnwys dogfennau cydweithredol.
I’r rhai ohonom a wnaeth lawer o’n gwaith dysgu ar-lein yn ystod pandemig Covid, byddwch yn cofio inni glodfori manteision llwytho dogfen gydweithredol yn y sgwrs. Rydym wedi bod yn gweithio ar alluogi hyn yn ein Cyrsiau Blackboard ac rydym yn falch o ddweud bod y nodwedd hon ar gael i chi ei defnyddio yn eich cyrsiau ar gyfer 2023-24.
Mae hyn yn golygu y bydd eich myfyrwyr yn gallu cydweithio y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ar Blackboard, yn eu hamser eu hunain. Mae 3 math o ddogfen ar gael i fyfyrwyr gydweithio arnynt:
Word
PowerPoint
Excel
Byddwn ni’n defnyddio’r dogfennau cydweithredol ar gyfer dewisiadau eraill yn lle blogiau a wicis. Ond, os ydych chi eisiau i’ch myfyrwyr lunio mapiau meddwl, creu syniadau, neu adeiladu ar sail eu nodiadau ei gilydd, edrychwch ar y dogfennau cydweithredol. Gallech hefyd eu defnyddio i gael myfyrwyr i gofrestru ar gyfer grwpiau. Gallwch ddefnyddio’r nodwedd grŵp mewn cyrsiau Ultra i gyfyngu eitem i fyfyriwr penodol neu grŵp penodol o fyfyrwyr. Hoffech chi wybod sut i wneud hynny? Edrychwch ar ganllawiau Blackboard ar Microsoft OneDrive a dogfennau cydweithredol.
Er mwyn paratoi ar gyfer symud i Ultra, mae Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG) Blackboard y Brifysgol wedi’i ddiweddaru a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwella Academaidd.
Rydym yn ailedrych ar bob un o’n polisïau bob blwyddyn, ond oherwydd y symudiad i Blackboard Ultra rydym wedi treulio mwy o amser yn paratoi’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol.
Mae rhai o’r newidiadau i’r IPG wedi eu rhestru isod:
Dylai ffolder Gwybodaeth y Modiwl gynnwys:
Dolen i bob recordiad Panopto’r modiwl
Manylion cyswllt staff
Lleoliad trefnus ar gyfer Deunyddiau Dysgu
Nid ydym wedi pennu ffolder Deunyddiau Dysgu oherwydd y cyfyngiadau ffolder dwy lefel yn Ultra.
Mae gan gydweithwyr yr opsiwn i greu strwythur sy’n ateb eu hanghenion.
Mae’r ffolder Asesu ac Adborth yn aros yr un fath ag o’r blaen ac yn cael ei llenwi ymlaen llaw gyda:
Canllawiau i fyfyrwyr ar gyflwyno eu gwaith a dod o hyd i’w hadborth.
Rheoliad ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol
Dolen i’r LibGuide ar Gyfeirnodi a Llên-ladrad
Dolen i Hen Bapurau Arholiad
Mae’r ffolder Arholwyr Allanol bellach ar dudalen gynnwys modiwlau Ultra. Dylai’r ffolder hon aros yn gudd bob amser ac mae’n lle i chi gasglu deunyddiau ar gyfer arholwyr allanol.
Dylai’r ddolen i Restr Ddarllen Aspire fod ar dudalen gynnwys y modiwl a dim mwy na 6 lefel ffolder i lawr. Os oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â’ch rhestrau darllen, cysylltwch â’ch Llyfrgellwyr Pwnc.
Rydym bellach wedi dechrau ein rhaglen hyfforddiant Ultra Adrannol ac yn gobeithio eich gweld dros yr wythnosau nesaf. Os nad oes modd i chi fynychu eich sesiwn, rydym yn cynnal cyfres o sesiynau a drefnir yn ganolog i bob aelod staff gael ymuno.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn ag Ultra, cysylltwch â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r 11eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, sydd ychydig dros fis i ffwrdd, 4-6 Gorffennaf.
Diben thema’r gynhadledd eleni, Dysgu sy’n Trawsnewid: Creu Cyfleoedd i Ddysgu, yw myfyrio ar yr ymrwymiad sydd gan staff PA i wella profiad dysgu myfyrwyr.
Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen lawn. Byddwn yn cael 2 ddiwrnod wyneb yn wyneb (dydd Mawrth 4 Gorffennaf a dydd Mercher 6 Gorffennaf) ac 1 diwrnod ar-lein (Iau 6 Gorffennaf).
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y gynhadledd, a chofiwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chigysylltu â ni.
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein prif anerchiadau ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni (4-6 o fis Gorffennaf 2023).
Bydd cyd-weithwyr o Blackboard a Phrifysgol Bangor yn ymuno â ni i sicrhau ein bod wedi’n paratoi’n dda ar gyfer symud i Ultra.
Bydd cyfleoedd:
I ddysgu am fanteision symud i Ultra
I glywed am ddatblygiadau newydd cyffrous a fydd o help i wella eich addysgu a’ch cynlluniau yn y dyfodol
I glywed gan gydweithwyr o Fangor am y gwersi maen nhw wedi’u dysgu wrth symud
I gael golwg ar yr hyn y mae rhagorol yn ei olygu o ran cyrsiau Ultra
I fynd i weithdy a fydd o help i wella’ch modiwlau a sicrhau eu bod ar eu gorau ar gyfer mis Medi
I roi eich adborth ynglŷn ag Ultra i ddatblygwyr cynnyrch i’w helpu i ddiwallu ein hanghenion
Byddwn yn cyhoeddi gweddill ein rhaglen yn fuan, ond gallwch ddisgwyl sesiynau ar Ddeallusrwydd Artiffisial, Dylunio Asesu Creadigol, datblygu gwytnwch myfyrwyr.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld wyneb yn wyneb ar 4 a 5 o fis Gorffennaf ac ar-lein ar 6 o fis Gorffennaf.
Bydd Michael Webb o Jisc yn trafod Deallusrwydd Artiffisial yn y sesiwn Navigating the Opportunities and Challenges of AI in Education
Ers cyflwyno ChatGPT, mae ein cyd-weithwyr wedi bod yn dod o hyd i ffyrdd lle y gellid defnyddio gallu deallusrwydd artiffisial mewn Addysg Uwch law yn llaw â’r heriau sy’n codi yn ei sgil.
Nod canolfan genedlaethol Jisc ar gyfer deallusrwydd artiffisial mewn addysg drydyddol yw helpu sefydliadau i fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial mewn ffordd gyfrifol a moesegol. Rydym yn gweithio ar draws y sector i helpu sefydliadau i wynebu’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan Ddeallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol. Yn y sesiwn hon byddwn yn adolygu cryfderau a gwendidau Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol, yr arferion a’r dulliau a welwn yn dod i’r amlwg, ac yn edrych ar sut mae technolegau ac arferion yn datblygu wrth i fwy a mwy o gymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol ymddangos.
Michael Webb yw cyfarwyddwr technoleg a dadansoddeg Jisc – asiantaeth ddigidol, data a thechnoleg y DU sy’n canolbwyntio ar addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi. Mae’n gyd-arweinydd canolfan genedlaethol Jisc ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial mewn addysg drydyddol, ac yn cefnogi defnydd cyfrifol ac effeithiol o ddeallusrwydd artiffisial ar draws y sector addysg drydyddol. Yn ogystal â deallusrwydd artiffisial, mae wedi gweithio ar brosiectau yn ymwneud â rhyngrwyd pethau, realiti rhithwir, a dadansoddeg dysgu. Cyn ymuno â Jisc, bu Michael yn gweithio yn y sector addysg uwch, gan arwain TG a thechnoleg dysgu.
Bydd y sesiwn hon o ddiddordeb i gydweithwyr a hoffai ychwanegu Deallusrwydd Artiffisial i’w gweithgareddau addysgu a dysgu, yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd y gellir ei ddefnyddio’n gynhyrchiol.
Ddydd Mercher 10 Mai, croesawodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Dr James Wood o Brifysgol Bangor i roi rhai syniadau ynghylch ymgysylltu a dylunio adborth myfyrwyr.
Mae’r recordiad o’r sesiwn ar Panopto a gellir lawrlwytho’r sleidiau PowerPoint isod:
Y newidiadau i gwestiynau adborth yr ACF ar gyfer 2023
Diben yr adborth
Y symud oddi wrth drosglwyddo adborth i weithredu
Rhwystrau i ymgysylltu ag adborth myfyrwyr
Sgrinledu eich adborth
Y digwyddiad mawr nesaf ar gyfer yr UDDA yw ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol sy’n cael ei chynnal rhwng 4 a 6 Gorffennaf. Mae modd archebu lle ar gyfer y gynhadledd nawr.
Os oes gennych unrhyw siaradwyr allanol yr hoffech i’r UDDA eu gwahodd i gyfres y flwyddyn nesaf, e-bostiwch udda@aber.ac.uk gyda’ch awgrym.
Creu Cyrsiau Ultra yn gynnar yw’r cam nesaf wrth inni drosi i Blackboard Ultra ac mae’n ein paratoi ar gyfer hyfforddiant dros y misoedd nesaf.
I weld eich cyrsiau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, cliciwch ar Cyrsiau i ddod:
Byddwch yn gweld unrhyw gyrsiau yr ydych wedi’ch rhestru fel hyfforddwr arnynt yn ogystal â chyrsiau yr ydych, o bosibl, yn eu cefnogi fel gweinyddwr adrannol.
Os nad ydych yn gweld cwrs y dylech fod yn dysgu arno yna holwch eich gweinyddwr adrannol – efallai nad ydych wedi cael eich ychwanegu at gofnod y modiwl yn y System Rheoli Modiwlau. Rydym yn diweddaru’r ffrwd hon bob bore Mawrth felly gallwch ddisgwyl gweld eich modiwlau ar brynhawn Mawrth wedi i’r diweddariad ddigwydd.
Mae’r cyrsiau yn breifat ar hyn o bryd a byddant ar gael ar 1 Medi 2023. Ni fydd myfyrwyr yn ymddangos ar eich cyrsiau nes eu bod wedi cwblhau’r cofrestru.
Rydym wedi cysylltu â Chyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu yr adrannau i drefnu sesiwn hyfforddiant ar gyfer eich adran.
Os hoffech ddechrau paratoi eich cyrsiau, efallai y bydd arnoch eisiau:
Yn ystod haf 2022 symudon ni i fersiwn newydd o Turnitin. Gan fod cefnogaeth i’n fersiwn blaenorol o Turnitin bellach wedi dod i ben, caiff y fersiwn hanesyddol (a elwir yn Turnitin Building Block) ei dynnu’n ôl ar 31 Awst 2023.
Mae hyn yn golygu na fydd staff a myfyrwyr bellach yn gallu cael gafael ar aseiniadau sydd wedi’u marcio.
Dylai staff gysylltu â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk) os byddant yn dal i fod angen cael gafael ar aseiniadau Turnitin yn Building Block at ddibenion marcio.
Er na fydd modd i chi gael gafael ar yr aseiniadau a farciwyd, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn dal i allu gofyn amdanynt drwy gymorth Turnitin. Os bydd angen hyn arnoch ar ôl 31 Awst 2023, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Mae peth amser wedi mynd ers i ni roi adroddiad ar ein cynnydd wrth drosglwyddo i Blackboard Ultra. Rydym ni wedi bod yn gweithio’n galed i baratoi ar gyfer dechrau ein rhaglen hyfforddi a sicrhau bod yr integreiddiadau’n gweithio.
Diweddariad Technegol
Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar y broses Creu Cyrsiau. Er mwyn helpu cydweithwyr i drosglwyddo i Ultra, rydym ni’n creu cyrsiau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn gynharach o lawer eleni.
Bydd hyn hefyd yn helpu gyda hyfforddiant wrth i gydweithwyr baratoi eu cwrs Ultra byw.
Bu’n rhaid gwneud llawer o waith i sefydlu’r integreiddiadau a’u cael i weithio:
Panopto: mae Panopto wedi symud i gysylltydd API yn barod ar gyfer Cyrsiau Ultra.
Talis Aspire. Mae LTI Talis Aspire bellach wedi’i alluogi. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr Ymgysylltu Academaidd i sicrhau bod hyn mor llyfn â phosibl.
Turnitin. Cwblhawyd y gwaith o drosglwyddo Turnitin i gysylltydd LTI yn ystod haf 2022, ac nid oes angen newidiadau ychwanegol i Turnitin ar gyfer symud i Gyrsiau Ultra.
Cyfarfodydd Microsoft Teams. Byddwn yn symud i’r LTI Teams yn ystod haf 2023. Bydd yr offeryn hwn ar gyfer amserlennu cyfarfodydd Teams.
Mae’r rhain yn offer sydd eisoes yn bodoli ond un o fanteision symud i Ultra yw cyflwyno integreiddiad LTI Office 365. Mae hyn yn caniatáu i chi uwchlwytho dogfennau o OneDrive yn syth i Blackboard yn ogystal â chynnig cyfle i fyfyrwyr gydweithio ar ddogfen gyda’i gilydd. I’r rheini ohonoch chi sydd wedi bod yn dilyn ein cynnydd ar y blog, fe welwch mai’r offeryn cydweithredol hwn yw sail ein datrysiad Wiki.
Diweddariad Hyfforddiant
Mae’r sesiwn Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Ultra bellach wedi’i chynllunio ac yn barod ar gyfer sesiynau hyfforddi staff adrannol.
Rydym ni wedi cyfathrebu â Chyfarwyddwyr Addysgu a Dysgu pob Adran i ddechrau trefnu eich sesiwn hyfforddiant adrannol. Os nad ydych chi’n gallu mynd i’r sesiwn a drefnwyd ar eich cyfer byddwn yn eu cynnal yn ganolog.
Gan fod gan gyrsiau Blackboard Ultra ddull gweithredu cwbl wahanol o ran trefnu a gosod cynnwys, mae’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol wedi ei ailysgrifennu. Cadwch olwg am yr isafswm wedi’i ddiweddaru.
Deunyddiau Canllaw
Rydym ni wedi bod yn gweithio ar symleiddio a pharatoi ein deunyddiau canllaw, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin. Un newid y byddwch yn sylwi unwaith y byddwn mewn Cyrsiau Ultra yw y bydd ein cwestiynau cyffredin yn cysylltu’n uniongyrchol â deunyddiau cymorth Blackboard. Mae’r deunyddiau hyn ar gael yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.
Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu rhwng 4 a 6 Gorffennaf. Elfen allweddol o’r gynhadledd fydd Blackboard Ultra. Cadwch olwg ar ein blogiau wrth i ni gyhoeddi’r prif siaradwyr. Gair i atgoffa bod ein Galwad am Gynigion yn cau ar 5 Mai – gallwch gyflwyno cynnig yn defnyddio ein ffurflen Galwad am Gynigion.
Ar 28 Mawrth, cynhaliodd yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu ei chynhadledd fer wyneb yn wyneb gyntaf eleni.
Thema’r gynhadledd oedd Realiti Rhithwir. Mae deunyddiau’r gynhadledd bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.
Dechreuodd y gynhadledd â’r brif araith a draddodwyd gan Chris Rees, Pennaeth Gweithredol yr Uned Creadigrwydd a Dysgu Digidol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Soniodd Chris am sut mae’r Drindod Dewi Sant wedi bod yn defnyddio dwy ystafell drochi newydd (yn Abertawe a Chaerdydd). Yno, mae’r gweithgareddau yn amrywio o hyfforddiant campfa rhithwir i brofiadau pensaernïol a hyfforddiant iechyd a diogelwch.
Aethpwyd ymlaen i glywed sut mae cydweithwyr yn y Brifysgol yn defnyddio Realiti Rhithwir ar hyn o bryd yn eu dysgu a’u haddysgu. Esboniodd Amanda Jones a Bleddyn Lewis sut mae’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn defnyddio Ysbyty Rhithwir Cymru. Mae Steve Atherton o’r Ysgol Addysg yn defnyddio Realiti Rhithwir mewn sawl modiwl, gan gynnwys gosod myfyrwyr mewn gwahanol gyd-destunau addysg – o wersylloedd ffoaduriaid i leoliadau addysg Montessori. Ar ôl cinio, cynhaliodd Helen Miles ac Andra Jones (Cyfrifiadureg) a Rebecca Zerk (Prosiect Dewis Choice / y Gyfraith a Throseddeg) weithdy a oedd yn amlinellu’r heriau a’r buddion sydd ynghlwm wrth Realiti Rhithwir. Cafwyd cyfle hefyd i gael blas ar brosiect Dewis Choice gan ddefnyddio pensetiau Realiti Rhithwir.
Yr hyn a ddaeth i’r amlwg yn ystod y digwyddiad oedd bod llawer o gydweithwyr yn defnyddio Realiti Rhithwir yn eu dysgu a’u haddysgu. Rydyn yn bwriadu creu lle i gydweithwyr ddod at ei gilydd i drafod eu dulliau o ymdrin â Realiti Rhithwir. Rydym wedi creu safle Teams. Os oes gennych ddiddordeb mewn Realiti Rhithwir ac os hoffech gael eich ychwanegu at y safle Teams, e-bostiwch yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk)